Archif Awdur: admin

E-fwletin Gorffennaf 15fed, 2013

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Yr uchod yw enw swyddogol y mesur i ganiatáu trawsblannu organau a basiwyd yn ddiweddar gan ein Cynulliad Cenedlaethol. Gan fod rhai arweinwyr Cristnogol wedi gwrthwynebu’r mesur ar sail foesol, mi es i ati i gael golwg fanylach arno. Y peth cyntaf a’m trawodd oedd bod y rhan fwyaf o’r cymalau yn cyfeirio – yn astrus o gymhleth a manwl – at y pwysigrwydd o gael cydsyniad cyn y gellir trawsblannu unrhyw beth. Yn wir, mi fydd y ddeddf pan ddaw hi “yn ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad”. Mae’n ddigon posib felly mai un o ganlyniadau’r Ddeddf hon yw y bydd llai o drawsblannu di-gydsyniad – fel a ddigwyddodd yn achos trist rhai ysbytai plant yn y gorffennol – am fod yr amodau a’r cyfyngiadau yn fwy llym a manwl. Felly mae’r gwrthwynebiad i’r mesur ar y sail fod y llywodraeth yn dwyn y dewis oddi ar yr unigolyn yn un gwan iawn o ddarllen y manylion.

Ond  mae’r Archesgob Barry Morgan – gwr y mae gen i lawer o barch ato, ac sy’n rhoi arweiniad cadarn ar nifer o bynciau’r dydd – yn gwrthwynebu am fod y mesur rhywsut yn bygwth sancteiddrwydd y corff dynol (os deallaf yn iawn).  A dyma lle dwi’n ei golli. A dyma greda i lle mae Cristnogaeth yn gallu tramgwyddo carfan helaeth o’r cyhoedd, pryd mae’r argraff yn cael ei roi ein bod yn chwilio am ddadleuon moesol a “chrefyddol” i wrthwynebu’r hyn sy’n ymddangos i’r mwyafrif fel synnwyr cyffredin. Mae’n debyg mai’r enghraifft glasurol yw gwrthwynebu merched i fod yn esgobion, ond y mae yna lawer enghraifft arall, gwaetha’r modd.

Mae bywyd yn sanctaidd, ond pan fydd bywyd yn gadael y corff, onid ein harfer yw ei losgi, neu ei roi yn y ddaear i bydru? Llwch i’r llwch. Does bosib ein bod yn credu fod y gweddillion hyn yn sanctaidd? Mae’r peth byw yn aros, ac yn parhau mewn ffurf arall na allwn ei lawn ddeall, ond mae’r corff yn darfod. Os yw darnau o’r corff hwnnw yn fodd i roi bywyd i eraill, onid gwych o beth yw hynny? Yn wir, onid yw’n ddyletswydd i Gristion i ganiatáu hynny, ac i hwyluso hynny?

Ond wrth gwrs, mewn democratiaeth iach, mae gennym yr hawl i wrthod, ar ba sail bynnag. Ac os cawn gyfle rhwydd ac amlwg i nodi hynny wrth – er enghraifft – lenwi ffurflen flynyddol y rhestr etholwyr, yna can croeso i fesur lle mae Cymru yn rhoi arweiniad cadarn i weddill gwledydd Prydain.

(Gyda llaw, cofiwch y bydd ein llyfryn “Byw’r Cwestiynau” ar werth ym mhabell Cytûn yn ystod yr Eisteddfod. Mae hefyd ar werth yng Nghymanfa yr Eglwys Bresbyteraidd yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth o ddydd Llun tan fore Iau yr wythnos hon. Neu, gallwch glicio ar y botwm “Prynu’r Llyfr” ar ein gwefan ni : www.cristnogaeth21.org).

Y Gymdeithas Emynau

Dau ddigwyddiad gan y Gymdeithas Emynau yr haf ‘ma:
1. Bara ein Bywyd – 30.7.13
Cynhelir cyfarfod i lansio’r gyfrol
BARA EIN BYWYD – EMYNAU, CERDDI AC YSGRIFAU
Tudor Davies
Capel St Paul, Aberystwyth
Nos Fawrth, 30 Gorffennaf 2013
7.00pm
Pris y gyfrol fydd £6.50, a bydd ar werth ar y noson ac yn y siopau wedi hynny.
2. Thomas Jones, Dinbych – 7.8.13
Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru
THOMAS JONES O DDINBYCH
Anerchiad gan y Parchg Athro D. Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan
Pabell y Cymdeithasau 2 – Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych
Bore Mercher, 7 Awst 2013
10.30am
(sylwer ar yr amser: 10.30, nid 10.00 fel sy’n arferol … ac mae ‘na ddwy Babell y Cymdeithasau: ym mhabell rhif 2 mae’r ddarlith hon)

E-fwletin Gorffennaf 8fed, 2013

Mae’r hawl i gartref yn sicr o fod yn un o hawliau sylfaenol y ddynoliaeth. O edrych ar Ddatganiad Cyffredinol  Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, efallai y byddai rhywun yn disgwyl iddo gael mwy o amlygrwydd, ond y mae yno:

Erthygl 25: Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i’w hiechyd a’u ffyniant eu hunain a’u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol.

Diddorol sylwi bod yr angenrheidiau hyn yn cyfateb bron yn union i’r hyn a restrwyd gan yr Iesu wrth iddo sôn am farnu’r cenhedloedd “ …bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch ȃ mi…”

Dryswyd yr hawl i gartref yn ein cymdeithas ni gan gyfalafiaeth. Nid cartref yw tŷ bellach, ond buddsoddiad, gyda’r disgwyliad i godi i fyny’r ysgol o dŷ bychan i dŷ mwy wrth ymgyfoethogi. Ond y realiti i laweroedd yw methu prynu’r tŷ bychan cyntaf, neu fethu rhentu tŷ addas, a gorfod byw mewn amgylchiadau anaddas, neu ar drugaredd rhieni, ffrindiau neu Awdurdod Lleol.

Gwnaed difrod mawr gan benderfyniad llywodraeth Thatcher i werthu tai cyngor i denantiaid am bris gostyngol. Polisi poblogaidd wrth reswm, ond un oedd yn creu problem tymor hir wrth ennill poblogrwydd tymor byr. Cafwyd gwared o filoedd o dai cymdeithasol, a gwrthodwyd yr hawl i Awdurdodau Lleol i godi rhai newydd yn eu lle, ac yn raddol trosglwyddwyd y tai oedd ar ȏl i ofal Cymdeithasau Tai oedd yn haws i’w rheoli o’r canol.

Un ateb amlwg bellach yw “Tai Fforddiadwy”, sef tai cymdeithasol heb fod yn rhy fawr wedi eu cyfyngu i bobl leol, i’w prynu, eu prynu dros gyfnod, neu i’w rhentu. Cysyniad derbyniol iawn, meddech chi. Ond gwae ni! Mae yna wrthwynebiad mawr i’r syniad, a hynny gan bobol sy’n honni bod yn Gymry da ac yn Gristnogion pybyr. Pam? Am fod perchennog tir yn ofni bod pris ei dir yn gostwng, a pherchennog tŷ sylweddol yn ofni y bydd pris ei eiddo yn gostwng, a’r bobol barchus yn ofni mai caridỳms fydd yn dod i “dai fforddiadwy”, a’r gwerthwyr tai yn ofni colli pres…..

Un o siomedigaethau mawr fy mhrofiad i mewn gwasanaeth cyhoeddus yw gweld mai llinyn mesur materol a ddefnyddiwn i fesur pob dim yn y pen draw.

E-fwletin Gorffennaf 1af.

Ymysg y llinellau cynnar yr wyf wedi eu tanlinellu yn y gyfrol Byw’r cwestiynau’ – ac yr wyf yn ei darllen am yr eilwaith  – y mae’r geiriau hyn : “Os pererindod ar gyfer unigolion a chymdeithasau Cristnogol tuag at berthynas well â Duw drwy ddilyn Iesu yw’r bererindod Gristnogol, dylem ystyried ein hymwneud â’r Beibl fel derbyn bendith cyfaill gwybodus a deallus a doeth ar y daith, a bydd y ffordd y deallwn y Beibl yn effeithio ar ein pererindod.”

Fel nifer fawr o frawddegau eraill yn y gyfrol, mae’n feichiog o ystyr. Nid yw’n dweud popeth am y Beibl, wrth gwrs, ac yn sicr, nid yw’n dweud digon, ond mae’r delweddau yn rhai sydd angen cydio ynddynt. Mae meddwl am y Beibl fel ‘cyfaill’  yn cyfleu agosatrwydd perthynas ac ymddiriedaeth; mae’r Beibl fel cyfrwng ‘bendith’ yn gyfoethocach nag unrhyw syniad o awdurdod neu anffaeledigrwydd ; ac mae’r pwyslais ar ‘bererindod’ i unigolion a chymdeithasau Cristnogol, yn ein hatgoffa mai cydymaith drwy holl brofiadau amrywiol ein bywyd yw’r Beibl – nid cyfarwyddiadau manwl beth i’w wneud, ond cwmpawd i’n cyfeirio. Cyfaill, bendith, pererindod. Delweddau ydynt, nid diffiniad na datganiad chwaith.  Ond y maent yn ddelweddau byw – yr union beth ag y mae’r eglwys wedi ei gredu wrth ddweud mai’r Ysbryd sy’n gwneud y Beibl yn Air bywiol Duw. Onid yw ‘bywiol’ yn gyfoethocach nag unrhyw ddisgrifiad arall ohono ?

************************

Rwyf wedi cyfeirio at yr un frawddeg hon er mwyn annog pawb i brynu Byw’r Cwestiynau ac os ydych mewn sefyllfa i arwain  neu i ffurfio grŵp trafod yn eich ardal neu eglwys, yna mae’r gyfrol fechan hon yn werth ei phrynu a’i rhannu. Nid yw’n rhy hwyr i feddwl am raglen y gaeaf. Dyma deitlau’r penodau ( ac ar ddiwedd y gyfrol y mae cwestiynau ar gyfer pob pennod ) Y Beibl, Meddwl am Dduw, Straeon y creu, Adfer perthynas, Drygioni a Duw cariad, Agosatrwydd at Dduw, Cyfiawnder cymdeithasol, Teyrnas heb furiau, Bywydau Iesu, Tosturi Iesu, Paul, Y Dyfodol.

Ewch i’r wefan a dilyn y cyfarwyddiadau ( botwm ‘Prynu’r Llyfr’ ) sut i’w phrynu – gan gynnwys codi’r ffôn a deialu  07900 491257.

Fe fydd Byw’r Cwestiynau ar werth ym Mhabell yr Eglwysi ( Cytûn ) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Mae’n rhad. Mae’n werth ei phrynu. Dim ond £5.

Erbyn hyn mae rhai o anerchiadau’r gynhadledd ar y wefan hefyd. Cliciwch y botwm ‘Erthyglau’.

Wedi’r pum mlynedd

(Adroddiad gan Pryderi Llwyd Jones, yr Ysgrifennydd,  yng Nghynhadledd Cristnogaeth 21)

Mae teitl yr adroddiad yma wedi newid ychydig ers i ni feddwl am y thema rhai misoedd yn ôl bellach. Y bwriad oedd son yn benodol am y ddau bwnc oedd wedi ennyn y drafodaeth fwyaf ar Fwrdd Clebran C21 yn ystod y pum mlynedd  ers sefydlu’r wefan. Dau, er mwyn cyfyngu a rhag i ni gyflwyno catalog o bynciau. Fe fyddai hynny yn beth diflas iawn ar ddechrau’r gynhadledd. Ond mae angen gwneud mwy na nodi’r pynciau sydd wedi eu trafod.

Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain. Yn ôl ein ffigyrau ni – rhwng ei anfon i dros 300 o bobl yn wythnosol, a’i fod i’w gael ar y wefan heb fynd i’w ddarllen ar y Bwrdd Clebran ac  i’w gael hefyd ar Lle Pawb yn golwg360 , nid gormodiaith yw dweud fod pob e-fwletin yn cael dros 1000 o ymweliadau pob mis. Mae Ymweliadau yn golygu  nad ydan ni’n gwybod faint o’r mil sydd yn ei ddarllen, ond fe wyddom mai ychydig iawn sydd yn ymateb. Rŵan i gymharu â gwefannau mawr y byd mae 1000 fel 4 yn addoli yn festri fach y capel sy’n dal mwy na mil, ond mae’r e-fwletinau sy’n cael eu hanfon yn cael eu gwerthfawrogi; mae nhw yn fywiog ac yn ddifyr; ac maen nhw yn ddiwinyddiaeth ar waith. Ac yn Gymraeg. A dyma agwedd o’r gwaith sydd yn agor drysau ac mae angen ei ddatblygu a’i ehangu.

Yn adran erthyglau y wefan mae yna 28ain o erthyglau gan 14 o awduron. Ac ar wahân i’r ffaith fod ambell un efallai yn rhy faith i wefan yr ydw i yn falch o gael dweud eu bod yn erthyglau gwerthfawr a chyfoethog ac yn rhan o’n cyfrifoldeb i feddwl a chyfathrebu ein ffydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydw i am nodi’r pedair erthygl ddiweddaraf i ymddangos.

Mae erthygl  Delwyn Tibbot ,Caerdydd Rhwng Pasg a Phentecost , yn ogystal â chynnwys meddwl yr awdur ei hun ( sy’n lleygwr ),  yn trafod cyfrol Sbong ar yr Atgyfodiad. Ac fel y gwyddoch mae Sbong yn fanwl Feiblaidd yn ei waith. Go brin y dewch chi ar draws trafodaeth ar Sbong yn unman arall yn Gymraeg. ( Mae’r erthygl bellach wedi ymddangos yn Cristion ) Pwyslais mawr yr erthygl yw fod profiad Pasg a Phentecost yn anwahanadwy.

Dysgu gan y Tadau yw teitl erthygl Desmond Davies a chan ddilyn Keith Ward ( fu yma yn ein cynhadledd gyntaf ,wrth gwrs ) yn arbennig yn ei gyfrol Re-thinking Christianity sy’n rhoi pwyslais ar y broses oesol o ail-ddehongli’r ffydd, meithrin gwyleidd-dra, peryglon gwneud credoau ynddynt eu hunain yn amod iachawdwriaeth yn ogystal â dehongli’r Beibl yn llythrennol ac yn arbennig ( yn y TN) Efengyl Ioan.

Mae’r erthygl gan Phoebe , Pwy meddwch chi ydwyf fi ? yn cyfeirio yn arbennig at waith Margaret Barker ac yn trafod pwnc a chwestiwn sydd gwir angen ei drafod. Mae’r ffurfiant y canon a’r cefndir Iddewig ( ‘y deml a’i diwinyddiaeth lachar am natur y creu, y cyfamod, y cymod a doethineb’, meddai ) yn allweddol i ddeall yr Efengylau ac y mae llais Iesu’n adlewyrchu traddodiad diwinyddiaeth teml Solomon o bresenoldeb Duw. Mae’n dyfynnu Girard – ac mae’n sylw pwysig – fod yr efengylau yn ‘destun mewn gwewyr’ ond yr ydym yn dal i feddwl – yn ddiwinyddol – fel petaem yn y 15ed neu’r 16eg ganrif . Rhag ofn nad ydych yn cofio mae Phoebe yn gorffen ei herthygl gyda’r frawddeg : Chwi giwed ryddfrydol, radical, tybed na fyddai Duw gyda ni, Emanuel, yn fan cychwyn eto ?

Yna mae’r erthygl Troedigaeth arall ? gan Morris Pugh Morris, a fu’n destun trafod bywiog. ( Fe fu 2,800 o ymweliadau â’r erthygl ) Dyma’r tro cyntaf ar wefan C21 y mae rhywun yn gwneud datganiad ei fod, er o bwyslais ‘efengylaidd’,  yn ‘rhyddfrydig’ ei ysbryd ac yn gweld cartref iddo’i hun yn C21. Mae Morris yn weinidog ond mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cilio o’r eglwysi ,nid am eu bod yn anffyddwyr neu fod ganddynt gwyn fawr yn erbyn yr eglwys, ond am nad ydynt bellach yn teimlo yn gyfforddus mewn eglwys sydd yn gwrthod meddwl tu allan i’r bocs. O ddiffyg ymgydnabyddiaeth a pherson Iesu, meddai MPM,  syrthiodd y garfan efengylaidd i’r rhigol oesol o ystyried cariad Duw atynt yn nhrefn sofran yr ‘achub’ nid fel anogaeth i ostyngeiddrwydd a diolchgarwch. Mae’n credu fod gormod o begynnu’r drafodaeth grefyddol yng Nghymru gan adael yr eglwys heb lais credadwy yn y gymuned. Mae’n bwynt eithriadol o bwysig a gobeithio y bydd yn codi eto yn y gynhadledd. Mae’n son am C21 fel y lle i gynnal sgwrs yn union fel mae gwefan Progressive Christianity yn son am ‘the conversation of faith.’

Ond dyna ddigon am yr erthyglau a digon i brofi bod digon o ddeunydd ar gael ac mae’n ddiwinydda gwerthfawr. Braf iawn oedd gweld golygydd dros dro Cristion , Huw Tegid Roberts,  yn diolch ac yn cydnabod cyfraniad Cristnogaeth 21 i’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru ac mae’n cyfeirio yn arbennig at yr erthyglau.

Ond y Bwrdd Clebran – neu’r Seiat, Man Trafod, Sgwrs Ffydd – yw calon wreiddiol C21 . Mewn 5 mlynedd bu 175 o bynciau a 650 o negeseuon. Siom fawr yw  gweld rhai pynciau yn cael eu codi na fu unrhyw ymateb iddynt, ond mae hyn yn anorfod. Nid yw’n golygu nad oeddynt yn werth eu codi. Ond siom fwy, wrth gwrs, yw nad oes  parhad, ac felly dim datblygiad, yn y drafodaeth Ond dyna natur y cyfrwng. Mae’n cysgu a deffro. Mae off ac on. Mae’n ddiflanedig mae pethau’n mynd i’r archif ar ol deuddydd !!.Ond pan gofiwn fod cymaint o ymwelwyr a’r wefan yn bobl sy’n achlysurol eu defnydd o gyfrifiadur a bod yna lawer o hyd nad ydynt yn siŵr iawn sut i anfon neges, mae 650 o negeseuon yn rhywbeth i’w groesawu.  Fe hoffwn ychwanegu mai siom hefyd yw cyn lleied o faterion cymdeithasol a  gwleidyddol sydd wedi eu codi yn ystod y 5 mlynedd ac roedd hynny yn syndod. Nid yw  diwyg y wefan, wrth gwrs, yn apelio bobl ifanc sydd yn byw eu bywydau yn trydar,  blogio a.y.b. ( er bod C21 ar Trydar a Facebook )Yr unig bobl ifanc sy’n ymweld â’r wefan yw llond dwrn o’r to newydd o Gristnogion ifanc sydd efallai yn ymweld yn achlysurol o gywreinrwydd go feirniadol.

Ond fe gafodd dau bwnc sylw arbennig ac fe fyddwn yn awgrymu fod cyfraniad y wefan i’r drafodaeth ar y ddau bwnc angen cyrraedd cynulleidfa ehangach. Bu 16,410 o ymweliadau â’r Bwrdd Clebran i drafod Rhywioldeb. A bu 58 cyfraniad. Gwerth y drafodaeth oedd iddi fod yn drafodaeth oleuedig gyda chyfraniadau gan bobl o wahanol safbwyntiau; yn drafodaeth ple bu cyfraniad gan rai oedd yn hoyw eu hunain; ac mewn un os nad dau achos bu’r drafodaeth yn gyfle i  ‘fod yn agored’ am y tro cyntaf i ddweud eu bod yn hoyw. Dyna, gyda llaw,  werth mwyaf y dewis o beidio datgelu  enw.

Fe ddechreuodd y drafodaeth mewn ymateb i erthygl gan y newyddiadurwr Tryst Williams yn y Western Mail yn dweud fod y capeli a’r eglwysi yn llawn o bobl gyda rhagfarnau homoffobaidd. Atebwyd Tryst Williams yn y WM gan un Gethin Mathews yn dweud na chlywodd ef erioed bregeth homoffobaidd yn y pulpud. Daeth neges i’r Bwrdd Clebran yn dweud y gall agweddau homoffobaidd fod yn fwy amlwg mewn sgyrsiau, yn y pethau na ddywedir a’r pethau a awgrymir mewn ensyniadau, ac yn y ffordd y mae yn cael ei wneud yn glir nad oes drws agored – fe gyfeiriwyd at un achos o rhywun yn cael ei ddiarddel o’i eglwys –  i hoywon sy’n Gristnogion. Un enghraifft boenus ond angenrheidiol i gyfeirio ati ( gan nad oedd neb wedi gwneud ar y pryd oherwydd y duedd gyffredin grefyddol o fod yn neis ar draul bod yn onest a dewr )  oedd i un cyfrannwr i’r drafodaeth ddyfynnu erthygl o Seren Cymru oedd yn son fod modd iachau’r hoyw ( yn nes ymlaen yn y drafodaeth cafwyd tystiolaeth gan Jeremy Marks, dyn oedd wedi bod yn rhan o weinidogaeth iachau hoywon trwy weddi  ond a oedd yn cydnabod bellach ei fai a’i drosedd ac mae wedi cyhoeddi llyfr ‘Exchanging the truth of God for a lie’ ) a’r erthygl yn cynnwys y frawddeg   Dywedodd Iesu: “gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi”…ond bellach clywir hoywon yn  bonllefain ‘gadewch i blant bychain ddyfod atom ni.’  Gwarthus oedd sylw cyfrannwr i’r wefan. A gwarthus yn wir. ( Mae’n dda nad odd Tryst Williams wedi darllen yr erthygl !) Roedd awdur y geiriau yn weinidog ac yn athro plant. I ychwanegu at y dystiolaeth  fod yna agweddau homoffobaidd yn yr eglwysi ( cofiwch ein bod yn ol yn 2009/2010  )  fe gyfeiriwyd at sawl ffilm/drama oedd yn ymwneud a’r pwnc ac fe gafwyd ambell glip trawiadol i ddangos hynny e.e  o’r ffilm West Wing, sydd mewn ffordd ddramatig iawn yn dangos pendraw cymeryd Lefiticus 18.22 yn llythrennol. Fe welwyd rhywun yn gofyn i gyflwynydd rhaglen radio homoffobig : Few hoffwn werthu fy merch fel caethwas. Pa bris ddylwn ei ofyn ? Cyfeiriwyd hefyd at y ffilm The Bible Tells me so am Gristnogion o wahanol draddodiad crefyddol a’u plant yn dweud yn agored eu bod  yn hoywon – a hynny yn newid agwedd y rhieni gwrth-hoyw o weld person hoyw,  i weld mab neu ferch. Dyna oedd cryfder apêl Dafydd Elis Thomas ac Alex Carlisle yn Nhy’r Arglwyddi’r wythnos hon.

Mewn cyfraniadau eraill mae Cristion efengyliadd ( gyda llaw yn ansicrwydd rhwystredig  ‘labeli’ mae’n werth nodi mai Cristnogion efengylaidd sydd wedi dewis galw eu hunain yn Gristnogion Efengylaidd ers degawdau lawer bellach )  yn pwyso am i ni beidio gweld hoywon fel pobl wahanol i’r gweddill ohonom : yr ydym i gyd mewn angen o ras ac o’r efengyl. Efallai fod llawer gormod o sylw yn cael ei roi i’r mater hwn fel petae yn ganolog yn y bywyd a’r foeseg Gristnogol. Mae’r Beibl yn rhoi llawer mwy o sylw i faterion eraill fel hunanoldeb, casineb, balchder, tlodi, gormes, tlodi, trais.  Mae’r un cyfrannwr yn awgrymu nad yw gweithredoedd hoyw ddim yn wahanol i ryw tu allan i briodas a bod yn rhaid ymwneud a holl arfaeth Duw mewn byd a bywyd. Roedd y person hwnnw yn gweld y Beibl yn cyflwyno holl gyfanrwydd y bywyd Cristnogol ac mae’n rhaid parchu a gwarchod y cyfanrwydd hwnnw. Mae cyfranwr arall yn pwysleisio, ac yn ofni,  mai nid apelio at awdurdod yr Ysgrythur a wneir yn aml ond at awdurdod dehongliad arbennig o Air Duw.

Ond rhaid cydnabod fod bwlch mawr yn y drafodaeth hon  oherwydd ni chafwyd safbwynt y Cristion efengylaidd hoyw, safbwynt sydd wedi dod yn fwy amlwg y blynyddoedd olaf yma drwy rai fel Steve Chalk ( gw.gwefan Oasis ) , Rob Bell.Brian McLaren ac efengylwyr yn yr Alban y bu eu cyfraniad mor bwysig i drafodaeth Eglwys yr Alban yn ddiweddar. Nid dadl rhyfrydwyr yn erbyn efengylwyr ydyw bellach. Fe gyfrannodd person hoyw arall i’r drafodaeth drwy anfon pregeth gyfan ( yn Saesneg ) a draddodwyd gan David Sinclair o Glasgow ar  Jacob a’r ymdrechu â Duw ym Mhenuel , Ni’th ollyngaf  heb i ti fy mendithio’ ( Gen.32.26 ) . Gwelai y drafodaeth am rywioldeb fel y tyndra rhwng offeiriad a phroffwyd – y naill yn ymwneud a ffordd yr offeiriad o osod terfynau ac o neilltuo, â phurdeb a defod ac a bod yn sanctaidd. Y llall yn gwthio terfynau, yn mentro ac yn symud ym mhellach tu allan i’r mur, ac yn pwysleisio bugeilio a chasglu, a haelaethu’r babell.

Gobeithio fy mod wedi dweud digon i ddangos fod hon yn drafodaeth sylweddol . Fu dim trafodaeth fyw debyg yn y byd crefyddol Cymraeg – ambell erthygl, fel un ddiweddar gan Derwyn Morris Jones, pennod gan Vivian Jones yn ‘Helaetha dy babell’  a chomisiwn arbennig gan fy enwad fy hun ar fendithio partneriaethau sifil, â’r cyfan wedi cymeryd  5 mlynedd cyn cael trafodaeth yn y Gymanfa Gyffredinol. Mae’r enwadau Cymraeg wedi bod yn ofnus o drin y mater ac yn dewis llwybr y dweud dim. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd  o leiaf wedi mentro, beth bynnag fydd y canlyniad. Er bod llawer iawn yn ansicr eu meddyliau, mae’n rhaid cydnabod mai arwydd o anaeddfedrwydd ac ysbrydolrwydd ofnus yw’r ffaith fod yna gyndynrwydd hyd yn oed i drafod y pwnc hwn, sydd yn brysur ddod yn ymylol bellach.

Yn anffodus tros gyfnod o flwyddyn y bu’r drafodaeth hon ac nid oes neb wedi dychwelyd ati yn wyneb y datblygiadau diweddar o safbwynt y bleidlais gref o blaid priodasau hoyw. Nid yw’r drafodaeth ar y wefan wedi dyddio ac fe lanwodd fwlch mawr ar y pryd,  ond mae yn hen.

Bu 11,236 o ymweliadau pan drafodwyd y pwnc Cymru Gyfan a 42 o gyfraniadau. ‘Ymofynnydd’ wnaeth ymateb i wefan Cymru Gyfan ac yn arbennig i ddatganiad y wefan o Beth yr ydym yn ei gredu ? Yn y datganiad o gred mae’r frawddeg yma : Bydd yr Arglwydd Iesu yn dychwelyd yn bersonol er mwyn barnu pawb a gweinyddu condemniad gyfiawn Duw ar y rheiny sydd heb edifarhau ac i dderbyn y rhai a brynwyd i ogoniant tragwyddol’ . Ac eto :  caiff bodau dynol pechadurus eu prynu oddi wrth euogrwydd, cosb a grym pechod, trwy farw aberthol eu cynrychiolydd a’u heilydd ( substitute ) Iesu Grist. Gwahanol fudiadau efengylaidd yw Cymru Gyfan, sydd yn cynnwys nifer o bobl  sy’n weithgar o fewn eu heglwys a’u henwad. Nôd  Cymru Gyfan  yw  creu ‘rhwydwaith i blannu a chryfhau eglwysi efengylaidd’. Mae nifer fawr iawn o bobl ifanc erbyn hyn – trwy ddylanwad digwyddiadau fel Dawn a Souled Out yn y Bala – yn dod dan ddylanwad diwinyddiaeth o’r fath. Dyma’r ddiwinyddiaeth sydd fwyaf ar waith yng Nghymru heddiw, ac yn nhermau oedran a niferoedd, y fwyaf ‘llwyddiannus’. Yn y cyfraniad hwn i’r wefan roedd potential  i’r gwrthdaro traddodiadol rhwng efengylwyr a rhyddfrydwyr ddatblygu yn wrthdaro digyfaddawd arall yn arbennig pan welwyd y cyfraniad hwn i’r Bwrdd Clebran :  Cymru gyfan yn adfywio’r eglwysi ? Na, rhwystr wyt i mi . Doedd yr ymateb ddim yn annisgwyl : mae’r dirywiad yn  yr eglwysi oherwydd  tanchwa rhyddfrydol yr 20fed ganrif a ddiraddiodd Iesu i fod yn ddim byd mwy nag eco-filwr, yfwr coffi masnach deg ac aelod ffyddlon o CND. ‘ Ymateb, gyda llaw,  sy’n profi fod yna anwybodaeth a diffyg crebwyll o natur rhyddfrydiaeth yn ogystal â’r anwybodaeth ymysg rhyddfrydwyr am amrywiaeth y safbwynt efengyliadd erbyn hyn. Nid yw son am ‘efengyls’ yn ddigon da chwaith ac nid yw’n deilwng o drafodaeth ddiwinyddol. Fe ddaeth yn amlwg iawn fod lle i C21 geisio dod a thrafodaeth aeddfed a goleuedig i ddiwinyddiaeth Cymru. Mae ‘sgwrs ffydd’ yn golygu cydnabod dilysrwydd pob traddodiad a bod y dystiolaeth a’r traddodiad rhyddfrydol yn cymaint rhan o Gristnogaeth Feiblaidd  ag yw’r  dystiolaeth Brotestannaidd efengylaidd.

Fe aeth y drafodaeth hon ar y Bwrdd Clebran i’r cyfeiriad gobeithiol hwnnw. Cyfrannodd nifer ac yn arbennig Dyfrig Rees a Rhys Llwyd. Awgrymodd Dyfrig bod rhywbeth mwy na ‘dirywiad’ wedi digwydd oherwydd fod cwestiynau allweddol yn codi ynglŷn â phwysigrwydd adeilad ac aelodaeth eglwysig ac addolwyr.  Nid ‘llwyddo’ a wna’r Ysbryd o anghenraid, ond ( i ddefnyddio geiriau’r Beibl ) tynnu i lawr hefyd. Ond, meddai Rhys Llwyd, mae’n rhaid i’r cyfnod newydd hwn o blannu eglwysi ddigwydd gyda sêl bendith yr enwadau .Mae angen, er enghraifft, meddai, profiad y Bedyddwyr a’r arbenigrwydd sydd gan Cymru Gyfan mewn plannu eglwysi. I ddyfynnu Rhys – ‘contectualizio cenhadaeth heddiw’. Catalydd ac nid gwrthbwynt i’r enwadau yw/fydd Cymru Gyfan, meddai. Fe symudodd y drafodaeth ymlaen wedyn i drafod  pwnc penodol diwinyddol, sef Cristoleg, oherwydd fod Dyfrig wedi dyfynnu emyn gan Miall Edwards a oedd, ymysg llawer o bethau eraill, wedi dweud mai ‘Poenau tyfiant yw poenau amheuaeth o’r iawn ryw’. Bu trafod wedyn ar agwedd y rhyddfrydwr tuag at Iesu. Miall a ddywedodd Rhaid wrth bensaer celfydd  i gyfrif am y cyfanfyd trefnus hwn a Iesu Grist yw’r allwedd i ddeall y Duw hwn –  ef yw’r dehonglwr mawr. Yr ymateb i hynny oedd – os mai enghraifft yn hytrach nag ateb oedd Iesu yna prif sylwedd Cristnogaeth Miall oedd moeseg nid datguddiad. Bu’n drafodaeth gwrtais ac yr oedd datblygiad a gwrando yn y trafod. Gan fod  Rhys Llwyd yn ysgrifennu fel esiampl o’r ‘efengylyddiaeth  radical’ sydd bellach i’w gweld yng Nghymru siomedig ( er nad yw’n amlwg ) oedd ei weld yn arddel yr hen ystrydeb fod â wnelo  gweinidogaeth ryddfrydol â gwneud pethau da er mwyn etifeddu teyrnas Dduw’ . Datganiad arall sydd yn profi’r angen am ddeialog er mwyn gwrando a deall.

Fe fu’n drafodaeth dda ac yn dangos fod y wefan yn gallu cynnal trafodaeth werthfawr, mewn ffordd na all neb arall. Y siom yw mai Rhys Llwyd yw’r unig un sydd wedi gweld unrhyw werth mewn trafodaeth o’r fath er ei fod yntau yn dawel iawn bellach. Fe ddaeth cyfraniadau eraill yn dilyn erthygl Morris Pugh Morris ac yn arbennig gan Geraint Lloyd. Fe fydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod i ( fel golygydd y Goleuad ) wedi methu cael llais efengylaidd i gynnal trafodaeth gyda  llais rhyddfrydol. ‘Dim yn gweld gwerth yn hynny’ oedd yr ymateb.

Roeddwn yn son am ddydd y pethau bychain ar y dechrau. Ga i grynhoi y sylwadau yma  : Ddiwinydda ar waith yng Nghymru.

1.      Ni fyddai y mwyafrif llethol hyd yn oed yn gwybod am C21 heb son am wybod ei bod ar waith. Nid yw hyd yn oed y rhai sy’n pregethu’n gyson ac yn arwain addoli yn ymwybodol o fodolaeth y wefan nac o’r ychydig grwpiau sydd yn cyfarfod yn enw C21. Mewn gwirionedd ychydig o gyhoeddusrwydd yr ydym wedi ei roi i C21, ac i raddau y mae hyn wedi bod yn fwriadol. Mae gen i amheuaeth, er enghraifft, faint o’r rhai sydd yn dysgu diwinyddiaeth/astudiaethau crefyddol yn ein colegau sydd yn gwybod dim am C21. Ar wahân i feirniadaeth gan un , mae eu cyfraniad i’r wefan a’u diddordeb  wedi bod yn gwbl absennol. Tydw i ddim ond yn nodi’r ffaith.  

2.      Ond tystiolaeth, nid ymgyrch, mudiad na bygythiad yw C21. Diwinydda ar y cyrion ydyw. Gan fod llawer ohonom yn bobl wedi ymddeol, yr ydym yn llythrennol ar y cyrion. Ond y mae’n dystiolaeth bwysig ac angenrheidiol  rhag i unrhyw ddehongliad o’r ffydd feddiannu’r dystiolaeth yn llwyr  yng Nghymru Mae’n dystiolaeth i’r Duw sydd ar waith. Ac mae’n gyfrifoldeb arnom i wneud yn siwr nad yw radicaliaeth rymus yr Efengyl a Iesu ei hun  yn cael ei foddi gan y llif o ddiwinydda ceidwadol amrywiol nad yw’n barod i dderbyn  dehongliadau gwahanol o’r ffydd. Ernest Kasemann soniodd rhywdro am y rhai sydd yn gwneud yr efengyl ( a dyma i chi gymhariaeth hen ffasiwn )  yn ‘diwn gron fel record sydd wedi sticio’. Neu, yn well, y bardd o’r Alban, George Mackay Brown,  a ddywedodd the word became flesh, only to be turned to words again…..

 

 

3.      Mae edrych yn fanwl drwy’r wefan yn ei wneud yn  gwbwl amlwg mai darnau diwinyddol sydd yma ac nid unrhyw gorff o ddiwinyddiaeth rhyddfrydol – sydd yn rhy eang i’w ddisgrifo heb son am ei ddiffinio. Mae e-fwletinau mis Mai wedi tanlinellu hynny. Rwyf wedi bod yn pori eto yng nghyfrol Duncan Forrester ( Caeredin ) Theological Fragments ( adlais o Kierkegaard a’i Philosophical Fragments ) ac yn sylweddoli mai dyna sydd yn y Beibl a dyna sydd yn y Testament Newydd ( pwy ddisgrifiodd Marc fel cadwyn o berlau ar linyn stori ? )  Bywyd o ddarnau yw bywyd i’r mwyafrif o bobl yng Nghymru erbyn hyn – darnau o ddiwylliant, darnau o hanes, darnau o gred, darnau o brofiadau ail law a symudol y cyfryngau. Yn ei gyfrol y mae Gethin Abraham yn dweud Spirituality is essentially untidy ac y mae gwirionedd yn hynny, ond y mae ysbrydolrwydd hefyd fel dŵr yn llifo drwy bob rhan ac agwedd o’n bywyd ac yn dwyn y darnau ynghyd. Fe wyddom , yn y pendraw, nad yw darnau a briwsion yn ddigon, ond felly mae hi. Dyna pam ein bod yn ymwybodol iawn nad ydym eto wedi megis dechrau i gyrraedd y bobl yr ydym yn fwyaf awyddus i’w cyrraedd – sef y bobl ar y cyrion a ‘r bobl sydd wedi eu dieithrio bron yn llwyr o’r ffydd Gristnogol. Ein cenhadaeth yw galluogi pobl ‘ddigrefydd’ ond nid ‘ddi-ysbrydoledd ‘Cymru i wybod mai gwahoddiad i gyffro ac antur pererindod yw ein ffydd, fel y tadau pererin gynt, gan gredu fod gan Duw lawer fwy o wirioneddau i’w datguddio i ni eto.

Cyfraniad Gethin Abraham Williams i Gynhadledd Aberystwyth 2013

Seeing the Good in Unfamiliar Spiritualities
(£9.99, circle books, 2010)

 

Gethin  AbrahamWilliams

 

Thema’r llyfr yw’r argraff ein bod yng nghanol cyfnod o newidiadau seismig yn y ffordd mae ein syniadau crefyddol yn newid. 

 

Mae’r llyfr yn codi cwestiynau fel: pa fath o Dduw?  A beth am y drafodaeth rhwng y gwahanol grefyddau?

 

Mae ‘na bennod arall ar y byd goruwchnaturiol (yr ocwlt), a phennod arall ar y bywyd tragwyddol. Oes gennym ni rhywbeth i’w gynnig i’n cymdogion sy’n gwneud synnwyr am fywyd ar ôl bywyd?

 

Mae ‘na ddiwinydd yn Awstralia o’r enw David Tacey, athro prifysgol yn Melbourne. Ei lyfr mwyaf adnabyddus a dadleuol oedd The Spirituality Revolution: the emergence of contemporary spirituality. Mae’n dweud ein bod ni’n byw mewn cyfnod anodd yn hanes y byd – ac rydym yn ‘stuck’ yn y canol: ar yr llaw rydym wedi gordyfu’r system seciwlar, ac ar y llaw arall wedi gordyfu system grefyddol na all y mwyafrif ei dderbyn mwyach.

 

Mae ‘na rhywbeth o bwys yn digwydd yn ystod ein cyfnod ni felly, ble mae niferodd yn troi eu cefnau ar grefydd draddodiadol ond yn  falch o gyffesu eu bod â diddordeb mawr mewn pethau ysbrydol.

 

Cynlluniwyd y llyfr ar sail gyrfa helbulus, aflonydd  yr offeiriad a’r proffwyd Eseciel. Ef oedd y cymeriad mawr wrth wraidd yr argyfwng crefyddol yn dilyn y Gaethiwed  ar ôl buddugoliaeth y brenin Nebuchodnosor yn y flwyddyn 587, pan gollodd yr Iddewon eu teml, eu brenin a’u hannibyniaeth. Y tri pheth sy’n cadarnhau cenedlaetholdeb: crefydd, llywodraeth a thir.

 

Eseciel oedd prif bensaer yr ymdrech lwyddiannus i ail greu’r hen ffydd  ac i ddangos nid yn unig sut gall yr Iddewon ddal i gredu yn Nuw’r Iorddonen ar lan dyfroedd y Teigris, ond sut i dyfu yn eu dealltwriaeth ysbrydol.

 

Rydym ninnau mewn sefyllfa gyffelyb. Mae’r hen ffyrdd o ddisgrifio Duw, a meddwl am Dduw, yn fwyfwy anodd i’w gyfiawnhau. Ond eto ar yr un pryd mae hyd yn oed y rhai sydd wedi cefnu ar gapel neu eglwys yn dal i chwilio ac yn agored i gredu mewn rhyw fath o ysbrydolrwydd.

 

Mae ‘na lawer yn y gorllewin, a thybiaf cyn bo hir yn y dwyrain ar de hefyd, sydd yn diflasu, neu wedi diflasu’n barod ar grefydd ffurfiol. Ydym ni i dderbyn y sefyllfa yma fel y mae, fel un o ffeithiau bywyd yn yr unfed ar hugain canrif, heb wneud unrhyw ymdrech i ddeall, ac efallai i newid ein hunain?

 

Ydym  ni am fynd ymlaen gyda’n gweledigaeth hanesyddol arbennig, yn ddigon bodlon ymestyn gwahoddiad i eraill i gysylltu â ni, neu i ail gysylltu, ond heb wneud fawr o ymdrech o leiaf i ddeall o ble mae’r lleill yn dod ? Neu’n wir , i ddeall pam yr oeddynt wedi mynd yn y lle cyntaf ?

 

Ydym ni’n mynd i gau’n llygaid i’r ffaith fod cymaint o bobl yn cael profiadau ysbrydol gwerthfawr o’r fath byddem ni’n ei feirniadu’n hallt pan godwyd fi yma yn Aberystwyth yn blentyn ysgol ac fel aelod yng nghapel y Bedyddwyr yn  Alfred Place?

 

Pwynt llyfr fel Seeing the Good in Unfamiliar Spiritualities yw ceisio deall y cwestiynau hyn yn well, ac ar yr un pryd i ail edrych ar rhai o’n ffyrdd traddodiadol, clasurol o ddisgrifio Duw a’i greadigaeth.

 

A oes rhyw ddaioni yn yr ysbrydolrwydd anghyfarwydd cyfoes?

 

Ac os oes, onid oes angen deall a derbyn hynny er mwyn i ni hefyd dyfu, a chael ein hysbrydolrwydd wedi ehangu?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

AROLWG CYHOEDDI DIWINYDDOL/CREFYDDOL YN Y PUM MLYNEDD DIWETHAF

Papur i gynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21 yn y Morlan Aberystwyth  Mehefin 2013     gan Enid R Morgan

1.    CYFLWYNIAD

Yn  2007 cyhoeddodd Robert Pope gyfrol gyfoethog ac amrywiol dan y teitl Lloffion ym Maes Crefydd . Y mae’r teitl hynod o hen ffasiwn hwn yn cuddio amrywiaeth ardderchog o bynciau anodd sy’n cael triniaeth ofalus, gwrtais, ddysgedig. Y mae Robert Pope, oedd yn Uwch ddarlithydd yn yr adran astudiaethau crefyddol ym Mangor wedi bod yn cyfrannu erthyglau amrywiol eu cynnwys ers deng mlynedd ar hugain a mwy a hynny i bron pob cylchgrawn Cymraeg y gwyddoch amdano a rhai na chlywsoch amdanynt erioed. Mae Robert Pope wedi cyfrannu i’r cwbl. Er enghraifft yng  nghyfrol 2007 mae ganddo ddwy erthygl dda ar achos a gwraidd  ffwndamentaliaeth yn Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth.  Dywed yn y rhagair:

‘Ni ellir ond dod i’r casgliad mai ychydig sydd ar gael yn y Gymraeg i’r sawl sydd â diddordeb mewn pynciau diwinyddol a’u dialog â materion cyfoes, a hynny mewn cyfnod a welodd lu o gyhoeddiadau cyffelyb yn Saesneg.’ 

Ar wahân i gyfrol Vivian Jones Menter Ffydd nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i gyfrol arall sy’n  gweddu i’r disgrifiad hwnnw.  Ond bu yn y Traethodydd erthyglau unigol ac ambell rifyn cyfan wedi ei neilltuo i bwnc arbennig, megis yn Hydref 2006 rifyn ar Ddinas Jeriwsalem o safbwynt  tair crefydd ‘Y Llyfr’. Cafwyd hefyd erthyglau gan nifer o wahanol unigolion 

John Heywood Thomas ar Moesoldeb a Marwolaeth

Iolo Lewis ar  Dafydd Wyn Parry Crefydd a Gwyddor – Myfyrdodau 2006

Richard H T Edwards Eglwys y Dyfodol Cyfuno Ffydd a Rheswm

Owain Llŷr Evans Darwin a’r Meddwl Crefyddol –

Catrin Williams  Newid Hinsawdd a’r Weledigaeth Apocalyptaidd.

Ceir erthyglau byrrach a phytiau byrion wedi eu cyhoeddi yn ‘Cristion’ hefyd. Ond nid wyf eto’n argyhoeddedig fod  dwy dudalen yn’ Cristion’ nac e-fwletin Cristnogaeth21 yn haeddu’r gair traddodiadol pwysfawr ‘cyhoeddi’! Dechreuwn felly gyda’r pennawd.

2. Beiblaidd ac Esboniadol

Gwasg Bryntirion, tŷ cyhoeddi Mudiad Efengylaidd Cymru wedi cyhoeddi casgliad o ddefnydd o safbwynt efengylaidd ceidwadol.

Cyfres Bara’r Bywyd gan Gwyn Davies- y diweddaraf ar Lyfr y Diarhebion 

Gwneud Marc ( astudiaethau ar gyfer dosbarthiadau Beiblaidd) gan Emyr James 

Croes fy Arglwydd  Gwynn Williams,

Diwinydda Ddoe a Heddiw, Eryl Davies, Gwyn Davies, Noel Gibbard ac Iwan Rhys Jones

Y Ffordd Gadarn  R Geraint Gruffydd 2008

(I’w gyhoeddi’n  haf 2013)) Gair a’r Ysbryd .Ysgrifau ar Biwritaniaeth R Geraint Gruffydd( 

Yn wrth gyferbyniad i gynnyrch Gwasg Bryntirion cawn y drydedd gyfrol yng nghyfres Elfed ap Nefydd – ‘Dehongli’r Gwyrthiau’  ( y ddau arall yw ‘Dehongli’’r Damhegion’ a ‘Dehongli’’r Bregeth’)  Dyma ffrwd gyson o ganol y traddodiad rhyddfrydol Cristnogol, wedi  ei gyhoeddi gan Cyhoeddiadau’‘r Gair, ac mae’r adrannau yn cynnig esboniad ar gynnwys holl wyrthiau Iesu yn yr efengylau.

Rhain yn beth fyddwn yn ei alw yn ‘lyfrau gwaith’ yr enwadau.

Llyfr Datguddiad wedi ei olygu gan Robin Gwyndaf – cyfrol hardd a drud

3  Litwrgi – Llyfrau gwaith teulu’r ffydd 

Math arall o lyfr gwaith yw llyfrau at addoli a defosiwn.  Yr oedd fy nhad-cu, Defi Morris, Ysbyty House, y Bynea, yn frawd i Silas Morris Prifathro Coleg y Bedyddwyr Bangor yn nechrau’r ugeinfed ganrif – dyma fi yn y cwmni hwn yn brolio fy nghymwysterau ymneilltuol! Yr oedd ef yn perthyn i genhedlaeth a  welodd ddwyn i ben y frwydr i ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru . ( Yr oedd Emrys ap Iwan, gyda llaw yn galw’r enbydrwydd hwnnw yn ‘frwydr rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr’)   Yn ôl chwedl fy mam yr oedd fy nhad-cu yn  edrych lawer ei drwyn ar yr offeiriad lleol am fod hwnnw naill ai’n methu neu’n gwrthod gweddïo ‘o’r frest’ a heb ei Lyfr Gweddi. Estynnid coegni fy nhad-cu at y llyfr yn ogystal â’r offeiriad!

Ond ar y Llyfr Gweddi Gyffredin  y maged y Methodistiaid; yma mae gwreiddiau mynegiant Pantycelyn ac Ann Griffiths.  Bu colli’r ymdrwytho addolgar yng ngeirfa a mynegiant y llyfr gweddi yn golled enbyd i Ymneilltuaeth ac yn fodd i ehangu’r bwlch rhwng yr enwadau a’r Hen Fam, fel yr haeddai ar un adeg gael ei galw. A chan fod Anglicaniaeth yn credu’n ddwfn yn  yr egwyddor mai’r hyn sy’n cael ei weddïo yw’r hyn sy’n cael ei gredu  (Lex orandi lex credendi)  mae’r hyn a ddywedir yn y ddeialog rhwng offeiriad a chynulleidfa yn allweddol i’n hamgyffrediad o’r Duw yr ydym yn troi ato wrth addoli. Ac erbyn hyn, llawenydd yw dweud bod gennym Lyfr Gweddi Gyffredin newydd, eang, gyfoethog ac ystwyth. Cyhoeddiad dwyieithog yw, ond mae’r cyfrolau newydd yn rhai y gall Cymry Cymraeg  droi atynt gyda rhyddhad a balchder.  ’Dyw’r rhai a luniodd y Gymraeg  ddim yn cael eu henwi yn y llyfrau ond diolch am ddycnwch Euros Bowen, Beynon Davies, Enid Pierce Roberts, Gwynn ap Gwilym, Hugh Pierce Jones, Norman Hughes, Evan Orwig Evans ac eraill y cefais y fraint o’u hadnabod a dysgu ganddynt.

  Cychwynnwyd ar y gwaith yn fuan ar ôl yr ail ryfel byd pan aeth nifer o daleithiau cenedlaethol ati i foderneiddio iaith, ac i gymhwyso diwinyddiaeth y Llyfr Gweddi i’w hangen tra’n dal i arddel eu perthynas a theulu Caergaint.  Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf y mae’r gwaith hwnnw fwy neu lai wedi ei orffen – am y tro beth bynnag.  Mae’r llyfrau gweddi newydd dwyieithog wedi eu cyhoeddi mewn casgliad graenus a hardd,  yn weddus ddigon gan Wasg Caergaint. Fe garwn feddwl y byddai hynny o ddiddordeb i bob Cristion o Gymro ac nid dim ond i Anglicaniaid. Yn y pum mlynedd diwethaf cyhoeddwyd  ffurfwasanaethau newydd ar gyfer yr Eucharist, Priodas, Angladdau, a’r ddiweddaraf yn y ddyletswydd ddyddiol Gweddi Ddyddiol ddwy flynedd yn ôl.  Petawn yn annerch criw o Anglicaniaid ni phetruswn ddim i ddweud bod hwn yn ddigwyddiad o bwys i deulu’r ffydd, o bwys litwrgaidd, ac felly o bwys diwinyddol. 

Dyna ti, Defi Morus, dy wyres na chafodd gyfle i dy adnabod,  yn dy geryddu dros ysgwydd canrif gyfan!

Yn cyd-daro’n braf â’r cyhoeddiadau hyn y mae Salmau Cân Newydd Gwynn ap Gwilym yn adnodd o draddodiad Edmwnd Prys sy’n gwneud Llyfr y Salmau yn ganadwy eto heb orfod defnyddio siant Anglicanaidd. Mae yna ddwy gyfrol arall  yn perthyn i’r un maes sef Cân y Ffydd, cyfrol y diweddar Kathryn Jenkins am emynyddiaeth. Ac ail argraffiad o Cydymaith Caneuon Ffydd gan Delyth Morgans.

O draddodiad gwahanol, sy’n cael ei ddynodi gan y teitlau hoffus o hen ffasiwn; casgliadau o weddïau – gweddïau llyfr wrth gwrs!

Naddion Gweithdy’r Saer      D. Hugh Matthews

Adlais                                      Aled Lewis Evans

Mil a Mwy o Berlau                Olaf Davies

Tymhorau Gras                       John Lewis Jones ( gwasanaethau ac oedfaon ar gyfer blwyddyn                                          gyfan)

Gweddïau Heddwch a Chyfiawnder  gol. Guto Prys ap Gwynfor

Mae Yn Dyrfa Weddus gan Rhiannon Ifans yn gasgliad o garolau Plygain sy’ eisoes yn cael ei defnyddio’n helaeth. Mae bywiogrwydd ac atgyfodiad y gwasanaethau Plygain yn phenomenon ddiwylliannol hynod.  Yn eu cyd-destun nid yw’r ddiwinyddiaeth Galfinaidd sy’n nodweddu’r carolau mwy diweddar  fel petaen tarfu o gwbl ar y cantorion na’r gynulleidfa gan fod cymaint cyfoeth mynegiant ynddynt.  Byddai’n  braf gweld geiriau newydd yn ceisio rhoi mynegiant i ryfeddod tymor yr Ymgnawdoliad heb roi penillion di-rif i athrawiaeth Iawn Ddirprwyol y buasai’n fwy priodol, o’u credu, i’w canu ar ddydd Gwener y Groglith.

4.  HANES

Cyfrol fwyaf trawiadol y cyfnod yw’r drydedd cyfrol yn Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru Y Twf a’r Cadarnhau 1814- 2019 gan John Gwynfor Jones a Marian Beech Hughes  a gyhoeddir yn briodol gan y wasg enwadol Gwasg Pantycelyn.

Dwy gyfrol fechan  D Ben  Rees Hanes Capel Westminster Road Ellesmere Port yn y ganrif 1907  -2007 ( cyfrol ddwyieithog) a Chofiant i’r Gwron o Genefa, sef cofiant i John Calfin.

Cawn gan Eirwyn George Cynnal y Fflam golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro a chyfrol Tim Rushton Capeli wedi ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.

Yn gofiannol cawn :

Porth yr Aur, Cofio J Elwyn Davies

Rhifyn arbennig o’r Cylchgrawn Catholig 2010  Casgliad o erthyglau amrywiol o deyrnged i John Fitzgerald O Carm 1927-2007

5. ACADEMAIDD

Nid oes dim ar hyn o bryd sy’n cyfateb i’r ffrwd o gyhoeddi academaidd  a  fu yn y saith a’r wythdegau  gan Wasg Prifysgol Cymru. Darparwyd yn hael ddefnyddiau i israddedigion oedd yn astudio diwinyddiaeth yn Gymraeg. Nid oes golwg ar unrhyw angen ymarferol i  adnewyddu’r ffrwd honno gan nad yw ‘r Coleg Cymraeg newydd ar hyn o bryd yn cynnwys diwinyddiaeth ymhlith y pynciau a ddysgir ynddi. Y mae’r Coleg Cymraeg wedi llwyddo i gynnal athroniaeth trwy gyfrwng y Cymraeg, ac y mae hynny yn beth i ymhyfrydu ynddo.

Dechreuwn gyda’r disgleiriaf a mwyaf heriol wrth gydnabod colli  Dewi Z Phillips .

Casgliad o’i erthyglau Cymraeg yw Ffiniau  Dewi Z Philllips 2008

Cyfrol Goffa i Dewi Z Phillips  Crêd, Llên a Diwylliant gol E. Gwynn Matthews 2012

Noder mai Adran Athroniaeth  Urdd y Graddedigion sydd wedi magu gallu i ymdopi ag anghytundebau dwys.  Y mae dau draethawd Walford Gealy yn y gyfrol goffa i Dewi Z yn batrymau o gwrteisi grasol . Beth sy’n cyffwrdd â’r galon yn ogystal â herio’r crebwyll yw ffordd ddigyfaddawd Walford o herio Dewi Z.  I Walford Gealey ( ac i’r Mudiad Efengylaidd wrth gwrs) y mae athrawiaeth Iawn Aberthol Dirprwyol yn gwbl hanfodol i ffydd y Cristion. Nid oes unrhyw eglurhad arall yn dderbyniol. Ond  nid oes chwerwedd yn y drafodaeth. Gallwn  i gyd ddysgu o’r mwynder argyhoeddiadol hwnnw.

Hanes Athroniaeth y Gorllewin gan John Daniel a Walford Gealey  2009 Gwasg Prifysgol Cymru  ( dyna nodi colled arall)

Mae dau unigolyn wedi bod yn ddygn a rhyfeddol gynhyrchiol .

Dafydd Densil Morgan

·  Edward Matthews, Ewenni, Gwasg Pantycelyn 2012  

(Ychwanegiad at y gyfrol am Pennar Davies)

·  Lewis Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 2009

·  Dyddiadur America, Carreg Gwalch 2009

·  The Span of the Cross, 2il argraffiad, University of Wales Press, 2011

·  The SPCK Introduction to Karl Barth, SPCK 2010

·  Barth’s Reception in Britain, T & T Clark International 2010

·  Wales and the Word, University of Wales Press 2008

 John Gwynfor Jones 

Crefydd a Chymdeithas  Astudiaethau ar Hanes y Ffydd Brotestannaidd yng Nghyrmu  1559 -1750  Gwasg Prifysgol Cymru 2007

Yng Ngolau Ffydd  2009

Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru 2011 Y Tŵf a’r Cadarnhau.

Eryn White The Welsh Bible 2007

 Noel Davies :

Y mae darlithiau cyhoeddus yn fodd i ysgogi a meithrin cyhoeddi amrywiol. Bu gwahoddiad i gyflwyno darlith Pantycelyn yn fodd i Noel Davies cyhoeddi cyfrol fechan yn hytrach na dim ond llyfryn  Moeseg  Gristnogol Gyfoes .Gwnaeth  Noel waith sylweddol dros y blynyddoedd  yn y maes eciwmenaidd lle y bu modd agor drysau i edrych ar amrywiaeth mawr o bynciau .

Cyhoeddwyd darlithiau blynyddol Y Morlan hefyd am yn ail yn Gymraeg a Saesneg. ??

Dwy ddarlith arall – sef Darlith Goffa Lewis Valentine ar Rhyfel a Heddwch gan Robin Gwyndaf

A darlith gan D Ben Rees ar John Elias a’i Gyd Fethodistiaid Calfinaidd.

SAESNEG

The Dragon and the Crescent  Graham Davies  (Seren)

The Honest Heretique  John I Morgans Lolfa.

The Span of the Cross. D Densil Morgan 2il argraffiad, University of Wales Press, 2011

The SPCK Introduction to Karl Barth, D Densil Morgan SPCK 2010

Barth’s Reception in Britain, D Densil Morgan T & T Clark International 2010

Wales and the Word  Historical Perspectives on Welsh Identity and Religion Densil Morgan Gwasg Prifysgo Cymru 2008 

Honouring the Past and Shaping the Future: Religious and Biblical Studies in Wales ( Essays in Honour of Gareth Lloyd Jones ) ed. Robert Pope Gracewing Ltw 2003 ISBN085244 401 X2006

Mewn adolygiad yn y Traethodydd  sylwodd John Tudno Williams  bod y gyfrol goffa i Gareth Lloyd Jones yn Saesneg a holodd  a fyddai hynny’n ychwanegu at ei werthiant .  ond erbyn i’r gyfrol The Bible in church, academy and culture gol. Alan Sell Cyfrol Deyrnged i  John Tudno ymddangos y mae’r Saesneg wedi mynd yn gyfrwng honno hefyd.

Cyfieithiadau

Cyhoeddodd Cyhoeddiadau’r Gair swmp o ddeunydd wedi ei gyfieithu o’r Saesneg.

Cwrs Alpha  Nicky Gumbel Cwestiynau Bywyd/Beth yw Bywyd?/ Beth yw Bywyd? Pam Iesu?

Efengyl 100: Whitney T. Kuniholm 

Darganfod Cristnogaeth ,   Astudio gan Rico Tice

Gwyddoniadur y Beibl Mike Beaumont (The New Lion Book of the Bible)

Gweddiau Nick Fawcett

Her y Wê

‘Rydyn ni wedi dysgu bod angen llawn gymaint o waith golygu ac ysgogi ar y we ag a fu ym maes cylchgronau. ‘Does dim modd gosod Gwefan ar ei phen ei hun yn gwneud dim – ystyriwch fel y mae Facebook a Thrydar yn procio pobl bob dydd.

Beibl.net

‘Rwy’n tynnu sylw at bosibiliadau newydd hefyd.

Roots- dyma  adnoddau i wasanaethau, a phregethau  wedi eu cysylltu â’r Llithiadur diwygiedig, a chylchgrawn yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc. Gellir cael hwn yn Gymraeg ar y Wê. Fe’u darperir gan Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon dan y teitl Roots.

Mae bwrlwm o bethau mewn blog a thrydar ar y We a bydd yn ddiddorol gweld a ddaw rhywbeth o werth parhaol o hwnnw i gyd.  Rhywle ar y We y mae dyfodol i gyhoeddiadau lleiafrifol ( o ran iaith a diddordeb) . Ond heddiw ‘ryn ni’n byw rhwng dau fyd a sawl diwylliant.

Yn y pendraw  cynnyrch pobl o ddysg a disgyblaeth ac argyhoeddiad  yw diwylliant diwinyddol. Ac fe ddatblygwn ein llais a’n safbwynt wrth drafod gyda’n gilydd.

Nid honnaf mod i wedi rhestri popeth – ond mae’n rhyfeddod fod cymaint â hyn.-

 Gyrrwch air i lanw’r bylchau os gwelwch yn dda.

CYLCHGRONAU  A PHAPUR

Y Llan  wedi ei llyncu gan y we ac wedi diflannu

Y Goleuad, Seren Cymru a’r Tyst yn dal ar bapur

Cristion

Traethodydd

Cylchgrawn Efengylaidd

Diwinyddiaeth (Yr olaf yn  2011)

Y Gwyliedydd – ( dywedir ei fod yn dal ar dir y byw)

 Y TRAETHODYDD

 Nid cyfres o adolygiadau  yw amcan y papur hwn, ond mae’r rhaid i mi wneud mwy na dim ond crybwyll enw’r Traethodydd.  Ym maes cylchgronau y mae cyfraniad arbennig Y Traethodydd yn rhywbeth i’w werthfawrogi a’i ganmol. Os ewch chi trwy’r Traethodydd am y 5 mlynedd diwethaf a’r blynyddoedd cyn hynny y mae’n rhyfeddol faint o erthyglau  pwysig diddorol a gwerthfawr sydd ynddo  Mae  ambell i sgarmes fach rhwng Stephen Nantlais a Gareth Wyn Jones a Walford Gealey yn dipyn o her deallusol i’r rheini heb hyfforddiant mewn athroniaeth.  Ond mae lle i ddiolch o waelod calon i Brinley Roberts y golygydd am ei grebwyll, ei ehangder a’i ffordd o gasglu erthyglau ar thema gyffredin ynghyd i un rhifyn o dro i dro. Ac mae’r adolygu cyson ( er i ambell un fod yn reit hwyr) yn gosod ar papur  sylwadaeth gyson ar nifer helaeth o gyhoeddiadau. 

Ga’i nodi  detholiad o erthyglau y dylai pawb ohonom sydd yma fod wedi eu darllen (Yr ydw innau fel chwithau’n euog!).

 2006  

Robert Pope ar Bentecostiaeth

Geraint Gruffydd ar John Davies o Fallwyd  hanes, hanes crefydd a diwylliant.

Bobi Jones ar gofiant Densil Morgan i Pennar Davies.

Raymond Williams ar gyfieithiad i’r Seasneg o Ffydd ac Argyfwng Cenedl  Faith and the C¬risis of a Nation.

Hydref Rhifyn cyfan i  Dinas Plant Abraham     Set o erthyglau 

Iddewiaeth Dan Cohn Sherbok

Islam  gan Dawoud Eel Alami

Fwndamentaliaeth: Ei Gwreiddiau a’i hachosion Robert Pope

Crefydd Filwriaethus : Dyletswydd y  Duwiol, Gareth Lloyd Jones

Crefydd ar ol 9/11 gan Denzil Morgan

2007

Dwy erthygl gan Walford Gealey ar waith Dewi Z Phillips ac ar hanes athroniaeth yng Nghymru

Iwan Rhys Jones ar Diwinydda yn y Beibl Cymraeg Newydd 

Ebrill 2007  Paul Badham yn ymaeb Cristnogl i’r erthyglau am Islam c Iddewiaeth.

Erthyg Stephen Nantlais ar Borges

Adolygiad Dafydd Glyn ar gofiant Robin Chapman i Saunders Lewis.

Erthygl John Heywood Thomas ar Moesoldeb a Marwolaeth

Adolygiad bachog ac enbyd Gareth Miles ar ddramau Aled Jones Williams

2008

 Denzil Morgan ar Llewelyn Ioan Evans

Mary Burdett Jones yn adolygu cyfrol Cynog Dafis Mab y Pregethwr

Iolo Lewis ar  Dafydd Wyn Parry Crefydd a Gwyddor – Myfyrdodau 2006

Richard H T Edwards Eglwys y Dyfodol Cyfuno Ffydd a Rheswm

Owain Llyr Evans Darwin a’r Meddwl Crefyddol –

Adolygiad Meurig Llwyd ar gyfrol Cynwil Williams am Rowan Williams. Hydrref 2008

Robert Pope ar Emynau newid cymdeithas sy’ wedi cael eu llunio i blesio ysbryd yr oes.

2009 

Bobi Jones  am Dewi Z a ieithyddiaeth ac effaith andwyol Wittgenstein ar DZP

Noel Gibbard  Caradog Jones a Forgotten Missionary    Gwasg y Bwthyn

Catrin Williams  Newid Hinsawdd a’r Weledigaeth Apocalyptaidd.

 2010

Rhifyn cyfan ar  Y Duw Hollalluog

Meirion Lloyd Davies Ydi Duw yn Hollalluog ?

Gareth Wyn Jones Y Dyrchafol heb y Dyrchafael

Iolo Lewis ar gyfrol Vivian Jones Menter Ffydd. ( gwell ar seicoleg a chymdeithas na diwinyddiaeth)

Diwinydda yn y Gymru Gymraeg Brotestannaidd  heddiw 2010 (darlith i gynhadledd Cristnogaeth21 Vivian Jones

2011

Walford Gealy yn gymodwr rhwng Stephen Nantlais a Gareth Wyn Jones   Ymateb y ddau  yn rhifyn Hydref. 

 SYLWADAU TERFYNOL

Ag ystyried sut mae hi ar deulu’r ffydd yng Nghymru y mae’r cyfanswm o feddwl, astudio a c ysgrifennu yn rhyfeddod. Ond y mae rhan fwyaf ohono ar gyfer ‘ein pobl ni’  ‘ pobl fel ni’, neu bobl y gellid eu perswadio i fod yn debycach i ni.  Y mae cyhoeddi’r Cwrs Alpha yn Gymraeg yn arwydd bod yn y garfan efengylaidd weithgarwch, egni ac argyhoeddiad i fwrw ‘mlaen â gwaith efengylu traddodiadol ei gynnwys, er ei fod yn gyfoes  ei ddull o gyflwyno.

Mae’r bwlch yr ydyn ni yn Cristnogaeth21 yn ymwybodol ohono yn fater o apologetics. Egluro, a chysylltu a’r meddwl seciwlar .  Nid ymddiehuro, ond dod at y cwestiynnau sy’n wynebu heddiw o safbwynt fydd sy’n dehongli’n ddealladwy. Y mae’r ieithwedd draddodiadol yn codi alergedd ar y bobl yr ydych yn ceisio gyfathrebu â hwy. Yno mae’r angen fel yn niffiniad Robert Pope i gyfathrebu  a’r rhai sy’ wedi ymddieithrio.

 

Tom Wright, Esgob Durham yn ei lyfr diweddaraf yn deud am yr efengylau

“mae’r neges gyfan yn cymaint mwy na chyfanswm y rhannau bach yr ydyn ni i gyd ar ryw lefel yn gyfarwydd a hwy. ‘Rydyn ni i gyd wedi cam-ddarllen yr efengylau. ‘Rydyn ni wedi eu gosod mewn fframwaith o syniadau a chredoau a gasglwyd gennym o fannau eraill.”  the whole message which is so much greater than the sum of the small parts with which we are on one level so familiar…. We’ve all mis-read the gospels We have fitted them into the framework of ideas and beliefs that we have acquired from other sources.” 

Mae’r frawddeg honno ynghyd â gosodiad Robert Pope yn gosod rhaglen waith eitha eglur i ni sy’ wedi dod yma yn ymboeni am Gristnogaeth yn yr unfed garif ar hugain.

 

DYFYNIADAU

 Spong:  Why Christianity must change or die  

‘Bodolaeth Iesu, dynoliaeth gyflawn Iesu a ddatguddiodd yn derfynol ystyr Duw. Bodolaeth pob un ohonom ni, ein dynoliaeth gyflawn a fydd yn ein cysylltu ni yn y diwedd ag ystyr Duw. Y mae bod yn ddisgybl i Iesu yn gofyn am imi gael fy ngrymuso ganddo i efelychu ( ynof fi) bresenoldeb Duw yn Iesu drwy fyw yn gyflawn, drwy garu’n wastrafflyd a thrwy gael y gwroldeb i fod y cyfan y’m crewyd i fod gan Dduw.   I mi Iesu yw’r un a wnaeth yn hysbys i bawb ohonom beth yw ystyr bywyd. Felly fe’i galwaf yn Arglwydd, fe’i galwaf ‘Crist’. Dyma lle yr wyf fi’n cyfarfod Duw….’

 “The gospels were all about God becoming king, but the creeds are focused on Jesus being God.” N T Wright

 Saunders Lewis yn ysgrifennu.yn 1957   “wedi ffarwelio â’r wraig am bythefnos ac yn gorfod cadw tŷ a phob dim fy hunan fel na allaf gael amser i sgwennu fel y dymunen wneud”

DADFYTHU’R ŴYL

E-Fwletin Rhagfyr 17eg, 2012

DADFYTHU’R ŴYL
Y mae’n hen arferiad erbyn hyn mewn llawer o’n heglwysi i wahodd Siôn Corn i barti Nadolig y plant, er, yn ôl pob sôn, aeth yn fwy o dasg, bellach, i sicrhau gwirfoddolwyr i wisgo’r clogyn coch a’r farf wen. Gall hon fod yn weithred ddigon diniwed, ac nid yw’n hawdd penderfynu bob amser pwy sy’n cael y mwyaf o fwynhad, ai’r plant, ai’r rhieni!

Mae’n debyg erbyn hyn, mewn rhai achosion, fod Siôn Corn yn cael croeso nid yn gymaint i’r parti yn y festri ond hefyd i fod â rhan yn y gwasanaeth Nadolig yn y capel.
Yn dilyn y cyflwyniad o ddrama’r geni gan blant yr ysgol Sul daw cnoc ar y drws a bydd Santa’n araf gerdded i’r sedd fawr i gyfarch y gynulleidfa ac i ddosbarthu anrhegion. Dyma lle mae angen bod yn wyliadwrus, oherwydd o ganlyniad i hyn bydd y plentyn, yn anorfod yn ei feddwl ei hun, yn cysylltu Siôn Corn â baban Bethlehem; yna, wedi iddo dyfu’n hŷn, a phan fydd yn gwawrio arno nad yw’r gŵr hael o Wlad y Lapiaid yn ddim ond ffrwyth dychymyg, bydd perygl mawr iddo ddod i’r un dyfarniad yn hollol ynghylch Iesu o Nasareth. Mae’n holl bwysig, yn enwedig gan fod meddwl plentyn yn rhywbeth mor agored â derbyngar, ein bod yn gwahaniaethu rhwng ffug a ffaith, rhag i’r cyfan fynd yn un gybolfa ddryslyd ym mhrofiad yr ifanc.

Ond arhoswn foment. Beth am yr elfennau mytholegol sydd yn adroddiadau Mathew a Luc o’r geni? Oni ddaw amser yn natblygiad y plentyn pan fydd yn holi ai gwir yr hanes am eni (neu, yn hytrach, genhedlu) annormal, am fodau nefol yn ymddangos uwchben meysydd Bethlehem, am seren symudol yn cyfeirio gwŷr doeth? Deuwn yn ôl at neges ganolog y Nadolig. Ganwyd Ceidwad dyn; “daeth Duwdod mewn baban i’r byd”; daeth Tywysog Tangnefedd i “oedfa ein hadfyd”. Er mwyn egluro fod y baban hwn yn rhywun unigryw a thra arbennig, yr hyn a wna awduron efengylau Mathew a Luc, yn unol â chonfensiynau llenyddol yr oes, yw gwisgo ei ddyfodiad i’r byd mewn symbolaeth ddramatig, ac yn fwy na dim, esbonio fod hyn oll yn cyflawni rhai o broffwydoliaethau allweddol yr Hen Destament. Rhaid oedd i’r geni “ddigwydd” ym Methlehem (tref Dafydd: mae’n fwy tebygol mai yn Nasareth y ganed Iesu) er mwyn portreadu Iesu fel ail Ddafydd, y Meseia hir-ddisgwyliedig. Dyfais oedd y “geni gwyrthiol” i danlinellu’r ffaith y deuai Iesu “oddi uchod” ac “o Dduw”. Daeth “doethion o’r dwyrain” gan fod hynny’n gwireddu disgwyliadau Eseia 60 a Salm 72: 8-11. Cynhwyswyd y cyfeiriad at ladd y plant gan fod arbed y baban yn adleisio’r waredigaeth a ddaeth i deuluoedd yr Iddewon adeg lladd y cyntaf-anedig yn yr Aifft (Exodus 12). Diben trefnu i Joseff a Mair gymryd yr un bach a dianc i’r Aifft, a dychwelyd oddi yno i Nasareth yn dilyn marwolaeth Herod, oedd er mwyn datgan mai swyddogaeth Iesu fyddai arwain ail Exodus, nid o’r Aifft y tro hwn, ond o gaethiwed drygioni a phechod i ryddid meibion Duw. A beth am yr angylion? Cofiwn mai ystyr gwreiddiol y gair angelos yw negesydd – negesydd sydd â chenadwri dyngedfennol bwysig i’w chyhoeddi, neges, fel arfer (ac y mae’r neges, bob amser, yn bwysicach na’r cyfrwng), oddi wrth Dduw ei hun. Nid oes raid i angel fod mewn gwisg wen ag iddi adenydd a choron o dinsel!

Mae’n bwysig gwahaniaethau rhwng ffydd a ffiloreg, rhwng gwir a gau, rhwng y digwyddiad ei hunan a’r symbolau a ddefnyddir i gyfleu arwyddocâd y digwyddiad. Mae’r symbolaeth sy’n gysylltiedig â’r Nadolig yn brydferth ac yn gofiadwy ond y mae’n ofynnol inni ddadfythu’r ŵyl, a chanolbwyntio ar y neges sy’n gorwedd y tu i’r myth, neges sy’n ein herio heddiw i fyw mewn cyfiawnder a chymod a heddwch:
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd.”

Efallai bydd rhai yn anghytuno â chynnwys y neges hon. Gwerth gwefan Cristnogaeth 21 yw rhoi cyfle i bobl ddatgan safbwyntiau gwahanol mewn ysbryd cynhwysol. Croeso i chi ymateb trwy fynd i www.cristnogaeth21.org a dewis y botwm “Bwrdd Clebran” Cofiwch y bydd yn rhaid i chi gofrestru cyn medru postio ymateb. Rydym hefyd yn Trydar erbyn hyn – @Cristnogaeth21

Fydd dim E-fwletin dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – cewch y neges nesaf ar Ionawr y 7fed. Tan hynny, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, a diolch i bawb am eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.

16/12/2012

Anghytuno’n Gyhoeddus

E-Fwletin Rhagfyr 10fed, 2012

Anghytuno’n GyhoeddusMae Giles Fraser ( y ‘ffeirad ymddiswyddodd o St Paul’s adeg y protestiadau yn erbyn y banciau) yn ysgrifennu’n ffraeth a bywiog( ac o dro i dro yn rhoi ei droed ynddi). Roedd e’n sôn yn ddiweddar am yr anhawster y mae Cristnogion yn ei gael ynglyn â dadlau’n gyhoeddus. Mae gwleidyddion, medde fe, yn dweud pethau cas iawn am ei gilydd yn gyhoeddus ond yn aml yn eitha mêts yn breifat ( Dafydd Wigley a John Major yn enghraifft ddifyr). Ond, meddai Fraser, i’r gwrthwyneb y mae hi ym myd crefydd. Bydd Cristnogion yn dweud pethau cas am ei gilydd yn breifat ond yn gwisgo clogyn melfedaidd o gwrteisi rhagrithiol pan mae’r byd yn gwrando. Yr oedd dadl eglwys Loegr am ordeinio gwragedd yn esgobion yn enghraifft glasurol. ‘Roedd pethau’n boleit iawn ar y wyneb, ond yn chwerw yn breifat. (Onid oedd y gwragedd ifanc neis-neis sy’n perthyn i Reform ac yn ddarostyngedig i’w gwŷr yn mynd yn erbyn trefn Duw trwy hyd yn oed fod yn aelodau o’r Synod?)Mae’r rhwyg ceidwadol/ rhyddfrydol yn digwydd ar draws y crefyddau, nid yn unig yn y byd Cristnogol. Ymhlith Cristnogion nid yw’n cyfateb i’r gwahaniaethau a esgorodd ar y gwahanol enwadau yn y lle cyntaf. Heddiw mae’r gair ‘Beiblaidd’ yn cael ei fachu gan y rhai fachodd y gair ‘efengylaidd’, pobl sy’ ddim fel petaen ‘nhw eisiau edrych ar gefndir hanesyddol y geiriau o gwbl. Ac yn sicr ‘dydyn nhw ddim yn gwerthfawrogi trosiad. Ar yr ochr arall mae na bobl sy’n cymeryd gwybodaeth wyddonol, fiolegol, ddaearyddol o ddifrif, ond eisiau ( i wahanol raddau) dal eu gafael a gwneud synnwyr o’r Efengyl a thraddodiadau’r ffydd. Rhagorfraint y Mudiad Eciwmenaidd oedd creu’r posibilrwydd i’r fath beth ddigwydd. Ond dywed y ddwy ochr eu bod eisiau dilyn Iesu.

Mewn sawl cyfundrefn eglwysig y mae ‘llwyddiant’ y mudiadau ceidwadol efengylaidd trwy eu hyder a’u hegni wedi creu cynulleidfaoedd brwd. (I bobl o’r tu faes mae ’na anaeddfedrwydd yn eu ffordd o osgoi trafodaeth). Mae’r rheini wedi ymroi i wleidydda ac ennill grym ar bwyllgorau dylanwadol ac mewn swyddi allweddol. Efallai mai taw piau hi!

Gyda hynna i gyd yn corddi yn fy meddwl a gwybod sut mae pethau y tu mewn i eglwysi a’r enwadau yng Nghymru, beth wnawn ni o un o themau heriol yr Adfent i “Baratoi ffordd yr Arglwydd” ac i unioni’n ffyrdd? Ar Ail Sul yr Adfent, Ioan Fedyddiwr yw’r arwr ac eleni wedi ei gysylltu â geiriau Paul am yr angen “i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg a gwybod beth sydd orau”. Mae’n ymadrodd a ddefnyddir dair gwaith, ac mae’n echel i’w feddwl am bynciau moesol. Yn yr Epistol ar y Rhufeiniaid y mae’n haeru bod ein meddwl ni yn llygredig, yn bwdwr, ac na fedrwn ni ddim dirnad y gwahaniaeth rhwng da a drwg am nad ydyn ni’n anrhydeddu Duw gyntaf. Ein hangen ni felly yw rhodd gras a’r wyrth o fedru caru’n gilydd fydd yn ein galluogi i newid y meddwl llygredig i feddwl wedi ei adnewyddu. Dyma her y tymor yma, tymor yn gorlifo o fateroliaeth a sentimentaliaeth y Nadolig cyfoes.

Yn y bôn, neges Ioan yw Dihunwch a newidiwch eich ffordd. Newidiwch eich ymddygiad i fod yn onest, a goddefgar, heb wyrdroi pethau er eich mantais eich hun. Mae’n neges hawdd iawn ei chyfeirio at y bancwyr a’r cyfalafwyr a’r bobl fawr gyfoethog. Ond cwestiwn y bobl i Ioan Fedyddiwr oedd “Beth wnawn ni?”. Dysgu caru’n gilydd meddai Paul, a hynny ar batrwm Iesu fuodd byw gyda chriw o ddisgyblion oedd yn anghytuno’n chwyrn am lawer o bethau. Ac hyd yn oed ar ôl yr atgyfodiad a rhodd yr Ysbryd Glân mae nhw’n dal i anghytuno. Fe wyddai Iesu’r gost o fyw gyda gelyn a golchi ei draed. Dyna’r esiampl a roddir i ni, esiampl y gofynnir – gorchmynnir i ni ei dynwared. Cerwch eich gilydd, ddywedodd Iesu, ac nid cytunwch â’ch gilydd. Wela’i ddim llawer o siâp gwneud y naill na’r llall ar fawr neb ohonom, ac mae e’n gwneud i mi deimlo’n fach iawn. Mae hynny falle, yn lle da i ddechre, yn ddrws wedi ei agor o’n blaen, yn llusern yn goleuo ôl traed o’n blaen ar y llwybr.

Mae croeso i chi ymateb i’r E-Fwletin trwy adael neges ar y Bwrdd Clebran. Gyda llaw, os gwyddoch chi am unrhyw un fyddai’n hoffi derbyn yr E-Fwletin, rhowch wybod i ni.

10/12/2012

“LLANAST”

“Llanast” yw teitl cyflwyniad diweddaraf Cwmni Theatr Bara Caws; cyfieithad Gareth Miles o “Le Dieu du Carnage” gan Yasmina Keza. Ynddi mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt – mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn dechrau’n ddigon call, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i’r trafod fynd yn ei flaen mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwy ac yn fwy plentynaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr – llanast!
Dywed y broliant mai ceisio dadlenni ac archwilio’r bwlch rhwng ein hunaniaeth go iawn a’n wyneb cyhoeddus yw bwriad yr awdur. Yn sgil hynny mae’r ddrama’n awgrymu – os nad yn amlygu – y canlyniadau gwahanol sydd yna o weithredu yn ôl gwerthoedd materol ar y naill law a gwerthoedd ysbrydol ar y llaw arall.
Canlyniadau’r ochr faterol gawn ni yn y ddrama gydag agweddau hunanol a hunangyfiawn y cymeriadau i gyd yn eu tro yn dod i’r golwg. Fel yr awgryma teitl y ddrama wreiddiol, dyma werthoedd Duw llanast (Dieu du Carnage), a dim ond llanast y gellir ei ddisgwyl wrth fyw yn ôl y gwerthoedd hynny.
Byddai’n ddiddorol gwybod pam bod Gareth Miles heb gynnwys y cyfeiriad at Dduw yn nheitl y cyfieithad Cymraeg. Oherwydd gyda ‘Duw’ yn y teitl, fel mae yn y gwreiddiol, rwy’n teimlo bod y ddrama’n mynd i ddimensiwn ychydig yn wahanol. O ddangos beth yw canlyniadau byw yn ôl gwerthoedd materol Duw Llanast, mae’r dramodydd mewn rhyw ffordd yn cyferbynnu hynny â’r canlyniadau gwaraidd a ddylai ddeillio o fyw yn ôl gwerthoedd ysbrydol.
Daw hyn a ni (credwch hynny neu beidio!) at yr Adfent – gyda’i bwyslais nid yn unig ar ddyfodiad Duw i’r byd yn Iesu Grist, ond hefyd y syniad o ail-ddyfodiad. Mae’r ddysgeidiaeth am yr ail-ddyfodiad yn un y mae llawer ohonom yn ei chael yn anodd ei choleddu. Y theori mae’n debyg yw bod dynoliaeth yn mynd i fethu byw gyda’i gilydd mewn cymod a chariad, ac felly bod yn rhaid i Iesu Grist ddod eto i’r byd “ar gymylau’r nef” i ddidoli’r da a’r drwg, cael ‘madael â’r drwg i gosb tragwyddol tra bo’r da’n cael byw yn Nheyrnas Dduw ar y ddaear am byth.
Yn hytrach na derbyn y diweddglo ffantasïol yna, (sydd o bosib yn fwy addas i ffilm sci-fi nag i’r Testamrent Newydd) mae’n haws gen i gredu mai’r dewis a gyflwynir inni gan y dramodydd sy’n ein wynebu fel dynoliaeth. Rhaid byw – neu farw – gyda chanlyniadau ein gweithredoedd a’n gwerthoedd, a pheidio disgwyl i Iesu Grist ddod i lanhau ein llanast!