E-fwletin Gorffennaf 15fed, 2013

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Yr uchod yw enw swyddogol y mesur i ganiatáu trawsblannu organau a basiwyd yn ddiweddar gan ein Cynulliad Cenedlaethol. Gan fod rhai arweinwyr Cristnogol wedi gwrthwynebu’r mesur ar sail foesol, mi es i ati i gael golwg fanylach arno. Y peth cyntaf a’m trawodd oedd bod y rhan fwyaf o’r cymalau yn cyfeirio – yn astrus o gymhleth a manwl – at y pwysigrwydd o gael cydsyniad cyn y gellir trawsblannu unrhyw beth. Yn wir, mi fydd y ddeddf pan ddaw hi “yn ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad”. Mae’n ddigon posib felly mai un o ganlyniadau’r Ddeddf hon yw y bydd llai o drawsblannu di-gydsyniad – fel a ddigwyddodd yn achos trist rhai ysbytai plant yn y gorffennol – am fod yr amodau a’r cyfyngiadau yn fwy llym a manwl. Felly mae’r gwrthwynebiad i’r mesur ar y sail fod y llywodraeth yn dwyn y dewis oddi ar yr unigolyn yn un gwan iawn o ddarllen y manylion.

Ond  mae’r Archesgob Barry Morgan – gwr y mae gen i lawer o barch ato, ac sy’n rhoi arweiniad cadarn ar nifer o bynciau’r dydd – yn gwrthwynebu am fod y mesur rhywsut yn bygwth sancteiddrwydd y corff dynol (os deallaf yn iawn).  A dyma lle dwi’n ei golli. A dyma greda i lle mae Cristnogaeth yn gallu tramgwyddo carfan helaeth o’r cyhoedd, pryd mae’r argraff yn cael ei roi ein bod yn chwilio am ddadleuon moesol a “chrefyddol” i wrthwynebu’r hyn sy’n ymddangos i’r mwyafrif fel synnwyr cyffredin. Mae’n debyg mai’r enghraifft glasurol yw gwrthwynebu merched i fod yn esgobion, ond y mae yna lawer enghraifft arall, gwaetha’r modd.

Mae bywyd yn sanctaidd, ond pan fydd bywyd yn gadael y corff, onid ein harfer yw ei losgi, neu ei roi yn y ddaear i bydru? Llwch i’r llwch. Does bosib ein bod yn credu fod y gweddillion hyn yn sanctaidd? Mae’r peth byw yn aros, ac yn parhau mewn ffurf arall na allwn ei lawn ddeall, ond mae’r corff yn darfod. Os yw darnau o’r corff hwnnw yn fodd i roi bywyd i eraill, onid gwych o beth yw hynny? Yn wir, onid yw’n ddyletswydd i Gristion i ganiatáu hynny, ac i hwyluso hynny?

Ond wrth gwrs, mewn democratiaeth iach, mae gennym yr hawl i wrthod, ar ba sail bynnag. Ac os cawn gyfle rhwydd ac amlwg i nodi hynny wrth – er enghraifft – lenwi ffurflen flynyddol y rhestr etholwyr, yna can croeso i fesur lle mae Cymru yn rhoi arweiniad cadarn i weddill gwledydd Prydain.

(Gyda llaw, cofiwch y bydd ein llyfryn “Byw’r Cwestiynau” ar werth ym mhabell Cytûn yn ystod yr Eisteddfod. Mae hefyd ar werth yng Nghymanfa yr Eglwys Bresbyteraidd yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth o ddydd Llun tan fore Iau yr wythnos hon. Neu, gallwch glicio ar y botwm “Prynu’r Llyfr” ar ein gwefan ni : www.cristnogaeth21.org).