E-fwletin Gorffennaf 22ain, 2013

Diddorol yw cysylltiad crefydd ac adeiladau. Yng ngwres y diwygiadau mawr, fe aethom ni’r Cymry dros ben llestri a chodi capeli ym mhob man – llawer gormod a dweud y gwir. Rhaid oedd cael un i bob enwad, ac un i bob treflan a phentre’, a llawer un yng nghefn gwlad heb yr un pentre’n agos. Mi fyddai rhywun yn meddwl mai’r capeli anghysbell hyn fyddai’r cyntaf i gau pan ddaeth y trai mawr. Ond nid felly mae hi ym mhob achos. Un Sul diweddar, bûm mewn dau o’r rhain sy’n dal i fod yn frwd a bywiog – Gwaungoleugoed nid nepell o Lanelwy, a Nantybenglog wrth droed mynydd Tryfan. (Gwerth eu cadw er mwyn yr enwau’n unig!).

Ond cau yw hanes capel ar ôl capel, a hyn yn arwain at gwestiwn perthnasol o bigog gan John Roberts ar “Bwrw Golwg” yn ddiweddar i arweinydd enwad – “Ydech chi’n anghyfforddus efo sefyllfa lle ma’r coffrau’n llawn a’r capeli’n wag?”. Crefydd ased-gyfoethog ac ysbrydol-dlawd? Tristach fyth yw clywed swyddog enwadol yn mynnu bod “rhaid” i elusen werthu’r capeli gwag i’r cynnig ariannol uchaf, yn hytrach na gofalu fod yr adeiladau hyn yn cyfrannu at angen y gymdeithas leol. A thristach fyth yw gweld aelodau capel yn gwrthod pob cynnig i uno gyda chapel cyfagos a bodloni ar weld yr achos yn rhygnu i farwolaeth anochel.

Dylem fel Cristnogion fod yn ddigon dewr i wynebu bod oes y rhan fwyaf o’n hadeiladau wedi dod i ben. Maen nhw’n adeiladau anhyblyg a llawer rhy gostus i’w cynnal, heb sôn am eu gwresogi. Ac o’u gwerthu, dylem wneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael defnydd cymdeithasol, fel cartrefi fforddiadwy neu ganolfannau cymunedol neu weithdai hyfforddi. Bydd y Comisiynwyr Elusen yn gorfod gwrando ar enwadau sy’n dadlau mai dyma’r “gwerth uchaf” yn unol ȃ bwriad sylfaenol elusen Gristnogol. Does dim rhaid derbyn gair ymgynghorwyr ac arwerthwyr stadau fel efengyl.

Ond os oes digon o ruddin ar ôl yn yr aelodau i drawsnewid ein capeli (neu’r ysgoldai fynychaf) yn adeiladau amlbwrpas i wasanaethu Duw a’r gymuned, gall adnewyddu’r adeilad hefyd adnewyddu’r achos ei hun. Mae hynny’n sicr o fod yn wir am Waungoleugoed, a heddiw gwelais enghraifft arall o’r un math o ysbryd yng nghapel Gad Newydd, Bodffordd.

Ynghanol sefyllfa ddigon digalon, mae enghreifftiau fel hyn yn ysbrydoliaeth.