Presenoldeb Cymdeithas y Cymod ar Faes yr Eisteddfod
Sir Ddinbych a’r Cyffiniau
3 – 10 Awst 2013
Dewch i’n gweld yn y Babell Heddwch ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych! Cewch groeso mawr yno.
Ar wahan i arddangosfeydd, bydd cyfle i gymryd rhan yng ‘nghystadleuaeth Heddwch75’ – sef cystadleuaeth a drefnir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru i ddathlu penblwydd y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 75 blwydd oed! Yr her yw dweud beth y mae heddwch yn ei olygu i chi mewn 75 o eiriau neu 75 o eiliadau – mewn cerdd neu gân – neu ar ffurf fideo. Caiff rhai o’r cyfraniadau eu harddangos yn ystod gwyl deuluol a gynhelir yn y Deml Heddwch ar 30 Tachwedd 2013.
Am 11 y bore ar Ddydd Mawrth 6 Awst – Diwrnod Coffáu Hiroshima – cynhelir gwasanaeth arbennig ym Mhabell Cytûn ar y Maes. Caiff y gwasanaeth ei arwain gan aelodau o Gymdeithas y Cymod.
Yno, am 2 o’r gloch y prynhawn ar Ddydd Gwener 9 Awst cynhelir cyfarfod yn Y Stiwdio i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch i sefydlu Academi Heddwch Cymru. Bydd Mererid Hopwood yn cadeirio a Robin Gwyndaf yn annerch y gynulleidfa ar y thema ‘Heddwch ar Waith ac Arweiniad Cymru i’r Byd’. Dewch i glywed mwy ac i fynegi barn.
Dewch i ymuno â ni a chadw tystiolaeth heddwch yn fyw ar y Maes!