E-fwletin Gorffennaf 29ain, 2013

Rywdro rhwng plentyndod a llencyndod, mae gen i go am sgwrs fer rhwng fy mrawd a minnau lle’r oeddem yn cyd-weld bod dyfodol y Gymraeg ynghlwm wrth ddyfodol Cristnogaeth. Rhag imi roi’r argraff ein bod yn cael sgyrsiau athronyddol yn amal, efallai mai sôn am y capel a’r Gymraeg yr oeddem: os oedd y capel am oroesi, roedd yn rhaid i’r Gymraeg oroesi. Ni allai’r naill fyw heb y llall, yn ein barn ddiniwed ni.

O edrych yn ôl drwy’r blynyddoedd gyda doethineb yr heddiw sydd ohoni, mae’n sicr fod dirywiad y capeli wedi mynd law yn llaw ag enciliad yr iaith. Roedd y capeli yn cynnal y diwylliant Cymraeg i raddau helaeth iawn, ac yn fodd i roi tipyn o raen ar ein hiaith lafar a’n hiaith ysgrifenedig. Yn y capel y cawsom flas ar ganu ac adrodd ac actio, yno y cawsom ddysgu darllen sol ffa a chanu mewn harmoni, ac yno y clywsom sain Cymraeg y Beibl. Ac wrth gwrs, yno y cawsom storfa o emynau a ddaeth yn ddefnyddiol yn ddiweddarach ar bob math o achlysuron.

Roeddwn yn siarad yn ddiweddar gydag un oedd yn llais cyfarwydd ar y llwyfan canu poblogaidd, ac sydd bellach yn fam i sawl un sy’n dal i berfformio yn y maes hwnnw. Gresynu oedd hi nad oedd fawr neb o athrawon – ie, athrawon Cymraeg ei hardal hi – bellach  yn cymryd fawr o ddiddordeb mewn adloniant Cymraeg. Er mai dysgu Cymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg,  yw eu swyddogaeth feunyddiol, roedd eu hadloniant bron yn gyfangwbl Saesneg. Ac awgrymu a wnâi y dylai’r llywodraeth fynd ag adloniant Cymraeg cyfoes i ysgolion a cholegau a chlybiau ieuenctid er mwyn i’n plant gysylltu’r Gymraeg ȃ cherddoriaeth gyfoes, a hwyl a mwynhau. Cytunaf yn llwyr ȃ hi; yr unig beth sy’n mynd i annog ein plant i siarad Cymraeg yw bod yr iaith yn cael ei gweld fel rhywbeth cyfoes, ffasiynol a “chŵl”.

Mae’r un peth yn wir i raddau am ein crefydd. Ym mhle mae ein plant a’n hieuenctid yn cael cyswllt ȃ Christnogaeth? Mae’r Gymraeg yn bwnc yn yr ysgol, ac i filoedd diolch i’r drefn  yn iaith cyfrwng yr addysg. Ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn mynd i sicrhau ei goroesiad. Mae crefydd yn bwnc yn yr ysgol, ond fel pwnc academaidd yn unig, a gall hynny wneud mwy o ddrwg nag o les yn aml, gan nad oes raid i’r athrawon ddysgu o unrhyw argyhoeddiad. Rhaid i’n pobl ifanc gael eu cyflwyno i ysbryd y peth byw, ac nid dysgu am hanes a daearyddiaeth crefydd yn unig.

Yr her amlwg i ni yw gwneud ein llefydd o addoliad yn ganolfannau cymunedol bywiog a pherthnasol, lle gall ein pobl – o bob oed – gael hwyl ar ddiwylliant cyfoes a chyffrous, cael gafael ar iaith Gymraeg gref a rhywiog, a hynny oll mewn cyd-destun o Gristnogaeth anturus a heriol.

Dyma’r E-fwletin olaf am y tro – byddwn yn cael hoe fach yn ystod mis Awst – ond mae bwriad i anfon neges arall atoch yn fuan i sôn am ein cynlluniau yn yr Eisteddfod, a nodi cynlluniau i ddod at ein gilydd am sgwrs ym mis Hydref.