E-fwletin Gorffennaf 8fed, 2013

Mae’r hawl i gartref yn sicr o fod yn un o hawliau sylfaenol y ddynoliaeth. O edrych ar Ddatganiad Cyffredinol  Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, efallai y byddai rhywun yn disgwyl iddo gael mwy o amlygrwydd, ond y mae yno:

Erthygl 25: Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i’w hiechyd a’u ffyniant eu hunain a’u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol.

Diddorol sylwi bod yr angenrheidiau hyn yn cyfateb bron yn union i’r hyn a restrwyd gan yr Iesu wrth iddo sôn am farnu’r cenhedloedd “ …bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch ȃ mi…”

Dryswyd yr hawl i gartref yn ein cymdeithas ni gan gyfalafiaeth. Nid cartref yw tŷ bellach, ond buddsoddiad, gyda’r disgwyliad i godi i fyny’r ysgol o dŷ bychan i dŷ mwy wrth ymgyfoethogi. Ond y realiti i laweroedd yw methu prynu’r tŷ bychan cyntaf, neu fethu rhentu tŷ addas, a gorfod byw mewn amgylchiadau anaddas, neu ar drugaredd rhieni, ffrindiau neu Awdurdod Lleol.

Gwnaed difrod mawr gan benderfyniad llywodraeth Thatcher i werthu tai cyngor i denantiaid am bris gostyngol. Polisi poblogaidd wrth reswm, ond un oedd yn creu problem tymor hir wrth ennill poblogrwydd tymor byr. Cafwyd gwared o filoedd o dai cymdeithasol, a gwrthodwyd yr hawl i Awdurdodau Lleol i godi rhai newydd yn eu lle, ac yn raddol trosglwyddwyd y tai oedd ar ȏl i ofal Cymdeithasau Tai oedd yn haws i’w rheoli o’r canol.

Un ateb amlwg bellach yw “Tai Fforddiadwy”, sef tai cymdeithasol heb fod yn rhy fawr wedi eu cyfyngu i bobl leol, i’w prynu, eu prynu dros gyfnod, neu i’w rhentu. Cysyniad derbyniol iawn, meddech chi. Ond gwae ni! Mae yna wrthwynebiad mawr i’r syniad, a hynny gan bobol sy’n honni bod yn Gymry da ac yn Gristnogion pybyr. Pam? Am fod perchennog tir yn ofni bod pris ei dir yn gostwng, a pherchennog tŷ sylweddol yn ofni y bydd pris ei eiddo yn gostwng, a’r bobol barchus yn ofni mai caridỳms fydd yn dod i “dai fforddiadwy”, a’r gwerthwyr tai yn ofni colli pres…..

Un o siomedigaethau mawr fy mhrofiad i mewn gwasanaeth cyhoeddus yw gweld mai llinyn mesur materol a ddefnyddiwn i fesur pob dim yn y pen draw.