Wedi’r pum mlynedd

(Adroddiad gan Pryderi Llwyd Jones, yr Ysgrifennydd,  yng Nghynhadledd Cristnogaeth 21)

Mae teitl yr adroddiad yma wedi newid ychydig ers i ni feddwl am y thema rhai misoedd yn ôl bellach. Y bwriad oedd son yn benodol am y ddau bwnc oedd wedi ennyn y drafodaeth fwyaf ar Fwrdd Clebran C21 yn ystod y pum mlynedd  ers sefydlu’r wefan. Dau, er mwyn cyfyngu a rhag i ni gyflwyno catalog o bynciau. Fe fyddai hynny yn beth diflas iawn ar ddechrau’r gynhadledd. Ond mae angen gwneud mwy na nodi’r pynciau sydd wedi eu trafod.

Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain. Yn ôl ein ffigyrau ni – rhwng ei anfon i dros 300 o bobl yn wythnosol, a’i fod i’w gael ar y wefan heb fynd i’w ddarllen ar y Bwrdd Clebran ac  i’w gael hefyd ar Lle Pawb yn golwg360 , nid gormodiaith yw dweud fod pob e-fwletin yn cael dros 1000 o ymweliadau pob mis. Mae Ymweliadau yn golygu  nad ydan ni’n gwybod faint o’r mil sydd yn ei ddarllen, ond fe wyddom mai ychydig iawn sydd yn ymateb. Rŵan i gymharu â gwefannau mawr y byd mae 1000 fel 4 yn addoli yn festri fach y capel sy’n dal mwy na mil, ond mae’r e-fwletinau sy’n cael eu hanfon yn cael eu gwerthfawrogi; mae nhw yn fywiog ac yn ddifyr; ac maen nhw yn ddiwinyddiaeth ar waith. Ac yn Gymraeg. A dyma agwedd o’r gwaith sydd yn agor drysau ac mae angen ei ddatblygu a’i ehangu.

Yn adran erthyglau y wefan mae yna 28ain o erthyglau gan 14 o awduron. Ac ar wahân i’r ffaith fod ambell un efallai yn rhy faith i wefan yr ydw i yn falch o gael dweud eu bod yn erthyglau gwerthfawr a chyfoethog ac yn rhan o’n cyfrifoldeb i feddwl a chyfathrebu ein ffydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydw i am nodi’r pedair erthygl ddiweddaraf i ymddangos.

Mae erthygl  Delwyn Tibbot ,Caerdydd Rhwng Pasg a Phentecost , yn ogystal â chynnwys meddwl yr awdur ei hun ( sy’n lleygwr ),  yn trafod cyfrol Sbong ar yr Atgyfodiad. Ac fel y gwyddoch mae Sbong yn fanwl Feiblaidd yn ei waith. Go brin y dewch chi ar draws trafodaeth ar Sbong yn unman arall yn Gymraeg. ( Mae’r erthygl bellach wedi ymddangos yn Cristion ) Pwyslais mawr yr erthygl yw fod profiad Pasg a Phentecost yn anwahanadwy.

Dysgu gan y Tadau yw teitl erthygl Desmond Davies a chan ddilyn Keith Ward ( fu yma yn ein cynhadledd gyntaf ,wrth gwrs ) yn arbennig yn ei gyfrol Re-thinking Christianity sy’n rhoi pwyslais ar y broses oesol o ail-ddehongli’r ffydd, meithrin gwyleidd-dra, peryglon gwneud credoau ynddynt eu hunain yn amod iachawdwriaeth yn ogystal â dehongli’r Beibl yn llythrennol ac yn arbennig ( yn y TN) Efengyl Ioan.

Mae’r erthygl gan Phoebe , Pwy meddwch chi ydwyf fi ? yn cyfeirio yn arbennig at waith Margaret Barker ac yn trafod pwnc a chwestiwn sydd gwir angen ei drafod. Mae’r ffurfiant y canon a’r cefndir Iddewig ( ‘y deml a’i diwinyddiaeth lachar am natur y creu, y cyfamod, y cymod a doethineb’, meddai ) yn allweddol i ddeall yr Efengylau ac y mae llais Iesu’n adlewyrchu traddodiad diwinyddiaeth teml Solomon o bresenoldeb Duw. Mae’n dyfynnu Girard – ac mae’n sylw pwysig – fod yr efengylau yn ‘destun mewn gwewyr’ ond yr ydym yn dal i feddwl – yn ddiwinyddol – fel petaem yn y 15ed neu’r 16eg ganrif . Rhag ofn nad ydych yn cofio mae Phoebe yn gorffen ei herthygl gyda’r frawddeg : Chwi giwed ryddfrydol, radical, tybed na fyddai Duw gyda ni, Emanuel, yn fan cychwyn eto ?

Yna mae’r erthygl Troedigaeth arall ? gan Morris Pugh Morris, a fu’n destun trafod bywiog. ( Fe fu 2,800 o ymweliadau â’r erthygl ) Dyma’r tro cyntaf ar wefan C21 y mae rhywun yn gwneud datganiad ei fod, er o bwyslais ‘efengylaidd’,  yn ‘rhyddfrydig’ ei ysbryd ac yn gweld cartref iddo’i hun yn C21. Mae Morris yn weinidog ond mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cilio o’r eglwysi ,nid am eu bod yn anffyddwyr neu fod ganddynt gwyn fawr yn erbyn yr eglwys, ond am nad ydynt bellach yn teimlo yn gyfforddus mewn eglwys sydd yn gwrthod meddwl tu allan i’r bocs. O ddiffyg ymgydnabyddiaeth a pherson Iesu, meddai MPM,  syrthiodd y garfan efengylaidd i’r rhigol oesol o ystyried cariad Duw atynt yn nhrefn sofran yr ‘achub’ nid fel anogaeth i ostyngeiddrwydd a diolchgarwch. Mae’n credu fod gormod o begynnu’r drafodaeth grefyddol yng Nghymru gan adael yr eglwys heb lais credadwy yn y gymuned. Mae’n bwynt eithriadol o bwysig a gobeithio y bydd yn codi eto yn y gynhadledd. Mae’n son am C21 fel y lle i gynnal sgwrs yn union fel mae gwefan Progressive Christianity yn son am ‘the conversation of faith.’

Ond dyna ddigon am yr erthyglau a digon i brofi bod digon o ddeunydd ar gael ac mae’n ddiwinydda gwerthfawr. Braf iawn oedd gweld golygydd dros dro Cristion , Huw Tegid Roberts,  yn diolch ac yn cydnabod cyfraniad Cristnogaeth 21 i’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru ac mae’n cyfeirio yn arbennig at yr erthyglau.

Ond y Bwrdd Clebran – neu’r Seiat, Man Trafod, Sgwrs Ffydd – yw calon wreiddiol C21 . Mewn 5 mlynedd bu 175 o bynciau a 650 o negeseuon. Siom fawr yw  gweld rhai pynciau yn cael eu codi na fu unrhyw ymateb iddynt, ond mae hyn yn anorfod. Nid yw’n golygu nad oeddynt yn werth eu codi. Ond siom fwy, wrth gwrs, yw nad oes  parhad, ac felly dim datblygiad, yn y drafodaeth Ond dyna natur y cyfrwng. Mae’n cysgu a deffro. Mae off ac on. Mae’n ddiflanedig mae pethau’n mynd i’r archif ar ol deuddydd !!.Ond pan gofiwn fod cymaint o ymwelwyr a’r wefan yn bobl sy’n achlysurol eu defnydd o gyfrifiadur a bod yna lawer o hyd nad ydynt yn siŵr iawn sut i anfon neges, mae 650 o negeseuon yn rhywbeth i’w groesawu.  Fe hoffwn ychwanegu mai siom hefyd yw cyn lleied o faterion cymdeithasol a  gwleidyddol sydd wedi eu codi yn ystod y 5 mlynedd ac roedd hynny yn syndod. Nid yw  diwyg y wefan, wrth gwrs, yn apelio bobl ifanc sydd yn byw eu bywydau yn trydar,  blogio a.y.b. ( er bod C21 ar Trydar a Facebook )Yr unig bobl ifanc sy’n ymweld â’r wefan yw llond dwrn o’r to newydd o Gristnogion ifanc sydd efallai yn ymweld yn achlysurol o gywreinrwydd go feirniadol.

Ond fe gafodd dau bwnc sylw arbennig ac fe fyddwn yn awgrymu fod cyfraniad y wefan i’r drafodaeth ar y ddau bwnc angen cyrraedd cynulleidfa ehangach. Bu 16,410 o ymweliadau â’r Bwrdd Clebran i drafod Rhywioldeb. A bu 58 cyfraniad. Gwerth y drafodaeth oedd iddi fod yn drafodaeth oleuedig gyda chyfraniadau gan bobl o wahanol safbwyntiau; yn drafodaeth ple bu cyfraniad gan rai oedd yn hoyw eu hunain; ac mewn un os nad dau achos bu’r drafodaeth yn gyfle i  ‘fod yn agored’ am y tro cyntaf i ddweud eu bod yn hoyw. Dyna, gyda llaw,  werth mwyaf y dewis o beidio datgelu  enw.

Fe ddechreuodd y drafodaeth mewn ymateb i erthygl gan y newyddiadurwr Tryst Williams yn y Western Mail yn dweud fod y capeli a’r eglwysi yn llawn o bobl gyda rhagfarnau homoffobaidd. Atebwyd Tryst Williams yn y WM gan un Gethin Mathews yn dweud na chlywodd ef erioed bregeth homoffobaidd yn y pulpud. Daeth neges i’r Bwrdd Clebran yn dweud y gall agweddau homoffobaidd fod yn fwy amlwg mewn sgyrsiau, yn y pethau na ddywedir a’r pethau a awgrymir mewn ensyniadau, ac yn y ffordd y mae yn cael ei wneud yn glir nad oes drws agored – fe gyfeiriwyd at un achos o rhywun yn cael ei ddiarddel o’i eglwys –  i hoywon sy’n Gristnogion. Un enghraifft boenus ond angenrheidiol i gyfeirio ati ( gan nad oedd neb wedi gwneud ar y pryd oherwydd y duedd gyffredin grefyddol o fod yn neis ar draul bod yn onest a dewr )  oedd i un cyfrannwr i’r drafodaeth ddyfynnu erthygl o Seren Cymru oedd yn son fod modd iachau’r hoyw ( yn nes ymlaen yn y drafodaeth cafwyd tystiolaeth gan Jeremy Marks, dyn oedd wedi bod yn rhan o weinidogaeth iachau hoywon trwy weddi  ond a oedd yn cydnabod bellach ei fai a’i drosedd ac mae wedi cyhoeddi llyfr ‘Exchanging the truth of God for a lie’ ) a’r erthygl yn cynnwys y frawddeg   Dywedodd Iesu: “gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi”…ond bellach clywir hoywon yn  bonllefain ‘gadewch i blant bychain ddyfod atom ni.’  Gwarthus oedd sylw cyfrannwr i’r wefan. A gwarthus yn wir. ( Mae’n dda nad odd Tryst Williams wedi darllen yr erthygl !) Roedd awdur y geiriau yn weinidog ac yn athro plant. I ychwanegu at y dystiolaeth  fod yna agweddau homoffobaidd yn yr eglwysi ( cofiwch ein bod yn ol yn 2009/2010  )  fe gyfeiriwyd at sawl ffilm/drama oedd yn ymwneud a’r pwnc ac fe gafwyd ambell glip trawiadol i ddangos hynny e.e  o’r ffilm West Wing, sydd mewn ffordd ddramatig iawn yn dangos pendraw cymeryd Lefiticus 18.22 yn llythrennol. Fe welwyd rhywun yn gofyn i gyflwynydd rhaglen radio homoffobig : Few hoffwn werthu fy merch fel caethwas. Pa bris ddylwn ei ofyn ? Cyfeiriwyd hefyd at y ffilm The Bible Tells me so am Gristnogion o wahanol draddodiad crefyddol a’u plant yn dweud yn agored eu bod  yn hoywon – a hynny yn newid agwedd y rhieni gwrth-hoyw o weld person hoyw,  i weld mab neu ferch. Dyna oedd cryfder apêl Dafydd Elis Thomas ac Alex Carlisle yn Nhy’r Arglwyddi’r wythnos hon.

Mewn cyfraniadau eraill mae Cristion efengyliadd ( gyda llaw yn ansicrwydd rhwystredig  ‘labeli’ mae’n werth nodi mai Cristnogion efengylaidd sydd wedi dewis galw eu hunain yn Gristnogion Efengylaidd ers degawdau lawer bellach )  yn pwyso am i ni beidio gweld hoywon fel pobl wahanol i’r gweddill ohonom : yr ydym i gyd mewn angen o ras ac o’r efengyl. Efallai fod llawer gormod o sylw yn cael ei roi i’r mater hwn fel petae yn ganolog yn y bywyd a’r foeseg Gristnogol. Mae’r Beibl yn rhoi llawer mwy o sylw i faterion eraill fel hunanoldeb, casineb, balchder, tlodi, gormes, tlodi, trais.  Mae’r un cyfrannwr yn awgrymu nad yw gweithredoedd hoyw ddim yn wahanol i ryw tu allan i briodas a bod yn rhaid ymwneud a holl arfaeth Duw mewn byd a bywyd. Roedd y person hwnnw yn gweld y Beibl yn cyflwyno holl gyfanrwydd y bywyd Cristnogol ac mae’n rhaid parchu a gwarchod y cyfanrwydd hwnnw. Mae cyfranwr arall yn pwysleisio, ac yn ofni,  mai nid apelio at awdurdod yr Ysgrythur a wneir yn aml ond at awdurdod dehongliad arbennig o Air Duw.

Ond rhaid cydnabod fod bwlch mawr yn y drafodaeth hon  oherwydd ni chafwyd safbwynt y Cristion efengylaidd hoyw, safbwynt sydd wedi dod yn fwy amlwg y blynyddoedd olaf yma drwy rai fel Steve Chalk ( gw.gwefan Oasis ) , Rob Bell.Brian McLaren ac efengylwyr yn yr Alban y bu eu cyfraniad mor bwysig i drafodaeth Eglwys yr Alban yn ddiweddar. Nid dadl rhyfrydwyr yn erbyn efengylwyr ydyw bellach. Fe gyfrannodd person hoyw arall i’r drafodaeth drwy anfon pregeth gyfan ( yn Saesneg ) a draddodwyd gan David Sinclair o Glasgow ar  Jacob a’r ymdrechu â Duw ym Mhenuel , Ni’th ollyngaf  heb i ti fy mendithio’ ( Gen.32.26 ) . Gwelai y drafodaeth am rywioldeb fel y tyndra rhwng offeiriad a phroffwyd – y naill yn ymwneud a ffordd yr offeiriad o osod terfynau ac o neilltuo, â phurdeb a defod ac a bod yn sanctaidd. Y llall yn gwthio terfynau, yn mentro ac yn symud ym mhellach tu allan i’r mur, ac yn pwysleisio bugeilio a chasglu, a haelaethu’r babell.

Gobeithio fy mod wedi dweud digon i ddangos fod hon yn drafodaeth sylweddol . Fu dim trafodaeth fyw debyg yn y byd crefyddol Cymraeg – ambell erthygl, fel un ddiweddar gan Derwyn Morris Jones, pennod gan Vivian Jones yn ‘Helaetha dy babell’  a chomisiwn arbennig gan fy enwad fy hun ar fendithio partneriaethau sifil, â’r cyfan wedi cymeryd  5 mlynedd cyn cael trafodaeth yn y Gymanfa Gyffredinol. Mae’r enwadau Cymraeg wedi bod yn ofnus o drin y mater ac yn dewis llwybr y dweud dim. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd  o leiaf wedi mentro, beth bynnag fydd y canlyniad. Er bod llawer iawn yn ansicr eu meddyliau, mae’n rhaid cydnabod mai arwydd o anaeddfedrwydd ac ysbrydolrwydd ofnus yw’r ffaith fod yna gyndynrwydd hyd yn oed i drafod y pwnc hwn, sydd yn brysur ddod yn ymylol bellach.

Yn anffodus tros gyfnod o flwyddyn y bu’r drafodaeth hon ac nid oes neb wedi dychwelyd ati yn wyneb y datblygiadau diweddar o safbwynt y bleidlais gref o blaid priodasau hoyw. Nid yw’r drafodaeth ar y wefan wedi dyddio ac fe lanwodd fwlch mawr ar y pryd,  ond mae yn hen.

Bu 11,236 o ymweliadau pan drafodwyd y pwnc Cymru Gyfan a 42 o gyfraniadau. ‘Ymofynnydd’ wnaeth ymateb i wefan Cymru Gyfan ac yn arbennig i ddatganiad y wefan o Beth yr ydym yn ei gredu ? Yn y datganiad o gred mae’r frawddeg yma : Bydd yr Arglwydd Iesu yn dychwelyd yn bersonol er mwyn barnu pawb a gweinyddu condemniad gyfiawn Duw ar y rheiny sydd heb edifarhau ac i dderbyn y rhai a brynwyd i ogoniant tragwyddol’ . Ac eto :  caiff bodau dynol pechadurus eu prynu oddi wrth euogrwydd, cosb a grym pechod, trwy farw aberthol eu cynrychiolydd a’u heilydd ( substitute ) Iesu Grist. Gwahanol fudiadau efengylaidd yw Cymru Gyfan, sydd yn cynnwys nifer o bobl  sy’n weithgar o fewn eu heglwys a’u henwad. Nôd  Cymru Gyfan  yw  creu ‘rhwydwaith i blannu a chryfhau eglwysi efengylaidd’. Mae nifer fawr iawn o bobl ifanc erbyn hyn – trwy ddylanwad digwyddiadau fel Dawn a Souled Out yn y Bala – yn dod dan ddylanwad diwinyddiaeth o’r fath. Dyma’r ddiwinyddiaeth sydd fwyaf ar waith yng Nghymru heddiw, ac yn nhermau oedran a niferoedd, y fwyaf ‘llwyddiannus’. Yn y cyfraniad hwn i’r wefan roedd potential  i’r gwrthdaro traddodiadol rhwng efengylwyr a rhyddfrydwyr ddatblygu yn wrthdaro digyfaddawd arall yn arbennig pan welwyd y cyfraniad hwn i’r Bwrdd Clebran :  Cymru gyfan yn adfywio’r eglwysi ? Na, rhwystr wyt i mi . Doedd yr ymateb ddim yn annisgwyl : mae’r dirywiad yn  yr eglwysi oherwydd  tanchwa rhyddfrydol yr 20fed ganrif a ddiraddiodd Iesu i fod yn ddim byd mwy nag eco-filwr, yfwr coffi masnach deg ac aelod ffyddlon o CND. ‘ Ymateb, gyda llaw,  sy’n profi fod yna anwybodaeth a diffyg crebwyll o natur rhyddfrydiaeth yn ogystal â’r anwybodaeth ymysg rhyddfrydwyr am amrywiaeth y safbwynt efengyliadd erbyn hyn. Nid yw son am ‘efengyls’ yn ddigon da chwaith ac nid yw’n deilwng o drafodaeth ddiwinyddol. Fe ddaeth yn amlwg iawn fod lle i C21 geisio dod a thrafodaeth aeddfed a goleuedig i ddiwinyddiaeth Cymru. Mae ‘sgwrs ffydd’ yn golygu cydnabod dilysrwydd pob traddodiad a bod y dystiolaeth a’r traddodiad rhyddfrydol yn cymaint rhan o Gristnogaeth Feiblaidd  ag yw’r  dystiolaeth Brotestannaidd efengylaidd.

Fe aeth y drafodaeth hon ar y Bwrdd Clebran i’r cyfeiriad gobeithiol hwnnw. Cyfrannodd nifer ac yn arbennig Dyfrig Rees a Rhys Llwyd. Awgrymodd Dyfrig bod rhywbeth mwy na ‘dirywiad’ wedi digwydd oherwydd fod cwestiynau allweddol yn codi ynglŷn â phwysigrwydd adeilad ac aelodaeth eglwysig ac addolwyr.  Nid ‘llwyddo’ a wna’r Ysbryd o anghenraid, ond ( i ddefnyddio geiriau’r Beibl ) tynnu i lawr hefyd. Ond, meddai Rhys Llwyd, mae’n rhaid i’r cyfnod newydd hwn o blannu eglwysi ddigwydd gyda sêl bendith yr enwadau .Mae angen, er enghraifft, meddai, profiad y Bedyddwyr a’r arbenigrwydd sydd gan Cymru Gyfan mewn plannu eglwysi. I ddyfynnu Rhys – ‘contectualizio cenhadaeth heddiw’. Catalydd ac nid gwrthbwynt i’r enwadau yw/fydd Cymru Gyfan, meddai. Fe symudodd y drafodaeth ymlaen wedyn i drafod  pwnc penodol diwinyddol, sef Cristoleg, oherwydd fod Dyfrig wedi dyfynnu emyn gan Miall Edwards a oedd, ymysg llawer o bethau eraill, wedi dweud mai ‘Poenau tyfiant yw poenau amheuaeth o’r iawn ryw’. Bu trafod wedyn ar agwedd y rhyddfrydwr tuag at Iesu. Miall a ddywedodd Rhaid wrth bensaer celfydd  i gyfrif am y cyfanfyd trefnus hwn a Iesu Grist yw’r allwedd i ddeall y Duw hwn –  ef yw’r dehonglwr mawr. Yr ymateb i hynny oedd – os mai enghraifft yn hytrach nag ateb oedd Iesu yna prif sylwedd Cristnogaeth Miall oedd moeseg nid datguddiad. Bu’n drafodaeth gwrtais ac yr oedd datblygiad a gwrando yn y trafod. Gan fod  Rhys Llwyd yn ysgrifennu fel esiampl o’r ‘efengylyddiaeth  radical’ sydd bellach i’w gweld yng Nghymru siomedig ( er nad yw’n amlwg ) oedd ei weld yn arddel yr hen ystrydeb fod â wnelo  gweinidogaeth ryddfrydol â gwneud pethau da er mwyn etifeddu teyrnas Dduw’ . Datganiad arall sydd yn profi’r angen am ddeialog er mwyn gwrando a deall.

Fe fu’n drafodaeth dda ac yn dangos fod y wefan yn gallu cynnal trafodaeth werthfawr, mewn ffordd na all neb arall. Y siom yw mai Rhys Llwyd yw’r unig un sydd wedi gweld unrhyw werth mewn trafodaeth o’r fath er ei fod yntau yn dawel iawn bellach. Fe ddaeth cyfraniadau eraill yn dilyn erthygl Morris Pugh Morris ac yn arbennig gan Geraint Lloyd. Fe fydd rhai ohonoch yn gwybod fy mod i ( fel golygydd y Goleuad ) wedi methu cael llais efengylaidd i gynnal trafodaeth gyda  llais rhyddfrydol. ‘Dim yn gweld gwerth yn hynny’ oedd yr ymateb.

Roeddwn yn son am ddydd y pethau bychain ar y dechrau. Ga i grynhoi y sylwadau yma  : Ddiwinydda ar waith yng Nghymru.

1.      Ni fyddai y mwyafrif llethol hyd yn oed yn gwybod am C21 heb son am wybod ei bod ar waith. Nid yw hyd yn oed y rhai sy’n pregethu’n gyson ac yn arwain addoli yn ymwybodol o fodolaeth y wefan nac o’r ychydig grwpiau sydd yn cyfarfod yn enw C21. Mewn gwirionedd ychydig o gyhoeddusrwydd yr ydym wedi ei roi i C21, ac i raddau y mae hyn wedi bod yn fwriadol. Mae gen i amheuaeth, er enghraifft, faint o’r rhai sydd yn dysgu diwinyddiaeth/astudiaethau crefyddol yn ein colegau sydd yn gwybod dim am C21. Ar wahân i feirniadaeth gan un , mae eu cyfraniad i’r wefan a’u diddordeb  wedi bod yn gwbl absennol. Tydw i ddim ond yn nodi’r ffaith.  

2.      Ond tystiolaeth, nid ymgyrch, mudiad na bygythiad yw C21. Diwinydda ar y cyrion ydyw. Gan fod llawer ohonom yn bobl wedi ymddeol, yr ydym yn llythrennol ar y cyrion. Ond y mae’n dystiolaeth bwysig ac angenrheidiol  rhag i unrhyw ddehongliad o’r ffydd feddiannu’r dystiolaeth yn llwyr  yng Nghymru Mae’n dystiolaeth i’r Duw sydd ar waith. Ac mae’n gyfrifoldeb arnom i wneud yn siwr nad yw radicaliaeth rymus yr Efengyl a Iesu ei hun  yn cael ei foddi gan y llif o ddiwinydda ceidwadol amrywiol nad yw’n barod i dderbyn  dehongliadau gwahanol o’r ffydd. Ernest Kasemann soniodd rhywdro am y rhai sydd yn gwneud yr efengyl ( a dyma i chi gymhariaeth hen ffasiwn )  yn ‘diwn gron fel record sydd wedi sticio’. Neu, yn well, y bardd o’r Alban, George Mackay Brown,  a ddywedodd the word became flesh, only to be turned to words again…..

 

 

3.      Mae edrych yn fanwl drwy’r wefan yn ei wneud yn  gwbwl amlwg mai darnau diwinyddol sydd yma ac nid unrhyw gorff o ddiwinyddiaeth rhyddfrydol – sydd yn rhy eang i’w ddisgrifo heb son am ei ddiffinio. Mae e-fwletinau mis Mai wedi tanlinellu hynny. Rwyf wedi bod yn pori eto yng nghyfrol Duncan Forrester ( Caeredin ) Theological Fragments ( adlais o Kierkegaard a’i Philosophical Fragments ) ac yn sylweddoli mai dyna sydd yn y Beibl a dyna sydd yn y Testament Newydd ( pwy ddisgrifiodd Marc fel cadwyn o berlau ar linyn stori ? )  Bywyd o ddarnau yw bywyd i’r mwyafrif o bobl yng Nghymru erbyn hyn – darnau o ddiwylliant, darnau o hanes, darnau o gred, darnau o brofiadau ail law a symudol y cyfryngau. Yn ei gyfrol y mae Gethin Abraham yn dweud Spirituality is essentially untidy ac y mae gwirionedd yn hynny, ond y mae ysbrydolrwydd hefyd fel dŵr yn llifo drwy bob rhan ac agwedd o’n bywyd ac yn dwyn y darnau ynghyd. Fe wyddom , yn y pendraw, nad yw darnau a briwsion yn ddigon, ond felly mae hi. Dyna pam ein bod yn ymwybodol iawn nad ydym eto wedi megis dechrau i gyrraedd y bobl yr ydym yn fwyaf awyddus i’w cyrraedd – sef y bobl ar y cyrion a ‘r bobl sydd wedi eu dieithrio bron yn llwyr o’r ffydd Gristnogol. Ein cenhadaeth yw galluogi pobl ‘ddigrefydd’ ond nid ‘ddi-ysbrydoledd ‘Cymru i wybod mai gwahoddiad i gyffro ac antur pererindod yw ein ffydd, fel y tadau pererin gynt, gan gredu fod gan Duw lawer fwy o wirioneddau i’w datguddio i ni eto.