Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin Ionawr 13eg, 2014

Cyrddau Gweddi Dechrau’r Flwyddyn

Pa mor gyffredin yw cyrddau gweddi dechrau’r flwyddyn bellach? Faint o weddïwyr ‘o’r frest’ sydd ar gael yn ein capeli? Faint o ‘brofiadau pen y mynydd’ a glywyd yng Nghymru ynghanol y stormydd a’r llifogydd diweddar? Faint o brofiadau gorfoleddus o’r fath sy’n   bosibl wrth ddilyn gweddïau ffurfiol unrhyw Lyfr Gwasanaeth? Ydym ni bellach yn credu mewn gwerth gweddi?

Mae hi hefyd yn gyfnod Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. Yn bersonol, mae’n well gen i sôn am undod Cristnogol.  Eglwysi Canada Ffrengig a ddewisodd y thema eleni, sef cwestiwn pryfoclyd Paul   “A aeth Crist yn gyfran plaid”? [1 Cor 1:13]. Canada, sy’n wlad lle mae amrywiaeth ieithoedd a diwylliant; amrywiaeth o hinsawdd a dulliau o fynegi’r ffydd Gristnogol. Mae’r Canadiaid, tra’ n cydnabod fod eu cymunedau eglwysig yn parhau i oddef “rhaniadau tramgwyddus”, yn ymhyfrydu yn eu hanes cryf o gydweithio ac o gefnogi ei gilydd; o rannu gweinidogaethau ac hyd oed uno sawl eglwys.

On’d yw hi’n rhyfedd sut mae rhwygiadau wedi nodweddu hanes datblygiad yr eglwys o’r dechrau – Iddew a Chenedlddyn, Groegwr a Hebrëwr, Jerwsalem a Rhufain, Pabydd a Phrotestant, yr Eglwys Wladol ac Ymneilltuaeth, y llythrennolwr a’r radical …

Nid dadl am unffurfiaeth sydd yma ond am undod; y gallu, er ein gwahaniaethau, er y gwahanol bwyslais, er y gwahanol ddehongliadau, i siarad ag un llais. Gymaint cryfach fyddai ein tystiolaeth pe medrem ni siarad ag un llais ar faterion sy’n ymwneud â thlodi, â chyfiawnder cymdeithasol, â rhyfel a heddwch, â mewnfudo, ag alcohol a chyffuriau eraill, ag ordeinio gwragedd [onid Chlöe a dynodd sylw Paul at y gynnen oedd ymhlith dynion?], gofal am blant ac oedolion bregus … mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd.

Nid ar faterion ym mhen draw’r byd, chwaith, yn unig y mae gofyn am lais unedig yr eglwys. Yn nes adre, beth allai’r eglwys ei ofyn mewn prifddinas lle mae cynllun ar droed i adeiladau degau o filoedd yn fwy o dai ar y cyrrion? Pa ddarpariaeth at addysg Gymraeg ac addoli sydd yn rhan o’r chwyddiant hwnnw yn y boblogaeth? Sut gall eglwysi gryfhau braich y Comisiynydd Iaith i sicrhau hawl statudol i gofrestri priodasau ac angladdau yn Gymraeg?

Yn sail i’r cyfan, yr ystyriaethau ysbrydol a chynllun Duw i’r ddynoliaeth – Cymru, Canada, y cosmos.

“Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.” [Galatiaid 3:28]

Wrth i ni weddïo am undod Cristnogol, mae Duw yn ein hatgoffa na ellir gwahanu undod oddi wrth oblygiadau Cristnogol eraill. Mae undod a chenhadaeth yn cerdded law yn llaw. Sut arall y gall ‘yr etholedig rai’ genhadu’n effeithiol?                                                                                                                                                                                                                                                                Am ‘bobol etholedig Duw’: “Galwad i wasanaeth i eraill yw etholedigaeth. Nid unrhyw haeddiant yn Israel a barodd ei dewis.  Gwaredir hi, a daw yn gyfrwng gwaredigaeth i eraill, nid oherwydd unrhyw rinwedd a berthyn iddi hi, ond yn unig o achos cariad Duw. Mae Duw yn gwaredu lle nad oes haeddiant.”  ‘Trosom Ni’ (Isaac Thomas) t. 31

Gyda llaw, Os byddwch o fewn cyrraedd i Aberystwyth nos Iau nesaf, Ionawr 16eg am 7.30p.m. mae croeso i chi ddod i’r Morlan ar gyfer trafodaeth rhwng Y Parchedig Enid Morgan a’r Athro Densil Morgan, dan gadeiryddiaeth John Roberts ( Radio Cymru).  Mae’r drafodaeth yn rhan o noson lansio y Ddarlith Davies (“Ffiniau ac  arfodir ffydd” ) a draddodwyd gan Pryderi Llwyd Jones  ac a gyhoeddir gan Y Lolfa.

 

E-fwletin Ionawr 6, 2014

Croeso i fwletin cyntaf Cristnogaeth21 2014. 

A hithau’n droad blwyddyn, mae’n debyg y byddwn ni gyd, i ryw raddau, wedi treulio ychydig amser dros y dyddiau diwethaf yn edrych yn Ôl ar 2013 a’i phwyso a’i mesur.  Efallai y byddwn wedi bod yn ddigon dewr i edrych ymlaen at 2014 a cheisio darogan sut flwyddyn  bydd hi i ni.  Eleni, rwy wedi hepgor yr addunedau bondigrybwyll.  Y llynedd, fe wnes i adduned i ail-ddechrau ymarfer corff o ddifri, wedi chwarter canrif o esgeulustod difrifol.  Cymerodd hi tan fis Medi i mi fentro i’r gym, ond rwy wedi llwyddo i fod yn eitha ffyddlon i’r sefydliad ers hynny. 

Os buodd wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, rwy’n teimlo fod yr un peth yn wir erbyn hyn am ddyfodol ein heglwysi.  Ry’n ni o fewn trwch blewyn i ddweud ta-ta wrth yr etifeddiaeth gyfoethog fu’n sail i’n gwleidyddiaeth, ein cenedligrwydd a’n diwylliant. Wrth gwrs, nid yng Nghymru yn unig y mae hynny’n wir, ac rwy’n synhwyro ymhlith ffrindiau Catholig eu bod nhw’n teimlo’r un brys i ddatrys eu anawsterau nhw fel Eglwys sydd wedi profi degawd difrifol o gythryblus.  Ffodus iawn felly iddyn nhw eu bod nhw wedi newid eu Pab yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.    

Rhyfeddod o beth yw dylanwad cyflym iawn y Pab newydd.  O blith y byw mae tipyn o gonsensws mai ef oedd Dyn y Flwyddyn yn 2013 (gan gynnwys cylchgrawn TIME).  Pwy fyddai wedi disgwyl proffil mor fawr i’r Pab Ffransis AKA Jorge Mario Bergoglio, 77 oed?  Wedi blynyddoedd trafferthus iawn i’r Eglwys Gatholig, hoffwn awgrymu mai i’r fan honno y dylwn fod yn edrych am ysbrydoliaeth ar hyn o bryd.   Mae’r eglwys bob amser wedi llwyddo i greu unigolion sy’n sefyll uwchben enwadaeth neu draddodiad ac sydd wedi apelio’n fawr i’r teulu Cristnogol ehangach, e.e. Hans Kung a Richard Rohr.  Yr hyn sy’n gwneud y Pab yn eithriadol yw ei fod wedi cyrraedd y top a’i fod yn ysgwyd y sefydliad a’i dyrchafodd. 

Mae ei onestrwydd a’i safiadau yn erbyn ffwndamentaliaeth a thros gyfiawnder, tegwch, goddefgarwch a chydraddoldeb yn ysgubol a phellgyrhaeddol.  Yn nifer fawr o’i ddatganiadau cyhoeddus, rwy’n gweld DNA Iesu Grist yn eu canol. Fodd bynnag ar ddechrau 2014, mae e’n dechrau cael gwrthwynebiad cynyddol i’w safbwyntiau, a rheiny yn dod o fewn yr eglwys.   

Mewn ymateb i her Nadolig y Pab i Gristnogion cefnog roi yn fwy hael, mae Kenneth Langone, Pabydd cefnog (gwerth dros $2biliwn) sy’n ddyn busnes blaenllaw yn America, wedi ei herio gan awgrymu y bydd cyfoethogion Catholig America yn llai hael at y tlawd os gwnaiff y Pab barhau gyda’i fyrdwn dros y tlawd!  Mae e hefyd yn awgrymu y bydd cyfoethogion pabyddol yn cyfyngu ar eu rhoddion i’r eglwys os bydd iddo barhau ar y trywydd hwn.  Mae unigolion ar deledu Fox yn America wedi bod yn honni mai Marcsydd yw’r Pab newydd, sy’n benderfynol o danseilio cyfalafiaeth y Gorllewin.  Erbyn hyn, mae sawl sylwebydd yn America – Protestanaidd a Chatholig- yn galw ar y Pab i ddal ei dafod ar faterion fel hyn “am nad yw’n Americanwr nac yn economegydd”. 

Mae’r dystiolaeth Feiblaidd yn awgrymu fod galwadau’r Pab yn eistedd yn gyffyrddus iawn gyda geiriau Iesu Grist.  Felly os oes gwrthwynebiad o fewn yr eglwys Gristnogol ehangach i’r Pab, a fyddai’n deg disgwyl y byddai gwrthwynebiad tebyg i Iesu Grist ei hun?   Rwy’n tybio y byddai Ef yn wynebu’r un cyhuddiadau –  am nad yw’n Americanwr nac yn economegydd, nac yn wyddonydd, nac yn ŵr prifysgol.  Rwy jyst yn gobeithio na fydden ni yn ei wrthod am nad yw’n Gymro……… wir, dyw E ddim.  

E-fwletin Rhagfyr 16, 2013

Cyfarchion Nadolig gan Gadeirydd Cristnogaeth 21.

Ddiwedd Tachwedd bu farw Hywel Davies, o Betws, Rhydaman, y cyntaf o   ffyddloniaid Cristnogaeth 21 i farw hyd y gwn i.  Ni welais i Hywel nes cwrdd ag ef yng nghyfarfodydd Cristnogaeth 21.  Nid yw fy nghyswllt i ag ef yn mynd yn ôl ymhell felly, ac ni fuom gymaint â hynny yng nghwmni’n gilydd.  Eto, yn ei gynhebrwng, teimlwn fel pe bawn i wedi colli perthynas cig a gwaed.  Gellid esbonio hynny mewn termau naturiol, oherwydd yr oedd yn berson hawddgar, gwybodus, egwyddorol.  Ond ein cyswllt drwy C21 oedd craidd ein perthynas, a theimlais yn ddiolchgar fod y cyswllt hwnnw wedi creu neu ddatguddio rhyw berthynas mor ystyrlon rhyngom, math ar berthynas na all eglwysi lleol ar hyn o bryd ei chynnal.

Yr un fath yn yr encil yn Nhrefeca dro’n ôl.  Sawl gwaith edrychais o gwmpas yno a gofyn – beth sydd wedi casglu cwmni mor amrywiol at ei gilydd, cwmni hyd y gwelwn i yr oedd pawb yno wedi cyfrannu, a gwrando ar gyfraniad eraill, a phob un wedi mwynhau’n ddwfn iawn, iawn.  Efallai y byddai gan bob un a oedd yno ateb gwahanol, ond i mi, nifer o eneidiau awchus i ddeall mwy am y traddodiad crefyddol yr oeddent yn byw eu bywyd drwyddo oedd yno, nifer o bersonau wedi ymgasglu i ddysgu a deall oddi wrth eraill mwy nag a wyddent eisoes.  (Efallai y dylem drefnu mwy o encilion yma a thraw.)

Mewn byd â chymaint ynddo sy’n arwynebol a garw ac anghyfiawn a hyd yn oed yn dreisgar, rhaid peidio dibrisio gwerth hanfodol cymdeithas ymchwilgar, oddefgar, cymdeithas war fel C21.  Adeg yw’r Nadolig i lawenhau a diolch am

faban a ddaeth i mewn i’n byd a rhoi egni mawr creadigol a dyrchafol ar waith drwy’r oesoedd a thros dir a môr.  Mae diolchgarwch bob amser yn cael ei gyfoethogi drwy fod yn benodol, a rhan o’m diolchgarwch i y Nadolig hwn fydd diolchgarwch am gymdeithas Cristnogaeth 21 yn y Gymru sydd ohoni.  Mae’r edafedd sy’n cysylltu’r baban Iesu â’r gymdeithas honno’n un hir ac yn un denau, ond ‘rwy’n ffyddiog ei bod hi’n un euraid.

Oddi wrth swyddogion a gweithwyr C21 felly, Nadolig Llawen a gobeithiol i gyfranwyr a ffyddloniaid C21, a diolch i chi un ac oll am eich cwmni ar y daith.

Vivian Jones, Cadeirydd

Fe fydd yr e-fwletin nesaf ddechrau Ionawr.

Os ydych yn defnyddio’r gyfrol Byw’r Cwestiynau ar gyfer grwpiau trafod yn eich eglwys chi, a rowch chi wybod i ni os gwelwch yn dda? Anfonwch air at gwefeistr@cristnogaeth21.org

Diolch yn fawr.

E-fwletin Rhagfyr 9fed, 2013

Bu farw Nelson Mandela  Nos Iau, 5 Rhagfyr 2013. Dros y tridiau diwethaf, llifodd teyrngedau yn datgan diolch a gwerthfawrogiad am fywyd a gwaith y gŵr arbennig hwn. Bydd nifer ohonom yn cofio am y frwydr yn erbyn cyfundrefn ddieflig apartheid; cofio sawl gwylnos yn pledio am ryddhau Nelson Mandela o’r carchar; cofio cefnogi sancsiynau masnach yn erbyn De Affrica;  a chofio’r rhan flaenllaw bu i fudiadau megis Cymorth Cristnogol ei chwarae yn y frwydr dros degwch. Llwyddodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ddweud llawer mewn ychydig pan ddywedodd yn ei deyrnged fore Gwener: “Byddai gan bobl ddu De Affrica, oedd wedi dioddef creulondeb y system apartheid, achos i ddial ar eu gorthrymwyr. Diolch i esiampl anhygoel Mandela llwyddwyd i osgoi rhyfel cartref gwaedlyd.”  Heddiw, sylweddola’r byd ei ddyled i Nelson Mandela; nid oes llawer mwy i’w ddweud. Enillodd Madiba, yn gwbl haeddiannol, ei le yn llyfr hanes ein planed.

Ar ysgwyddau Huw Edwards y syrthiodd y dasg o gyhoeddi’r newyddion am farwolaeth Nelson Mandela; gwnaeth yntau hynny mewn modd urddasol a phroffesiynol, na ellid ei gwell, er iddo fod yn amlwg dan deimlad mawr. Y noson ddilynol, ‘roedd y cyflwynydd newyddion yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ar bwnc sydd yn agos iawn i’w galon, sef etifeddiaeth capeli Cymru. Fe’m gwefreiddiwyd wrth ddarllen ei lyfr ar Gapeli Llanelli beth amser yn ôl, gwn am ei ymdrech ddiflino i achub Capel Jewin yn Llundain ac er nad oeddwn yn y ddarlith, mae’n amlwg o’r ffrwd drydar Nos Wener iddi fod yn ddarlith ysgolheigaidd, hanesyddol a heriol.

Fore Sadwrn, “BBC presenter Huw Edwards’s call to champion Welsh chapels” oedd y pennawd ar wefan newyddion y BBC. Rhaid i mi gyfaddef i mi ochneidio! Onid dyma’r peth diwethaf sydd ei angen ar Gymru ac arnom fel Cymry? Onid capelyddiaeth a chanolbwyntio ar ein hetifeddiaeth bensaernïol  sydd, o leiaf yn rhannol, gyfrifol am ddifrifoldeb ein sefyllfa ysbrydol yng Nghymru ar ddiwedd 2013? “Noson wych yn narlith @huwbbc Dwi isio neud mwy i safio ein capeli! #ChampioningtheChapels” meddai un trydar. Drydarwyr, haneswyr, penseiri a chyfeillion hoff – mae’r ateb yn hawdd! Ewch i oedfa ar y Sul? Beth am ail ddechrau mynychu Ysgol Sul? Beth am ymgasglu yn lleol i weddïo?  Beth am gydio yn yr awenau? Beth am ganu emyn, a darllen a thrafod Gair Duw? Beth am ail-ystyried blaenoriaethau bywyd? Beth am gydnabod Iesu yn Arglwydd bywyd? O na fyddem yn sylweddoli pe byddem ond yn darganfod yr Efengyl yng Nghymru byddai “safio ein capeli” yn waith hawdd iawn, iawn.

Achub ein capeli? Byddwn i yn gwbl, gwbl hapus i weld dymchwel a dileu pob capel yng Nghymru – pob un ohonynt – pe byddai hynny’n fodd i sicrhau bod Efengyl Crist yn cael lle canolog ym mywyd ein cenedl.    

E-fwletin Rhagfyr 2il, 2013

Sut wyt ti’n medru bod yn wyddonydd ac yn Gristion?”  – cwestiwn mae nifer cynyddol ohonom sy’n wyddonwyr ac sy’n arddel y ffydd Gristnogol, ac yn wir sawl ffydd arall, yn ei wynebu’n gynyddol. Yn ddiddorol iawn nid, gan amlaf, gan wyddonwyr eraill di-ffydd ond yn hytrach gan gredinwyr neu’r rheini sydd efallai yn chwilio am resymau i beidio gorfod penderfynu a ydynt yn credu neu peidio! Stori’r Creu sydd, gan amlaf, yn achosi’r broblem – “sut fedrith honno fod yn wir” yw’r gri ar un llaw ac “nid o fwnci y daeth dyn” a glywir ar y llaw arall. Fel gwyddonydd sy’n arddel Iesu yn Arglwydd ’rwy’n deall sail y ddau haeriad!Byddai’n anodd iawn i mi gredu’n llythrennol yn yr hyn a geir ym Mhennod 1 o Lyfr Genesis. Hynny am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae’r dystiolaeth wyddonol fod esblygiad yn broses sy’n digwydd mor gryf ac amlwg fel ei bod yn anodd iawn dadlau mai anwir yw ac nad yw wedi bod yn weithredol dros y milenia. Wedyn, ai hanes Genesis Pennod 1 neu Pennod 2 sy’n gywir? Maent yn wahanol iawn! Hefyd, mae Stori’r Creu fel y’i ceir yn Llyfr Genesis a’r hyn a geir yn yr Enuma Elish, hanes creu’r byd o draddodiad amldduwiaeth Babilon, yn hynod debyg – nid yn unig o ran cynnwys ond o ran yr union eiriau a ddefnyddir. Gellid gofyn a fu Moses yn euog o lên-ladrad! Ar ben hyn i gyd, mae’r cysyniad o ddyn yn esblygu o fwnci yn dangos methiant llwyr i ddeall yr hyn a ysgrifennodd Charles Darwin; fedra i ddim llai na gofyn faint o Gristnogion sy’n pedlera’r fath osodiadau sydd erioed wedi darllen Origin of the Species a The Descent of Man. Yr hyn wnaeth Darwin ei gynnig oedd bod dyn a’r epaod wedi disgyn o’r un hynafiaid – sy’n rhywbeth cwbl wahanol! Ydy hi’n bosibl credu’r hyn y bu i Darwin ac Alfred Russel Wallace, a llu o arloeswyr gwyddonol eraill ei gynnig ynghyd â bod yn Gristion – ydy wrth gwrs! Ni wnaeth Darwin erioed geisio egluro pam yr ydym yma; ddim mwy nag yw Genesis yn ceisio egluro sut, yr union fecanwaith, y daethom i fod.

Pam sôn am hyn? Wel am i mi ymlawenhau wrth ddarllen trydar dwy eglwys (Annibynnol fel mae’n digwydd) o Gaerdydd yn ystod yr wythnos. Eglwys Ebeneser yn cyfeirio at sesiwn drafodaeth am wyddoniaeth a ffydd (byddai wedi bod yn dda bod yno!), ac Eglwys Minny Street yn trydar cyfres o negeseuon yn sôn am anghenraid rhoi sylw i ddatblygiadau a damcaniaethau gwyddonol yn ein ffydd. Nid yw bod â’n pen yn y tywod, fel yr estrys bondigrybwyll o werth i neb!  “Dylai ein ffydd gynnwys ffrwyth ymchwil gwyddonol gan sylweddoli a datgan nad ymchwil gwyddonol ynddo’i hun yw’r ateb terfynol i bob peth.” meddai un o negeseuon @MinnyStreet. Gan gofio mai trwy esblygiad mae rhywogaethau wedi goroesi ar draws y miloedd o flynyddoedd, ac mai difodiant sydd wedi wynebu’r rhai hynny nad sydd wedi newid, Amen ac Amen, meddaf innau!

E-fwletin Tachwedd 25ain, 2013

Adfent.

Mae’n dymor yr Adfent, tymor y disgwyl a’r paratoi.  Byddwn, mi fyddwn fel Cristnogion yn dathlu eto eleni ond beth mewn gwirionedd yw ein disgwyliadau ni? A beth sydd o’n blaenau ni?  Ymddengys mai sŵn  marwolaeth sydd ym mrig y morwydd – marwolaeth y cread,  marw iaith, marw cenedl, marwolaeth Cristnogaeth a marwolaeth yr unigolyn  yn arbennig i rai ohonom  sydd ar amser benthyg!

Beth sydd o flaen yr hen enwadau ymneilltuol, anghydffurfiol, yr enwadau ymylol ansefydliadol a fu mor ganolog ym mywyd y genedl?

Beth am yr Eglwys Babyddol, yr Eglwys Uniongred  a’r Eglwys Anglicanaidd hithau, eglwysi hanesyddol a sefydliadol eu natur? 

A beth am y Crynwyr , Byddin yr Iachawdwriaeth, a’r Undodwyr sydd yn lleiafrifoedd llafar a gweithgar yn y gymdeithas?  Bellach fodd bynnag yr ydym oll gyda’n gilydd yn lleiafrif yn y gymdeithas gyfoes ac yn dioddef oddi wrth fygythiadau y secwlariaeth ymosodol (yn hytrach na’r  secwlariaeth weithredol sydd am gynnwys crefydd yn hytrach na’i chau allan). Clywir hefyd am Gristnogaeth yn cilio o’r Dwyrain Canol yn wyneb erledigaeth, er bod rhai gwroniaid yn dal eu tir yng nghanol yr holl drais a thywallt gwaed. Eto, gwelir Cristnogaeth yn ei gwahanol ffurfiau  ar gynnydd yn Tseina ac yn yr Affrig.

Ar y darn hwn o’r ddaear a dynghedwyd ni i fod yn lleiafrif bellach? Er i ni nesáu at ein gilydd, y mae’r  amrywiaeth pwyslais yn ein plith yn mynd yn wytnach. Newid y gyfundrefn (yn enwadol neu yn ecwmenaidd) yw ateb rhai.  Cred yw’r ateb medd eraill (Diwinyddiaeth) ac union gredu yn arbennig (Dogmatiaeth),  Ffydd yn nhermau profiad ac ymddiriedaeth (Ysbrydoledd) yw’r ateb i rai sydd ar y dde ac ar y chwith diwinyddol.  Ond beth yw rhan yr eglwys yn hyn oll?  A ydyw yn amherthnasol bellach? 

Ai ecwmeniaeth yw`r ateb? Mewn Sasiwn yn ddiweddar, cafwyd cymeradwyaeth fyddarol i’r datganiad mai ar lawr gwlad y dylai ecwmeniaeth ddechrau. Wrth gwrs y mae’n rhaid iddo ddechrau yno, ond mi fydda i’n synhwyro ei fod yn ffordd o osgoi uno oddi uchod. Hyd y gwelaf, rhaid iddo weithio o’r gwaelod ac o’r grib. Ar y llaw arall y mae’r gymeradwyaeth y soniais amdani yn adlewyrchu rhwystredigaeth efo cynlluniau uno sydd yn gywrain, yn gymhleth ac yn glogyrnaidd. Ond yn rhy aml defnyddir hynny i guddio rhagfarn a mympwy diwinyddol.

Eto mae’r Babyddes a’r newyddiadureg, Cristina Odone, yn rhagweld Gwanwyn Cristnogaeth mewn termau mwy traddodiadol, yn nhermau’r Pab newydd gyda grym ei bersonoliaeth ostyngedig ac Archesgob newydd Caergaint gyda’i barodrwydd i feirniadu’r sefydliadau ariannol a gwleidyddol. Mae ei phwyslais yn ein hatgoffa, beth bynnag yw’r gyfundrefn, neu a fydd, beth bynnag yw natur ein cred a natur ein ffydd, y mae’r pwyslais ar y person ac ar y gymdeithas yn allweddol.  Y mae angen Iesu ac angen ein gilydd arnom.

 Nadolig Llawen i holl garedigion Cristnogaeth 21 a Blwyddyn Newydd Dda i’r gwerthoedd a’r egwyddorion y saif drostynt.

E-fwletiyn Tachwedd 18,2013

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Tachwedd 18ed

Gair o brofiad

Bûm yn ystyried sylw Cynog ar wefan Cristnogaeth 21 parthed cael term/teitl/enw arall ar Dduw, sylw y mae gen i gydymdeimlad ag o. Defnyddir ei enw mor rhwydd, mor afradlon ac mor ddi-ystyr yn rhy aml. Efallai mai trywydd arall y gellid ei ystyried ydy ymatal rhag ynganu`r enw o gwbl!  Rwyn cofio Wil Vaughan Jones,  y Waunfawr (ffrind i`r dramodydd John Gwilym Jones) wrth gyfleu amled y dywedid rhyw ymadrodd neu`i gilydd, yn defnyddio`r gymhariaeth  “Cyn amled ag y clywid enw Duw ar y Sul”. Rwyn siwr fod ei dafod yn ei foch ar  y pryd! Mor hawdd ydy swnio`n dduwiol! Yng nghyfrol odidog Angharad Price “Ffarwel i Freiberg” sy`n portreadu dyddiau cynnar y bardd T H. Parry-Williams dyfynnir ei gwpled cignoeth am y pregethwr ac yntau`r bardd yn wrthwynebydd cydwybodol o dan gwmwl du y Rhyfel Mawr:

Mewn pulpud pren ryw ddwylath o`r llawr

Chwaraeai fel plentyn â`r Duwdod mawr”

Yn naturiol os yr ydym am gymryd y dasg o ddifri rhaid holi fel Cynog “Beth yw Duw” neu fel Denzil John ar Bwrw Golwg, “Pwy yw Duw?” Mae diffiniadau clasurol uniongred y crefyddau – Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam – yn cynnig ateb i  gwestiwn Denzil  ac y mae y crefyddau dwyreiniol Hindŵaeth a Bwdaeth  yn cynnig ateb i gwestiwn Cynog.  Wedi dweud hynny, onid ydy`r naill gwestiwn fel y llall yn dweud gymaint amdanom ni sy`n gofyn y cwestiwn ag am ein Duw honedig? Ac ar ben hynny onid ydy profiad yn taro dau dant yn y delyn ddynol – y personol a`r amhersonol?

Yr unig beth a wn  i yn fy mhrofiad fy hun yw fy mod ar adegau yn cael fy hun fel Cynog yn gofyn y cwestiynau athronyddol, ond heb feddu`r ddisgyblaeth athronyddol i ddelio efo`r cwestiynau hynny. A dyna ddagrau pethau. Ynghanol berw`r Rhyfel Mawr  cyfansoddodd Parry-Williams y bardd a`r meddyliwr dwfn delyneg , “Dagrau”.a ddyfynnir yn y gyfrol uchod. Dagrau gŵr ifanc ydynt, ond nid dagrau am bechod nac am edifeirwch. Meddai`r bardd:

Duw a wyr beth oedd fy nagrau

Ef ei hun oedd biau`r lli;

Wylwn am fod rhaid i`r Duwdod,

Wrth fy nagrau i.

Yn ôl dehongliad Angharad Price, dyma`r dagrau sy`n diffinio`r ddynoliaeth, dagrau sy`n ddyfnach ac yn lletach na chred mewn Pechod neu Gwymp, dagrau anobaith. Ond tybed na allant fod yn ddagrau anwybod. Ychwanega Angharad fod y  bardd ar ei dyneraf yn y gerdd hon wrth drafod yn heriol ei thema fawr. Yn y gerdd a ddyfynwyd yn gynharach mae`n mynegi ei anobaith o fedru gwneud rhych na rheswm o fywyd a gwêl nad oes ond un llwybr Cristnogol yn aros iddo:

Yr eithaf nod a gyrhaeddaf i

 Fydd Crist yr Iddew a Chalfari.

A dyna stori sy`n gyffredin i lawer bellach.

Yn yr Ysgrythurau ac ar lawr gwlad crynhoir y cwestiwn mawr yn ei ffurf bersonol fel yng nghân Edward H. Mr. Duw mae`n nhw`n dweud dy fod ti`n fyw. Mr. Duw wyt ti gyda mi o hyd?  Cefais fy hun droeon yn gofyn yr un cwestiwn, ond heb fedru ei ateb. Tybed a oeddwn yn gofyn y cwestiwn iawn! Roedd R. S. Thomas y bardd yntau  yn cael trafferth i gael hyd iddo. Mae Cynog fodd bynnag yn awgrymu nad hwn yw`r cwestiwn bellach gan nad yw Duw yno.

Ar y llaw arall, gallaf mi gredaf , er nad wyf yn fardd fy hun, uniaethu â phrofiad bardd fel Gwyn Thomas yn ei gyfrol ddiweddaraf, cyfrol odidog arall, Profiadau Inter-Galactig. Yn ei gerdd Fesul Un mae`n cydnabod:

“..ar adegau

 Yn nyfnderau ein bodoli

Fe ddaw at rai ohonom ni,

Gipiadau bychain, bychain

Megis o oleuni pellennig;

A sibrydion, sibrydion

Sydd y tu draw i eiriau,

Y tu hwnt i ystyron ein byd.

Dyma nhw y dirgelion hynny

A wnâi  i galonnau rhai ohonom ni ddyrchafu

Fel pe baem ni yn gwybod pethau cuddiedig;

Fel pe baem ni yn deall

Rhyw gariad sydd megis cerddoriaeth nefol…

 Y mae`r gerdd yn cloi  gyda`r datganiad sy`n atsain o`r Oesoedd Canol  fod

..babis bach, a oedd bob un,…

o`i chlywed hi, yn gwenu trwy ei hu

Ar adegau gallaf uniaethu â dagrau T.H.P-W ac ar adegau gallaf uniaethu â`r wên y sonia Gwyn amdani. Yn y tyndra hwn y gwelaf fy nhynged

Beth amdanoch chi?

 

 

E-fwletin Tachwedd 11, 2013

Dysgu Lladd

Mae achos y milwr a gafwyd yn euog o ladd un o’r Taliban yn dangos unwaith yn rhagor mor drallodus o chwerthinllyd yw Cyfamod Genefa. Mae meddwl fod modd ymladd rhyfel yn ôl rheolau yn gyfystyr â meddwl mai gêm rhwng plant ydyw. Yn wir yr ymadrodd a fathwyd am yr ymgiprys gwaedlyd rhwng Prydain a Rwsia i reoli Afghanistan dros ganrif yn ôl oedd “Y Gêm Fawr”.

I wneud pethau’n waeth, yn achos yr un milwr druan yr wythnos dwetha, fe’i defnyddiwyd yn gyfle i glodfori “y lliaws anrhydeddus o filwyr sy’n cyflawni gwaith mor ogoneddus ar draws y byd”. O na bai modd i ryw hanesydd adrodd am y gyflafan warthus a gyflawnodd milwyr Prydain yn Afghanistan yn y 19eg ganrif, pan losgwyd pentrefi, pan laddwyd miloedd o ddynion a phlant ac y rhannwyd y gwragedd ymhlith y milwyr i’w treisio’n ddidrugaredd. Ac un o’r arweinwyr pennaf a gafodd ei anrhydeddu am weithredoedd felly yn Afghanistan oedd y Cadfridog Nott, y parheir i’w anrhydeddu yng Nghaerfyrddin! Dyna wrthun yw’r ymadroddion o enau gwleidyddion a sylwebyddion mai byddin Prydain yw’r orau yn y byd a bod heddlu Prydain yn batrwm i holl wledydd eraill y ddaear! Ofnaf y bydd yn rhaid dioddef rhyw gawl diflas fel yna hyd at syrffed drwy’r pedair blynedd nesaf. 

     Ond yr hyn sy’n loes dyfnach yw’r modd y mae’r Eglwys ar hyd y canrifoedd wedi derbyn rhyfel a thrais. Yn wir nid yn unig eu derbyn, ond eu bendithio. Y mae’n dangos gymaint y mae’r Eglwys wedi cefnu ar Iesu. Mae’n arwyddocaol fod holl arweinwyr cynnar yr Eglwys yn wrthwynebol i ryfel. Gwelent eu bod yn ddinasyddion mewn Teyrnas newydd, a’u brenin wedi eu gwahardd rhag defnyddio’r cledd. Mae tystiolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn dangos i Gristnogion gael eu dienyddio am wrthod ymladd yn y fyddin. Roedd hyn yn siom hyd yn oed i Ymerawdwr mor oleuedig â Marcus Aurelius. I’r Cristnogion cynnar roedd geiriau Iesu yn ddiamwys. Roeddent hwy, a oedd yn byw o fewn dwy neu dair cenhedlaeth i Iesu ei hun, yn gwybod yn iawn beth oedd hanfod ei ddysgeidiaeth.

     Yn ddiweddarach, efallai oherwydd i Gristnogaeth droi’n grefydd yr Ymerodraeth, fe aeth diwinyddion ati yn ddiwyd i greu athrawiaeth y “rhyfel cyfiawn”, gan ei gwneud yn esgus dros yr erchyllterau rhyfeddaf megis y Croesgadau. I mi does yna ddim modd i ddiwinydd nac athrawiaeth osgoi’r gwirionedd sylfaenol mai heddychwr di-drais yw Iesu. Dysgodd i ni ymwrthod â’r cledd a charu hyd yn oed ein gelynion. Calon Cristnogaeth yw’r cariad hwnnw. Os dywedaf fod y Bregeth ar y Mynydd yn rhy ddelfrydol, neu os dywedaf fod Iesu yn rhy radical i mi, yna a oes hawl gennyf fy ngalw fy hun yn Gristion?

E-fwletin Tachwedd 4,2013

                       Hanfod yr Efengyl

Er gwaethaf ei henw nid neges newydd sydd gan Gristnogaeth 21. Mae hi mor hen, a newydd, â’r Deg Gorchymyn neu’r Bregeth ar y Mynydd neu Weddi’r Arglwydd. Yr hyn sydd wedi fy nharo i yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd hyn yw fod y neges hon wedi ei thraddodi drwy gyfnod ein magwraeth ni. Clywsom gysondeb y neges gan lu o weinidogion a lleygwyr anghydffurfiol Cymru ar hyd y ganrif ddiwethaf.  A daeth hyn yn ôl yn fyw i mi adeg angladd James Nicholas rai dyddiau yn ôl. Pan draddododd ef ei Anerchiad fel Llywydd Undeb y Bedyddwyr fe’n hatgoffodd ni am y cwlwm o wroniaid a fagwyd yn ardal Pentregalar yn Sir Benfro, “bro cenhadon y Deyrnas”: Thomas Rees, T E Nicholas, E Llwyd Williams, D J Davies Capel Als, ac ar gyrion yr ardal honno, Waldo Williams ei hun. Yr un argyhoeddiad a glymai y rhain wrth ei gilydd oedd eu hiraeth am ddyfodiad Teyrnas Dduw. Gresynai James Nicholas am y modd y mae rhai canghennau o’r Eglwys yn rhoi mwy o bwyslais ar barhad hen draddodiadau a chredoau nag ar hanfod yr efengyl. Perygl hyn, meddai, yw i’r traddodiad fynd mor gysegredig â’r Gair ei hun, fel nad oes modd mynegi’r ddiwinyddiaeth draddodiadol mewn ieithwedd newydd, a chymhwyso’r gwirionedd i angen y dydd. Y mae gwir angen gweld craidd neges Efengyl y Deyrnas mewn termau cyfoes a’i chyflwyno i ddiwallu anghenion cymdeithas heddiw.

   Bu hi’n ffasiynol i ni dybio mai Karl Barth oedd piau’r gair olaf, gan wawdio yr holl ddatblygiadau diwinyddol o Schleiermacher ymlaen. Pan ddeuai ambell lais i’n galw ni yn ôl at ddysgeidiaeth Iesu, pregethwyr argyhoeddiadol megis O R Davies y Garnant, caent eu labelu’n ddilornus fel pedlerwyr yr “hen efengyl gymdeithasol”. Erbyn hyn fe allwn droi yn ôl at gerddi Niclas y Glais a sylweddoli mor berthnasol yw ei neges i’n byd ni heddiw. Pan welwn ni arweinwyr y Gorllewin “Cristnogol wareiddiedig” yn creu dinistr anwar ac erchyll yn y Dwyrain canol, fe ddown i ddechrau deall pwyslais Niclas ar y “weriniaeth”.

   Buasai’n dda gen i petai modd inni alw’r hen broffwydi yn ôl eto i’n pulpudau, a ninnau’n cael gwrando arnynt gyda gwerthfawrogiad newydd. Cael gwared ar y lleisiau beirniadol a lefai am “uniongrededd y ffydd” a chlywed y cewri tawel fel D J Davies yn troi gwirioneddau oesol Iesu yn falm i enaid ac yn oleuni telynegol ar ein cyfrifoldeb i gymydog a chymuned.

E-fwletin Hydref 28

Cristnogaeth 21 – E-fwletin Hydref 28

Mae’n nos Sul, ac rwyf yn eistedd wrth y cyfrifiadur ac yn pendroni ynghylch beth i’w roi yn yr e-fwletin diweddara.Efallai bydd rhai ohonoch, fel fi, wedi bod mewn oedfa yn rhywle yn ystod y dydd – yr awr neu ddwy wythnosol yn dilyn rhyw batrwm o addoli nad yw wedi newid rhyw lawer ers degawdau.Byddwn wedi canu emynau, llawer yn perthyn i amser cyn ein geni, yn cynnwys geiriau, darluniau, cyfeiriadau a syniadau diwinyddol sy’n galw am rywfaint (llawer hyd yn oed) o waith ymchwil i’w deall yn iawn. Gallwn ganu’n afieithus er yn ddiddeall, dim ond bod y dôn yn gyfarwydd.

Byddwn wedi offrymu gweddïau – o’r frest neu o lyfr gweddi – ac yn dyfalu pwy, os rhywun, sy’n gwrando, a sut neu beth yw’r ateb i weddi. Efallai byddwn wedi adrodd geiriau credo, a’r credo yna wedi’i lunio ym mlynyddoedd cynnar yr Eglwys Gristnogol mewn ymgais i sicrhau rhyw fath o undod ymhlith pobl oedd yn meddwl a dweud pethau tra gwahanol i’w gilydd am wrthych(au) eu ffydd.

Byddwn wedi darllen geiriau a myfyrio ar eiriau mewn llyfr, Y Beibl, sy’n hŷn na’r credoau hynny, a’r myfyrdodau hynny mor amrywiol â’r sawl oedd yn eu cyflwyno.Efallai bydd rhai ohonoch wedi bod yn arwain oedfa yn rhywle. Byddwch wedi treulio amser yn paratoi, dewis testun neu thema, a datblygu syniadau. A bydd yr oriau o baratoi heibio mewn chwinciad.

Ond bellach mae’r Sul wedi dod ac wedi mynd, ac mae’r cwestiynau’n  aros, ‘Beth a gyflawnwyd? Faint callach yda ni? Pa wahaniaeth wnaeth ein haddoli a’n moli, ein gweddïo a’n pregethu? ’Weithiau byddaf yn darllen neu glywed am oedfaon lle cafwyd pregeth ‘heriol’. Beth tybed yw pregeth heriol yn y flwyddyn 2013? A glywsoch chi bregeth heriol yn ddiweddar, ac os do, beth oedd natur yr her? Gwerthu’r cyfan sydd gennyt a’i roi i’r tlodion? Cerdded yr ail filltir? Troi’r foch arall? Ac os nad heriol, a glywsoch chi rhywbeth newydd, gwahanol wnaeth eich procio, fydd yn aros ac yn troi yn y meddwl gweddill yr wythnos?

Rwyf wedi clywed ambell un yn dweud eu bod allan o’u dyfnder gyda chynnwys yr e-fwletin yma a dyna pam nad ydynt yn ymateb na chyfrannu at drafodaeth. Wel, adroddwch eich profiadau am addoliad y Sul , ac anfonwch air atom. Mae’n siŵr bod gan bob un farn ar rywbeth mor sylfaenol i’n bywyd crefyddol. Efallai y cawn ein synnu o glywed beth sy’n digwydd yng nghapeli ac eglwysi Cymru – ein synnu, ac efallai ein goleuo hefyd.

O’m rhan fy hunan, roeddwn yn addoli mewn capel a wasanaethwyd gan rai o enwogion y pulpud yn eu dydd.  Dyrnaid sy’n weddill yno bellach, yn glynu at arferion a phatrymau’r gorffennol, yn methu gweld dim amgen all atal yr anorfod.  Ac eto’n teimlo bod rhaid cadw’i fynd a dal ati  nes bydd y baich o gynnal beth sydd mewn gwirionedd yn anghynaladwy bellach fynd yn ormod.

Ie, pendroni wrth y cyfrifiadur ar nos Sul, a daw un o weddïau Michel Quoist i’r cof : yr offeiriad unig ar nos Sul:

Tonight, Lord, I am alone.

Little by little the sounds died down in the church,

The people went away,

And I came home,

Alone………

Mae gweddill y weddi ar sawl gwefan.

Aeth yr e-fwletin yn ‘seiat brofiad’ neu’n gyffes-gell. Neu ‘dim ond bod yn onest.’ A gwahoddiad.