Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 2 Ionawr, 2022

Gwyrdroi Hanes?

Rydym eisoes wedi cyhoeddi dwy erthygl deyrnged i’r diweddar Desmond Tutu yn y cylchgrawn Agora ar wefan Cristnogaeth 21 (gweler y ddolen isod). O gofio dylanwad aruthrol y cyn-Archesgob, go brin y byddwch yn synnu gweld mai dyna drywydd yr e-fwletin hwn hefyd. Ond y tro hwn, ceisio edrych y tu hwnt i’r teyrngedau y byddwn, er mwyn gweld beth yw’r her i ni fel Cristnogion heddiw yng ngwaddol geiriau a gweithredoedd Tutu.

Teimlad chwithig a dweud y lleiaf oedd darllen y negeseuon o gydymdeimlad gan rai o arweinwyr gwledydd y Gorllewin, gan wybod pa mor ddeifiol y bu’r Archesgob yn ei feirniadaeth ohonynt. I rai, roedd canmol safiad Tutu dros hawliau dynol fel pe bai’n gyfle i ail-ysgrifennu hanes, drwy anwybyddu ei eiriau miniog ar adegau.

Mynnodd Barack Obama ei alw’n “fentor a chwmpawd moesol” iddo, heb gyfeirio o gwbl at y cyhuddiad difrifol gan Tutu fod defnydd yr Unol Daleithiau o awyrennau drôn yn tanseilio eu holl foesoldeb mewn modd annynol.

“Caiff ei gofio am ei arweiniad ysbrydol”, meddai Boris Johnson. Eto, daeth llywodraeth gwledydd Prydain dan y lach ganddo ar sawl achlysur.

Yn 1989, tra ar ymweliad â Birmingham, cyfeiriodd yn ddi-flewyn-ar dafod at annhegwch y sefyllfa lle mae nifer anghyfartal o bobl dduon mewn carchardai yn y gwledydd hyn. Bu’n feirniadol iawn o Tony Blair, Theresa May, David Cameron a Boris Johnson yn eu tro am iddyn nhw wrthod gweithredu sancsiynau masnachol yn erbyn Israel oherwydd eu bod yn gorthrymu’r Palestiniaid, a disgrifiwyd hynny gan Tutu ei hun fel ffurf ar apartheid. Cythruddwyd yr Israeliaid pan aeth ati i gymharu tynged yr Arabiaid ar y Llain Orllewinol ac yn Gaza â dioddefaint y bobl dduon yn Ne Affrica. Mynegodd wrthwynebiad chwyrn i benderfyniad Donald Trump i gydnabod Jerwsalem fel prifddinas Israel.

Yn aml iawn, mae’r sawl sy’n beirniadu llywodraeth Israel am gam-drin y Palestiniaid mewn perygl o gael ei alw’n wrth-Semitig. Roedd Tutu, fodd bynnag, yn gwbl deg gyda’r ddwy ochr, yn galw ar y Palestiniaid i gydnabod gwladwriaeth Israel, tra ar yr un pryd yn mynnu bod Israel yn cydnabod hawl y Palestiniaid i’w llywodraeth a’u gwlad eu hunain.

Ymhlith ei rinweddau niferus, roedd ei ddewrder a’i barodrwydd i sefyll dros y gwirionedd, costied a gostio. Galwodd am i Tony Blair a George W. Bush gael eu rhoi ar brawf yn yr Hague am droseddau rhyfel yn dilyn y rhyfel anghyfreithlon yn Irac, a gwrthododd ymddangos mewn uwchgynhadledd ar gyfer arweinwyr y byd yn Johannesburg pan glywodd  y byddai Blair yn gyd-siaradwr.

Ar ddechrau blwyddyn fel hyn, mae’n weddus ein bod yn ymateb i her barhaus Desmond Tutu i sefyll dros y gwir. Wrth ystyried beth yw ei waddol i ni heddiw, bydded i ni gydnabod ein dyletswydd fel eglwysi i godi ein llais yn groch ble bynnag y gwelwn ni anghyfiawnder. Gallwn fod yn gwneud hynny gyda geiriau Tutu yn canu yn ein clustiau: “Mae’r sawl sy’n dewis bod yn ddi-duedd mewn sefyllfa o anghyfiawnder wedi dewis ochri gyda’r gormeswr.”

(Medrwch ddarllen y ddwy erthygl am Desmond Tutu drwy glicio YMA)

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd

 

E-fwletin 26 Rhagfyr 2021

Y Sgwrs

Ymysg  y lluniau mwyaf difyr o wasanaeth Nadolig y plant ein capel ni’r Sul d’wetha, mae llun o fugail a dyn doeth yn sgwrsio efo’i gilydd yn y cefndir wrth i’r ddrama fynd rhagddo.  Llun annisgwyl sbardunodd fy nychymyg!

Un o’r plant lleiaf ydi’r bugail – bachgen bach pedair oed wrthododd wisgo i fyny ar gyfer y gwasanaeth gan ei fod isho mynd ‘fel fi fy hun’.  Mae na rhywbeth yn hynny’n does! – ‘gan y gwirion ceir y gwir’ efallai.

Roedd y gwr doeth ychydig yn hŷn – yn llai anystywallt ac yn teimlo mwy o bwysau i gydymffurfio o bosib – ac mi roedd wedi gwisgo yn ei grandrwydd i gyd a’r goron balch yn styc ar ei ben. 

Dyma edrych ar y llun a meddwl – tydi hynny ddim yn bosibl – yn un peth, os da chi’n cymryd yr hanes yn llythrennol, doedd y bugeiliaid a’r doethion ddim yno’r un pryd â’i gilydd – ac os mai edrych drwy sbectol dychymyg yr ydych mae’n llawn mor anodd gweld y ddau unigolyn yma’n llwyddo i gael sgwrs a hwythau’n dod o fydoedd mor wahanol i’w gilydd – eu diwylliant, eu hiaith, eu cefndir, eu safle mor ddieithr i’r naill a’r llall.

Ond, petaent wedi cael sgwrs mi fyddent yn siŵr o fod wedi siarad am angylion – a seren – a chanu – a Herod.  Byddent wedi rhannu’r daith a’r bwrlwm – yr ofn a’r cyffro.  Byddent, o bosibl, wedi trafod y gwahaniaethau rhwng camelod a defaid. Byddent wedi trafod Mair a Joseff. Byddent wedi sôn am yr olwg gyntaf o’r baban –  y cadachau a’r preseb – a rhannu’r profiad o syrthio ar eu gliniau i’w addoli. Byddai’r profiad cyffredin hwnnw wedi chwalu pob rhagfur oedd rhyngddynt a byddent, fwy na thebyg, yn gyfeillion oes.

Gwyrth y preseb – gwyrth bywyd Iesu ar ei hyd oedd dwyn pobl wahanol at ei gilydd. Hyd yn oed yn hanes y croeshoelio llwyddodd i dynnu dau elyn i fod yn gyfeillion! –  ‘daeth Herod a Philat yn gyfeillion i’w gilydd y dydd hwnnw’ (Luc 23:12).

Pa gyfleon am sgyrsiau annisgwyl gawn ni yn y flwyddyn newydd, tybed? 

Blwyddyn Newydd Dda!

 

E-fwletin 19 Rhagfyr 2021

Y Siwrnai

Mae straeon Nadolig y Testament Newydd yn llawn siwrneiau – o Nasareth i Fethlehem, o’r dwyrain ar eu camelod, o’r mynydd gyda’r defaid i lawr i’r dre, ac i’r Aifft am loches.  Un peth sy’n arbennig, hyd yn oed heddiw, yw bod y storïau hyn wedi helpu cymaint o ddynion a menywod modern i ddechrau ar eu teithiau ysbrydol eu hunain. Un o deithiau mawr ein hoes yw’r un mae miloedd yn mynd arni yn flynyddol, o fod yn ddarllenwyr llythrennol o’u Beibl i fod yn werthfawrogwyr dyfnach o’r straeon.

Y ffeithiau moel yw nad yw sêr yn teithio ar draws yr awyr yn ddigon araf ag isel i alluogi dynion doeth, nac annoeth, i ddal i fyny â nhw; dyw angylion ddim yn torri drwy’r awyr ganol nos i ganu i fugeiliaid; ac nid yw bodau dynol yn dilyn sêr i dalu gwrogaeth i frenin newydd-anedig mewn cenedl dramor, yn enwedig pan fo’r un efengyl yn dweud wrthym fod Iesu’n fab i saer coed.

Ni fyddai unrhyw unben go iawn, gan gynnwys y Brenin Herod, yn disgwyl i dramorwyr sy’n pasio’i balas i ddod yn ffynhonnell ei gyfrin-wybodaeth. Nid yw gwyryf yn esgor ar fabi ac eithrio mewn mytholeg – ac roedd llawer o enghreifftiau o hynny ym myd Môr y Canoldir. Nid yw ymerawdwyr yn gorchymyn i bobl ddychwelyd i’w cartref hynafol ar gyfer cofrestru ar gyfer trethi.

Roedd mil o flynyddoedd rhwng y Brenin Dafydd a Joseff tad Iesu, neu tua 50 cenhedlaeth. Roedd gan Dafydd nifer o wragedd a phartneriaid eraill. Mewn 50 cenhedlaeth, byddai disgynyddion Dafydd yn rhifo yn y miliynau. Petai nhw i gyd wedi dychwelyd i Fethlehem, fyddai ddim yn syndod i neb nad oedd lle yn y llety!

Dim ond mewn stori a ysgrifennwyd gan ddyn y gallech ddychmygu dyn yn mynd â’i bartner sy’n drwm-feichiog ar daith asyn 94 milltir o Nasareth i Fethlehem er mwyn geni’r Meseia disgwyliedig yn ninas Dafydd. Byddech chi ddim chwaith yn disgwyl i unrhyw frenin ladd yr holl fabanod gwrywaidd mewn tref fach – yn enwedig pan fyddai pawb yn y dref honno wedi gwybod yn union pa dŷ oedd yn eistedd jyst o dan y seren, ac yn gwybod pa dŷ gafodd ymweliad gan ddynion o wlad bell.

Mae symbolaeth y straeon mor fendigedig o fawr. Mae’n nhw’n clymu’n ddeheuig i broffwydoliaethau’r Hen Destament – a chlymu Iesu wrth Moses, a mawrion eraill Israel, ac yn ei gyffelybu ben i waered gyda’r Ymerawdwr ei hun. Y perygl i bobl y ganrif hon yw ein bod naill ai’n dibrisio’r storïau sydd wedi eu llythrenoli, neu’n rhoi’r gorau iddyn nhw fel straeon plentynnaidd, gan fethu eu gwerthfawrogi a gweld bod yr awduron yn defnyddio eu sgiliau aruthrol fel llenorion i danlinellu pwysigrwydd yr enedigaeth hon.

Maen nhw’n tanlinellu statws Iesu, a hynny gydag arwyddion nefolaidd – y seren yn Mathew a’r angylion yn Luc. Yn y person hwn roedden nhw’n credu bod y nefoedd a’r ddaear wedi dod at ei gilydd, Duw a dyn yn un yn awr. Mae’r Iesu hwn yn tynnu’r byd i gyd ato’i hun, byd y cenedl-ddynion o’r tu hwnt i ffiniau Israel yn y sêr-ddewiniaid, yn ogystal â bywydau caled y bugeiliaid.

Y rhain (straeon geni Iesu) yw manylion dehongliadol y mythau Cristnogol. Daeth y storïau hyn i’r ffydd Gristnogol yn unig yn y 9fed degawd. Nid oedd yr awduron cynharaf, Paul na Marc, erioed wedi clywed amdanynt – neu mae’n sicr y bydden nhw wedi sôn am eni gwyrthiol yng nghwmni angylion yn eu llenyddiaeth. Mae’n rhaid fod Ioan, yr efengyl olaf i’w hysgrifennu, wedi gwybod am y traddodiadau geni hyn, ond nid yw’n eu cynnwys ac, ar ddau achlysur, yn galw Iesu yn fab i Joseff.

O ystyried yr holl elfennau hyn, mae hi’n rhyfedd meddwl y bydd miloedd o bregethwyr yn traddodi pregethau yn yr wythnos nesaf sy’n tybio fod awduron y straeon Nadolig  yn meddwl eu bod yn ysgrifennu hanes llythrennol. Beth am i ni gyd geisio gwahanu ffantasi oddi wrth hanes y Nadolig hwn – a mwynhau’r ddau.

Y ffantasi fwyaf o’r cyfan yw’r freuddwyd am heddwch ar y ddaear ac ewyllys da ymhlith dynion a menywod, ond i’r ffantasi honno y’n gelwir i roi ein bywydau. Drwy wneud hynny byddwn yn dangos ein bod wir wedi deall bwriadau Mathew a Luc; a dangos ein bod yn ffyddlon i’r brenin yn y preseb. Byddai hynny’n ddechreuad da i’r siwrnai y soniodd Arwel Jones amdani yn ei gerdd:

Siwrnai

Onid ym oll fel y doethion gynt,

Yn chwilio am rhywbeth, ac ar ein hynt,

Yn crwydro’r byd o le i le

Yn chwilio seren ddisgleiria’r ne’,

Yn chwilio arwydd ar y daith

Sy’n dweud fod rhywbeth mwy ar waith,

Yn crwydro’r anialwch o ddydd i ddydd

Yn byw a bod ar ddim ond ffydd,

Yn chwilio stabal, Joseff a Mair,

Tywysog Tangnefedd mewn gwely o wair,

Dal i chwilio dyna yw’r nôd

Oherwydd mae rhywbeth mwy yn bod.

 

Arwel Jones

 

E-fwletin 12 Rhagfyr 2021

Lle yn y llety?

 “Pwy bynnag sydd â meddiannau’r byd ganddo, ac yn gweld ei frawd mewn angen, ac eto’n cau ei galon yn ei erbyn, sut y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd”. (1 Ioan 3:17).

Mae’n gyfnod heriol iawn o ran digartrefedd a diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig ar hyd y llain arfordirol gorllewinol. Ma’ ‘na gryn sylw wedi bod yn y cyfryngau ac ma’ ‘na brotestio torfol wedi bod ar risiau’n Senedd, yn ogystal ag mewn cymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru. Pam? Wel i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng tai – am ddiffyg tai fforddiadwy, am dlodi rhent ac am ddigartrefedd gwledig. Ma’ ‘na bryder am ddyfodol ein cymunedau, dyfodol ein hiaith, dyfodol ein hysgolion, dyfodol ein haddoldai. Mae’n rhestr faith.

Mae teuluoedd yn gorfod gadael eu cartrefi rhent oherwydd bod y perchnogion am eu gwerthu neu eu gosod fel llety byr-dymor trwy Airbnb. Does dim modd cystadlu pan mae’r Cymry lleol yn methu fforddio prynu mewn marchnad dai agored sydd heb reolaeth. Pa obaith prynu tŷ am £300,000 gyda’r cyflog cyfartalog yng ngorllewin Cymru yn £26,000 y flwyddyn?

Cofiwch, mae yna nifer o Gymry cyfoethog yn berchen ar dai haf yn y cymunedau yma. Rhai wedi eu hetifeddu ac eraill yn ddigon cyfoethog i fedru prynu tŷ haf. Efallai bod yna berchnogion tai haf ymhlith darllenwyr Cristnogaeth 21. Synnwn i ddim!

Mae trafod ail gartrefi’n siŵr o wneud i rai Cymry deimlo’n anghysurus. Dyn ni ddim fel Cymry yn hoff o weld ein hunain fel rhan o’r broblem. Bûm yn ceisio trafod hyn yn ddiweddar gyda Chymro lleol yn fy milltir sgwâr. Ei ddadl ef oedd bod perffaith hawl gan Gymry berchen ar ail gartref oherwydd eu bod yn Gymry. Dadleuodd eu bod am gadw cyswllt â’u gwreiddiau yn y gorllewin. Dadleuodd bod eu hiraeth am fro eu mebyd yn rhoi perffaith hawl iddynt berchen ar dŷ haf!

Mae llawer o Gymry wedi gorfod gadael eu milltir sgwâr ac mae llawer wedi dewis gadael. Braf yw eu gweld yn dychwelyd. Ond da chi, peidiwch a phrynu tŷ haf. Does dim angen tŷ haf i leddfu’ch hiraeth neu i gadw cyswllt ‘da bro eich mebyd. Arhoswch mewn gwesty, arhoswch mewn gwely a brecwast. Os ydych yn fentrus ewch i glampio neu cysgu’r nos mewn carafán. Cefnogwch fusnesau lleol. Neu gwell byth, os gallwch, symudwch nôl i’r gorllewin yn llawn amser. Ond da chi, peidiwch adio at y problemau mae’n cymunedau tlawd yn eu hwynebu trwy brynu tŷ haf.

Wel, dyma ni yng nghyfnod yr Adfent. Dyma ni’n cofio am hanes un teulu bach yn methu dod o hyd i do uwch eu pennau. Ma’ na gannoedd os nad miloedd o deuluoedd yn y Gymru wledig heddiw yn wynebu’r her oesol o ddod o hyd i lety parhaol. Yn fy mhentref i mae ‘na fam a merch Gymraeg lleol ar fin gadael eu cartref oherwydd bod y perchennog am ei werthu. Oherwydd yr argyfwng tai bydd rhaid iddynt symud at y rhieni-cu.

Ar yr un pryd dwi’n digwydd adnabod chwech o Gymry Gymraeg, o Gaerdydd fel mae’n digwydd, sydd â thai haf yn yr union un ardal. Gwn i sicrwydd hefyd fod rhai ohonynt yn gapelwyr. Tybed beth fyddai eu cyfiawnhad hwythau dros gadw ail dŷ yn segur am fisoedd ar y tro tra bod teulu bach lleol yn chwilio am lety?

Os ydych yn berchen ar ail gartref, gwnewch y peth anrhydeddus. Gosodwch y tŷ ar rhent i deulu lleol. Rhowch gartref i deulu a fyddai, heblaw hynny efallai, yn gorfod gadael eu milltir sgwâr. Gosodwch ef ar rhent rhesymol fel nad oes rhaid pryderu ai talu’r rent neu dalu’r bil trydan fyddai orau. Peidiwch bod yn rhan o’r broblem. Gwnewch y peth iawn. Defnyddiwch eich cyfoeth a’ch eiddo’n gyfrifol i leihau baich eich cymydog.

Os dwi wedi pigo cydwybod un o ddarllenwyr y blog yma a bod hynny’n arwain at droi dŷ haf yn gartref parhaol byddaf wrth fy modd. Os bydd o leiaf un teulu bach yn llwyddo i gael cartref parhaol am rhent teg cyn y Nadolig dyna fyddai’r anrheg perffaith!

“Os bydd un yn dlawd ymhlith dy frodyr yn un o’th drefi yn y wlad y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoi i ti, paid â chaledu dy galon na chau dy law yn ei erbyn. Yn hytrach, agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho’n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen”. (Deuteronomium 15:7-8).

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newy’ Dda.

 

E-fwletin 5 Rhagfyr 2021

Tua Bethlem Dref

Mae heddiw’n ail Sul yr Adfent ac rydyn ni bellach wedi cychwyn ar y daith i Fethlehem. “Tua Bethlem dref awn yn fintai gref ac addolwn Ef”, fel dywedodd Wil Ifan yn ei garol. Ac mae’r Ficer Pritchard hefyd yn paentio darlun bywiog i ni, darlun o bererinion byrlymus, llawn egni a brwdfrydedd ar gychwyn eu taith – “Awn i Fethlem, bawb dan ganu, neidio dawnsio a difyrru…”

Mae’r darluniau hyn yn fodd i’n hatgoffa ni ein bod yn teithio drwy’r Adfent yng nghwmni pobl eraill. Nid taith unig nac unigolyddol ddylai hi fod. Fel y pererinion gynt – boed i Dŷ Ddewi, Rhufain neu Santiago – mae’r cysur a’r gefnogaeth, y gwmnïaeth a’r anogaeth rydyn ni’n medru cynnig i’n gilydd yn allweddol ar gyfer cerdded i ben y daith.

Doedd pererindota ddim bob amser heb ei heriau a’i broblemau, wrth gwrs. Ond creaduriaid cymdeithasol ‘yn ni. Ry’n ni ar ein gorau yng nghwmni ein gilydd a phan rydyn ni’n cydweithio a chyd-dynnu gyda’n gilydd – yn cymdeithasu gyda’n gilydd, yn cyd-deithio i’r un cyfeiriad at yr un nod.

Yr Adfent hwn byddwn yn teithio gyda’n teuluoedd, ein cyfeillion a’n cymdogion, mae’n siŵr. Byddwn yn harddu’n haelwydydd ac yn cynnau goleuadau i herio’r nos a chodi calonnau. Byddwn ni’n teithio gyda’n cyd-aelodau yn yr eglwys hefyd o oedfa i oedfa ac o garol i garol. A phan fo bydolrwydd masnachol y Nadolig cyfoes yn dreth, dewch i ni godi’n golygon o’r rhialtwch tymhorol  a chofio ein bod hefyd yn teithio yng nghwmni 2.5 biliwn o Gristnogion eraill ar hyd a lled y byd. Braf yw meddwl am amrywiaeth rhyfeddol y teithiau hynny – boed mewn rhew ac eira neu mewn haul trofannol – â lliw a blas amryfal draddodiadau a diwylliannau’r byd yn harddu’r teithiau.

Ond nid teithio yng nghwmni credinwyr presennol yn unig ydyn ni chwaith. Mae’r cwmwl tystion yn gwmni i ni ar hyd y daith hon hefyd. Â heddiw yn Sul y Beibl mae’n addas i ni weld y Beibl cyfan yn daith i Fethlehem. Hynny oedd gan Sachareias yn ei broffwydoliaeth ynghylch ei fab Ioan a fydd yn “… cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau”.

A ninnau heddiw megis ar ddechrau’r daith, mae’n siŵr y dylen ni deimlo rhyw gyffro. Mae’r cyffro hwnnw yn deillio o’n gobaith ynghylch y daith – gobaith y bydd y gwmnïaeth yn un ddifyr, gobaith y cawn ni brofiadau newydd, gobaith y bydd y daith yn ein codi ni ac yn ein dyrchafu ni. Ein gobaith yw y bydd yn daith hon yn golygu y byddwn ni’n rhan o rywbeth sy’n fwy na ni ein hunain.

Mae’n bosib eich bod chi wedi cynnau cannwyll heddiw – un o ganhwyllau’r Adfent. Mae’r canhwyllau hynny yn medru goleuo’r daith i ni yn effeithiol iawn o Sul i Sul – canhwyllau gobaith, llawenydd, ffydd, tangnefedd a chariad. Ac mae angen eu llewyrch nhw hefyd ar sawl teithiwr a ffoadur sy’n chwilio am hafan ddiogel y dyddiau hyn. Gweddïwn drostynt.

A phen y daith? Wel, y preseb, wrth gwrs, lle mae baban bach diniwed yr Ymgnawdoliad – y Crëwr mewn crud – yn gorwedd yn y gwair. “Tua’r preseb awn gyda chalon lawn a phenlinio wnawn”. Deuwn ac addolwn. Pob hwyl i chi ar y daith i’r preseb yr Adfent hwn.

 

 

E-fwletin 28 Tachwedd, 2021

Goleuo cannwyll

Wrth fodio trwy’r llyfr emynau a gefais pan ddeuthum yn aelod llawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym mis Ionawr 1971 cefais fy hun yn myfyrio ar yr hyn a gynigiodd y blynyddoedd cynnar (plentyndod) hynny o fynd i’r capel a’r Ysgol Sul i mi; ymgyfarwyddo â’r Ysgrythurau – oherwydd bu’n rhaid i ni ddysgu adnodau pob wythnos; cariad at ganu emynau; gafael gadarn ar sol-ffa, a chwilfrydedd am wirionedd a dehongliad Beiblaidd.  Ond dydw i ddim yn cofio dysgu dim am dymhorau blwyddyn yr eglwys.

Rwyf wedi byw gyda Chatholig o’r Almaen ers pymtheg mlynedd ar hugain a chofiaf ei fraw pan ddeallodd fy mod yn gwybod dim am dymor yr Adfent… na thraddodiad y torch Adfent:  Y ddefod o greu’r dorch – casglu brigau celyn, uchelwydd a phinwydd o’r goedwig – dewis y canhwyllau priodol – gosod y torch mewn man amlwg… ar y bwrdd bwyd neu sil y ffenest.  Ac yna, ar y Sul cyntaf o Adfent, byddwn yn goleuo’r gannwyll o obaith (canhwyllau cariad, llawenydd a heddwch yn dilyn ar Suliau olynol y tymor), a threulio’r wythnos yn myfyrio ar y thema gobaith.

Erbyn heddiw, mae gobaith yn cael ei ddeall fel ‘disgwyl i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n gwbl siŵr y bydd’; mae’n debycach i ddymuniad; gobeithio y bydd y tywydd yn gwella… gobeithio na fydd y trên yn hwyr… ond o Hebraeg yr Hen Destament a Groeg y Testament Newydd gallwn ddod i’r casgliad bod ystyr Beiblaidd gobaith yn ddyfnach – yn fwy dwys:

…edrych yn ddisgwylgar tuag at y dyfodol –

yn seiliedig ar ein ffydd yn Nuw yn y presennol –

a ffyddlondeb Duw yn y gorffennol.

Nawr, onid yw hynny’n werth ychydig oriau o fyfyrio?

Ond efallai y byddai’n well gennych feddwl ar rywbeth gydag ychydig mwy o ddiwinyddiaeth ymarferol? Dywedodd Martin Luther King Jr:  “Mae’r gobaith am fyd diogel, a byd gwerth ei fyw ynddo, yn gorwedd ar ysgwyddau anghydffurfwyr disgybledig sy’n ymroddedig i gyfiawnder, heddwch a chymuned.”  Hmm! Pa mor ddisgybledig yw fy anghydffurfiaeth?  Pa mor ymroddedig ydw i i heddwch drwy gyfiawnder yn y cymunedau yr wyf yn byw ynddynt – yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, yn fyd-eang?  Mae hynny’n werth ychydig oriau o ystyriaeth!

Neu efallai bod rhywbeth mwy rhyngbersonol at eich dant?  Mae Maya Angelou yn ein herio fel hyn:  “Y peth braf am obaith yw y gallwch ei roi i rywun arall sydd ei angen yn fwy na chi, ac fe welwch nad ydych wedi rhoi eich gobaith chi i ffwrdd o gwbl.”  Hmm!  Yn ddiweddar, pryd wnes i gerdded ochr yn ochr â rhywun yn eu trafferthion? Pryd wnes i eistedd gyda rhywun yn eu galar? ‘Pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti?  A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat?’

“Pam nad yw eich dewisiadau’n adlewyrchu eich gobeithion, nid eich ofnau?” ofynnodd Nelson Mandela.  Yn ystod yr wythnos hon, sef wythnos gyntaf yr Adfent, byddaf yn myfyrio ar ystyr gobaith yn fy mywyd wrth ddechrau fy mharatoadau ar gyfer y Nadolig – ac yn nyfodiad Emaniwel rwy’n addo eto i ddewis gobaith.

E-fwletin 21 Tachwedd, 2021

Amlygir drygioni’r rhieni gan y plant

Mae trais yn y cartref wedi bod yn bwnc trafod ers hanner can mlynedd. Mae nifer o enwadau a nifer o weinidogion unigol yn estyn cymorth i’r cymar sy’n dioddef trais, ond yn anaml y clywir eglwysi yn llefaru yn eglur i gondemnio’r trais, yn hytrach na’r ysgariad. Mae rhai diwinyddion, rhai Catholig ac Efengylaidd yn bennaf, yn dewis delfrydu priodas. Gan fod y wasg yn rhoi mwy o sylw i agwedd eglwysi at berthynas rhywiol nac at unrhyw ran arall o’u dysgeidiaeth, mae’r syniad fod parhad unrhyw a phob priodas yn rhan hanfodol o gred y Cristion yn aros – tu fewn ac oddi allan i’r eglwysi.

Dyfynnir yn aml yr addewid “hyd oni wahanir ni gan angau” neu “mewn hawddfyd ac adfyd” heb gydnabod fod y cwpl wedi gwneud aduniadau gan ddisgwyl y bydd eu cymar yn cadw’r un addunedau. Mae Duw yn bendithio priodasau pan fo’r ddau yn ceisio cadw’r un addewidion. Pan mae priodas yn methu, er gwaetha pob ymdrech gan un cymar, clywir yn rhy aml am feirniadaeth gan gyd- Gristnogion. Dwedir wrthynt fod Duw yn disgwyl iddynt ddioddef a bod maddau, heb dystiolaeth o edifeirwch, yn rhan o addunedau’r briodas. Cyfeirir at ysgariad fel pechod yn hytrach na chanlyniad i bechod. Mae’r cyfan yn loes ychwanegol ac yn peri i’r sawl sy’n dioddef aros yn hirach mewn priodas dreisgar.

Wrth drafod trais yn y cartref ni chyfeirir yn unig at drais corfforol, wrth gwrs. Cyn yr ergyd gyntaf bydd trais seicolegol yn cynnwys  gwawdio, bychanu ac anwybyddu. Amcangyfrifir fod trais geiriol yn digwydd saith gwaith yn amlach na thrais corfforol.  O ganlyniad mae plant yn tyfu mewn sefyllfa lle mae creulondeb a chariad yn cael eu cymysgu a phan welant un rhiant yn cam-drin y llall maent yn credu fod cam-drin eraill yn ymddygiad derbyniol. Byddant, o bosib,  yn efelychu eu rhieni pan yn oedolion :  naill trwy fod yn greulon neu dderbyn camdriniaeth fel rhan naturiol o briodas. Daw bygythiadau  a chasineb yn ymddygiad naturiol iddynt. Nid yw’n syndod felly fod rhai yn ymddwyn yn gas at eraill mewn cymdeithas ac ar y cyfryngau cymdeithasol  os ydynt wedi profi’r fath ymddygiad yn eu cartrefi.  Canlyniad arall yw bod bechgyn yn credu fod ymddygiad  gwawdlyd neu dreisgar tuag at fenywod yn dderbyniol,

Os nad ydym yn herio trais yn y cartref ni fedrwn obeithio am gymdeithas neu fyd llai treisgar.

Dadleuir fod plant yn gwneud yn well yn byw gyda’u dau riant, ond pan ddaw priodas dreisgar i ben yna gall y plant ddysgu na fwriadwyd  i briodas fod fel perthynas eu rhieni. Gallent anelu a gobeithio am briodas well iddynt eu hunain. Ni ddylem ystyried priodas fel delfryd, ond fel cyfrwng i greu perthynas, gan gydnabod fod y cyfrwng yn methu weithiau, fel unrhyw gyfrwng arall. Er gwaethaf hyn, pan mae’r ddau gymar yn ymdrechu yn ddyddiol i gadw’r addewid “i garu ac ymgeleddu” y naill a’r  llall, mi fydd eu priodas yn parhau yn gadernid ac yn ddiogelwch i blant.

 

E-fwletin 14 Tachwedd 2021

Dewiswch fywyd

Y dyddiau yma teimlaf fy mod wedi fy ngorlethu gydag anghenion cymdeithas a byd – anghenion sy’n pentyrru ym mhob man.  Nifer y teuluoedd sydd angen bwyd yng Nghymru yn tyfu a straeon effaith Cofid ar ein pobl a’n plant yn amlhau.   Yna deddfau ar y gweill  i’w gwneud yn anoddach protestio,  croesawu’r ffoadur, diogelu gwasanaethau iechyd a sicrhau ein hiawnderau.

Yn rhyngwladol mae iawnderau dynol mewn perygl mawr a does dim ond angen enwi Israel/Palestina,  yr Uighurs a Myanmar …  Mae democratiaeth mewn peryg – yn America,  Hwngari, Tsieina, Rwsia …Mae newyn yn cynyddu, ac anghyfiawnder yn amlhau.

Arferwn deimlo fod pethau’n gwella er yn lawer rhy araf .  Ond beth welaf?  Banciau bwyd ymhob tref ym Mhrydain; mwy o gwmnïau yn elwa o afiechyd; ofn dieithriaid o’n cwmpas; tlodi’n  gwaethygu; hil-laddiad yn cynyddu.  A dwi ddim wedi sôn am argyfwng y Cread ei hunan!

Mae bron pob sgwrs y dyddiau yma am yr angen a’r boen.

Nid wyf erioed wedi deall pam roedd angen i Deuteronomiwm ddweud ‘Dewiswch fywyd nid marwolaeth’.  Pwy fyddai yn dewis marwolaeth yn lle bywyd?  Ond sylweddolaf faint o bobl a sefydliadau sy’n gwneud hynny.  Oherwydd fod yna arian i’w wneud wrth ein cyflyru i ofni cymaint, yn ein hofn yr ydym yn ynysu rhag eraill – a dewis marwolaeth.

Yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd teimlad o bopeth yn dod i ben ac argyfyngau lawer yn wynebu’r byd.   Yng Nghymru bu farw tua 40,000 o ddynion ifanc yn y brwydro ac yna, yn fuan wedyn amcangyfrifwyd colli tua 10,000 o Gymry i’r ffliw. Roedd y cyfan yn ofid a gwae.

Ynghanol hyn i gyd trefnwyd Apêl gan wragedd Cymru.  Yn 1924 arwyddodd bron i 400,000 o wragedd Cymru Apêl Heddwch at fenywod yr Unol Daleithiau, yn erfyn arnynt i berswadio eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.  Yn sgil y Rhyfel roeddynt yn ceisio cyfeillgarwch rhwng cenhedloedd er mwyn osgoi rhyfel arall. 

Mae grŵp bychan Heddwch Nain/Mam-gu wedi cydio yn yr hanes hwn a bellach yn rhan o bartneriaeth ehangach i ddathlu a choffau canmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol hwn.

Heddiw, yn sgil pandemig rhyngwladol, fe wynebwn ninnau fygythiadau i heddwch, iechyd a dyfodol ein byd.  Fel gwragedd, rydym yn ddyddiol yn dioddef  effeithiau tlodi, afiechyd, anghyfiawnder, eithrio a thrais.  Mae angen llawer mwy  na choffâd a dathliad ac yr ydym, fel grŵp o ferched  am geisio herio ein hunain ar sut i wireddu breuddwyd gwragedd 1924 am fyd di-ryfel.

Roedd gallu’r gwragedd i gasglu bron i 400,000 llofnod mewn cwta chwe mis, ac mewn oes heb ryngrwyd, ffôn na cheir, yn golygu gweledigaeth a gwaith caled.    Bu cannoedd yn cerdded a chnocio drysau a chafwyd cefnogaeth eglwysi, capeli, grwpiau gwragedd, grwpiau hanes a grwpiau heddwch yn eu plith.  Trefnasant fod y llofnodion yn cael eu hebrwng i’r Amerig  lle cyflwynasant yr Apêl i 300 o fudiadau gwragedd ac i’r Arlywydd Coolidge.

Sbardunwyd fi yn ystod y pandemig gan hanes ein cyn-neiniau.  Mae’r angen yn parhau i ‘ddewis bywyd’ heb wybod yn iawn beth mae hyn yn mynd i’w olygu. Ond y mae’n siŵr o olygu  gobaith er gwaethaf popeth.

Gwahoddwn ni chi i ymuno.  Mae criw ohonom yn fodlon siarad â phobl ac â mudiadau i rannu’r hanes ac i weld yma ffordd y gallwn ddewis bywyd yn y Gymru gyfoes. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â   heddwchnain.mamgu@gmail.com

 

 

E-fwletin 7 Tachwedd, 2021

Hedfan i mewn i’r gwynt

Mae’n siŵr bod yr “Ail Eseia” wedi ymweld â rhyw fferm ar ddiwrnod cneifio, ac wedi rhyfeddu fel y byddai “dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr” (53.7). Mae’r darlun yn hollol gywir ac yn fyw i mi. Ond rwy’n cofio meddwl unwaith na allai’r awdur hwnnw fod wedi cael ei fagu ar fferm, neu ni fuasai wedi dweud “Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troesom bawb i’w ffordd ei hun” (53.6). Petai erioed wedi gorfod trafod y creaduriaid hynny fe fyddai wedi dysgu drwy brofiad chwerw nad crwydro i’w ffordd ei hun a wna dafad, ond mynd ar gyfeiliorn drwy ddilyn rhyw ddafad fentrus o arloesol. Honno fyddai wedi gweld y bwlch bach yn y clawdd ac wedi ffroeni ei ffordd drwodd, a’r lleill i gyd yn dilyn. Felly nid un ddafad golledig a gaech chi ond praidd colledig wedi gadael eu cynefin. Peth anarferol iawn yw dafad golledig.

Yn ystod y Pandemig hwn fe welwyd ambell ddafad od yn mynnu hau celwyddau yn erbyn brechu nes creu amheuaeth ym meddyliau defaid eraill, a’r rheini yn rhy barod i’w dilyn. Cofiwch, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf barch at yr anghydffurfiwr: y meddwl unigolyddol hwnnw sy’n mynnu aredig ei gŵys ei hun. Bellach rwy’n fwy parod i weld nad hwnnw efallai sy’n iawn bob tro. Hwyrach i Donald Trump, o ddifyr goffadwriaeth, faglu i mewn i’r gwirionedd pan gawliodd, mewn araith yn Philadelphia, rhwng “herd immunity” a “herd instinct”. Fe all greddf yr haid, yn ogystal ag imiwnedd yr haid, fod weithiau yn fuddiol iawn.

Y mae gan rai ifanc yn ein teulu ni ddiddordeb mewn seiclo, a pheri i ryw greadur disymud fel fi ddysgu rhywbeth am y gamp. Pan fyddant yn cystadlu mewn tȋm byddant yn trefnu fod pob aelod am ryw hyd yn mynd ar y blaen i dorri drwy rym y gwynt, gan arbed egni gweddill y tȋm. Bydd hynny’n golygu gwell cyfle i’r tȋm cyfan wedyn groesi’r llinell derfyn ar y blaen, ac ennill y ras. Fe welsom o hydref i hydref heidiau o adar yn hedfan gan drefnu eu hunain yn yr un modd, a greddf yr haid yn sicrhau y bydd hyd yn oed y gwannaf yn cyrraedd gwlad yr addewid.

Beth fydd pawb a derbyniodd frechlyn ac a wisgodd fasg yn ei wneud ond cymryd rhan o’r baich er mwyn y tȋm. Beth a wna pob gweithiwr iechyd, a gweithwyr mewn cartrefi gofal, ond cymryd eu tro i gysgodi’r bregus. A dyna bwrpas eglwys: modd i ni oll yn ein tro i hedfan i ddannedd y gwynt er mwyn eraill.

E-fwletin 31 Hydref 2021

Beth yw’r cysylltiad rhwng teisen a thrên a gweledigaeth?
Dewch gyda mi ar daith y meddwl!

’Sgen i ddim i’w dweud wrth Galan Gaeaf. Anwybydder y pantomeim a goleuo cannwyll ddweda’ i.

Ond sawl un ohonom sy’n cofio mynd ar drên bach ysbrydion mewn ffair a chael ofn enbyd? Yn y foment honno, roedd yr arswyd yn real, a’r cryndod ym mêr yr esgyrn yn rhywbeth cyffyrddadwy. Ar hyn o bryd rydym yn teithio drwy gyfnod o ofid. Mae gweld dirywiad yn nifer mynychwyr ein heglwysi yn destun pryder ac mae ceisio dirnad sut mae rhwydweithio cariad Duw, mewn modd byw a ffyddiog, yn daith yr ydym yn ymrafael â hi’n barhaol erbyn hyn. Wyddoch chi mai’r gair ‘gweddi’ oedd y gair mwyaf poblogaidd ar safle chwilio’r we yn ystod mis Mawrth 2020 a bod y nifer oedd yn chwilota ystyr y gair wedi codi dros 50% o fewn mis yn ystod dechrau’r cyfnod clo? Ydy, mae’r angen am Dduw yno o’n cwmpas ac mae’n wirioneddol real.

Clywais rywun yn ddiweddar, oddi fewn i furiau capel, yn dilorni’r syniad o ail-ddechrau cwrdd gweddi. Hawdd fyddai digalonni o glywed ebychiad o’r fath a phenderfynu neidio oddi ar drên ein teithio fel capelwyr. Gallwn fod wedi dyfynnu’r gân ‘The Warning’ sydd, gyda llaw, yn ymdebygu’n agos i’r gân ysbrydol ‘The Gospel Train’, – ‘Behold your station there, Jesus has paid your fare, Let’s all engage in prayer, Be in time!’

Ond mae digon o gecru’n digwydd ymysg ein gilydd fel pobl, fel enwadau, fel cyfranwyr gwefannau cymdeithasol, i lenwi trên i ebargofiant a pwy sydd eisiau bod ar y trên hwnnw? Nid y fi.

Adnabyddir Crewe yn Sir Caer fel tref ddiwydiannol ac mae’r gweithfeydd cynnal-a-chadw trenau yno’n enwog. Ar arfbais y dref yn wreiddiol yr oedd y geiriau ‘Never Behind’, ond penderfyniad cyngor y dref yn y saithdegau oedd ei newid i ‘Always Ahead’ neu ‘Semper Contendo’ fel sydd ar yr arfbais; yn ogystal penderfynwyd ychwanegu’r geiriau ‘Semper Progrediamur’ i arfbais bwrdeistref Crewe & Nantwich sef ‘Always Progress’ neu beth am hyn:  ‘Dewch bois bach! Gadewch inni symud ymlaen!’ Ebychiad arall sydd i’w glywed yn aml.

Dilyn yr hen arfer o ymweld â beddau hynafiaid ar Ddygŵyl Eneidiau, sef yr ail o Dachwedd, wna’r ffilm animeiddiedig ‘Coco’ gan Pixar/Disney; mae’n werth ei gweld, a byddwn yn argymell teuluoedd i eistedd a’i mwynhau gyda’i gilydd. Traddodiad Catholig ydyw yn fwy na dim wrth gwrs, ond mae’n parhau gyda’n cyfeillion Ewropeaidd hyd heddiw.

Dros Glawdd Offa hefyd, ers talwm, byddai Teisennau’r Enaid yn cael eu pobi ar gyfer y cantorion hynny a arferai deithio o gwmpas yr ardal ar Noswyl yr Eneidiau yn cynnig gweddïau am y danteithion. Beth bynnag a gredwch chi ynglŷn ag eneidiau ym mhurdan neu yn y nefoedd, mae modd inni i gyd gofio a rhoi diolch am yr hyn a gyflawnwyd gan ein hynafiaid a’r modd y bu iddynt ymdrechu ymlaen yn wyneb caledi o bob math.

Beth am i ninnau ymroi, wrth i’r clociau symud nôl a’r nosau’n hir, i ymddatod ein heneidiau oddi wrth ddigalondid, i osgoi beirniadu ein gilydd, ond yn hytrach i gyd-weithio, trafod yn ddi-ofn, cyd-weddïo, ac yn bennaf oll i barhau ar y daith.

Ymlaen ar y trên gyfeillion!