Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

e-fwletin 13 Mawrth

Y Penllywydd

Yng nghanol y delweddau erchyll diweddar o ymgais lluoedd milwrol Rwsia i oresgyn Wcrain gwelais lun a oedd yn ymddangos i mi yn wrthbwynt syfrdanol. Llun ydoedd o’r Arlywydd Putin mewn Eglwys Uniongred yng nghwmni uchel-offeiriadaeth yr eglwys honno. Roedden nhw’n dal icon Cristnogol yn eu dwylo mewn modd defodol; a hynny er mwyn i’r gwladweinydd fedru dalu ei wrogaeth gyhoeddus iddo. Delwedd anghydnaws â’i weithredoedd rhyfelgar, gellid dadlau.
 
Mae perthynas gynyddol Putin ag Eglwys Uniongred Rwsia yn hysbys ddigon. Mae’n berthynas sydd wedi ei meithrin a’i hamlygu yn ystod y degawdau diweddar. (Gweler ‘The Mighty and the Almighty’, Ben Ryan (2017)). I’r rhai sy’n gyfarwydd â hanes a diwylliant Rwsia dydy hynny ddim yn syndod. Mae’r eglwys honno wedi bod yn rhan annatod o strwythurau grym a dylanwad yn Rwsia erioed – er iddi gael ei gwthio i’r cyrion yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd. Ers Sgism Fawr 1054 bu perthynas symbiotig rhyngddi a’r drefn wleidyddol yn yr ymerodraethau Moscofaidd a Rwsiaidd. Un o amcanion strategol diweddar Putin fu adfer y berthynas honno a thrwy hynny cyfreithloni ei statws a’i ddylanwad.
 
Gellir olrhain y berthynas anniddig rhwng eglwys a gwladwriaeth yn ôl i ddyddiau Cystennin Fawr, wrth gwrs. Ac nid yn y dwyrain yn unig bu’r berthynas honno’n un amheus. Dros y canrifoedd bu Pabau lu o fewn Eglwys Rhufain hefyd yn cymylu’r dyfroedd ac yn arfer dylanwad gwleidyddol a rhoi grym milwrol ar waith.
 
Codwyd cwestiynau sylfaenol am berthynas yr Eglwys a gwladwriaethau seciwlar yn sgil y Diwygiad Protestannaidd a bu’n thema barhaus yn nhrafodaethau anghydffurfwyr y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd gweithiau Thomas Locke (1632-1704) yn ddylanwad radicalaidd ac fe ymgorfforwyd ymraniad eglwys a gwladwriaeth yng nghyfansoddiad Unol Daleithiau’r America yn 1788 dan ddylanwad Thomas Jefferson (1743-1826) ac eraill. Creu ‘mur o wahanrwydd’ yw’r union eiriad.
 
Nid oes gennym eglwys wladol yng Nghymru ers canrif bellach. Ond nid yw hynny wedi golygu ein bod yn medru osgoi wynebu’r tensiwn parhaus rhwng bod yn ddinasyddion teyrngar ar yr unllaw a gwasanaethu Crist ar y llall. Mae geiriau cân Tecwyn Ifan a heriodd safbwynt Archesgob Runcie yn ystod Rhyfel y Malvinas yn dal i atsain yn fy nghof.
 
Wrth fyfyrio ar lun Putin a’r offeiriaid daeth hanes Paul a Silas yn Thesalonica i’r meddwl (Actau 17:1-9). Roedd eu pregethu a’u cenhadu wedi creu cynnwrf a therfysg yn y lle a bu’n rhaid i Jason a chredinwyr eraill ateb gerbron awdurdodau’r ddinas. A’r cyhuddiad? “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd…y mae’r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud bod brenin arall, sef Iesu”.
 
Doedd dim yn sefydliadol am yr Eglwys Fore ac mae breichiau trugaredd Crist yn parhau i ymestyn dros ffiniau a muriau dynol. Mae pob tystiolaeth fod y breichiau cariadus hynny ar waith heddiw yn Wcrain – breichiau sy’n estyn cydymdeimlad, cymod, heddwch a chyfiawnder i’r dioddefus. Mae’r breichiau hynny’n creu gwyrthiau’n ddyddiol – gwyrthiau a fydd ymhen amser yn drech nag unrhyw gyfundrefn, yn drech nag unrhyw ystryw a chyfleustra gwleidyddol, yn drech nag unrhyw deyrn.
 
Fel y gwyddai Paul a Silas – Crist yw’r Penllywydd.
 
 
Tangnefedd
Cristnogaeth 21

efwletin 6 Mawrth 2020

Dringo

Pan ddaw’r bychan o hyd i’w draed ni fydd yn hir cyn ceisio dringo i ben cadair neu soffa. Mae’r ymdrech yn fawr ac yn ddi-ildio. Hwyrach y rhy gipolwg ar riant i ddangos beth mae’n ceisio ei gyflawni. Dylid rhoi anogaeth ond nid cymorth.
 
Gwerthfawroga cael ei gymell. Bydd yn chwennych cymeradwyaeth. Bydd ei falchder ar ôl llwyddo yn pefrio. Fe gyflawna’r dasg dro ar ôl tro gan ei gwneud yn rhwyddach bob tro. Bydd wedi cychwyn ar daith bywyd ar ei liwt ei hun ond gydag anogaeth o hirbell.
 
Yn nyddiau glaslencyndod yn y cyfnod cyn-gyfrifiadurol byddai yna goed i’w dringo. Byddai’n gyfnod o ddechrau dyrchafu golygon. Roedd greddf unwaith eto’n arwain yr ymdrechion. Rhaid oedi i bwyso a mesur pa gangen y gellir ymestyn ati nesa yn bwyllog a pha mor uchel y gellir mentro cyn i’r elfen o berygl brofi’n drech.
 
Rhaid eu dringo am eu bod yno i’w dringo. Dysgir sut i gwympo hefyd wrth golli troed, llithro a disgyn i’r ddaear yn ddiseremoni garlibwns. Bydd ambell un yn fwy mentrus na’i gilydd.
 
Gellir addasu’r delweddau uchod o ddringo i faes gyrfaoedd yn ddiweddarach. Mater o ddringo ac ymestyn yw hi er mwyn cyflawni. Ni thâl aros yn llonydd. Ond cyflawni er mwyn pwy? Er mwyn ein hunain neu er mwyn eraill?
 
Dringodd Moses i ben Mynydd Sinai pan oedd yn 80 oed i roi trefn ar y Deg Gorchymyn. O gyrraedd y copaon medrai edrych i lawr i’r gwaelodion a gweld anghenion ei bobl. Lluniodd gyfres o reolau cyfreithiol ar gyfer ei bobl fel cenedl etholedig.
 
Dringodd Iesu i ben Mynydd yr Olewydd yn ei ugeiniau hwyr i roi trefn ar y Gwynfydau. O gyrraedd y copaon medrai edrych i lawr i’r gwaelodion a gweld anghenion ei bobl. Lluniodd gyfres o reolau moesol ar gyfer pobloedd yr holl fyd.
 
Diau fod Moses yn yr Aifft wrth roi’r gorau i gripian wedi straffaglu i ben rhyw ddodrefnyn. A’r un modd Iesu yng ngweithdy’r saer yn Nasareth. Diau fod y naill wedi dringo ambell balmwydden a’r llall ambell olewydden yn eu llencyndod. Fe fydden nhw’n ymestyn eu cyhyrau corfforol.
 
Yn ddiweddarach fe fydden nhw’n ymestyn eu cyhyrau ymenyddol gyda’r un dyfalbarhad ac ymroddiad.
 
Mae’n rhaid i ninnau, wedi dysgu dringo’n gorfforol, ddysgu dringo’n ysbrydol. Wedi cyrraedd y brig rhaid edrych i lawr i weld anghenion y rhai sydd oddi tanom a cheisio eu diwallu.
 
Mae yna laweroedd sydd mewn grym ac mewn swyddi o ddylanwad heb lwyddo i wneud hynny. Maent yn ennyn dirmyg a sen y rhai sydd oddi tanyn nhw. Rhaid i selebs, unbeniaid a gormeswyr ddringo’n uwch os am gyflawni’r hyn sy’n uwch na’r cyffredin.
 
Mae yna eraill sydd wedi dringo’n dalog i gopa’r mynydd ac wedi gweld yn eglur beth yw anghenion pobloedd obry. Maent yn ennyn parch ac edmygedd y rhai sydd oddi tanyn nhw.
Glynwn ninnau at y gwerthoedd a gyflwynir ganddyn nhw a cheisio ymuno â nhw ar y copa. Dyrchafwn ein llygaid i’r mynyddoedd . . .

Pob bendith
Cristnogaeth 21

e-fwletin 27 Chwefror 2022

Annwyl gyfeillion,

Ar ddechrau’r Grawys, ar drothwy Gŵyl Ddewi ac anhrefn a dychryn yn Wcrain, mae cwestiynau mawr i’w gofyn.

Cwestiynu

Euthum ar goll unwaith yn anialwch Sinai. Fel hyn y bu.

Yr oedd criw ohonom yn gwersylla mewn hen gamp a oedd ar un adeg yn perthyn i fyddin Israel adeg rhyfel 1967. Nid oeddem ymhell o fynachlog hynafol Sant Catherine wrth odre’r hyn a dybir yw mynydd Sinai. Un pnawn crwydrais ar fy mhen fy hun i’r anialwch. Gwyddwn nad oeddwn ymhell o’r gwersyll, neu felly y tybiwn. A synau annelwig yn fy nghyrraedd o bellterau, fel sy’n digwydd mewn anialwch. Ond, yn sydyn, newidiodd y goleuni ac roeddwn mewn lle gwahanol hollol. Yr oedd y creigiau wedi newid eu siapiau, y tywod yn lliwiau gwahanol, cysgodion yn dangos dyffrynnoedd nad oeddent yna o’r blaen. Ni wyddwn ymhle yr oeddwn. Yn waeth na hynny, dechreuais amau pwy oeddwn. Mi gredaf mai hanner awr barodd hyn, ond teimlai fel diwrnod cyfan o haearn. Newidiodd y goleuni yn ôl i roddi i mi ddigon o wybodaeth fel y medrwn gyrraedd y gwersyll.

Byth ers hynny yr wyf wedi dirnad yr hyn a elwir gennym yn demtasiynau’r Iesu yn y diffeithwch ag ofnadwyaeth fawr.

Digwyddodd rhywbeth erchyll iddo. Rhy rwydd o lawer deuwn at storiau’r ysgrythurau ag ysgafnder. Roedd fy mhrofiad byr i’n ddigon i  roi gwybod i mi y byddwn mewn anialwch yn gweld a chyfarfod diafoliaid, y byddwn toc yn bwyta cerrig oherwydd fy mod yn sicr mai torthau oeddynt. Y medrwn ddringo i ben craig a hedfan i lawr yn ddianaf. Daeth Iesu ar draws yr elfennol ynddo ef ei hun.

Yr elfennol sy’n dod ar ein traws mewn momentau o greisis ac yn cwestiynu ein holl fywyd.

Ar raddfa lai, dyna yw tymor y Grawys: cyfle i gwestiynu’n weddol ddiogel yng nghwmni ein gilydd, gyd-bererinion fel ag yr ydym, seiliau a thrywydd ein bywydau. Beth yw fy nghymhellion? Pan newidia’r goleuni cyfarwydd, beth sydd yna sy’n cyfrif ac yn parhau?

Ein cofion atoch.

 

www.cristnogaeth21.cymru

e-fwletin 20 Chwefror 2022

e-fwletin 20ed  Chwefror,2022.

Annwyl gyfeillion,

Gyda’n gilydd

Yn ystod cyfnod Cofid gwelsom sawl oedfa ar y teledu. Maent i gyd wedi bod yn ystyrlon ac yn gymorth mewn amser anodd ond buont yn anodd i’w gwylio gan eu bod mor wahanol i ddarpariaeth arferol y teledu. Yn lle pobl yn sgwrsio, gyda’r camera yn neidio o un wyneb i’r llall, neu lluniau yn symud yn barhaol, buont yn sioe un dyn/ddynes. Ceisiodd ambell bregethwr amrywio’r drefn trwy ofyn i rhywun arall ddarllen, sefyll o flaen baneri, neu osod gwrthrych i dynnu sylw’r camera, ond rhywsut nid oedd yr oedfaon yn esmwyth  ar y bocs. Datblygodd y “frechdan emynau” Anghydffurfiol mewn oes wahanol iawn ac nid yw’n addas mewn oes ble mae cyfathrebu yn weledol  a thrwy  bytiau bychain.

Efallai bod yr ateb yn amlwg. Mae oedfaon Anglicanaidd yn gasgliad o ddarnau byrion a’r adeiladau yn fwy lliwgar, ond maent wedi caethiwo i ddilyn un llyfr (neu fersiynau ohono) – trefniant oedd yn ddealladwy bum’ canrif yn ôl pan oedd llawer llai o bobl yn medru darllen a phan nad oedd ddulliau cyfoes o gopïo deunydd ar gael. Ond nid ydynt yn caniatau amrywiaethau mewn addoliad i ymateb i sefyllfaoedd sy’n newid yn sydyn, neu i gwrdd ag anghenion lleol. Mae darlleniadau Ysgrythurol a ddewiswyd yn ganolog ar gyfer un Sul penodol, yn anaddas pan mae pregethwyr yn paratoi un oedfa a ddefnyddir, efallai, sawl gwaith ar Suliau gwahanol.

Pam mae cydweithio mor anodd? Mae yna wahaniaethau diwinyddol ond nid ydynt yn ddigon i rwystro cynulleidfaoedd rhag cydaddoli.  Y prif anhawster i gydweithio rhwng Anghydffurfwyr ac Anglicaniaid Cymraeg yw’r diffyg cyfleon i gydaddoli. Mae oedfaon Anglicanaidd (gydag eithriadau prin) yn Saesneg (efo pwt o Gymraeg).  Os oedd hyn yn dderbyniol yn Oes Fictoria, nid yw’n dderbyniol heddiw. Mae anghenion y Cymry Cymraeg yn ymylol, os ystyrir hwy o gwbl. Mae Cytûn yn dilyn yr un drefn. Trefnir yn y Saesneg, gan gyfieithu weithiau i’r Gymraeg. Os cynhelir oedfa ddwyieithog (hanner Cymraeg a hanner Saesneg) mae cwynion fod gormod o Gymraeg yn amharu ar yr awyrgylch.  Defnyddir y ddadl fod “ffydd yn bwysicach na iaith” i orfodi’r Cymry i gydymffurfio gyda thueddiadau ymerodraethol  yr iaith Saesneg. Prin yw’r cyfleon i Anghydffurfwyr ac Anglicaniaid Cymraeg gydaddoli yn eu iaith eu hunain. Prinnach yw’r cyfleon cyfarfod a thrafod. Ar lefel leol mae bron yn amhosibl trefnu ar y cyd.

Fe fydd nifer yn anghytuno efo rhai o’r sylwadau uchod ond mae’r nifer o Gristnogion sy’n addoli yn rheolaidd wedi gostwng i’r fath raddau  nes peri ei bod hi’n anodd, mewn rhai ardaloedd, i drefnu unrhyw fath o dystiolaeth (heb sôn am genhadaeth) Cristnogol Cymraeg. Mae mwy o eglwysi  yn gorfod ceisio addoli heb arweinyddion profiadol neu  gyflogedig ( neu wedi ymddeol) a phobl lleyg yn ceisio llenwi’r bylchau a sicrhau bod rhyw fath o gyfarfodydd Cristnogol Cymraeg yn digwydd yn eu tref neu eu bro.Mae angen datblygu deunydd a threfnu addoliad sy’n berthnasol yn cael cefnogaeth a chymorth C21, ac yn addas i’n  gwlad ac yn ein hiaith. A yw’n bosibl gwneud hyn heb gyd addoli?

Gyda’n cofion cynnes atoch a diolch am eich cefnogaeth.

www.cristnogaeth21.cymru

 

e-fwletin 13 Chwefror 2022

e-fwletin Chwefror 13,2022

Maddeuant

Mae maddau yn anodd. Mae maddau ac anghofio yn anoddach fyth, os yw’n bosibl o gwbwl. Mae peidio dal dig yn erbyn rhywun yn anodd iawn, os mai’r ‘llall’ ddechreuodd yr anghytundeb!  Mae cydnabod fy mod i wedi brifo rhywun yn medru bod yn sialens go iawn hefyd ac mae gofyn am faddeuant hyd yn oed yn anos. Ac os ydy rhywun wedi fy mrifo i yna mae derbyn maddeuant a symud ymlaen yn gallu bod yn waith caled. Rydan ni i gyd wedi cael y profiadau hyn rydw i yn siwr.

Mae marwolaeth un o fy arwyr mawr, y diweddar Archesgob Desmond Tutu, wedi gwneud i mi feddwl  eto am faddeuant.  Rydw i wrthi yn darllen ei lyfr, No Future Without Forgiveness. ‘Roedd ganddo fo, a phob person du yn Ne Affrig  brofiad personol a chreulon o anghyfiawnder cymdeithasol, gwleidyddol a phersonol.  Sylweddolodd pa mor bwysig oedd maddeuant er mwyn i’r wlad ac unigolion, symud ymlaen.  ‘Roedd gwaith radical y Truth and Reconciliation Commission (TRC) yn bwerus ac mae yn rhoi sialens i ni i gyd.

Wrth ddarllen llyfr Tutu rydw i wedi pendroni tipyn am ei ddealltwriaeth o faddeuant, o safbwynt y person sy’n gofyn am faddeuant , a’r un sydd yn cynnig maddeuant. Roedd y TRC yn rhoi cyfle i’r gormeswyr gyfaddef eu troseddau erchyll yn onest ac yn gyhoeddus ac fe gawsant y cyfle i ofyn am faddeuant.  Cafodd y dioddefwyr y cyfle i adrodd eu hanes, eu poen a’u dioddefaint nid er mwyn cosbi ond er mwyn rhoi cyfle i’r gormeswr gydnabod eu rhan yn y boen. Ac fe gawsant y cyfle i faddau, a thrwy hynny ysgafnhau baich beunyddiol y ddwy ochr. Sylfaen gwaith y TRC oedd fod maddeuant yn broses ddwy ochrog – cynnig maddeuant, a derbyn cyfrifoldeb a thrwy hynny derbyn maddeuant. 

Neithiwr ‘r oeddwn yn ein grwp wythnosol yn y capel ond ar zoom ac yr oedd 6 o’r grwp yn ddu a 6 yn wyn. Roeddem yn trafod maddeuant. Mewn llais tawel fe ddwedodd un o’r gwragedd du oedd yno  ‘Dwi yn teimlo mor flin ac wedi cael digon, mae pob aelod o fy nheulu wedi cael profiadau hiliol, poenus, wedi cael eu targedu am eu bod yn ddu…does dim diwrnod yn mynd heibio heb i mi deimlo rhyw faint o ofn  … a dwi ddim yn meddwl y galla i faddau’.

Tybed sut ddylwn i fod wedi ymateb? Cytuno nad oedd rhaid iddi faddau a gadael iddi gario’r baich am byth? Dweud na wnes i ddim i’w brifo, ac rydw i yn wyn? Son sut mae gwragedd yn cael eu cam drin yn aml?  Dweud wrthi y bydd yn teimlo yn well os wnaiff hi faddau? Ydi hi am adael i’r gormeswyr ddiffinio pwy ydi hi? Neu a ddylem ni, y bobl wyn yn y grwp fod wedi cydnabod ein bod yn rhan o’r broblem?

I mi mae yna gymhariaethau rhwng ein hanes ni fel Cymry a hanes pobl ddu yn Ne Affrig. Sut ydan ni Gymry yn ymateb i’n hanes hwnnw?

Gyda’n cofion ac ymddiheuriadau am liw coch yr e-fwletin Chwefror 6ed.

 

www.cristnogaeth21.cymru.

e-fwletin 6 Chwefror 2022

E-fwletin Chwefror 6,2022

Annwyl gyfeillion,

‘Ffordd arall bellach …’ 

Ar ddiwedd Oedfa’r Bore Radio Cymru yn yr Wythnos Weddi am Undod Gristnogol (Ionawr 23ain), meddai Dr Hefin Jones: ‘Buom yn teithio ar lwybrau cyfochrog ac yn aml i gyfeiriad gwahanol … ond bellach, mae ffordd arall yn ein galw i gynllunio gyda’n gilydd, i ddilyn yr un cwmpawd a chynllunio’r ffordd efo’n gilydd … mae ffordd arall, bellach, yn ein galw.’ 

Ar yr un Sul ymddangosodd e-fwletin Cristnogaeth 21 a oedd yn cynnwys y geiriau: ’arloeswyr mentrus ac anturus oeddynt (ein hynafiaid enwadol/Cristnogol) yn torri tir newydd yn gyson, a hynny’n ddiamau ar sail eu ffydd ddiysgog yn Iesu … i docio er mwyn tyfu … ac i ildio er mwyn cael … Eilbeth i Iesu oedd popeth arall yn eu golwg, boed gapel neu gredo, dehongliad ysgrythurol neu bwnc o athrawiaeth, strwythur eglwysig neu gyfundrefn enwadol … nid pennaf dasg yr eglwys yw gwarchod ei hun a hynny yn ddieithriad ar draul esgeuluso’i galwad i ddilyn Crist yn y gwaith o achub y byd.’

Os nad ydych yn rhan o’r traddodiad anghydffurfiol Cymraeg (y mae cymaint wedi cyhoeddi ei angladd ers blynyddoedd), fe fydd yr e-fwletin hwn yn amherthnasol i chi.

Ar wahan i ambell blismon Beiblaidd, fe fyddai’r mwyafrif yn cytuno â’r ddau ddyfyniad ac yn cytuno hefyd nad yw enwad yn ganolog i’r dystiolaeth  Gristnogol. Ond mae cytundeb hefyd ar rywbeth sydd yn fwy radical Feiblaidd ei oblygiadau hyd yn oed , sef nad eiddo’r enwadau na’u haelodau yw’r eglwys, ond eiddo Duw. Mae hynny’n cynnwys yr hanes a’r traddodiad, capeli mawr neu festri fach, Canolfan Trefeca neu swyddfa enwadol yn Abertawe neu Gaerfyrddin, buddsoddiadau enwadol neu gyfrif banc yr eglwys dlotaf. A does dim yn hanesyddol nac yn gyfreithiol all newid y ffaith sylfaenol hon. Ei chredu a’i gweithredu yw’r her a’r alwad erbyn hyn oherwydd ‘y mae ffordd arall bellach yn ein galw’.

Ymddiriedolwyr a gofalwyr sydd gan Dduw ar ei eglwys er mwyn idynt gyflawni a gofalu bod yr eglwys/enwadau yn ffyddlon i’w galwad, sef cyflwyno a rhannu’r Efengyl yng Nghymru – i unigolion a theuluoedd, i gymunedau ac i genedl a’i  hanes, ei diwylliant a‘i dyfodol.

Mae’n anodd credu nad oes gan enwadau Anghydffurfiol Cymru raglen genhadol, greadigol i’w galluogi i ddatblygu gyda’i gilydd ar gyfer y 10–15 mlynedd nesaf. Ond does dim. Mae enghreifftiau o gydweithio ers blynyddoedd. Ond does dim cydgynllunio. Mae cynllunio cydenwadol yn golygu, wrth gwrs, nad yr un fyddai’r rhaglen i gefn gwlad Ceredigion, Cwm Rhondda neu Gaerdydd. Ond yr un fyddai’r cydgynllunio.

Ai methiant ein harweinwyr ar bob lefel enwadol yw peidio eistedd gyda’i gilydd i gynllunio a gweddio er mwyn ymateb i’r hyn y mae Duw yn ei ddisgwyl gennym, neu fethiant aelodau’r capeli? Methiant i roi Duw a’i eglwys yn gyntaf, a dyfodol y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru yn ail. Ac mae’r ail yn tarddu o’r cyntaf.  

A dyna ni yn ôl gyda’r dyfyniadau ar y dechrau. Darllenwch nhw eto, a’u hanfon at ddiaconiaid /blaenoriaid eich eglwys ac i’r swyddogion enwadol. A hynny i’w hatgoffa beth y mae Duw, siwr o fod, yn ei ddisgwyl gennym erbyn hyn yn y Gymru Gymraeg?

Cofion.

www.cristnogaeth21.cymru

 

 

 

E-fwletin 30 Ionawr, 2022

O gofio bod Tymor y Grawys eleni yn dechrau ddydd Mercher, 2 Mawrth mae gennym ychydig dros fis i ystyried a fyddwn am wneud unrhyw beth arbennig i nodi’r cyfnod arbennig hwn ac i fanteisio ar gyfle i ddyfnhau neu i adfywio ein perthynas â Duw. Rhai o’r arferion mwyaf cyffredin yw ymprydio, rhoi’r gorau i bethau melys, gwirfoddoli ar gyfer gwaith dyngarol neu gyfrannu at achosion da. Ond mae CAFOD yn annog pobl i godi arian ar gyfer yr elusen trwy ‘Gerdded yn erbyn Newyn’ dros gyfnod y Grawys, naill ai fel unigolion neu fel aelodau o dîm.

Dewis arall yw darllen deunydd defosiynol neu ymuno â grŵp sydd yn cynnal astudiaeth a thrafodaeth.  Ond beth am yr adnoddau sydd ar gael? Prin iawn yw’r rhai a luniwyd yn y Gymraeg ond mae’n ddigon posib y bydd mwy yn cael eu cyhoeddi wrth inni agosáu at fis Mawrth. Ar hyn o bryd, a hyd y gwn i, dau adnodd yn unig sydd ar gael, sef y deunydd a geir yn y cyhoeddiad ‘Gair y Dydd’ a’r astudiaethau a gomisiynwyd gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon

Mae myfyrdodau ‘Gair y Dydd’ yn ein harwain ar hyd thema oesol a chlasurol y Grawys, sef taith drwy’r anialwch gyda’r Iesu ac mae yna wahoddiad i wthio ein hunain ar daith syml ac anodd ond un sydd yn y pen draw yn medru ein hadnewyddu. Yn ôl yr awdur dyma pryd y daw ein gwir gymeriad i’r amlwg lle nad oes gwaith, rôl neu statws i guddio tu ôl iddo.

Mae adnoddau Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon eisoes ar gael ar y we yn Saesneg gydag addewid o gyfieithiad Cymraeg erbyn diwedd Ionawr. Mae’r thema yn gyfoes: Dilyn Crist yng Nghamre’r Saint a chanolbwyntir yn benodol ar hanes Santes Gwenffrewi, Treffynnon. Buan y gwelwn fod sawl agwedd ar ei bywyd yn syndod o berthnasol i ni heddiw.

Fel rhan o ‘Flwyddyn Bywyd y Disgybl’ mae Esgobaeth Tyddewi eisoes wedi cynllunio rhaglen ar gyfer y Grawys sydd yn cynnwys astudiaethau (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) ar ddisgyblaethau bywyd y disgybl, er enghraifft, myfyrdod ac unigrwydd, gweddi ac ymprydio.

O droi at gyhoeddiadau uniaith Saesneg, mae sawl adnodd ar gael. Un ohonynt yw ‘Sacred Space Lent 2022’ gan yr Irish Province of the Society of Jesus. Sefydlwyd gwefan ganddynt, ‘Sacred Space’, nôl yn 1999 er mwyn darparu myfyrdodau beunyddiol. Yn y gyfrol ar gyfer y Grawys ceir cyfraniadau gan amrywiol awduron ar gychwyn pob wythnos ac yna amlinellir patrwm o weddi a chyfle i fyfyrio ar eiriau o’r Ysgrythur ar ffurf sgwrs gyda’r Iesu.  

Cyfrol arall yw ‘Hope and the Nearness of God’ gan Teresa White. Fel yr awgryma’r teitl mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar y gobaith hwnnw sydd yn ein hannog ymlaen ar daith ffydd. Ceir penodau difyr sy’n archwilio Gobaith a Dewrder, Dirnad Gobaith, Pontydd Gobaith a’r Ysbryd Glân fel Ffynhonnell Gobaith.

Mae’n siŵr y daw mwy o adnoddau i’r golwg cyn mis Mawrth ond gobeithio y bydd y sylwadau uchod yn rhoi rhywfaint o flas o’r deunydd darllen a myfyrio sydd ar gael ar gyfer Tymor y Grawys eleni Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon ac y cawn gyfle i droedio tir cysegredig dioddefaint Crist yn feddylgar a ddidwyll.

E-fwletin 23 Ionawr 2022

“After my father died, my sister and brother and I decided to sell the old house, the one we grew up in. It was hard to do, but in a way, it would have been harder to keep on. Empty most of the time, just a holiday home, accumulating dust and cobwebs and melancholy.”  The Kashmir Shawl; Rosie Thomas.

Yn wahanol iawn i’r teulu uchod, araf iawn a chyndyn fu’r teulu Cristnogol ers tro i ollwng gafael ar yr eiddo a etifeddwyd ganddo, ac y mae’r ffaith mai ystâd a chyflwr eu hadeiladau sy’n gwasgu fwyaf ar yr eglwysi, bellach, ac yn creu’r diflastod pennaf iddynt,  yn bradychu eu methiant truenus i gofleidio’r ddoethineb a welir ym meddylfryd y teulu uchod, sydd hefyd, wrth gwrs, yn ymddangos yn llinyn reit amlwg a chanolog wir, yng ngwead bywyd a dysgeidiaeth Iesu.  

Ymddengys mai peth cymharol ddiweddar yn ein hanes yw’r methiant hwn, un na wyddai’n hynafiaid fawr ddim amdano, oherwydd gwelir yn glir yn y dogfennau a luniwyd ganddynt wrth sefydlu eglwysi a chodi capeli wedyn, iddynt ddarparu cyfarwyddyd, manwl iawn ar adegau, ynghylch dwyn yr achosion hyn i ben. Yr oedd y posibilrwydd hwnnw’n beth real iawn iddynt ac yn ôl pob tystiolaeth, yn rhywbeth nad ofnent. Yn wir, byddai’n briodol gofyn, i ba raddau yr oedd hyn yn ddisgwyliedig, os nad yn beth i’w groesawu ganddynt?  

Cofiwn mai arloeswyr mentrus ac anturus oeddent, yn torri tir newydd yn gyson a hynny’n ddi-amau ar sail eu ffydd ddi-ysgog yn Iesu, a ddysgodd iddynt yr angen i farw er mwyn byw, i golli er mwyn ennill, i docio er mwyn tyfu, i roi er mwyn derbyn ac i ildio er mwyn cael. Eilbeth i Iesu, (â hynny o bell ffordd hefyd,) a chwbl wasnaethgar iddo oedd popeth arall yn eu golwg, boed gapel neu gredo, ddehongliad Ysgrythurol neu bwnc o athrawiaeth, strwythur eglwysig neu gyfundrefn enwadol. Pethau y byddai’r eglwys fyw ac effro i alwad Duw, yn eu gweld fel adnoddau gwerthfawr, naill ai, i gydio ynddynt a’u mabwysiadu neu lyffetheiriau i’w datod a’u gollwng, ar gyfrif eu amherthnasedd i’w gwaith a’i chenhadaeth.  

Bu’n aeaf di-ollwng ar ein heglwysi ymhell cyn dyddiau’r pandemig a gwyddom, ond yn rhy dda, am effeithiau dinistriol yr hirlwm arnom fel Cristnogion, heb sôn ei wasgfa ar fywyd y byd, yn gyffredinol. Does dim angen cloddio’n ddwfn y diwrnodau hyn, i ganfod stori neu newydd i’n tristáu a’n diflasu’n lân.  Eto, er garwed y gaeaf, ofer synied amdano’n nhermau’r dinistriol, yn unig.

Un o arwyddion gobeithiol y cyfnod diweddar yw gweld nifer cynyddol o eglwysi’n ymwrthod â’r dybiaeth honno fu mor gyffredin yn ein plith dros gyfnod rhy hir o lawer, sef mai pennaf dasg yr eglwys yw gwarchod ei hunan a hynny’n ddieithriad ar draul esgeuluso’i galwad i ddilyn Crist yn y gwaith o achub y byd. Lloches llwch a chartref corrynod fuont ers tro a magwrfa ddiogel i ddiflastod.

 

E-fwletin 16 Ionawr, 2022

                                                     CHWEDL

                            Y PRINS, Y PRIF A’R PENCAMPWR

Dychmygol yw’r cymeriadau. Damweiniol yw unrhyw debygrwydd i sefyllfa gyfoes.  

(Seiliedig ar Luc 18:25 “y mae’n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i’r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw”).

Cytunodd y tri ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n gefn i’w gilydd yn wyneb bygythiadau i’w henw da. Wedi’r cyfan roedd sawl ‘sefydliad’ yn simsanu a sawl teulu yn rhagweld trafferthion ar y gorwel. “Mae’n siŵr dy fod ti’n chwysu wrth feddwl am beth allai ddigwydd”, meddai Prif wrth Prins. “Ddim o gwbl!” oedd yr ateb annisgwyl. “Ti’n gweld, fedra i ddim chwysu.” “Anlwcus wyt ti,” meddai Pencampwr, “fod yr helynt yma wedi dod i’w benllanw ar flwyddyn go sbesial i Mama. “Sbesial ?” Edrychodd Prins arno’n ddryslyd. “Be’ sy’n sbesial am leni? Rhaid cyfadde’ …” Torrodd Prif ar ei draws “Paid cyfaddef i ddim. Dyna’r peth ola’ ddylet ti ei wneud. Dweda gelwydd. Mae’n ddigon hawdd”.

“Mynd i ddweud oeddwn i”, aeth Prins rhagddo, “nad yw ngho’ i cystal ag y bu pan oeddwn i’n iau”. “Dwi’n cydymdeimlo’n fawr,” meddai Pencampwr. “Mae twyll mewn côf. Ac wedi’r cyfan gan dy fod ti’n dod o gefndir mor freintiedig fyddai celwydd gwyn yn ddim byd ond ‘lying in state’ fel dywed y Sais.” Chwerthodd y tri yn aflywodraethus.

Prif oedd y cynta’ i sobri. “Paid a’m hatgoffa i,” meddai’n floesg o gofio i rhywbeth anfaddeuol ddigwydd dan ei gronglwyd pan oedd cymeriad arall o deulu Prins yn gorwedd mewn hedd a’i gorff i’w gladdu trannoeth. “Fe sgrifenna i air o ymddiheuriad,” meddai. “Does dim raid i’r ymddiheuriad fod yn ddidwyll. Fe fydd rhyw ffug-ymddiheuriad yn ddigon r argyhoeddi’r hen werin gyffredin ffraeth.” Cytunodd y tri y byddai hynny’n ddigonol.

“Yr unig ddrwg efo dweud celwydd,” meddai Prins yn athronyddol, “yw fod yn rhaid cofio pa gelwydd a ddywedwyd.” “O ie! Y llun ‘na ohonoch chi’ch dau …” “Sgen i ddim co’ mod i yno o gwbwl. Dwi’n dweud wrthych chi fechgyn, mae twyll mewn côf”. “Ar ôl dy bres di mae hi.” “Sori …” “Ti ‘di wneud o eto; ymddiheuro.” “Na, na. Cam- glywed wnes i. Ddylies i dy fod ti wedi dweud mai ar ôl fy mrêns i oedd hi.” Dyna’r peth ola’ roedd hi’n ei chwennych.

“Ti sy’n dod allan ohoni orau,” meddai Prif wrth y Pencampwr. “Mae un Barnwr wedi dyfarnu o dy blaid ti.” “Wel, rhyw fistêc bach oedd o. Ticio’r bocs anghywir. Ac nid fi wnaeth y mistêc. Un o’r gweision cyflog oedd ar fai. Fedrwch chi ddim cael y staff y dyddie yma.” “Ond ydio’n pigo dy gydwybod di …” “Paid â sôn am bigiadau a brechiadau. Ar egwyddor dwi ddim yn credu yn y nonsens gwyddoniaeth iechyd ‘ma.” “Egwyddor !” meddai Prif. “Ry’ ni ar dir peryglus iawn yn sôn am egwyddor. Ddweda i wrthych chi be’ wna i hogia bach. Ddaw neb i wybod. Fe drefna i barti yn yr ardd gefn acw; codi gwydryn i ddweud ‘Iechyd da!”

Ac felly bu.

E-fwletin Ionawr 9fed, 2022

Yr Anwylyd

Yn ôl y calendr eglwysig heddiw yw Sul coffau Bedydd Iesu Grist. Fel mae’n digwydd, mae gen i oedfa fedydd wedi ei threfnu ar gyfer heddiw. 

Mae bedydd, fel troad y flwyddyn, yn adeg o ddechrau newydd, ac hefyd i wneud addunedau. Ac mewn oedfa fedydd fe’n hanogir i gofio ac ail-ymrwymo i’r addunedau a wnaethom naill ai adeg ein bedydd ni’n hunain neu wrth gael ein derbyn yn aelodau mewn eglwys.

Yn ôl efengyl Luc roedd Ioan Fedyddiwr yn ‘cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau’. Doi pobl allan ato i’r anialwch i wrando arno ac i gael eu bedyddio ganddo. Yn Luc 3. 21-22, un o’r darlleniadau swyddogol ar gyfer heddiw, cawn hanes yr olaf o’r rhain, sef Iesu, mab i saer o Nasareth.

Mae Luc yn dweud wrthym ar ôl i Iesu gael ei fedyddio ‘agorwyd y nefoedd a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno .. a daeth llais o’r nef: “Ti yw fy Mab, yr anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”’ Byddai rhai wedi holi efallai beth oedd i gyfrif am y fath anrhydedd. Nid yw Iesu wedi dechrau ar ein weinidogaeth hyd yma, ac eto mae Duw yn ei garu, mae’n ymhyfrydu ynddo fel ei anwylyd.

Yr ydym ninnau wedi ein creu ar lun a delw Duw, ac fel Iesu Grist, ry’ ni’n aelodau o’r teulu dynol, yn blant i Dduw, yn rhai y mae Duw yn ein caru. Fe fyddwn ni weithiau yn ceisio ennill ffafr a chariad Duw, efallai trwy wneud addunedau ar ddechrau blwyddyn i weddïo’n amlach neu ddarllen y Beibl yn fwy mynych, Ond tra bo hynny’n mynd i fod yn help i’n bywyd defosiynol bydd Duw yn dal i’n caru ni ac yn ymhyfrydu ynom. Dyna yw rhyfeddod cariad Duw tuag atom.

Mae’n anodd dirnad y fath gariad di-amod, yn enwedig pan fod ein cariad ni at eraill mor ynghlwm wrth amodau! Ond fe fyddai’n llesol i ni yn ysbrydol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol petae ni’n gwneud ymdrech eleni i gofio bod Duw yn ei gariad yn ymhyfrydu ynom. Nid oes dim ry’ ni wedi ei wneud na’i ddweud yn y flwyddyn a aeth heibio, na dim a wnawn nac a ddywedwn yn y flwyddyn newydd yma yn mynd i newid dim ar hynny.

Gadewch i ni felly ddiolch i Dduw am iddo ein caru, ac am iddo ymhyfrydu ynom. Boed i ni gael y nerth i fyw ein bywydau yng ngwres y cariad hwnnw, ac ymdrechu i’w rannu gydag eraill ar ein taith drwy’r flwyddyn.