E-fwletin 23 Ionawr 2022

“After my father died, my sister and brother and I decided to sell the old house, the one we grew up in. It was hard to do, but in a way, it would have been harder to keep on. Empty most of the time, just a holiday home, accumulating dust and cobwebs and melancholy.”  The Kashmir Shawl; Rosie Thomas.

Yn wahanol iawn i’r teulu uchod, araf iawn a chyndyn fu’r teulu Cristnogol ers tro i ollwng gafael ar yr eiddo a etifeddwyd ganddo, ac y mae’r ffaith mai ystâd a chyflwr eu hadeiladau sy’n gwasgu fwyaf ar yr eglwysi, bellach, ac yn creu’r diflastod pennaf iddynt,  yn bradychu eu methiant truenus i gofleidio’r ddoethineb a welir ym meddylfryd y teulu uchod, sydd hefyd, wrth gwrs, yn ymddangos yn llinyn reit amlwg a chanolog wir, yng ngwead bywyd a dysgeidiaeth Iesu.  

Ymddengys mai peth cymharol ddiweddar yn ein hanes yw’r methiant hwn, un na wyddai’n hynafiaid fawr ddim amdano, oherwydd gwelir yn glir yn y dogfennau a luniwyd ganddynt wrth sefydlu eglwysi a chodi capeli wedyn, iddynt ddarparu cyfarwyddyd, manwl iawn ar adegau, ynghylch dwyn yr achosion hyn i ben. Yr oedd y posibilrwydd hwnnw’n beth real iawn iddynt ac yn ôl pob tystiolaeth, yn rhywbeth nad ofnent. Yn wir, byddai’n briodol gofyn, i ba raddau yr oedd hyn yn ddisgwyliedig, os nad yn beth i’w groesawu ganddynt?  

Cofiwn mai arloeswyr mentrus ac anturus oeddent, yn torri tir newydd yn gyson a hynny’n ddi-amau ar sail eu ffydd ddi-ysgog yn Iesu, a ddysgodd iddynt yr angen i farw er mwyn byw, i golli er mwyn ennill, i docio er mwyn tyfu, i roi er mwyn derbyn ac i ildio er mwyn cael. Eilbeth i Iesu, (â hynny o bell ffordd hefyd,) a chwbl wasnaethgar iddo oedd popeth arall yn eu golwg, boed gapel neu gredo, ddehongliad Ysgrythurol neu bwnc o athrawiaeth, strwythur eglwysig neu gyfundrefn enwadol. Pethau y byddai’r eglwys fyw ac effro i alwad Duw, yn eu gweld fel adnoddau gwerthfawr, naill ai, i gydio ynddynt a’u mabwysiadu neu lyffetheiriau i’w datod a’u gollwng, ar gyfrif eu amherthnasedd i’w gwaith a’i chenhadaeth.  

Bu’n aeaf di-ollwng ar ein heglwysi ymhell cyn dyddiau’r pandemig a gwyddom, ond yn rhy dda, am effeithiau dinistriol yr hirlwm arnom fel Cristnogion, heb sôn ei wasgfa ar fywyd y byd, yn gyffredinol. Does dim angen cloddio’n ddwfn y diwrnodau hyn, i ganfod stori neu newydd i’n tristáu a’n diflasu’n lân.  Eto, er garwed y gaeaf, ofer synied amdano’n nhermau’r dinistriol, yn unig.

Un o arwyddion gobeithiol y cyfnod diweddar yw gweld nifer cynyddol o eglwysi’n ymwrthod â’r dybiaeth honno fu mor gyffredin yn ein plith dros gyfnod rhy hir o lawer, sef mai pennaf dasg yr eglwys yw gwarchod ei hunan a hynny’n ddieithriad ar draul esgeuluso’i galwad i ddilyn Crist yn y gwaith o achub y byd. Lloches llwch a chartref corrynod fuont ers tro a magwrfa ddiogel i ddiflastod.