E-fwletin 30 Ionawr, 2022

O gofio bod Tymor y Grawys eleni yn dechrau ddydd Mercher, 2 Mawrth mae gennym ychydig dros fis i ystyried a fyddwn am wneud unrhyw beth arbennig i nodi’r cyfnod arbennig hwn ac i fanteisio ar gyfle i ddyfnhau neu i adfywio ein perthynas â Duw. Rhai o’r arferion mwyaf cyffredin yw ymprydio, rhoi’r gorau i bethau melys, gwirfoddoli ar gyfer gwaith dyngarol neu gyfrannu at achosion da. Ond mae CAFOD yn annog pobl i godi arian ar gyfer yr elusen trwy ‘Gerdded yn erbyn Newyn’ dros gyfnod y Grawys, naill ai fel unigolion neu fel aelodau o dîm.

Dewis arall yw darllen deunydd defosiynol neu ymuno â grŵp sydd yn cynnal astudiaeth a thrafodaeth.  Ond beth am yr adnoddau sydd ar gael? Prin iawn yw’r rhai a luniwyd yn y Gymraeg ond mae’n ddigon posib y bydd mwy yn cael eu cyhoeddi wrth inni agosáu at fis Mawrth. Ar hyn o bryd, a hyd y gwn i, dau adnodd yn unig sydd ar gael, sef y deunydd a geir yn y cyhoeddiad ‘Gair y Dydd’ a’r astudiaethau a gomisiynwyd gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon

Mae myfyrdodau ‘Gair y Dydd’ yn ein harwain ar hyd thema oesol a chlasurol y Grawys, sef taith drwy’r anialwch gyda’r Iesu ac mae yna wahoddiad i wthio ein hunain ar daith syml ac anodd ond un sydd yn y pen draw yn medru ein hadnewyddu. Yn ôl yr awdur dyma pryd y daw ein gwir gymeriad i’r amlwg lle nad oes gwaith, rôl neu statws i guddio tu ôl iddo.

Mae adnoddau Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon eisoes ar gael ar y we yn Saesneg gydag addewid o gyfieithiad Cymraeg erbyn diwedd Ionawr. Mae’r thema yn gyfoes: Dilyn Crist yng Nghamre’r Saint a chanolbwyntir yn benodol ar hanes Santes Gwenffrewi, Treffynnon. Buan y gwelwn fod sawl agwedd ar ei bywyd yn syndod o berthnasol i ni heddiw.

Fel rhan o ‘Flwyddyn Bywyd y Disgybl’ mae Esgobaeth Tyddewi eisoes wedi cynllunio rhaglen ar gyfer y Grawys sydd yn cynnwys astudiaethau (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) ar ddisgyblaethau bywyd y disgybl, er enghraifft, myfyrdod ac unigrwydd, gweddi ac ymprydio.

O droi at gyhoeddiadau uniaith Saesneg, mae sawl adnodd ar gael. Un ohonynt yw ‘Sacred Space Lent 2022’ gan yr Irish Province of the Society of Jesus. Sefydlwyd gwefan ganddynt, ‘Sacred Space’, nôl yn 1999 er mwyn darparu myfyrdodau beunyddiol. Yn y gyfrol ar gyfer y Grawys ceir cyfraniadau gan amrywiol awduron ar gychwyn pob wythnos ac yna amlinellir patrwm o weddi a chyfle i fyfyrio ar eiriau o’r Ysgrythur ar ffurf sgwrs gyda’r Iesu.  

Cyfrol arall yw ‘Hope and the Nearness of God’ gan Teresa White. Fel yr awgryma’r teitl mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar y gobaith hwnnw sydd yn ein hannog ymlaen ar daith ffydd. Ceir penodau difyr sy’n archwilio Gobaith a Dewrder, Dirnad Gobaith, Pontydd Gobaith a’r Ysbryd Glân fel Ffynhonnell Gobaith.

Mae’n siŵr y daw mwy o adnoddau i’r golwg cyn mis Mawrth ond gobeithio y bydd y sylwadau uchod yn rhoi rhywfaint o flas o’r deunydd darllen a myfyrio sydd ar gael ar gyfer Tymor y Grawys eleni Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon ac y cawn gyfle i droedio tir cysegredig dioddefaint Crist yn feddylgar a ddidwyll.