E-fwletin Chwefror 6,2022
Annwyl gyfeillion,
‘Ffordd arall bellach …’
Ar ddiwedd Oedfa’r Bore Radio Cymru yn yr Wythnos Weddi am Undod Gristnogol (Ionawr 23ain), meddai Dr Hefin Jones: ‘Buom yn teithio ar lwybrau cyfochrog ac yn aml i gyfeiriad gwahanol … ond bellach, mae ffordd arall yn ein galw i gynllunio gyda’n gilydd, i ddilyn yr un cwmpawd a chynllunio’r ffordd efo’n gilydd … mae ffordd arall, bellach, yn ein galw.’
Ar yr un Sul ymddangosodd e-fwletin Cristnogaeth 21 a oedd yn cynnwys y geiriau: ’arloeswyr mentrus ac anturus oeddynt (ein hynafiaid enwadol/Cristnogol) yn torri tir newydd yn gyson, a hynny’n ddiamau ar sail eu ffydd ddiysgog yn Iesu … i docio er mwyn tyfu … ac i ildio er mwyn cael … Eilbeth i Iesu oedd popeth arall yn eu golwg, boed gapel neu gredo, dehongliad ysgrythurol neu bwnc o athrawiaeth, strwythur eglwysig neu gyfundrefn enwadol … nid pennaf dasg yr eglwys yw gwarchod ei hun a hynny yn ddieithriad ar draul esgeuluso’i galwad i ddilyn Crist yn y gwaith o achub y byd.’
Os nad ydych yn rhan o’r traddodiad anghydffurfiol Cymraeg (y mae cymaint wedi cyhoeddi ei angladd ers blynyddoedd), fe fydd yr e-fwletin hwn yn amherthnasol i chi.
Ar wahan i ambell blismon Beiblaidd, fe fyddai’r mwyafrif yn cytuno â’r ddau ddyfyniad ac yn cytuno hefyd nad yw enwad yn ganolog i’r dystiolaeth Gristnogol. Ond mae cytundeb hefyd ar rywbeth sydd yn fwy radical Feiblaidd ei oblygiadau hyd yn oed , sef nad eiddo’r enwadau na’u haelodau yw’r eglwys, ond eiddo Duw. Mae hynny’n cynnwys yr hanes a’r traddodiad, capeli mawr neu festri fach, Canolfan Trefeca neu swyddfa enwadol yn Abertawe neu Gaerfyrddin, buddsoddiadau enwadol neu gyfrif banc yr eglwys dlotaf. A does dim yn hanesyddol nac yn gyfreithiol all newid y ffaith sylfaenol hon. Ei chredu a’i gweithredu yw’r her a’r alwad erbyn hyn oherwydd ‘y mae ffordd arall bellach yn ein galw’.
Ymddiriedolwyr a gofalwyr sydd gan Dduw ar ei eglwys er mwyn idynt gyflawni a gofalu bod yr eglwys/enwadau yn ffyddlon i’w galwad, sef cyflwyno a rhannu’r Efengyl yng Nghymru – i unigolion a theuluoedd, i gymunedau ac i genedl a’i hanes, ei diwylliant a‘i dyfodol.
Mae’n anodd credu nad oes gan enwadau Anghydffurfiol Cymru raglen genhadol, greadigol i’w galluogi i ddatblygu gyda’i gilydd ar gyfer y 10–15 mlynedd nesaf. Ond does dim. Mae enghreifftiau o gydweithio ers blynyddoedd. Ond does dim cydgynllunio. Mae cynllunio cydenwadol yn golygu, wrth gwrs, nad yr un fyddai’r rhaglen i gefn gwlad Ceredigion, Cwm Rhondda neu Gaerdydd. Ond yr un fyddai’r cydgynllunio.
Ai methiant ein harweinwyr ar bob lefel enwadol yw peidio eistedd gyda’i gilydd i gynllunio a gweddio er mwyn ymateb i’r hyn y mae Duw yn ei ddisgwyl gennym, neu fethiant aelodau’r capeli? Methiant i roi Duw a’i eglwys yn gyntaf, a dyfodol y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru yn ail. Ac mae’r ail yn tarddu o’r cyntaf.
A dyna ni yn ôl gyda’r dyfyniadau ar y dechrau. Darllenwch nhw eto, a’u hanfon at ddiaconiaid /blaenoriaid eich eglwys ac i’r swyddogion enwadol. A hynny i’w hatgoffa beth y mae Duw, siwr o fod, yn ei ddisgwyl gennym erbyn hyn yn y Gymru Gymraeg?
Cofion.