e-fwletin 13 Chwefror 2022

e-fwletin Chwefror 13,2022

Maddeuant

Mae maddau yn anodd. Mae maddau ac anghofio yn anoddach fyth, os yw’n bosibl o gwbwl. Mae peidio dal dig yn erbyn rhywun yn anodd iawn, os mai’r ‘llall’ ddechreuodd yr anghytundeb!  Mae cydnabod fy mod i wedi brifo rhywun yn medru bod yn sialens go iawn hefyd ac mae gofyn am faddeuant hyd yn oed yn anos. Ac os ydy rhywun wedi fy mrifo i yna mae derbyn maddeuant a symud ymlaen yn gallu bod yn waith caled. Rydan ni i gyd wedi cael y profiadau hyn rydw i yn siwr.

Mae marwolaeth un o fy arwyr mawr, y diweddar Archesgob Desmond Tutu, wedi gwneud i mi feddwl  eto am faddeuant.  Rydw i wrthi yn darllen ei lyfr, No Future Without Forgiveness. ‘Roedd ganddo fo, a phob person du yn Ne Affrig  brofiad personol a chreulon o anghyfiawnder cymdeithasol, gwleidyddol a phersonol.  Sylweddolodd pa mor bwysig oedd maddeuant er mwyn i’r wlad ac unigolion, symud ymlaen.  ‘Roedd gwaith radical y Truth and Reconciliation Commission (TRC) yn bwerus ac mae yn rhoi sialens i ni i gyd.

Wrth ddarllen llyfr Tutu rydw i wedi pendroni tipyn am ei ddealltwriaeth o faddeuant, o safbwynt y person sy’n gofyn am faddeuant , a’r un sydd yn cynnig maddeuant. Roedd y TRC yn rhoi cyfle i’r gormeswyr gyfaddef eu troseddau erchyll yn onest ac yn gyhoeddus ac fe gawsant y cyfle i ofyn am faddeuant.  Cafodd y dioddefwyr y cyfle i adrodd eu hanes, eu poen a’u dioddefaint nid er mwyn cosbi ond er mwyn rhoi cyfle i’r gormeswr gydnabod eu rhan yn y boen. Ac fe gawsant y cyfle i faddau, a thrwy hynny ysgafnhau baich beunyddiol y ddwy ochr. Sylfaen gwaith y TRC oedd fod maddeuant yn broses ddwy ochrog – cynnig maddeuant, a derbyn cyfrifoldeb a thrwy hynny derbyn maddeuant. 

Neithiwr ‘r oeddwn yn ein grwp wythnosol yn y capel ond ar zoom ac yr oedd 6 o’r grwp yn ddu a 6 yn wyn. Roeddem yn trafod maddeuant. Mewn llais tawel fe ddwedodd un o’r gwragedd du oedd yno  ‘Dwi yn teimlo mor flin ac wedi cael digon, mae pob aelod o fy nheulu wedi cael profiadau hiliol, poenus, wedi cael eu targedu am eu bod yn ddu…does dim diwrnod yn mynd heibio heb i mi deimlo rhyw faint o ofn  … a dwi ddim yn meddwl y galla i faddau’.

Tybed sut ddylwn i fod wedi ymateb? Cytuno nad oedd rhaid iddi faddau a gadael iddi gario’r baich am byth? Dweud na wnes i ddim i’w brifo, ac rydw i yn wyn? Son sut mae gwragedd yn cael eu cam drin yn aml?  Dweud wrthi y bydd yn teimlo yn well os wnaiff hi faddau? Ydi hi am adael i’r gormeswyr ddiffinio pwy ydi hi? Neu a ddylem ni, y bobl wyn yn y grwp fod wedi cydnabod ein bod yn rhan o’r broblem?

I mi mae yna gymhariaethau rhwng ein hanes ni fel Cymry a hanes pobl ddu yn Ne Affrig. Sut ydan ni Gymry yn ymateb i’n hanes hwnnw?

Gyda’n cofion ac ymddiheuriadau am liw coch yr e-fwletin Chwefror 6ed.

 

www.cristnogaeth21.cymru.