Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 21 Awst, 2021

Unwaith yn rhagor, mae gennym oedfa i’w hargymell i chi allan o storfa archif y cyfnod clo, a braf yw cael ei dwyn i’ch sylw ar gyfer y Sul.

Penderfyniad pwyllgor Cristnogaeth 21 oedd argymell oedfa wythnosol i’n dilynwyr drwy gydol  mis Awst, o blith rhai a ddosbarthwyd yn ddigidol dros y deunaw mis diwethaf. O safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.

Cafodd y fideo hwn a argymhellir heddiw ei rannu gyntaf ar Awst 1af eleni, a medrwch ei weld drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.youtube.com/watch?v=OgvWTO81Nx4

Pob bendith

www.cristnogaeth21.cymru

 

E-fwletin 14 Awst, 2021

Heddiw rydym yn cynnig oedfa arall o’r archif i’ch sylw dros y Sul.

Fe gofiwch fod criw’r e-fwletin arferol yn cael hoe fach tan ddechrau Medi, ond fe benderfynodd pwyllgor Cristnogaeth 21 anfon atoch yn wythnosol i argymell oedfa o’r archif, rhag ofn eich bod yn awchu am weld gwasanaeth rhithiol a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn anfon argymhelliad gwahanol atoch bob wythnos drwy’r mis. 

O  safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd  cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.

Fe ddosbarthwyd y fideo hwn gyntaf ddechrau Chwefror eleni, ac fe’i lluniwyd gan rai o bentrefwyr Pentyrch, ger Caerdydd.

Medrwch weld y fideo drwy glicio ar y ddolen hon:

https://youtu.be/YTHE0TmIIt0

E-fwletin 7 Awst, 2021

Fe gofiwch o’r neges y Sadwrn diwethaf fod trefn yr e-fwletin ychydig yn wahanol dros fis Awst.

Mae criw’r e-fwletin arferol yn cael hoe fach tan ddechrau Medi, ond fe benderfynodd pwyllgor Cristnogaeth 21 anfon atoch yn wythnosol i argymell oedfa o’r archif i’ch sylw, rhag ofn eich bod yn awchu am weld gwasanaeth rhithiol a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn anfon argymhelliad gwahanol atoch bob wythnos drwy’r mis. 

O  safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd  cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.

Derbyniwyd sawl neges o werthfawrogiad am yr oedfa y Sul diwethaf, a’r e-bost cyntaf a agorwyd yn dod o Efrog Newydd. Mae C21 yn teithio ymhell!

Dyma oedfa a rannwyd gyntaf union flwyddyn yn ôl i aelodau’r Tabernacl, Efail Isaf. Medrwch ei gwylio drwy glicio YMA

E-fwletin 1 Awst 2021

A hithau’n fis Awst, mae criw’r e-fwletin arferol yn cael hoe fach tan ddechrau Medi. Ond fe benderfynodd pwyllgor Cristnogaeth 21 anfon atoch i argymell oedfa o’r archif i’ch sylw, rhag ofn eich bod yn awchu am weld gwasanaeth rhithiol a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn anfon argymhelliad gwahanol atoch bob wythnos drwy’r mis.

O  safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd  cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.

Oedfa dan ofal Gethin Rhys yw’r gyntaf, wedi ei dosbarthu gyntaf ym mis Tachwedd, 2020.
Medrwch fwynhau ein dewis drwy glicio YMA.  

E-fwletin 25 Gorffennaf, 2021

Galw yn Undeb Rhithiol yr Annibynwyr

Mae’r Tyst yn symud ymlaen gyda hyder ar ôl dewis peidio ymuno â’r Bedyddwyr a’r Presbyteriaid i greu un papur cyd-enwadol. Ond cam yn ôl fu’r cyfan. Rhaid i’r enwadau symud gyda’i gilydd. Y perygl yw gwneud yr Annibynwyr yn fwy annibynnol. Ond mae partneriaethau o fewn CWM yn bwysig i’r Annibynwyr. (Teulu o 33 o eglwysi byd-eang, cyd-enwadol yw CWM, sydd wedi ymrwymo i rannu adnoddau ac i fod yn ddisgyblion radical i Iesu yn eu cymuned a’u gwlad.) Yng Nghymru, mae’r Annibynwyr a’r Presbyteriaid yn bartneriaid o fewn CWM, yn ogystal â’r URC (United Reformed Church) sy’n enwad Saesneg.

Gwych o beth felly oedd iddynt wahodd i’r Undeb y Parchedig Lydia Neshanngwe fel Llywydd newydd CWM. Mae hi hefyd yn Llywydd ar eglwysi UPCSA (Eglwysi Presbyteriadd sy’n uno yn Ne Affrica.) Fel y bu Affrica yn y gorffennol yn faes cenhadol i enwadau Cymru ac Ewrop, felly y mae arweinwyr newydd eglwysi Affrica yn edrych arnom ni gyda diolch a chydymdeimlad. Trafod ymwneud Duw â’i bobl wnaeth Lydia gyda geiriau cyffredin ein cyfnod. Mae Duw, meddai, yn ymwneud â’i bobl mewn cyfnodau gwahanol, sef Construction, Deconstruction a Reconstrucion. Neu, gyfnodau Casglu, Gwasgaru ac Ailgasglu. Yr ydym ni, meddai eto, yn y cyfnod anoddaf, sef cyfnod y gwasgaru, a rhai o nodweddion y cyfnod hwn yw wynebu cwestiynau anodd, angen dad-ddysgu, tocio, gollwng gafael, dod i ben. Er bod enwadau yn parhau i feddwl (er yn dweud yn wahanol) mai nhw sy’n rheoli eu dyfodol, nid yw hynny’n wir.

Fe ddywedodd Lydia Neshanngwe lawer mwy. Ond roedd y neges yn gyfoes o glir, er nad yn newydd – rhaid i unigolion, enwadau ac eglwysi ganiatáu i rai pethau ddod i ben (gw. gwreiddiau’r neges yn Ioan 12.24).

Lydia Neshangwe

Dyna yw symud ymlaen i’r ‘cyfnod casglu ynghyd’. Diolch am lais ifanc, llawen a gobeithiol yr eglwys fyd-eang. A diolch i’r Annibynwyr am ei gwahodd.

Mae’r eglwys Bresbyteraidd a’r Annibynwyr wedi derbyn a rhoi llawer drwy CWM a hynny wedi arwain at lawer o gydweithio. Ond mae gweledigaeth CWM yn fwy na chydweithio. Mae’n golygu bod ei bobl, yn nyddiau’r gwasgaru , yn edrych ar yr hyn mae Duw am i ni fod, sef disgyblion radical i Iesu yn ein cymunedau ac yn ein gwlad. Mae hynny’n golygu rhannu yn llawn a chynllunio yn llawn, ar gyfer eu cenhadaeth  – ac un genhadaeth yw honno. Mae hynny’n fwy sylfaenol  na chydweithio. Yn ôl Lydia nid oes lle yn y Deyrnas ‘i’n agenda ni’ oherwydd mae byw yn y ‘gwasgaru’ yn dweud yn glir nad yw’r  agenda na’r strwythur wedi llwyddo ers blynyddoedd erbyn hyn i’r Annibynwyr, Bedyddwyr na Phresbyteriaid.

Ar wefan CWM mae Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr yn  cael ei ddyfynnu wrth iddo sôn am ddylanwad Cofid ar yr eglwysi. Ond mae i’w eiriau arwyddocâd lawer ehangach: ‘Pan oedd Annibynia (’Congregationalism’ yw ei air)  yn mynd yn gryf  tua chanol yr ugeinfed ganrif, roedd fframwaith eglwysig (‘church-centred framework)’ wedi gweithio i genedlaethau lawer… ond mae’r pandemig wedi caniatáu i lawer o gynulleidfaoedd sydd wedi blino ac yn rhwystredig gyda’r fframwaith hon… i ofyn, ’Beth ac i ble nesaf?’

E-fwletin 18 Gorffennaf, 2021

Y PLA ARALL

Rydym wedi bod  yn trafod Cofid ers blwyddyn a hanner ac mae ymateb yr eglwysi wedi’n syfrdanu. Yn sydyn maent wedi dysgu sut i ymdopi gyda’r dechnoleg ‘newydd’ a threfnir oedfaon ar wefannau, myfyrdodau ar Gweplyfr a chyfarfodydd gweddi ar Sŵm. Ond yng nghanol yr holl sôn am Cofid, mae pla arall, un llawer mwy cyfrwys na Cofid, wedi manteisio ar gyfnodau dan glo i ymledu (er iddo fod yn ein plith o’r blaen) ac i gryfhau ei afael. Enw’r  pla hwn yw Unigrwydd ac un o ganlyniadau Cofid yw gwaethygu Unigrwydd. Mae  pawb wedi profi ambell bwl o Unigrwydd yn y misoedd diwethaf. Bydd y mwyafrif ohonom yn dod trosto ond beth am y rhai sy’n dioddef o Unigrwydd hirdymor all arwain i iselder ac afiechyd meddwl? Nid oes brechlyn yn erbyn Unigrwydd. Bydd yn parhau pan fydd yr argyfwng presennol trosodd ac yn wahanol i salwch corfforol mae’n anodd i unigolion ddatgelu eu bod yn dioddef o Unigrwydd.

Rwy’n sicr fod aelodau eglwysig wedi ymateb mewn sawl ffordd i’r Unigrwydd sydd wedi dod fel canlyniad i Cofid: siopa i’r aelodau mwyaf bregus o’n cymunedau; ffurfio ‘swigen’ gydag aelod arall; ac fe fydd sawl ffôn wedi bod yn brysur. Prin iawn oedd trafodaeth – yn yr ardal hon beth bynnag – ar sut y dylem ymateb fel eglwysi.  Efallai yn wir fod  eglwysi unigol wedi datblygu dulliau i geisio ymdopi â’r unigrwydd hwn, ond nid wyf, hyd yma, wedi clywed amdanynt.

Beth yw cyfrifoldeb eglwysi a chapeli Cymru yn wyneb y pla hwn?  Efallai y bydd rhai yn dadlau nad yw unigrwydd yn digwydd ymhlith cymdeithasau clòs Cymreig, ond gyda phoblogaeth sydd yn symud o le i le ni fedrwn  gymryd hynny’n ganiataol. Bydd eraill yn dweud mai gwaith y gweinidog yw bugeilio. Bu hyn yn bosibl ers talwm, ond heddiw, gyda’r gweinidogion yn gyfrifol am nifer o eglwysi gwasgaredig  nid yw’n bosibl i weinidogion gyflawni’r gwaith bugeiliol, hyd yn oed cyn Cofid. Yn wahanol i rai afiechydon ein cyfnod, ni all arian, neu gynllunio ar lefel llywodraeth, ddatrys unigrwydd. Mae angen ymateb lleol ac mae’n faes lle gallai ac y dylai’r eglwysi fod yn flaengar.

Onid rŵan yw’r amser i ni ddechrau cynllunio ymatebion eglwysi i unigrwydd? A ydym ni’n gwybod sawl aelod yn ein capel sy’n byw ar eu pennau eu hunain? A ydym yn gwybod pwy sydd yn byw ymhell oddi wrth eu perthnasau ac a ydym yn ymwybodol fod ambell aelod yn brin o gyfeillion agos gan fod cynifer wedi symud i ffwrdd? Oes yna angen am ‘swigod’ o aelodau (fydd yn para ar ôl y cyfnodau clo) i ymgymryd â’r cyfrifoldeb o fugeilio ei gilydd?  Ystyrir gweithgareddau ‘cymdeithasol’ yn ymylol i waith yr eglwysi gan rai, ond tybed na ddylent fod yn fwy canolog? Ac oni ddylai ymateb eglwysi ymestyn ymhellach nag aelodau ein capel ni a datblygu fel rhan o’n cenhadaeth yn y gymuned? Bu cyfnod pan fu eglwysi yn flaengar yn cynnal ysgolion a  chynorthwyo’r tlodion, ond mewn oes wahanol mae yna heriau gwahanol. Dyma’r  cyfnod i ni weithredu i leddfu Pla  Unigrwydd sydd yn lledu trwy gymdeithas.

Diwedd y Byd?

DIWEDD Y BYD?

Eleni, traddodwyd Darlith Goffa Gethin Abraham-Williams ar Zoom gan y  Parchedig Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn.  Mae Gethin yn gyfrannwr cyson i wefan Cristnogaeth 21, ac yn un o awduron rheolaidd yr e-fwletin wythnosol.

Mae’n bleser gennym gael cynnwys dolen ar dudalennau Agora i fynd â chi’n syth at y ddarlith ei hun, a addaswyd ar gyfer ei chyhoeddi ym mis Mehefin. Diolchwn i Gethin ac i Cytûn am yr hawl i’w chynnwys yma.

Cliciwch YMA

E-fwletin 11 Gorffennaf 2021

Lliwiau’r enfys?

Ydach chi wedi gwirioni efo pêl-droed yn ystod yr wythnosau diwethaf? Roeddwn i mor falch o fod yn Gymro oedd yn byw yn yr Almaen pan drechodd Lloegr fy ‘nghenedl gartref’ newydd!  Tybed beth wnaethoch chi o benderfyniad UEFA i beidio â chaniatáu i’r stadiwm pêl-droed yn Munich gael ei goleuo yn lliwiau’r enfys ar y diwrnod yr oedd Hwngari yn chwarae’r Almaen?  A pham wnaeth cannoedd o wylwyr o’r Almaen chwifio baneri enfys yn ystod y gêm?  Ac ar nodyn gwleidyddol amlwg, a ydach chi wedi clywed bod Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte, wedi dweud na ddylai Hwngari fod yn yr Undeb Ewropeaidd mwyach?

Pêl-droed… Fflagiau enfys… Gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae’n fyd cymhleth.  Mae Hwngari newydd gyflwyno cyfraith newydd a fydd yn gwahardd ‘portreadu neu hyrwyddo cyfunrhywiaeth’ ymhlith pobl ifanc dan 18 oed.  Dywedodd Mr Orban, Prif Weinidog Hwngari, wrth ohebwyr fod y gyfraith hon wedi’i chyflwyno i amddiffyn plant, ac i amddiffyn hawliau rhieni rhag i’w plant cael eu llygru.  Bydd y ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol ar addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion, yn cyflwyno sensoriaeth ar rywfaint o lenyddiaeth mewn llyfrgelloedd ysgolion, ac yn cael effaith na wyddom amdano eto ar ddynion a menywod ifanc sydd, yn ystod eu harddegau, yn ceisio dod i ddeall eu rhywioldeb.

Rwy’n ddigon hen i gofio deddfwriaeth debyg a gyflwynwyd gan lywodraeth Margaret Thatcher yn 1988.  Fe’i gelwid yn Gymal 28, a dyfarnai na allai llywodraeth leol ‘hyrwyddo cyfunrhywiaeth na chyhoeddi deunydd yn fwriadol gyda’r bwriad o hyrwyddo cyfunrhywiaeth’ na ‘hyrwyddo’r addysgu, mewn unrhyw ysgol a gynhelir, o dderbyn cyfunrhywiaeth fel perthynas deuluol honedig’.  Dim ond yn 2003 y diddymwyd y ddeddfwriaeth hon yng Nghymru a Lloegr.  Ledled Cymru mae lesbiaid a dynion hoyw a oedd yn blant a phobl ifanc yn ystod y pymtheg mlynedd hyn yn tystio i’r ffaith bod eu dealltwriaeth ohonynt eu hunain wedi’i lesteirio’n ddifrifol gan sensoriaeth o’r fath mewn addysg. 

Ac felly, rwy’n cael fy nhynnu eto i fyfyrio ar eiriau Paul yn Galatiaid 3:28.  Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.  Mae’n rhaid bod y tri phâr hyn wedi bod yn berthnasol iawn yng nghymdeithas y ganrif gyntaf yr oedd Paul yn mynd i’r afael â hi, ac mae’n ymddangos bod hyn yn adleisio cytgord cyfoes am gydraddoldeb dynol gan arwain llawer o Gristnogion blaengar i ychwanegu parau eraill: ‘ddim yn hoyw nac yn strét,’ ‘ddim yn abl nac yn anabl,’ a ‘ddim yn ddu na gwyn.’

Dwi’n un sy’n weddol gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol ac yn ddiweddar bu i un sy’n ffrind i mi ers hanner can mlynedd ac sy’n weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd, ymateb i sylw homoffobig am y ‘dylanwad negyddol’ y gallai oedolion hoyw ei gael ar blant a phobl ifanc gyda’r sylw:  ‘Dydyn ni ddim eisiau i’ch plant heterorywiol fod yn hoyw.  Rydyn ni eisiau i’ch plant hoyw oroesi.’

Efallai nad yw Mr Orban wedi meddwl am anawsterau plant a phobl ifanc yn eu harddegau wrth iddynt geisio dod i ddeall eu hunain fel bodau rhywiol.  Neu efallai ei fod yn ddifater ynglŷn â goroesiad pobl ifanc hoyw Hwngari.

Ond wrth gwrs – does dim lle i wleidyddiaeth mewn pêl droed!

Gwaddol Caethwasiaeth

Gwaddol Caethwasiaeth

Nid un hanes yw hanes y Fasnach Caethion Trawsiwerydd (The Transatlantic Slave Trade). Mae’n wead cymhleth o straeon a hanesion sy’n creu un darlun brawychus o’r uffern y mae dynoliaeth yn gallu ei greu. Parhaodd y fasnach o 1440 hyd 1888; cipiwyd rhwng 10 a 12 miliwn o blant, gwragedd a dynion o Affrica i weithio fel caethion yn y gorllewin. Dyma un stori, wedi ei chofnodi yn fanwl gan Thomas Phillips, Aberhonddu:

Jeff Williams Darpar-Lywydd Undeb yr Annibynwyr

Ym mis Medi 1693 hwyliodd y llong Hannibal allan o Gravesend, ar yr afon Tafwys, a throi tua gorllewin Affrica. Ei chapten oedd Thomas Philips, o Aberhonddu. Prynwyd y llong ac ariannwyd y fordaith yn bennaf gan Jeffrey Jeffreys, brodor o Llywel, Sir Frycheiniog.

Roedd Jeffreys wedi ei sefydlu ei hun yn Llundain yn fasnachwr dylanwadol ac eithriadol o gyfoethog ac yn un o gyfarwyddwyr y Royal African Company. Roedd y llong wedi ei llogi gan y cwmni ar gyfer ‘a trading voyage to Guiney, for elephants teeth, gold and Negro slaves,’.

 

Roedd cargo’r llong yn cynnwys yr hyn oedd ei angen i brynu caethion –  barrau haearn a “Welsh plains” (gwlân o Gymru a ddefnyddiwyd i wisgo caethion). Ar yr 21 o Fai 1694, deg mis wedi gadael Lloegr, cyrhaeddodd yr Hannibal y Gold Coast, Ghana heddiw, a dechreuodd Thomas Phillips brynu caethion. Cymerodd dros ddau fis i brynu 702 o bobl, llosgi nod prif lythyren y llong ar eu cyrff a’u llwytho i grombil y llong. Cymerodd fis arall i lwytho bwyd, dŵr yfed a phopeth arall oedd ei angen ar gyfer y daith ar draws yr Iwerydd. Ar y 25 o Awst trodd y llong tua’r gorllewin a dechrau’r daith hunllefus i ynys Barbados.

Erbyn cyrraedd Barbados roedd 320 o’r caethion wedi marw o ganlyniad i heintiau, camdriniaeth ac amodau creulon eu caethiwed. Roedd y dyn o Aberhonddu wedi bod yn gyfrifol am un o’r troseddau gwaethaf yn hanes cywilyddus y fasnach caethion. Wrth gwrs, yr hyn oedd yn bwysig i’r Royal African Company oedd bod gwerth y rhai a fu farw yn cynrychioli colled o £6,650. Hon oedd mordaith olaf Thomas Phillips, enciliodd i Aberhonddu i fyw ‘the rest of my life as easily as I can, under my hard misfortune’. Bu farw ym 1713, ugain mlynedd wedi i’r Hannibal hwylio i Affrica.

Yn 2010 gosodwyd cofeb i Thomas Phillips yn Aberhonddu. Nid yw’r gofeb yn sôn dim am ei gysylltiad â’r fasnach caethion. Pam codi cofeb iddo bron i 300 mlynedd wedi ei farw? Yn syml, am fod rhywrai’n meddwl amdano fel un o arwyr y dre. Tynnwyd y plac lawr gan berson anhysbys ryw noson yn 2020.

Mae’r gorffennol yn taflu cysgodion dros ein presennol. Am nad oes neb yn fyw heddiw wedi bod yn rhan o’r fasnach caethion trawsiwerydd nac wedi dioddef yn uniongyrchol o ‘chattel slavery’ mynna rhai nad yw ei ddylanwad i’w weld ar ein cymdeithas heddiw. I’r gwrthwyneb! Chwyddwyd cyfoeth gwledydd Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn bennaf, trwy fasnach a’r chwyldro diwydiannol ac roedd y fasnach caethion yn hanfodol bwysig yn y twf hwnnw. Gwnaeth pob rhan o Gymru a phob un o’i diwydiannau elwa yn sgil caethwasiaeth. Crëwyd athrawiaethau a diwinyddiaeth hiliol i gyfiawnhau gwneud pobl Affrica yn gaethion; ac wrth hynny blannu gwreiddiau’r hiliaeth a’r syniad o oruchafiaeth y dyn gwyn, sy’n gwenwyno’n byd ni hyd heddiw.

Daeth masnach caethion yr Iwerydd i ben ym 1807. Gwnaed caethwasiaeth yn anghyfreithlon ym1833. Talwyd iawndal hael i berchnogion caethweision; er enghraifft cafodd George Hay Dawkins-Pennant, etifedd ystâd y Penrhyn, £13,870 am ei 764 caethwas (gwerth £11.1 miliwn heddiw). Ni chafodd y caethion yr un ddimau goch.

Sut ydym ni Gristnogion i fod i ymateb i’r cyfnod hwn yn ein hanes? Ein hanes? Ie. Rydyn ni’n barod i ymfalchïo bod Cristnogion ac eglwysi wedi bod â rhan allweddol yn yr ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth. A ydym yr un mor barod i gydnabod rôl Cristnogion fel masnachwyr eneidiau byw, a pherchnogion planhigfeydd lle gwnaed elw mawr a lle lladdwyd caethion drwy orweithio?

A ydym yn barod i wynebu gwaddol caethwasiaeth? A ydy gwahaniaethu ar sail lliw, hiliaeth, anghyfartaledd economaidd a grym, yr ymdeimlad o hawl cynhenid sydd gan un dosbarth dros y llall, a chymaint mwy, yn galw am edifeirwch gennym ni? Daeth Iesu er mwyn i bawb cael bywyd yn ei lawnder; beth felly sy’n rhaid i ni Gristnogion, eglwysi ac enwadau ei wneud?

Jeff Williams


Mae modd darllen rhagor yn y ffynonellau canlynol:

Hanes caethwasiaeth: https://www.britannica.com/topic/transatlantic-slave-trade

Llyfr Chris Evans, Slave Wales – The Welsh and Atlantic Slavery 1660-1850; University of Wales Press 2010; td 14 – 30

Hanes y Royal African Company: https://www.bl.uk/collection-items/charter-granted-to-the-company-of-royal-adventurers-of-england-relating-to-trade-in-africa-1663#

“This charter, issued by King Charles II (1630–1685) in 1663, represents the moment at which the transatlantic slave trade officially began, with royal approval, in the English (later British) Empire.”

Adroddiad am symud y plac: https://www.brecon-radnor.co.uk/article.cfm?id=112444&headline=Controversial%20plaque%20commemorating%20Brecon%27s%20links%20to%20slave%20trader%20is%20removed%20ahead%20of%20review&sectionIs=news&searchyear=2020

 

Cofio Cyril G Williams

Cyril G. Williams 1921–2004

Mae’n anodd dychmygu heddiw pa mor argyfyngus oedd hi ar y diwydiant llyfrau Cymraeg ar ddechrau’r 1950au. Ers oes aur gyntaf y wasg Gymraeg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pethau wedi crebachu i’r fath raddau erbyn canol yr ugeinfed ganrif fel bod llawer o gyhoeddwyr a llyfrgellwyr yn darogan ei thranc o fewn degawd neu ddwy os na ellid sicrhau ymyrraeth cyrff llywodraethol. Ond yn ystod dyddiau llwm ddechrau’r 1950au cyhoeddwyd un gyfrol nodedig iawn gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sef Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953). Cyfrol yw hon sy’n cynnwys dros 3,300 o ysgrifau bywgraffyddol ar Gymry amlwg. Bu’n rhaid chwilio’n ddyfal iawn am gymorth ariannol i wireddu’r fenter o argraffu gwaith oedd dros 1,100 o dudalennau. Yn y diwedd, cafwyd cefnogaeth gan Gronfa Gyffredinol y Cymmrodorion, Cronfa Degwm siroedd Cymru, sefydliadau addysgol, unigolion a’r Pilgrim Trust. Ond nid dyna ddiwedd hanes Y Bywgraffiadur chwaith, oherwydd fe gyhoeddwyd dau atodiad pellach i gynnwys rhai oedd wedi marw rhwng 1940 a 1970.

Beirniadaeth Deg?

Yna yn 2007 fe lansiwyd fersiwn electronig o’r holl gofnodion, gan ychwanegu erthyglau am rai fu farw ers 1970. Bellach mae’n cynnwys dros 5,000 o ysgrifau, a phersonau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. Er bod y Bywgraffiadur gwreiddiol wedi derbyn croeso cynnes gan ysgolheigion, addysgwyr a rhai sy’n ymddiddori yn hanes pobl Cymru dros y canrifoedd, un feirniadaeth a leisiwyd oedd bod llawer gormod o weinidogion a phregethwyr anghydffurfiol nad oeddynt yn teilyngu’r fath sylw wedi eu cynnwys yn y gyfrol.

Ers 2014, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddatblygu’r wefan i’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Ymhlith y datblygiadau hyn roedd sicrhau gwell cydbwysedd o ran y meysydd a gynrychiolir – felly ceir mwy o sylw nag o’r blaen i gynnwys unigolion a gyfrannodd i feysydd megis gwyddoniaeth a chwaraeon, ac i ferched. Er hynny mae’n braf medru adrodd bod un a wnaeth gyfraniad gwerthfawr iawn fel gweinidog anghydffurfiol a diwinydd ymhlith yr unigolion diweddaraf i’w gynnwys yn Y Bywgraffiadur, sef Cyril G. Williams, a hynny union gan mlynedd wedi ei eni ym mis Mehefin 1921.

Cyfraniad Cyril Williams

Cyril G. Williams

Fe’i ganwyd yn fab i löwr ym Mhont-iets, yr ieuengaf o naw o blant. Mynychodd gapel Elim, Eglwys Bentecostaidd, am gyfnod yn ystod ei blentyndod cyn i’r teulu ddychwelyd i Nasareth, Capel yr Annibynwyr, fel y gallent addoli yn y Gymraeg. Dechreuodd bregethu pan yn 15 mlwydd oed, ac wedi iddo raddio a chymhwyso fel gweinidog fe’i ordeiniwyd yn y Tabor, Pontycymer cyn derbyn galwad i eglwys Radnor Walk yn Chelsea ac oddi yno i gapel y Priordy, Caerfyrddin. Wedi pedair blynedd ar ddeg fel gweinidog bugeiliol, fe’i denwyd i’r byd academaidd lle treuliodd weddill ei yrfa gan wneud cyfraniad mawr i addysg grefyddol yng Nghymru a thu hwnt.

Er yn Gristion o argyhoeddiad dwfn iawn, nid oedd yn barod i dderbyn bod popeth a ymddangosai yn y Beibl yn llythrennol wir – safbwynt oedd yn ddadleuol iawn ymhlith llawer iawn o weinidogion a diwinyddion. Maes arall nad oedd yn boblogaidd gan rai oedd ei sêl ddiysgog o blaid gwerth cyflwyno credoau crefyddau eraill, yn arbennig crefyddau’r dwyrain, i’w fyfyrwyr ac i gynulleidfa ehangach. Dangosodd fod llawer o’r gwerthoedd canolog yn gyffredin i grefyddau’r byd, ond nid oedd hyn yn ei arwain i feddwl bod modd eu huno. Wedi iddo gael ei ddyrchafu’n Athro Astudiaethau Crefyddol a Deon Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, tyfodd yr Ysgol i fod yn ganolfan o bwys rhyngwladol o ran addysgu ac ymchwil ym maes crefyddau cymharol, gan ddenu myfyrwyr ac ysgolheigion o bob rhan o’r byd. 

Roedd yn awdur toreithiog yn y ddwy iaith. Ymhlith ei gyfraniadau Cymraeg roedd ei gyfrol Crefyddau’r Dwyrain (Caerdydd, 1969) ac Y Fendigaid Gân (Caerdydd, 1991) sef cyfieithiad Cymraeg o Bhagarad Gita, tesun cysegredig Hindŵaidd. Yn ddiddorol iawn, wrth gofio i’w deulu gefnu ar yr eglwys Bentecostaidd ym Mhont-iets, astudiaeth o Dafodau Tân oedd testun ei ddoethuriaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan y teitl Tongues of the Spirit (Caerdydd, 1981).

Dyma ddiwinydd o statws rhyngwladol a gyfrannodd yn helaeth i addysg grefyddol yng Nghymru; mae’n llawn haeddu cael ei gynnwys yn Y Bywgraffiadur, a hynny ar achlysur dathlu can mlwyddiant ei eni.

Gwilym Huws

(Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf yn Dolen y Tab, sef cylchgrawn digidol wythnosol Capel y Tabernacl, Efail Isaf.)