E-fwletin 18 Gorffennaf, 2021

Y PLA ARALL

Rydym wedi bod  yn trafod Cofid ers blwyddyn a hanner ac mae ymateb yr eglwysi wedi’n syfrdanu. Yn sydyn maent wedi dysgu sut i ymdopi gyda’r dechnoleg ‘newydd’ a threfnir oedfaon ar wefannau, myfyrdodau ar Gweplyfr a chyfarfodydd gweddi ar Sŵm. Ond yng nghanol yr holl sôn am Cofid, mae pla arall, un llawer mwy cyfrwys na Cofid, wedi manteisio ar gyfnodau dan glo i ymledu (er iddo fod yn ein plith o’r blaen) ac i gryfhau ei afael. Enw’r  pla hwn yw Unigrwydd ac un o ganlyniadau Cofid yw gwaethygu Unigrwydd. Mae  pawb wedi profi ambell bwl o Unigrwydd yn y misoedd diwethaf. Bydd y mwyafrif ohonom yn dod trosto ond beth am y rhai sy’n dioddef o Unigrwydd hirdymor all arwain i iselder ac afiechyd meddwl? Nid oes brechlyn yn erbyn Unigrwydd. Bydd yn parhau pan fydd yr argyfwng presennol trosodd ac yn wahanol i salwch corfforol mae’n anodd i unigolion ddatgelu eu bod yn dioddef o Unigrwydd.

Rwy’n sicr fod aelodau eglwysig wedi ymateb mewn sawl ffordd i’r Unigrwydd sydd wedi dod fel canlyniad i Cofid: siopa i’r aelodau mwyaf bregus o’n cymunedau; ffurfio ‘swigen’ gydag aelod arall; ac fe fydd sawl ffôn wedi bod yn brysur. Prin iawn oedd trafodaeth – yn yr ardal hon beth bynnag – ar sut y dylem ymateb fel eglwysi.  Efallai yn wir fod  eglwysi unigol wedi datblygu dulliau i geisio ymdopi â’r unigrwydd hwn, ond nid wyf, hyd yma, wedi clywed amdanynt.

Beth yw cyfrifoldeb eglwysi a chapeli Cymru yn wyneb y pla hwn?  Efallai y bydd rhai yn dadlau nad yw unigrwydd yn digwydd ymhlith cymdeithasau clòs Cymreig, ond gyda phoblogaeth sydd yn symud o le i le ni fedrwn  gymryd hynny’n ganiataol. Bydd eraill yn dweud mai gwaith y gweinidog yw bugeilio. Bu hyn yn bosibl ers talwm, ond heddiw, gyda’r gweinidogion yn gyfrifol am nifer o eglwysi gwasgaredig  nid yw’n bosibl i weinidogion gyflawni’r gwaith bugeiliol, hyd yn oed cyn Cofid. Yn wahanol i rai afiechydon ein cyfnod, ni all arian, neu gynllunio ar lefel llywodraeth, ddatrys unigrwydd. Mae angen ymateb lleol ac mae’n faes lle gallai ac y dylai’r eglwysi fod yn flaengar.

Onid rŵan yw’r amser i ni ddechrau cynllunio ymatebion eglwysi i unigrwydd? A ydym ni’n gwybod sawl aelod yn ein capel sy’n byw ar eu pennau eu hunain? A ydym yn gwybod pwy sydd yn byw ymhell oddi wrth eu perthnasau ac a ydym yn ymwybodol fod ambell aelod yn brin o gyfeillion agos gan fod cynifer wedi symud i ffwrdd? Oes yna angen am ‘swigod’ o aelodau (fydd yn para ar ôl y cyfnodau clo) i ymgymryd â’r cyfrifoldeb o fugeilio ei gilydd?  Ystyrir gweithgareddau ‘cymdeithasol’ yn ymylol i waith yr eglwysi gan rai, ond tybed na ddylent fod yn fwy canolog? Ac oni ddylai ymateb eglwysi ymestyn ymhellach nag aelodau ein capel ni a datblygu fel rhan o’n cenhadaeth yn y gymuned? Bu cyfnod pan fu eglwysi yn flaengar yn cynnal ysgolion a  chynorthwyo’r tlodion, ond mewn oes wahanol mae yna heriau gwahanol. Dyma’r  cyfnod i ni weithredu i leddfu Pla  Unigrwydd sydd yn lledu trwy gymdeithas.