A hithau’n fis Awst, mae criw’r e-fwletin arferol yn cael hoe fach tan ddechrau Medi. Ond fe benderfynodd pwyllgor Cristnogaeth 21 anfon atoch i argymell oedfa o’r archif i’ch sylw, rhag ofn eich bod yn awchu am weld gwasanaeth rhithiol a rannwyd yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn anfon argymhelliad gwahanol atoch bob wythnos drwy’r mis.
O safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.
Oedfa dan ofal Gethin Rhys yw’r gyntaf, wedi ei dosbarthu gyntaf ym mis Tachwedd, 2020.
Medrwch fwynhau ein dewis drwy glicio YMA.