Unwaith yn rhagor, mae gennym oedfa i’w hargymell i chi allan o storfa archif y cyfnod clo, a braf yw cael ei dwyn i’ch sylw ar gyfer y Sul.
Penderfyniad pwyllgor Cristnogaeth 21 oedd argymell oedfa wythnosol i’n dilynwyr drwy gydol mis Awst, o blith rhai a ddosbarthwyd yn ddigidol dros y deunaw mis diwethaf. O safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.
Cafodd y fideo hwn a argymhellir heddiw ei rannu gyntaf ar Awst 1af eleni, a medrwch ei weld drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.youtube.com/watch?v=OgvWTO81Nx4
Pob bendith
www.cristnogaeth21.cymru