Archif Awdur: Golygydd

‘Pen blwydd hapus, i’r baban Iesu
Pen blwydd hapus iawn i ti.’

Mae rhywun wedi gwrando ar y plant yn canu’r garol syml yna ers sawl Nadolig bellach.

Ond gwrandewais arni o’r newydd yn yr Ysgol Sul y Sul diwethaf ar ôl darllen gair gan ein gweinidog yng nghylchlythyr y Capel yn awgrymu bod y sôn cyson am ddathlu Iesu’r baban yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
A rhywsut fe wnaeth y garol hon grynhoi’r cyfan. Onid ydy hi’n od? Gwrandewch eto:

‘Pen blwydd hapus, i’r baban Iesu
Pen blwydd hapus iawn i ti.’

Dathlu camu ymlaen flwyddyn mae rhywun mewn parti pen blwydd. Dathlu blwydd, dyflwydd, deunaw, un ar hugain, a’r degawdau, y ganrif. Dathlu dod yn berson yn ei oed a’i amser. Dathlu tyfu, datblygu, aeddfedu.

Ond dymuno pen blwydd hapus i’r BABAN Iesu mae’r garol hon. Mae’r Iesu rhywsut yn faban tragwyddol.

Y peryg ydy ei bod hi cymaint haws dathlu’r diniwed. Cofleidio’r ddelwedd daclus, gynnes, glud a’r stabl lân sydd byth yn drewi.

Mae yna hen jôc sy’n mynnu ein bod ni’n treulio rhai blynyddoedd yn dysgu ein plant i siarad a cherdded ac yn treulio gweddill eu bywydau nhw’n dweud wrthyn nhw am eistedd i lawr a bod yn dawel.

Dyw’r baban yn y preseb ddim yn symud. Mae o’n gorwedd yn llonydd a chysglyd ac angylaidd ac, am y tro, yn ddibynnol ar yr oedolion am ei gysur a’i gynhaliaeth. Ac os ydyn ni’n troi’n cefnau am eiliad, fe fydd o yno, pan wnawn ni droi’n ôl, yn yr un lle’n union ag oedd o.

Ond fel y gŵyr unrhyw riant, er gwaetha’r ddibyniaeth lwyr yna dros y misoedd cyntaf hynny, bod y gwaith caled yn dechrau y diwrnod hwnnw yr ydych chi’n troi rownd a dydy’r babi ddim lle gadawsoch chi o. Mae o wedi rowlio i rhywle, gwaeth byth wedi rowlio oddi ar rhywbeth – gwely neu gadair esmwyth ac yn crio ar lawr. Fydd y babi ddim yn llonydd am flynyddoedd wedyn.

Ac wedyn mae o’n dechrau siarad, a meddwl drosto’i hun, a strancio, a gwybod y cwbl ac ateb yn ôl. Yn herio’n barhaus.

Rhywsut dydy’r Iesu hwnnw ddim mor hawdd i’w gwtshio.
Yr Iesu aflonydd heriodd y drefn, y farn a’r rhagfarnau.

Rhywsut dydy’r Iesu hwnnw ddim yn gorwedd mor gyfforddus yng nghanol rhialtwch masnachol y Nadolig modern. Yr Iesu dyfodd, ddatblygodd ac a aeddfedodd. Yr Iesu dyfodd yn oedolyn o Iddew peryglus.

Felly wrth i’r Nadolig nesáu beth am beidio cael ein temtio i aros gyda’r baban.

Dathlwn y geni ar bob cyfri ond dathlwn fod y babi wedi tyfu yn broffwyd aflonydd, oedd yn meddwl drosto’i hun, yn strancio yn gwybod y cwbl, yn ateb yn ôl ac yn herio’n barhaus.

Parwn i ddymuno pen blwydd hapus, nid i’r baban, ond i’r Iesu sy’n dal yn ‘fyw’ ac yn dal i aflonyddu drwy gyfrwng ei eglwys ar y ddaear.

Pen blwydd hapus bos!

E-fwletin Tachwedd 29ain, 2015

Mae’n adfent, a bellach mae hyd yn oed yr eglwysi yn cael ymuno â phawb arall wrth edrych ymlaen at y Nadolig!
Mae’r wythnosau nesaf yn ein harwain at un olygfa fydd yn gyfarwydd i bawb bron. Yn union fel mae’r groes yn curo ‘M’ fawr McDonalds, ‘afal’ Apple a ‘thic’ Nike fel logo, mae’n siŵr bod golygfa’r geni yn curo’r Mona Lisa, y Swper Olaf a tho’r Sisitine fel yr olygfa gelfyddydol fwyaf cyfarwydd o’r cyfan.
Ond wrth gwrs, hyd yn oed ar dystiolaeth yr efengylau, ddigwyddodd pethau ddim fel maen nhw yn y llun. Doedd y doethion a’r bugeiliaid ddim yno ar unwaith. Mewnforir symbolau’r asyn a’r ychen o Eseia. Mae’r cadachau yn ragfynegiant symbolaidd o rwymau’r croeshoeliad.
Does neb, ag eithrio plant rhai selebs, yn cael eu geni’n enwog. Does neb yn cael eu geni o wyryf nac yn cael eu croesawu gan lu nefol. Ond gellir gweld sut mae traddodiad o’r fath yn tyfu o gwmpas rhywun sy’n byw bywyd bendigaid. Roedd hi’n bwysig ei fod o’n bwysig o’r dechrau. Roedd hi’n bwysig ei fod yn cyflawni’r disgwyliadau ac ar yr un pryd yn estyn y disgwyliadau.
Dydy cydnabod y pethau hyn ddim yn tynnu oddi ar ryfeddod y stori ond yn ychwanegu ati.
Ar y naill law mae arwyddocâd oesol i’r delweddau hyn, ond ar y llaw arall mae arwyddocâd newydd iddyn nhw o flwyddyn i flwyddyn ac o gyfandir i gyfandir.
Fyddai rhai, yn yr oes ddu a gwyn sydd ohoni, am i ni gredu mai un math o wirionedd sydd; un absoliwt, ffeithiol, gwyddonol. Fe gollon ni fel gwareiddiad y gallu i dderbyn bod mwy nag un ffordd o ddeall ac o ddysgu. Dealltwriaeth rhesymeg a theimlad, y logos a’r mythos, y pen a’r galon. Ac fe osodon ni’r ddau benben â’i gilydd. Rydym yn dlotach o’r herwydd.
Yn hytrach na golygu ffordd amgenach o ddeall pethau nad ydy gwyddoniaeth yn gallu eu hegluro, bron na ddaeth ‘myth’ i fod yn gyfystyr â chelwydd. ‘Stori sy’n esbonio’ yw diffiniad cyntaf GPC o’r gair a ‘cred gyfeiliornus’ yw’r ail. Mae cryn wahaniaeth rhwng y ddau.
Yn y cyd-destun geiriadurol hwn dwi’n credu fod gan olygfa’r geni wirionedd oesol i’w rannu. Roedd y bugeiliaid cyffredin di-ddysg yno ar ôl clywed stori am ‘ddyfod Duw i’r byd’. Ond fe roedd y sêr ddewiniaid yno hefyd – y gwyddonwyr amyneddgar, yn chwilio, am weld, am gael prawf ac am brofi fod Crist wedi ei eni.
Ond i mi mae yna wirionedd penodol i’r myth y Nadolig hwn. Daeth Duw cariad ar ffurf y Crist diniwed a chroesawu’r tlawd a’r cyffredin ar ffurf y bugeiliaid, a’r dieithriaid o’r dwyrain ar ffurf y doethion, ac fe drowyd y prif gymeriadau’n ffoaduriaid. Y tlawd a’r dieithr a’r rhai ar ffo oedd yno ar y dechrau, trwy gydol a thu hwnt i’w fywyd meidrol.
Hen ddelwedd gyfarwydd sy’n ddelwedd fyw o bresennol anghyfarwydd ac ansicr. Cadwn hyn mewn cof wrth deithio tua Bethlehem eleni.

E-fwletin Tachwedd 23ain, 2015: “Crist y Brenin?”

Crist y Brenin? Fyddwch chi’n meddwl am Grist fel Brenin? Nid felly y bydda’i yn meddwl amdano. Glastwr o frenhiniaeth sy’ gennym ni yn y wladwriaeth Brydeinig, dim ond cysgod grym. Wedi’r cyfan mewn brenhiniaeth ‘go iawn’ does yna ddim pleidlais ar orchymyn y brenin! A phe baem ni’n priodoli i Grist holl nodweddion brenin neu frenhines ddynol, fe fyddem ni’n chwilio’n ofer am y nodweddion sy’n peri i ni feddwl amdano fel cyfaill, meddyg, gwaredwr, brawd heb sôn am Dad neu Fam. Y mae pob cymhariaeth ddynol yn rhannol, weithiau’n anaddas ac weithiau’n gwbl gamarweiniol.

Rwy’n hoff iawn o’r chwedl am Sant Gwynllwg, nawdd-sant hen eglwys gadeiriol Casnewydd a ddechreuodd ei yrfa fel arweinydd y llwyth yn lleidr gwartheg. Dwyn ei wraig wnaeth e hefyd, ond hi a’u mab Cadog a droes galon ei gŵr tuag at Grist. Ar ôl ei dröedigaeth byddai ei bobl yn cyfeirio ato fel ’Brenin nad oedd yn lladrata’. Gynt, dyna’r unig math o arweinydd/frenin y gawson nhw brofiad ohono.

Ond mae’r stori am sefydlu, yn y flwyddyn eglwysig, Sul ar gyfer ‘Crist y Brenin’ a thymor ’y Deyrnas’ o’i flaen yn stori anrhydeddus ddigon. Yn y tridegau ‘brenhinoedd’ bygythiol pennaf Ewrop oedd Stalin yn Rwsia, Hitler yn yr Almaen a Mussolini yn yr Eidal. Y Pab a sefydlodd dymor y Deyrnas a Sul Crist y Brenin, yn wrthgyferbyniad i’r rhai oedd yn tra arglwyddiaethu ar deyrnasoedd y ddaear. Fel Cyhoeddi Crist sy’n Arglwydd a gwrthod dweud ‘Caesar sy’n Arglwydd’. Dim ond felly y gellir gwneud synnwyr o’r ddelwedd.

Gwir bod y syniad o frenhinedd yn hynod o bwysig yn yr Hen Destament- fel

delfryd i hiraethu amdani yn llyfr y Salmau, ac fel realiti tra siomedig yn hanes Israel. Dafydd oedd y gorau, a go brin ei fod e’n sant! Ond i’r genedl Duw ei hun oedd yn Frenin. Ond a ydi’r ddelwedd yn un ddefnyddiol i ni heddi?

I’m tyb i, byddai’r syniad glastwraidd o frenhinedd gwleidyddol yn cosi ‘n anghyfforddus i fwyafrif dilynwyr Cristnogaeth 21, ond rydyn ni i gyd yn dueddol i chwilio am arweinydd effeithiol, grymus y gellir ymddiried ynddo neu ynddi, rhywun fydd yn cynrychioli ein dyheadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, llwythol a chenedlaethol. A’n tuedd ydi eu dyrchafu gyntaf a chael gwared arnyn nhw wedyn.

Ac yn hanes y ddynoliaeth byddai brenhinoedd yn aml yn cael eu lladd / eu haberthu pan fyddai dyddiau eu defnyddioldeb yn bygwth dod i ben.

Chwarae teg i’r Pab hwnnw am herio’r gorthrymwyr (dau wedi cyrraedd eu lle trwy bleidlais). Ac mae’n ffordd reit effeithiol i godi trafodaeth am ein hiaith a’n ffordd o siarad yn ystyrlon am Grist. Wedi’r cyfan y mae symbol o fam a baban yn disodli’r brenin yn fuan iawn yn nhymor y Nadolig, tymor Emmanuel.

E-fwletin Tachwedd 16eg, 2015

Mae lliwiau’r Tricolor Ffrengig yn goleuo adeiladau eiconaidd y cenhedloedd. Glas coch a gwyn dros dŷ opera Sydney, ar sgwâr Trafalgar a thros Gampfa’r Mileniwm yng Nghaerdydd, yn fynegiant o sefyll mewn cydymdeimlad â Ffrainc mewn awr o drallod cenedlaethol. A hynny’n dod ar ôl her miloedd o bobl yn ffoi o’r dwyrain. Pwy na ochneidiai wrth weld dinistr mor enbyd yn cael ei gynhyrchu gan saith o bobl. (Erbyn meddwl bu saethu un arch-ddug, yn Sarajevo yn 1914 yn ddigon i gychwyn y Rhyfel Byd cyntaf.)

 

Wrth feddwl yn syfrdan am y pethau hyn daeth i’m meddwl bod tebygrwydd rhwng y cyfan hyn a beth ddigwyddodd pan ddymchwelodd yr Ymerodraeth Rufeinig. Nid byddin drefnus a disgybledig a danseiliodd yr ymerodraeth honno, ond llwythi’r gogledd mewn trybestod yn gorlifo, Fandaliaid, Gothiaid a Fisigothiaid a’r lleill a barodd i Rufain dynnu nôl o oruwch-lywodraethu Ewrop gan adael i’r canrifoedd ddiflannu i’r oesau ‘Tywyll’. Lle’r oedd Cristnogaeth wedi dechrau egino, tyfodd oesau cymysg ‘Crêd’. Trôdd yr hen etifeddiaeth ‘arwrol’ mewn barddoniaeth a chwedlau ‘yn rhywbeth gwahanol’. Yn dal yn llawn trais a gwaed.

 

Yn Efengyl Marc 13 y mae’r disgyblion yn gwahodd Iesu i edmygu’r deml, gwaith Herod yn anrhydeddu ei dras Iddewig, gyda help technoleg a chyfoeth Rhufain. Doedd gan Iesu ddim i’w ddweud o’i blaid. Yn wir, y tebygrwydd yw bod Iesu yn ei feirniadaeth ddeifiol ar y deml yn adlewyrchu hiraeth dwys mewn un garfan o’r genedl am y Deml gyntaf a ddinistriwyd cyn y gaethglud. Y gwrthryfel Iddewig a dynnodd holl rym Rhufain i ddinistrio’r deml a’r cwbl yr oedd hi, hyd yn oed yn ei amherffeithrwydd, yn ei gynrychioli.

 

Rhywbeth tebyg yn ddiau yw gobaith ISIS sy’n codi o raniadau y tu mewn i Islam. Ymddengys bod bwriad i greu anrhefn treisiol llwyr wrth gynhyrfu gwrthdaro dialgar diatal. Yr oedd yn y diwylliannau hynafol, heb na deddf na chyfiawnder, ofni anrhefn a fyddai’n llwyr ddinistrio cymunedau cyfan. Mor hawdd ydoedd i bobl ymffyrnigo – fel y frwydr yn y ‘saloon-bar’ pan yw pawb yn ymuno i ddyrnu’n ddi-drugaredd ac yn ymuno yn y ffrae, beth bynnag oedd honno. Ychydig dros wythnos yn ôl bu farw gŵr eithriadol a sylwodd ac a ddiffiniodd y duedd hon a rhoi i haneswyr a gwleidyddion a diwinyddion (a llu o ddisgyblaethau eraill) offeryn newydd miniog i ddadansoddi ymddygiad y cenhedloedd. Diolch am waith René Girard, Ffrancwr o dras a dreuliodd oes yn gweithio ym mhrifysgolion America ac a fagodd sawl cenhedlaeth o ddisgyblion y gellir yn deg eu galw yn dangnefeddwyr. Clywir mwy eto am ddylanwad ei ddamcaniaeth fimetic am ymddygiad y ddynoliaeth damcaniaeth sy’n mynd yn ddyfnach na damcaniaethau Marx na Freud.

 

O edrych ar y deml dywed Iesu y gellid dinistrio’r cwbl heb adael carreg ar garreg. Ac wrth ymhelaethu â’i ddisgyblion disgrifiodd y rhyfeloedd, a’r daeargrynfâu a fyddai’n goddiweddyd y ddynoliaeth. Doedden nhw ddim i boeni gormod amdanynt, am y byddai’r cwbl yn wewyr, cyfnod cyn esgor ar fywyd newydd. Math o farw ac atgyfodi.

 

A chofio Irac, Afghanistan, Syria, y miloedd yn cyrraedd ynys Lesbos ac yn curo ar ddrysau Ewrop am fynediad, a’r argyfwng ecolegol sy’n ein bygwth mae lle i ddyfalu am beth ellir ei wneud i achub y byd rhag difodiant.

 

Clywais fam un o’r dynion y torrwyd ei ben ymaith gan ‘Jihadi John’ yn ocheneidio nad oedd hi’n ymfalchïo dim yn y newyddion ei fod wedi ei ladd. Doedd hi, meddai, ddim yn chwilio am ddial – fyddai hynny’n datrys dim. Tristau yr oedd hi bod dyn ifanc yn medru ymddwyn fel y gwnaeth. A oes digon o bobl sy’n chwennych heddwch, tangnefedd, cyfiawnder i newid y pwyslais o ddialedd a dicter i adeiladu tangnefedd ? Ydi hi’n rhy hwyr i’r tangnefeddwyr ?

‘Paid a’n dwyn i brawf; gwared ni rhag y Drwg.’

E-fwletin Tachwedd 9fed, 2015

Pabi Coch neu Babi Gwyn?

Yn ei gyfrol ddiweddaraf ‘Yn ôl i’r Dref Wen’ mae Myrddin ap Dafydd yn trafod hanes ac arwyddocâd yr hyn ry’n ni’n ei adnabod fel Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Mae llawer o Ganu Llywarch Hen yn ymwneud â pherthynas Llywarch a’i fab ieuengaf Gwên a fu farw wrth amddiffyn Rhyd Forlas ger y Waun yng Nyffryn Ceiriog, sydd yn dal yn ffin rhwng Cymru a Lloegr heddiw.

Roedd hi’n arferiad yn nyddiau Llywarch Hen, fel cynt a chwedyn, i ganmol y traddodiad arwrol milwrol mewn cerddi a chaneuon – yr hyn a elwir yn ganu ‘clod’. “Cerddi’n dathlu arwriaeth y milwyr ffyddlon hyd at farw a olygir wrth ‘clod’ meddai Myrddin ap Dafydd, “a’r clod mewn awdlau yw eu tâl am dywallt gwaed.”

Ond yn ei alar o golli Gwên, awgryma Myrddin bod Llywarch Hen “yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth y traddodiad hwnnw”. Awgryma ymhellach, “Efallai y gallwn glywed yma wreiddiau dadl y rhai sy’n gwrthwynebu’r elfen o glodfori a normaleiddio militariaeth a derbyn bod rhyfela yn rhan anorfod o fywyd yn ein dyddiau ni.”

Mewn cyfrol sydd yn sicr yn werth ei darllen am y ffordd y mae’n ein goleuo am ein hanes fel Cymry, mae hefyd yn gyson yn cysylltu profiadau o’n gorffennol a sefyllfaoedd heddiw. Ac yn sŵn Sul y Cofio mae yna densiynau’n gallu codi rhwng y rhai sydd am ddefnyddio’r achlysur hwnnw er mwyn clodfori rhyfel a’r rhai a fyn ei weld yn achlysur i’n hysgogi i geisio ffyrdd heddychlon i ddatrys helbulon y gwledydd.

Crisialwyd craidd y mater hwn yn y drafodaeth a gafwyd ar fwy nag un rhaglen ar Radio Cymru ddiwedd yr wythnos hon ynglŷn â’r arfer o wisgo pabi coch adeg Sul y Cofio, a’r nifer cynyddol sydd bellach yn gwisgo’r pabi gwyn. Roedd hi’n dda iawn deall bod consesiwn wedi ei gyrraedd yn ardal Aberystwyth yn dilyn trafodaethau rhwng aelodau o’r Lleng Brydeinig sy’n trefnu Sul y Cofio, ag aelodau o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth sy’n hyrwyddo gwisgo’r pabi gwyn. Mae’n debyg eu bod wedi cytuno i ddwy dorch gael eu gosod wrth gofgolofn filwrol Aberystwyth, un goch ac un wen. Dyma esiampl gampus i drefnwyr seremonïau Sul y Cofio ar draws Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau mawr i gynrychiolwyr y ddwy ochr.

Yn y cyfamser byddai’n dda clywed os oes yna ymdrechion tebyg wedi bod mewn rhannau eraill o Gymru i hyrwyddo gwisgo’r pabi gwyn, Neu os oes rhai wedi eu beirniadu am wisgo un.

Beth yw’ch barn a’ch profiad chi tybed?

E-fwletin Tachwedd yr ail, 2015

Ro’n i yng nghwmni criw bychan o bobl yn ddiweddar, ac yn trafod agweddau tuag at grefydd. Roedd pawb oedd yno wedi eu magu ar aelwyd Gristnogol, tri yn blant i weinidogion, gydag oedfa ac ysgol Sul wedi bod yn rhan naturiol o’u magwrfa. Ac i raddau helaeth roedd pob un wedi bod yn lled ffyddlon i’r drefn a’r traddodiad hwnnw gydol eu hoes; er, mae pob un o blant y cwmni hwn wedi ymwrthod â chrefydd sefydliadol.
Dywedodd un o’r cwmni mai diwrnod gwaetha’r wythnos iddi oedd dydd Sul. Os na fyddai’n mynd i oedfa byddai’n teimlo’n anniddig ac anghyfforddus, fe’i poenid gan euogrwydd mawr, a phan glywai gloch yr eglwys yn canu roedd fel sŵn rhywun yn taro hoelen rhywle’n ddwfn o’i mewn.
Dro arall byddai’n mynd i oedfa ar y Sul, ond roedd yr hyn a glywsai yno gan amlaf yn ei diflasu a’i hanobeithio gymaint, gyda’r neges yn arwynebol ac amherthnasol, nes ei bod yn difaru ei henaid ei bod wedi mynd yno. O’r ddau meddai, gwell oedd ganddi ddiodde’r boen a’r euogrwydd o beidio mynd na’r boen o fod yn rhan o oedfa farw.
Roedd eraill yn y cwmni a allai uniaethu gyda’r profiad hwn.
Y cwestiwn a godai o hyn oedd, ble mae troi er mwyn profi’r ‘fendith’ yr arferem ei chael mewn oedfa? Ar hyn o bryd mae rhai yn dewis mynd i gerdded, gan dystio bod eu myfyrdodau wrth gerdded yn golygu mwy iddynt na’r hyn a geir o fynd i’r capel. Mae ambell un yn gwneud ymarferiadau yoga ac un neu ddau arall yn ymuno ar dro gyda’r Crynwyr.
Ond beth am y traddodiad anghydffurfiol Cymraeg ry’ ni wedi’n magu ynddo ac yn dal i deimlo ein bod rhywsut yn rhan ohono? Ai’r unig ddewis yn fanno yw rhwng marweidd-dra syrffedus yr oedfaon yn llawer o’n capeli ar y naill law, neu sicrwydd hunangyfiawn a chaëedig yr efengylwyr – sydd yr un mor syrffedus, ar y llaw arall?
A oes yna eraill allan yna yn rhannu yr un gwewyr?
Ac os oes yna, a yw hi’n bryd tybed i ni ddod at ein gilydd i herio’r sefydliadau crefyddol Cymraeg i fod yn barod i arddel ffordd arall amgenach o ymwneud â’r ysbrydol, un fasai’n rhoi dilysrwydd i’r profiadau gonest a didwyll hynny a ranwyd yn ein cwmni bychan?
Os oes yna unrhyw beth o’r traddodiad anghydffurfiol Cymraeg sydd yn werth ei achub, yr elfen ‘anghydffurfiol’ yw hwnnw. A oes digon ohono ar ôl i’n helpu ni ymlaen o’r fan hyn?
Byddai’n dda clywed gennych!

E-fwletin Hydref 26ain, 2015

Llwyddiannau!

Rydych i gyd yn adnabod y capel yr wyf yn sôn amdano. Efallai i chi fod yno’n ddiweddar. Roedd yno lai na deg o addolwyr (yn eu saithdegau a’u hwythdegau) a gweinidog wedi ymddeol, eto yn ei wythdegau, yn arwain. Nid oedd organydd. Darllenwyd yr emynau. Erbyn diwedd yr oedfa roedd dwylo’r gweinidog yn grynedig ac ni allai godi ei lais yn ddigonol i gyrraedd cynulleidfa’r seddau cefn.

Hawdd yw canmol y gweddill ffyddlon hwn: mae’r aelodau’n bugeilio’i gilydd, yn galw i weld aelod sy’n sâl ac yn mentro ar daith hir i ymweld â’r ysbyty os oes rhywun yno. Ond ni bydd angen mwy nag ychydig o angladdau cyn y bydd rhaid i’r capel hwn gau. Mae rhai ohonom yn cefnogi’r sefyllfa hon drwy fod yn fodlon llenwi’r pulpud, ac rwyf innau’n euog o beidio dweud gair rhag gwylltio rhywun. Gwyddom fod yna ddwsinau, os nad cannoedd, o gapeli tebyg i hwn ar draws Cymru. Oni ddylem fod yn onest a chydnabod fod y sefyllfa’n ymylu ar ddwli anhygoel? Mae angen i unigolion ac enwadau ddweud y gwir anghysurus.

Rŵan yw’r amser i alw ar bob capel bychan i ystyried ei sefyllfa. Mae angen dewrder, ffydd a chryfder arbennig gan y rhai sydd wedi bod yn aelodau yn yr un capel gydol eu hoes, i ddechrau’r drafodaeth hon cyn bod amgylchiadau’n eu gorfodi i wneud hynny. Mae trafodaeth o’r fath yn hanfodol i’r sawl sy’n gwirioneddol ddymuno i’r ffydd Cristnogol barhau.

Aeth trafod yn anos erbyn hyn gan mai seiat, cyfeillach a chwrdd gweddi oedd yn arfer cynnig llwyfan i alluogi aelodau i fynegi barn, ac mae’r rhain wedi diflannu. Efallai mai’r cam cyntaf fyddai cynnal rhyw fath o gylch trafod yn lle ambell i oedfa er mwyn i’r ffyddloniaid fagu hyder i fynegi barn cyn trafod y sefyllfa hon yn benodol, ac ni ddylid diystyru’r angen am amser i fynegi galar am golli “ein capel ni” yn ogystal â datblygu cynllun i symud ymlaen.

Mae angen arweiniad gan yr enwadau hefyd. Buasent yn colli llawer o aelodau wrth gau capeli (rhaid gwahaniaethu rhwng ‘aelodau’ a ‘ffyddloniaid’) ond dylent roi arweiniad, galw yn agored ar gapeli bychain i gau, casglu enghreifftiau o sut mae’r broblem wedi ei datrys eisoes mewn ambell i ardal, a rhannu’r wybodaeth gan annog pob capel unigol i addasu’r trefniadau neu ddatblygu rhai newydd yn ôl yr angen lleol.

Onid ddylem ni ystyried fod cau capeli ac uno cynulleidfaoedd yn arwydd o lwyddiant? Buasai’n dangos fod Cristnogion yn fodlon mentro a byddai’n ddatblygiad naturiol i gwrdd ag amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain, lle nad oes angen capel o fewn pellter cerdded i bawb nac ychwaith gael mwy nag un capel mewn trefi bychain. Byddai’n codi baich mawr oddi ar ysgwyddau’r ychydig a fydd yn ceisio cyflwyno’r ffydd i’r genhedlaeth nesaf, ac yn rhyddhau adnoddau ariannol a dynol i’r gwaith o ail-gyflwyno’r Efengyl i Gymru.

Diolch am ddarllen. Os hoffech chi ymateb i’r neges hon neu i unrhyw neges arall, mae modd gwneud hynny mewn un o dair ffordd. Yn gyntaf, medrwch anfon neges at gwefeistr@cristnogaeth21.org neu yn ail medrwch ateb yn uniongyrchol ar y Bwrdd Clebran neu’n drydydd mae modd rhoi neges ar ein tudalen Facebook. Erbyn hyn mae ein cornel ar Facebook yn prysur ennill ei phoblogrwydd fel lle bywiog, bachog a gogleisiol. Ewch i weld, cofrestrwch a chyfrannwch!

E-fwletin Hydref 19eg, 2015

Croesi’r bont ?

Rydym yn ddiog iawn wrth ddewis geirfa i drafod Duw – yn defnyddio yr un hen eiriau mewn gweddi, emyn a phregeth heb wir ystyried yr hyn rydym yn ei ddweud, beth yw eu hystyr heddiw a beth yw eu hystyr i’r ffyddloniaid erbyn hyn.

Dyna ‘Brenin’ ac ‘Arglwydd’ er enghraifft. Beth yw ystyr ‘Arglwydd Iesu’ ochr yn ochr â ‘Tŷ’r Arglwyddi’ neu ‘Brenin Nef ‘ochr yn ochr â’r ‘Frenhines Elizabeth’ ? Nid yw’r naill na’r llall yn cyfleu yr un syniad o awdurdod ag oedd iddynt ganrifoedd yn ôl.

Wedyn mae’r ansoddeiriau megis grymus, nerthol, hollalluog. Os yw Duw yn ‘hollalluog/hollrymus’ (‘almighty’) sut fath o allu ydym yn cyfeirio ato? Mae rhai Cristnogion ffeministaidd wedi gwahaniaethu rhwng ‘power over’ sef ‘grym’(efallai) a ‘power to’ sef ‘gallu’ neu ‘nerth’ (er ein bod ni, Gymry, yn defnyddio cymysgfa o’r tri heb ystyried eu hystyr yn fanwl). Ar ôl tri chwarter canrif o fyw gyda dinistr bom niwclear, oni ddylem gwestiynu pa fath o allu sydd gan Dduw, a sut mae’n dewis defnyddio’r gallu hwnnw – neu peidio ei ddefnyddio?

Wrth sôn am aberth Iesu drosom mae ein dewis o eiriau yn fwy rhyfedd. Rydym yn cyfeirio at y dull erchyll o ddienyddio a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid. Heddiw condemnir yn hallt bob math o arteithio ond sonnir gennym am bren Calfaria, y ddwyfol groes, coron ddrain, hoelion ac afonydd o waed i’n golchi yn lân – i gyd fel pethau i’w canmol. Ond gogoneddu arteithio a dienyddio yw hyn i eraill.

Ond efallai mai’r gair anoddaf yw ‘tad’ (yn aml heb ychwanegu ‘nefol’). Beth yw ystyr y gair ‘tad’ i blant mewn rhai teuluoedd heddiw?

O fewn ein cylch dethol ni efallai ein bod yn deall ystyron ein geiriau a deall ein gilydd. Ond y tu allan i’n cylch, mae miloedd sydd, efallai, yn osgoi defnyddio’r gair ‘duw’ ond sy’n credu mewn rhyw fath o fywyd ysbrydol. Ac efallai ein bod ni’n siarad iaith gwbl ddieithr iddynt.

Mae’r Beibl yn llawn o ffyrdd o sôn am Dduw: ffynhonnell, cydymaith, diddanydd, mam , eryr, bydwraig, crochenydd, pobyddes a llawer mwy. Llwyddodd yr Eglwys Geltaidd yn rhannol oherwydd ei defnydd o iaith ysbrydol oedd yn ddealladwy i’r rhai oedd yn credu mewn gallu trisgell, mewn drysau rhwng y byd hwn a byd arall ac a oedd yn arfer addoli wrth ffynhonnau. Mae ein sefyllfa ni fel “gweddill ffyddlon” yn debyg iawn iddynt . Os ydym am gyfathrebu gyda’r miloedd mae’n rhaid i ni ddatblygu geirfa a iaith sy’n ddealladwy i’n cenhedlaeth ni. Ac onid yw cyfathrebu yn gwbl allweddol i bopeth a gredwn ac a feddyliwn ?

Trychineb Dolgarrog

Cynhelir gwasanaethau yn fuan i gofio’r trychineb a fu yn Nolgarrog ym mis Tachwedd, 1925, sef 90 mlynedd yn ôl.

Bydd y gwasanaeth cyntaf ddydd Sul, Tach 1 yn Salem, Llanbedr y Cennin am 4.00p.m. gyda’r Parch Helen Wyn Jones a’r Parch Gwilym Wyn Roberts yn cymryd rhan. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn.

Yna, nos Lun, Tach 2il  bydd gwasanaeth yn Eglwys Dolgarrog am 8.15. Digwyddodd y ddamwain am 9 o’r gloch yr hwyr. Darperir lluniaeth ysgafn yn Y Ganolfan yn Nolgarrog am 7p.m., cyn y gwasanaeth. Collwyd 10 oedolyn a 6 o blant yn y digwyddiad, oedd yn ergyd drom i bentref mor fychan.

E-fwletin Hydref 12fed, 2015

Er nad yw Jeremy Corbyn yn arddel ffydd a chred roedd ei ddyfyniad o Keir Hardie am ‘trying to stir up divine discontent with wrong’ yn… wel, … yn eirfa broffwydol. Os nad yw pobl yn credu yn Nuw, mae’n dda eu gweld yn Ei gydnabod. Gyda llaw, mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Third Way (rhifyn Mehefin 2015) mae’n dangos parch a gwerthfawrogiad o’r eglwys a phwysigrwydd cyfraniad yr eglwys yn y dyfodol. Diddorol, yn yr un cyfweliad, yw ei ddisgrifiad o’i fam fel ‘a Bible reading aethist, no, agnostic’ ac o gofio fod ei dad yn Gristion, nid yw’n anodd deall dylanwad ei gefndir arno. Mae’n diffinio sosialaeth, fel ‘where everyone is valued and cared for and included,’ ac mae’n ychwanegu, ‘if that is left wing, so be it.’ Y mae mwy o ruddin ysbrydol yn y di-gred nag yn y grefydd-foesol-gyfleus-wleidyddol (‘religion is a jolly good thing,’ meddai Boris ar Question Time un tro) gan lawer o arweinyddion pleidiau.
O glywed Prif Weinidog Prydain yn galw Jeremy Corbyn yn ‘that man’ yng Nghynhadledd y Blaid Doriaid, a chofio fod Jeremy Corbyn wedi galw am barch a chwrteisi rhwng gwleidyddion a’i gilydd wythnos cyn hynny, mae’n anodd peidio cyfeirio at elfen broffwydol arall : gwawd. Perthyn i’r gorffennol mae JC ac ni fyddai neb yn hyn o fyd gwleidyddol yn ei gymryd o ddifrif. Onid yw wedi ei bortreadu gyda het y Joker/clown ar ei ben? Y gred gyffredinol yw mai seren wîb o oes a fu yw, ac y bydd y seren tan gwmwl yn fuan. Go brin y daw yn Brif Weinidog. Ond tybed nad oes yna rai – ambell i broffwyd annisgwyl – nad yw eu cyfraniad yn fawr mwy na chodi llais yn erbyn y llif? Efallai mai felly y dylai’r eglwys edrych arni ei hun bellach. Cofio fod gwawd a sarhad yn dod â ni yn nes at y Gwas Dioddefus na’r dyhead am lwyddiant a dylanwad. Fe soniodd Jeremy Corbyn am y ‘divine discontent’ ychydig ddyddiau ar ôl Gŵyl Flwyddyn Newydd yr Iddewon, y Rosh Hashanah. Ar yr ŵyl honno mae’r corn (y sophar – corn hwrdd) yn chael ei chwythu sawl gwaith i alw ei bobl i roi cyfrif am eu goruchwyliaeth ac i gofio fod Duw y Creawdwr yn Dduw sydd hefyd yn Farnwr. Mae’r ŵyl yn lais sydd yn ein galw – pob unigolyn, gwlad, plaid, llywodraeth ac eglwys – i Lys Barn sydd yn Lys Goruchaf ‘where everyone is valued and cared for and included.’ Mae’n siŵr fod Gwŷl y Rosh Hasanah wedi cael dylanwad mawr ar Iesu tros y blynyddoedd ac mae ei weinidogaeth a’i eiriau (e.e. Dameg y defaid a’r geifr) fel galwad y corn. Martin Luther King a ddywedodd y geiriau (sydd hefyd yn cael eu dyfynnu yn y cyfweliad yn Third Way ) ‘The arc of the moral universe is long, but it bends towards justice.’ Er gwaethaf pob tystiolaeth i’r gwrthwyneb y dyddiau hyn, cread y Creawdwr Cyfiawn yw hwn ac y mae’n rhaid i ni gredu a thystio i hynny. Nid dyma’r amser i fod yn dawel. Yn wir, mae’n amhosibl bod yn dawel.
Diolch am ddarllen.
Fel y gwyddoch erbyn hyn, byddwn yn lansio cylchgrawn digidol newydd ar y we ym mis Ionawr, i gymryd lle’r wefan bresennol. Rydym yn chwilio am enw i’r cylchgrawn hwnnw, ac felly rydym yn gwahodd awgrymiadau gan gefnogwyr Cristnogaeth 21. Os oes gennych enw i’w gynnig, anfonwch air atom drwy bwyso “Ateb / Reply”
Pob bendith,
Cristnogaeth 21.
www.cristnogaeth21.org