E-fwletin Tachwedd 23ain, 2015: “Crist y Brenin?”

Crist y Brenin? Fyddwch chi’n meddwl am Grist fel Brenin? Nid felly y bydda’i yn meddwl amdano. Glastwr o frenhiniaeth sy’ gennym ni yn y wladwriaeth Brydeinig, dim ond cysgod grym. Wedi’r cyfan mewn brenhiniaeth ‘go iawn’ does yna ddim pleidlais ar orchymyn y brenin! A phe baem ni’n priodoli i Grist holl nodweddion brenin neu frenhines ddynol, fe fyddem ni’n chwilio’n ofer am y nodweddion sy’n peri i ni feddwl amdano fel cyfaill, meddyg, gwaredwr, brawd heb sôn am Dad neu Fam. Y mae pob cymhariaeth ddynol yn rhannol, weithiau’n anaddas ac weithiau’n gwbl gamarweiniol.

Rwy’n hoff iawn o’r chwedl am Sant Gwynllwg, nawdd-sant hen eglwys gadeiriol Casnewydd a ddechreuodd ei yrfa fel arweinydd y llwyth yn lleidr gwartheg. Dwyn ei wraig wnaeth e hefyd, ond hi a’u mab Cadog a droes galon ei gŵr tuag at Grist. Ar ôl ei dröedigaeth byddai ei bobl yn cyfeirio ato fel ’Brenin nad oedd yn lladrata’. Gynt, dyna’r unig math o arweinydd/frenin y gawson nhw brofiad ohono.

Ond mae’r stori am sefydlu, yn y flwyddyn eglwysig, Sul ar gyfer ‘Crist y Brenin’ a thymor ’y Deyrnas’ o’i flaen yn stori anrhydeddus ddigon. Yn y tridegau ‘brenhinoedd’ bygythiol pennaf Ewrop oedd Stalin yn Rwsia, Hitler yn yr Almaen a Mussolini yn yr Eidal. Y Pab a sefydlodd dymor y Deyrnas a Sul Crist y Brenin, yn wrthgyferbyniad i’r rhai oedd yn tra arglwyddiaethu ar deyrnasoedd y ddaear. Fel Cyhoeddi Crist sy’n Arglwydd a gwrthod dweud ‘Caesar sy’n Arglwydd’. Dim ond felly y gellir gwneud synnwyr o’r ddelwedd.

Gwir bod y syniad o frenhinedd yn hynod o bwysig yn yr Hen Destament- fel

delfryd i hiraethu amdani yn llyfr y Salmau, ac fel realiti tra siomedig yn hanes Israel. Dafydd oedd y gorau, a go brin ei fod e’n sant! Ond i’r genedl Duw ei hun oedd yn Frenin. Ond a ydi’r ddelwedd yn un ddefnyddiol i ni heddi?

I’m tyb i, byddai’r syniad glastwraidd o frenhinedd gwleidyddol yn cosi ‘n anghyfforddus i fwyafrif dilynwyr Cristnogaeth 21, ond rydyn ni i gyd yn dueddol i chwilio am arweinydd effeithiol, grymus y gellir ymddiried ynddo neu ynddi, rhywun fydd yn cynrychioli ein dyheadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, llwythol a chenedlaethol. A’n tuedd ydi eu dyrchafu gyntaf a chael gwared arnyn nhw wedyn.

Ac yn hanes y ddynoliaeth byddai brenhinoedd yn aml yn cael eu lladd / eu haberthu pan fyddai dyddiau eu defnyddioldeb yn bygwth dod i ben.

Chwarae teg i’r Pab hwnnw am herio’r gorthrymwyr (dau wedi cyrraedd eu lle trwy bleidlais). Ac mae’n ffordd reit effeithiol i godi trafodaeth am ein hiaith a’n ffordd o siarad yn ystyrlon am Grist. Wedi’r cyfan y mae symbol o fam a baban yn disodli’r brenin yn fuan iawn yn nhymor y Nadolig, tymor Emmanuel.