E-fwletin Tachwedd 16eg, 2015

Mae lliwiau’r Tricolor Ffrengig yn goleuo adeiladau eiconaidd y cenhedloedd. Glas coch a gwyn dros dŷ opera Sydney, ar sgwâr Trafalgar a thros Gampfa’r Mileniwm yng Nghaerdydd, yn fynegiant o sefyll mewn cydymdeimlad â Ffrainc mewn awr o drallod cenedlaethol. A hynny’n dod ar ôl her miloedd o bobl yn ffoi o’r dwyrain. Pwy na ochneidiai wrth weld dinistr mor enbyd yn cael ei gynhyrchu gan saith o bobl. (Erbyn meddwl bu saethu un arch-ddug, yn Sarajevo yn 1914 yn ddigon i gychwyn y Rhyfel Byd cyntaf.)

 

Wrth feddwl yn syfrdan am y pethau hyn daeth i’m meddwl bod tebygrwydd rhwng y cyfan hyn a beth ddigwyddodd pan ddymchwelodd yr Ymerodraeth Rufeinig. Nid byddin drefnus a disgybledig a danseiliodd yr ymerodraeth honno, ond llwythi’r gogledd mewn trybestod yn gorlifo, Fandaliaid, Gothiaid a Fisigothiaid a’r lleill a barodd i Rufain dynnu nôl o oruwch-lywodraethu Ewrop gan adael i’r canrifoedd ddiflannu i’r oesau ‘Tywyll’. Lle’r oedd Cristnogaeth wedi dechrau egino, tyfodd oesau cymysg ‘Crêd’. Trôdd yr hen etifeddiaeth ‘arwrol’ mewn barddoniaeth a chwedlau ‘yn rhywbeth gwahanol’. Yn dal yn llawn trais a gwaed.

 

Yn Efengyl Marc 13 y mae’r disgyblion yn gwahodd Iesu i edmygu’r deml, gwaith Herod yn anrhydeddu ei dras Iddewig, gyda help technoleg a chyfoeth Rhufain. Doedd gan Iesu ddim i’w ddweud o’i blaid. Yn wir, y tebygrwydd yw bod Iesu yn ei feirniadaeth ddeifiol ar y deml yn adlewyrchu hiraeth dwys mewn un garfan o’r genedl am y Deml gyntaf a ddinistriwyd cyn y gaethglud. Y gwrthryfel Iddewig a dynnodd holl rym Rhufain i ddinistrio’r deml a’r cwbl yr oedd hi, hyd yn oed yn ei amherffeithrwydd, yn ei gynrychioli.

 

Rhywbeth tebyg yn ddiau yw gobaith ISIS sy’n codi o raniadau y tu mewn i Islam. Ymddengys bod bwriad i greu anrhefn treisiol llwyr wrth gynhyrfu gwrthdaro dialgar diatal. Yr oedd yn y diwylliannau hynafol, heb na deddf na chyfiawnder, ofni anrhefn a fyddai’n llwyr ddinistrio cymunedau cyfan. Mor hawdd ydoedd i bobl ymffyrnigo – fel y frwydr yn y ‘saloon-bar’ pan yw pawb yn ymuno i ddyrnu’n ddi-drugaredd ac yn ymuno yn y ffrae, beth bynnag oedd honno. Ychydig dros wythnos yn ôl bu farw gŵr eithriadol a sylwodd ac a ddiffiniodd y duedd hon a rhoi i haneswyr a gwleidyddion a diwinyddion (a llu o ddisgyblaethau eraill) offeryn newydd miniog i ddadansoddi ymddygiad y cenhedloedd. Diolch am waith René Girard, Ffrancwr o dras a dreuliodd oes yn gweithio ym mhrifysgolion America ac a fagodd sawl cenhedlaeth o ddisgyblion y gellir yn deg eu galw yn dangnefeddwyr. Clywir mwy eto am ddylanwad ei ddamcaniaeth fimetic am ymddygiad y ddynoliaeth damcaniaeth sy’n mynd yn ddyfnach na damcaniaethau Marx na Freud.

 

O edrych ar y deml dywed Iesu y gellid dinistrio’r cwbl heb adael carreg ar garreg. Ac wrth ymhelaethu â’i ddisgyblion disgrifiodd y rhyfeloedd, a’r daeargrynfâu a fyddai’n goddiweddyd y ddynoliaeth. Doedden nhw ddim i boeni gormod amdanynt, am y byddai’r cwbl yn wewyr, cyfnod cyn esgor ar fywyd newydd. Math o farw ac atgyfodi.

 

A chofio Irac, Afghanistan, Syria, y miloedd yn cyrraedd ynys Lesbos ac yn curo ar ddrysau Ewrop am fynediad, a’r argyfwng ecolegol sy’n ein bygwth mae lle i ddyfalu am beth ellir ei wneud i achub y byd rhag difodiant.

 

Clywais fam un o’r dynion y torrwyd ei ben ymaith gan ‘Jihadi John’ yn ocheneidio nad oedd hi’n ymfalchïo dim yn y newyddion ei fod wedi ei ladd. Doedd hi, meddai, ddim yn chwilio am ddial – fyddai hynny’n datrys dim. Tristau yr oedd hi bod dyn ifanc yn medru ymddwyn fel y gwnaeth. A oes digon o bobl sy’n chwennych heddwch, tangnefedd, cyfiawnder i newid y pwyslais o ddialedd a dicter i adeiladu tangnefedd ? Ydi hi’n rhy hwyr i’r tangnefeddwyr ?

‘Paid a’n dwyn i brawf; gwared ni rhag y Drwg.’