E-fwletin Tachwedd 9fed, 2015

Pabi Coch neu Babi Gwyn?

Yn ei gyfrol ddiweddaraf ‘Yn ôl i’r Dref Wen’ mae Myrddin ap Dafydd yn trafod hanes ac arwyddocâd yr hyn ry’n ni’n ei adnabod fel Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Mae llawer o Ganu Llywarch Hen yn ymwneud â pherthynas Llywarch a’i fab ieuengaf Gwên a fu farw wrth amddiffyn Rhyd Forlas ger y Waun yng Nyffryn Ceiriog, sydd yn dal yn ffin rhwng Cymru a Lloegr heddiw.

Roedd hi’n arferiad yn nyddiau Llywarch Hen, fel cynt a chwedyn, i ganmol y traddodiad arwrol milwrol mewn cerddi a chaneuon – yr hyn a elwir yn ganu ‘clod’. “Cerddi’n dathlu arwriaeth y milwyr ffyddlon hyd at farw a olygir wrth ‘clod’ meddai Myrddin ap Dafydd, “a’r clod mewn awdlau yw eu tâl am dywallt gwaed.”

Ond yn ei alar o golli Gwên, awgryma Myrddin bod Llywarch Hen “yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth y traddodiad hwnnw”. Awgryma ymhellach, “Efallai y gallwn glywed yma wreiddiau dadl y rhai sy’n gwrthwynebu’r elfen o glodfori a normaleiddio militariaeth a derbyn bod rhyfela yn rhan anorfod o fywyd yn ein dyddiau ni.”

Mewn cyfrol sydd yn sicr yn werth ei darllen am y ffordd y mae’n ein goleuo am ein hanes fel Cymry, mae hefyd yn gyson yn cysylltu profiadau o’n gorffennol a sefyllfaoedd heddiw. Ac yn sŵn Sul y Cofio mae yna densiynau’n gallu codi rhwng y rhai sydd am ddefnyddio’r achlysur hwnnw er mwyn clodfori rhyfel a’r rhai a fyn ei weld yn achlysur i’n hysgogi i geisio ffyrdd heddychlon i ddatrys helbulon y gwledydd.

Crisialwyd craidd y mater hwn yn y drafodaeth a gafwyd ar fwy nag un rhaglen ar Radio Cymru ddiwedd yr wythnos hon ynglŷn â’r arfer o wisgo pabi coch adeg Sul y Cofio, a’r nifer cynyddol sydd bellach yn gwisgo’r pabi gwyn. Roedd hi’n dda iawn deall bod consesiwn wedi ei gyrraedd yn ardal Aberystwyth yn dilyn trafodaethau rhwng aelodau o’r Lleng Brydeinig sy’n trefnu Sul y Cofio, ag aelodau o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth sy’n hyrwyddo gwisgo’r pabi gwyn. Mae’n debyg eu bod wedi cytuno i ddwy dorch gael eu gosod wrth gofgolofn filwrol Aberystwyth, un goch ac un wen. Dyma esiampl gampus i drefnwyr seremonïau Sul y Cofio ar draws Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau mawr i gynrychiolwyr y ddwy ochr.

Yn y cyfamser byddai’n dda clywed os oes yna ymdrechion tebyg wedi bod mewn rhannau eraill o Gymru i hyrwyddo gwisgo’r pabi gwyn, Neu os oes rhai wedi eu beirniadu am wisgo un.

Beth yw’ch barn a’ch profiad chi tybed?