Ro’n i yng nghwmni criw bychan o bobl yn ddiweddar, ac yn trafod agweddau tuag at grefydd. Roedd pawb oedd yno wedi eu magu ar aelwyd Gristnogol, tri yn blant i weinidogion, gydag oedfa ac ysgol Sul wedi bod yn rhan naturiol o’u magwrfa. Ac i raddau helaeth roedd pob un wedi bod yn lled ffyddlon i’r drefn a’r traddodiad hwnnw gydol eu hoes; er, mae pob un o blant y cwmni hwn wedi ymwrthod â chrefydd sefydliadol.
Dywedodd un o’r cwmni mai diwrnod gwaetha’r wythnos iddi oedd dydd Sul. Os na fyddai’n mynd i oedfa byddai’n teimlo’n anniddig ac anghyfforddus, fe’i poenid gan euogrwydd mawr, a phan glywai gloch yr eglwys yn canu roedd fel sŵn rhywun yn taro hoelen rhywle’n ddwfn o’i mewn.
Dro arall byddai’n mynd i oedfa ar y Sul, ond roedd yr hyn a glywsai yno gan amlaf yn ei diflasu a’i hanobeithio gymaint, gyda’r neges yn arwynebol ac amherthnasol, nes ei bod yn difaru ei henaid ei bod wedi mynd yno. O’r ddau meddai, gwell oedd ganddi ddiodde’r boen a’r euogrwydd o beidio mynd na’r boen o fod yn rhan o oedfa farw.
Roedd eraill yn y cwmni a allai uniaethu gyda’r profiad hwn.
Y cwestiwn a godai o hyn oedd, ble mae troi er mwyn profi’r ‘fendith’ yr arferem ei chael mewn oedfa? Ar hyn o bryd mae rhai yn dewis mynd i gerdded, gan dystio bod eu myfyrdodau wrth gerdded yn golygu mwy iddynt na’r hyn a geir o fynd i’r capel. Mae ambell un yn gwneud ymarferiadau yoga ac un neu ddau arall yn ymuno ar dro gyda’r Crynwyr.
Ond beth am y traddodiad anghydffurfiol Cymraeg ry’ ni wedi’n magu ynddo ac yn dal i deimlo ein bod rhywsut yn rhan ohono? Ai’r unig ddewis yn fanno yw rhwng marweidd-dra syrffedus yr oedfaon yn llawer o’n capeli ar y naill law, neu sicrwydd hunangyfiawn a chaëedig yr efengylwyr – sydd yr un mor syrffedus, ar y llaw arall?
A oes yna eraill allan yna yn rhannu yr un gwewyr?
Ac os oes yna, a yw hi’n bryd tybed i ni ddod at ein gilydd i herio’r sefydliadau crefyddol Cymraeg i fod yn barod i arddel ffordd arall amgenach o ymwneud â’r ysbrydol, un fasai’n rhoi dilysrwydd i’r profiadau gonest a didwyll hynny a ranwyd yn ein cwmni bychan?
Os oes yna unrhyw beth o’r traddodiad anghydffurfiol Cymraeg sydd yn werth ei achub, yr elfen ‘anghydffurfiol’ yw hwnnw. A oes digon ohono ar ôl i’n helpu ni ymlaen o’r fan hyn?
Byddai’n dda clywed gennych!