E-fwletin Hydref 26ain, 2015

Llwyddiannau!

Rydych i gyd yn adnabod y capel yr wyf yn sôn amdano. Efallai i chi fod yno’n ddiweddar. Roedd yno lai na deg o addolwyr (yn eu saithdegau a’u hwythdegau) a gweinidog wedi ymddeol, eto yn ei wythdegau, yn arwain. Nid oedd organydd. Darllenwyd yr emynau. Erbyn diwedd yr oedfa roedd dwylo’r gweinidog yn grynedig ac ni allai godi ei lais yn ddigonol i gyrraedd cynulleidfa’r seddau cefn.

Hawdd yw canmol y gweddill ffyddlon hwn: mae’r aelodau’n bugeilio’i gilydd, yn galw i weld aelod sy’n sâl ac yn mentro ar daith hir i ymweld â’r ysbyty os oes rhywun yno. Ond ni bydd angen mwy nag ychydig o angladdau cyn y bydd rhaid i’r capel hwn gau. Mae rhai ohonom yn cefnogi’r sefyllfa hon drwy fod yn fodlon llenwi’r pulpud, ac rwyf innau’n euog o beidio dweud gair rhag gwylltio rhywun. Gwyddom fod yna ddwsinau, os nad cannoedd, o gapeli tebyg i hwn ar draws Cymru. Oni ddylem fod yn onest a chydnabod fod y sefyllfa’n ymylu ar ddwli anhygoel? Mae angen i unigolion ac enwadau ddweud y gwir anghysurus.

Rŵan yw’r amser i alw ar bob capel bychan i ystyried ei sefyllfa. Mae angen dewrder, ffydd a chryfder arbennig gan y rhai sydd wedi bod yn aelodau yn yr un capel gydol eu hoes, i ddechrau’r drafodaeth hon cyn bod amgylchiadau’n eu gorfodi i wneud hynny. Mae trafodaeth o’r fath yn hanfodol i’r sawl sy’n gwirioneddol ddymuno i’r ffydd Cristnogol barhau.

Aeth trafod yn anos erbyn hyn gan mai seiat, cyfeillach a chwrdd gweddi oedd yn arfer cynnig llwyfan i alluogi aelodau i fynegi barn, ac mae’r rhain wedi diflannu. Efallai mai’r cam cyntaf fyddai cynnal rhyw fath o gylch trafod yn lle ambell i oedfa er mwyn i’r ffyddloniaid fagu hyder i fynegi barn cyn trafod y sefyllfa hon yn benodol, ac ni ddylid diystyru’r angen am amser i fynegi galar am golli “ein capel ni” yn ogystal â datblygu cynllun i symud ymlaen.

Mae angen arweiniad gan yr enwadau hefyd. Buasent yn colli llawer o aelodau wrth gau capeli (rhaid gwahaniaethu rhwng ‘aelodau’ a ‘ffyddloniaid’) ond dylent roi arweiniad, galw yn agored ar gapeli bychain i gau, casglu enghreifftiau o sut mae’r broblem wedi ei datrys eisoes mewn ambell i ardal, a rhannu’r wybodaeth gan annog pob capel unigol i addasu’r trefniadau neu ddatblygu rhai newydd yn ôl yr angen lleol.

Onid ddylem ni ystyried fod cau capeli ac uno cynulleidfaoedd yn arwydd o lwyddiant? Buasai’n dangos fod Cristnogion yn fodlon mentro a byddai’n ddatblygiad naturiol i gwrdd ag amgylchiadau’r unfed ganrif ar hugain, lle nad oes angen capel o fewn pellter cerdded i bawb nac ychwaith gael mwy nag un capel mewn trefi bychain. Byddai’n codi baich mawr oddi ar ysgwyddau’r ychydig a fydd yn ceisio cyflwyno’r ffydd i’r genhedlaeth nesaf, ac yn rhyddhau adnoddau ariannol a dynol i’r gwaith o ail-gyflwyno’r Efengyl i Gymru.

Diolch am ddarllen. Os hoffech chi ymateb i’r neges hon neu i unrhyw neges arall, mae modd gwneud hynny mewn un o dair ffordd. Yn gyntaf, medrwch anfon neges at gwefeistr@cristnogaeth21.org neu yn ail medrwch ateb yn uniongyrchol ar y Bwrdd Clebran neu’n drydydd mae modd rhoi neges ar ein tudalen Facebook. Erbyn hyn mae ein cornel ar Facebook yn prysur ennill ei phoblogrwydd fel lle bywiog, bachog a gogleisiol. Ewch i weld, cofrestrwch a chyfrannwch!