E-fwletin Hydref 19eg, 2015

Croesi’r bont ?

Rydym yn ddiog iawn wrth ddewis geirfa i drafod Duw – yn defnyddio yr un hen eiriau mewn gweddi, emyn a phregeth heb wir ystyried yr hyn rydym yn ei ddweud, beth yw eu hystyr heddiw a beth yw eu hystyr i’r ffyddloniaid erbyn hyn.

Dyna ‘Brenin’ ac ‘Arglwydd’ er enghraifft. Beth yw ystyr ‘Arglwydd Iesu’ ochr yn ochr â ‘Tŷ’r Arglwyddi’ neu ‘Brenin Nef ‘ochr yn ochr â’r ‘Frenhines Elizabeth’ ? Nid yw’r naill na’r llall yn cyfleu yr un syniad o awdurdod ag oedd iddynt ganrifoedd yn ôl.

Wedyn mae’r ansoddeiriau megis grymus, nerthol, hollalluog. Os yw Duw yn ‘hollalluog/hollrymus’ (‘almighty’) sut fath o allu ydym yn cyfeirio ato? Mae rhai Cristnogion ffeministaidd wedi gwahaniaethu rhwng ‘power over’ sef ‘grym’(efallai) a ‘power to’ sef ‘gallu’ neu ‘nerth’ (er ein bod ni, Gymry, yn defnyddio cymysgfa o’r tri heb ystyried eu hystyr yn fanwl). Ar ôl tri chwarter canrif o fyw gyda dinistr bom niwclear, oni ddylem gwestiynu pa fath o allu sydd gan Dduw, a sut mae’n dewis defnyddio’r gallu hwnnw – neu peidio ei ddefnyddio?

Wrth sôn am aberth Iesu drosom mae ein dewis o eiriau yn fwy rhyfedd. Rydym yn cyfeirio at y dull erchyll o ddienyddio a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid. Heddiw condemnir yn hallt bob math o arteithio ond sonnir gennym am bren Calfaria, y ddwyfol groes, coron ddrain, hoelion ac afonydd o waed i’n golchi yn lân – i gyd fel pethau i’w canmol. Ond gogoneddu arteithio a dienyddio yw hyn i eraill.

Ond efallai mai’r gair anoddaf yw ‘tad’ (yn aml heb ychwanegu ‘nefol’). Beth yw ystyr y gair ‘tad’ i blant mewn rhai teuluoedd heddiw?

O fewn ein cylch dethol ni efallai ein bod yn deall ystyron ein geiriau a deall ein gilydd. Ond y tu allan i’n cylch, mae miloedd sydd, efallai, yn osgoi defnyddio’r gair ‘duw’ ond sy’n credu mewn rhyw fath o fywyd ysbrydol. Ac efallai ein bod ni’n siarad iaith gwbl ddieithr iddynt.

Mae’r Beibl yn llawn o ffyrdd o sôn am Dduw: ffynhonnell, cydymaith, diddanydd, mam , eryr, bydwraig, crochenydd, pobyddes a llawer mwy. Llwyddodd yr Eglwys Geltaidd yn rhannol oherwydd ei defnydd o iaith ysbrydol oedd yn ddealladwy i’r rhai oedd yn credu mewn gallu trisgell, mewn drysau rhwng y byd hwn a byd arall ac a oedd yn arfer addoli wrth ffynhonnau. Mae ein sefyllfa ni fel “gweddill ffyddlon” yn debyg iawn iddynt . Os ydym am gyfathrebu gyda’r miloedd mae’n rhaid i ni ddatblygu geirfa a iaith sy’n ddealladwy i’n cenhedlaeth ni. Ac onid yw cyfathrebu yn gwbl allweddol i bopeth a gredwn ac a feddyliwn ?