Mae’n adfent, a bellach mae hyd yn oed yr eglwysi yn cael ymuno â phawb arall wrth edrych ymlaen at y Nadolig!
Mae’r wythnosau nesaf yn ein harwain at un olygfa fydd yn gyfarwydd i bawb bron. Yn union fel mae’r groes yn curo ‘M’ fawr McDonalds, ‘afal’ Apple a ‘thic’ Nike fel logo, mae’n siŵr bod golygfa’r geni yn curo’r Mona Lisa, y Swper Olaf a tho’r Sisitine fel yr olygfa gelfyddydol fwyaf cyfarwydd o’r cyfan.
Ond wrth gwrs, hyd yn oed ar dystiolaeth yr efengylau, ddigwyddodd pethau ddim fel maen nhw yn y llun. Doedd y doethion a’r bugeiliaid ddim yno ar unwaith. Mewnforir symbolau’r asyn a’r ychen o Eseia. Mae’r cadachau yn ragfynegiant symbolaidd o rwymau’r croeshoeliad.
Does neb, ag eithrio plant rhai selebs, yn cael eu geni’n enwog. Does neb yn cael eu geni o wyryf nac yn cael eu croesawu gan lu nefol. Ond gellir gweld sut mae traddodiad o’r fath yn tyfu o gwmpas rhywun sy’n byw bywyd bendigaid. Roedd hi’n bwysig ei fod o’n bwysig o’r dechrau. Roedd hi’n bwysig ei fod yn cyflawni’r disgwyliadau ac ar yr un pryd yn estyn y disgwyliadau.
Dydy cydnabod y pethau hyn ddim yn tynnu oddi ar ryfeddod y stori ond yn ychwanegu ati.
Ar y naill law mae arwyddocâd oesol i’r delweddau hyn, ond ar y llaw arall mae arwyddocâd newydd iddyn nhw o flwyddyn i flwyddyn ac o gyfandir i gyfandir.
Fyddai rhai, yn yr oes ddu a gwyn sydd ohoni, am i ni gredu mai un math o wirionedd sydd; un absoliwt, ffeithiol, gwyddonol. Fe gollon ni fel gwareiddiad y gallu i dderbyn bod mwy nag un ffordd o ddeall ac o ddysgu. Dealltwriaeth rhesymeg a theimlad, y logos a’r mythos, y pen a’r galon. Ac fe osodon ni’r ddau benben â’i gilydd. Rydym yn dlotach o’r herwydd.
Yn hytrach na golygu ffordd amgenach o ddeall pethau nad ydy gwyddoniaeth yn gallu eu hegluro, bron na ddaeth ‘myth’ i fod yn gyfystyr â chelwydd. ‘Stori sy’n esbonio’ yw diffiniad cyntaf GPC o’r gair a ‘cred gyfeiliornus’ yw’r ail. Mae cryn wahaniaeth rhwng y ddau.
Yn y cyd-destun geiriadurol hwn dwi’n credu fod gan olygfa’r geni wirionedd oesol i’w rannu. Roedd y bugeiliaid cyffredin di-ddysg yno ar ôl clywed stori am ‘ddyfod Duw i’r byd’. Ond fe roedd y sêr ddewiniaid yno hefyd – y gwyddonwyr amyneddgar, yn chwilio, am weld, am gael prawf ac am brofi fod Crist wedi ei eni.
Ond i mi mae yna wirionedd penodol i’r myth y Nadolig hwn. Daeth Duw cariad ar ffurf y Crist diniwed a chroesawu’r tlawd a’r cyffredin ar ffurf y bugeiliaid, a’r dieithriaid o’r dwyrain ar ffurf y doethion, ac fe drowyd y prif gymeriadau’n ffoaduriaid. Y tlawd a’r dieithr a’r rhai ar ffo oedd yno ar y dechrau, trwy gydol a thu hwnt i’w fywyd meidrol.
Hen ddelwedd gyfarwydd sy’n ddelwedd fyw o bresennol anghyfarwydd ac ansicr. Cadwn hyn mewn cof wrth deithio tua Bethlehem eleni.