‘Pen blwydd hapus, i’r baban Iesu
Pen blwydd hapus iawn i ti.’

Mae rhywun wedi gwrando ar y plant yn canu’r garol syml yna ers sawl Nadolig bellach.

Ond gwrandewais arni o’r newydd yn yr Ysgol Sul y Sul diwethaf ar ôl darllen gair gan ein gweinidog yng nghylchlythyr y Capel yn awgrymu bod y sôn cyson am ddathlu Iesu’r baban yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
A rhywsut fe wnaeth y garol hon grynhoi’r cyfan. Onid ydy hi’n od? Gwrandewch eto:

‘Pen blwydd hapus, i’r baban Iesu
Pen blwydd hapus iawn i ti.’

Dathlu camu ymlaen flwyddyn mae rhywun mewn parti pen blwydd. Dathlu blwydd, dyflwydd, deunaw, un ar hugain, a’r degawdau, y ganrif. Dathlu dod yn berson yn ei oed a’i amser. Dathlu tyfu, datblygu, aeddfedu.

Ond dymuno pen blwydd hapus i’r BABAN Iesu mae’r garol hon. Mae’r Iesu rhywsut yn faban tragwyddol.

Y peryg ydy ei bod hi cymaint haws dathlu’r diniwed. Cofleidio’r ddelwedd daclus, gynnes, glud a’r stabl lân sydd byth yn drewi.

Mae yna hen jôc sy’n mynnu ein bod ni’n treulio rhai blynyddoedd yn dysgu ein plant i siarad a cherdded ac yn treulio gweddill eu bywydau nhw’n dweud wrthyn nhw am eistedd i lawr a bod yn dawel.

Dyw’r baban yn y preseb ddim yn symud. Mae o’n gorwedd yn llonydd a chysglyd ac angylaidd ac, am y tro, yn ddibynnol ar yr oedolion am ei gysur a’i gynhaliaeth. Ac os ydyn ni’n troi’n cefnau am eiliad, fe fydd o yno, pan wnawn ni droi’n ôl, yn yr un lle’n union ag oedd o.

Ond fel y gŵyr unrhyw riant, er gwaetha’r ddibyniaeth lwyr yna dros y misoedd cyntaf hynny, bod y gwaith caled yn dechrau y diwrnod hwnnw yr ydych chi’n troi rownd a dydy’r babi ddim lle gadawsoch chi o. Mae o wedi rowlio i rhywle, gwaeth byth wedi rowlio oddi ar rhywbeth – gwely neu gadair esmwyth ac yn crio ar lawr. Fydd y babi ddim yn llonydd am flynyddoedd wedyn.

Ac wedyn mae o’n dechrau siarad, a meddwl drosto’i hun, a strancio, a gwybod y cwbl ac ateb yn ôl. Yn herio’n barhaus.

Rhywsut dydy’r Iesu hwnnw ddim mor hawdd i’w gwtshio.
Yr Iesu aflonydd heriodd y drefn, y farn a’r rhagfarnau.

Rhywsut dydy’r Iesu hwnnw ddim yn gorwedd mor gyfforddus yng nghanol rhialtwch masnachol y Nadolig modern. Yr Iesu dyfodd, ddatblygodd ac a aeddfedodd. Yr Iesu dyfodd yn oedolyn o Iddew peryglus.

Felly wrth i’r Nadolig nesáu beth am beidio cael ein temtio i aros gyda’r baban.

Dathlwn y geni ar bob cyfri ond dathlwn fod y babi wedi tyfu yn broffwyd aflonydd, oedd yn meddwl drosto’i hun, yn strancio yn gwybod y cwbl, yn ateb yn ôl ac yn herio’n barhaus.

Parwn i ddymuno pen blwydd hapus, nid i’r baban, ond i’r Iesu sy’n dal yn ‘fyw’ ac yn dal i aflonyddu drwy gyfrwng ei eglwys ar y ddaear.

Pen blwydd hapus bos!