COP 21
Yn sgil cynhadledd fawr y Cenhedloedd Unedig, COP 21 ym Mharis, daeth cynhesu byd eang a newid hinsawdd i frig yr agenda ryngwladol ac yn bwnc cyhoeddus llosg.
Da o beth hynny. Ers blynyddoedd bu siarad gwag a nemor ddim ymdrech i ddatrys y broblem. Union 50 mlynedd yn ôl cyflwynwyd yr adroddiad cynhwysfawr cyntaf am y peryglon i Arlywydd America, Lyndon Baines Johnson. Ers hynny, gwariwyd amser, arian ac allyriadau carbon ar gynadleddau o Rio i Durban, ac o Copenhagen i Kyoto heb gyflawni bron ddim. O ganlyniad, gwelwyd crynhoad y CO2 yn yr awyr eleni yn croesi’r 400 c.y.m. (o’i gymharu â llai na 270 cyn y Chwyldro Diwydiannol), a lefelau’r holl nwyon tŷ gwydr yn cyfateb i 480 c.y.m. o ran CO2, gyda thymheredd ein byd yn codi dros 1oC yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol. Gwelwyd tanau enfawr yng Nghanada, Rwsia, Califfornia, Indonesia a Brasil, a gwres marwol mewn rhannau o Iran, Irac, India a Phacistan. Cafwyd sychder mewn llefydd fel San Paula, Califfornia ac yn Ethiopia, a stormydd a llifogydd dirif mewn llefydd eraill. Roedd hyn i gyd yn rhagarweiniad arwyddocaol i COP 21.
Roedd Cynhadledd Paris yn ddechreuad da, ond heb fod yn ddigon. Cyflwynir y broblem fel mater amgylcheddol, ac i raddau fel pwnc economaidd pan ddaw hi’n fater penderfynu pwy sy’n talu. Ond fel y cyhoeddodd y Pab Ffransis, mae i’r holl fater oblygiadau moesol a chymdeithasol dwys.
Os ydym am osgoi naid o dros 2oC yng nghyfartaledd tymheredd ein planed, dim ond am tua 20 neu 30 mlynedd y medr ein hallyriadau barhau ar y lefel bresennol. Amcangyfrifir bod dogn o tua 1000 biliwn tunell o CO2 yn weddill i’r holl ddynoliaeth. Os methwn ni gyflawni’r toriadau angenrheidiol, y tlawd a’r anghenus fydd yn dioddef fwyaf. Disgwylir i dalpiau mawr o Bangladesh a’r Aifft ddilyn Cantre’r Gwaelod dan y don, a rhagwelir y bydd llif y ffoaduraid i Ewrop ac America yn troi’n afon gref.
Am mai ni yn y Gorllewin datblygedig sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r rhan helaethaf o’r ddogn CO2 a ganieteir, a gan i ni seilio ein golud ar losgi tanwydd ffosil rhad, mae’n naturiol fod y gwledydd tlawd yn mynnu eu hawliau a’u siâr, ac am i ni dalu iddyn nhw am ddatbygiad mwy ‘gwyrdd’.
Rhaid i ni wynebu’r gwrthdaro rhwng ffiseg a moeseg, a phenderfynu sut i rannu’r dogn o allyriadau sydd ar ôl i ni. Yn y drefn bresennol, mae’r dosbarthiad adnoddau yn hynod anghyfartal. Ar y cyfan, y cyfoethog ym mhob gwlad sy’n cyfrannu fwyaf y pen at allyriadau, ond y tlawd ym mhobman fydd yn dioddef fwyaf pan ddaw problemau newid hinsawdd yn fwy eglur. Fel ag erioed, bydd y cyfoethog yn medru prynu eu ffordd allan o unrhyw drybini.
Lle felly mae Cristnogion a’r capeli Cymraeg yn sefyll? A ydym yn fodlon cwtogi er mwyn y rhai llai breintiedig? Neu o leiaf, a ydym yn fodlon gwario ar ynysu ein tai, prynu ceir trydan, cefnogi mentrau ynni adnewyddol yn ein broydd, osgoi gwastraffu bwyd ac ynni, osgoi teithiau di-angen a mynd ati i lobïo ein gwleidyddion i fabwysiadu polisïau adeiladol?
Dydy hi ddim yn chwyldroadol foesol i honno bod gan bawb yn y byd hawliau cyfartal. Oni welir hynny yn nysgeidiaeth yr Iesu?