‘Rhaid eich geni chwi drachefn … o’r newydd … oddi uchod …’
Embaras, dyna beth yw e!
Embaras i’r rhyddfrydwyr i gyd …
Enid R. Morgan
Os oes un ymadrodd sy’n debyg o godi swildod ymhlith dilynwyr Cristnogaeth21, mi dybiwn i mai’r ymadrodd am aileni yw hwnnw. Fe gysylltwn yr ymadrodd â’r cwestiwn go haerllug sy’n cael ei holi weithiau gan Gristnogion ceidwadol: “Gawsoch chi’ch aileni?” neu “Ydych chi’n Gristion?” A gwyddom fod ystyr gyfyng a phenodol i’r cwestiwn. Mae’n golygu nos dywyll yr enaid a bwlch yr argyhoeddiad a’r gair pechod wedi eu dehongli mewn ffordd gyfyngedig. Ac mae’r patrwm yn edrych fel bocs y mae’n rhaid ffitio i mewn iddo, bocs sy’n rhy fach a chaethiwus.

Dorothy Day (1897–1980)
Roedd profiad Dorothy Day, y radical o Americanes a roddodd ei bywyd i wasanaethu’r tlawd, yn dra gwahanol – ond yr un mor ddilys. Mynnai hi ei bod wedi dod i berthynas ag Iesu trwy fod yn hapus, yn feddwol o hapus wrth fynd â’i baban bach yn ei drol am dro ar hyd y traeth. A twt twt, doedd hi ddim yn briod! Sylweddoli bod yna gariad anferth y tu hwnt iddi hi a thu hwnt i fyd lle ac amser yn estyn ati oedd y profiad cychwynnol. Fel Sacheus, wedyn y daeth yr awydd i newid a gwella a thyfu yn y bywyd newydd oedd yn ymestyn o’i blaen.
Gwn am wraig ifanc o Gymraes y bu eistedd yng nghanol clychau’r gog yn haul a chysgod y coed ym mis Mai gyda’i dwy ferch fach yn gyfrwng bywyd newydd, er y buasai’n arswydo rhag ei ddisgrifio fel aileni! Roedd hi fel llawer o bobl ag alergedd, nid o reidrwydd i brofiad ond i ‘iaith’ y rhai a alwai hi yn ‘efengýls’. Bu cyfaill arall yn ddoniol bryfoclyd wrth ddisgrifio’i phrofiad hi o ddygymod â phroblemau priodasol.
“Ti’n gwybod pan wyt ti’n dechrau ffansïo rhywun?” meddai hi.
“Ydw’n iawn,” medde fi.
“A ti’n gwybod pan mae rhywun yn dechrau dy ffansïo di ’nôl?”
“Ydw,” medde fi.
“Wel, fel ’na mae hi rhyngof fi a Iesu,” meddai hi a chwerthin, a chwerthin, a chwerthin … A’r peth diwethaf yr oedd ei angen arni oedd patrwm a geirfa i lurgunio’i phrofiad.
Roedd y cwestiwn am brawf dilysrwydd ei dröedigaeth, meddir, yn boendod i Martin Luther a byddai mewn gwewyr wrth ystyried ei gyflwr ysbrydol. Byddai’n ymgysuro trwy ddweud ‘Rydw i wedi fy medyddio’ gan fynnu, yn ôl y traddodiad sacramentaidd, mai cyfle i Dduw wneud rhywbeth yw bedydd, ac nid tystiolaeth o brofiad personol a dilysrwydd ffydd.
Gellid sylwi hefyd fod geni plentyn ‘yn y cnawd’ yn brofiad tra amrywiol i fam a phlentyn. Bydd ambell un yn llithro i’r byd yn reit ddidrafferth (fel tynnu pys o blisg, meddai un ffrind i mi) ac eraill yn diodde hir boenau peryglus esgor anodd, ac ymyrraeth dechnegol i dynnu a sugno plentyn o’r groth. Mae’n gallu golygu triniaeth lawfeddygol, a’r gwewyr yn gadael ei ôl ar fam a’r baban ar hyd eu hoes. Wrth estyn trosiad yn rhy bell mae modd gweld mai trosiad ydyw. Felly daw ambell un yn Gristion gloyw heb sylwi bron, heb unrhyw drawma dirdynnol, oherwydd magwraeth gariadus, cyhyrau cryf a dysgeidiaeth iach, tra bod y profiad o frwydro, a stryffaglu, a dadlau hefyd yn ddigon cyffredin. Nid gwewyr y profiad sy’n bwysig ond natur y bywyd sy’n cael ei fyw, neu’r daith sy’n cael ei cherdded, neu’r dewrder o ddechrau ar ffordd newydd o ddilyn Iesu. Nid yw’r trosiad, y gymhariaeth, y metaffor yn eiddo i un traddodiad, a chan mai trosiad ydyw mae’r trosiadau eraill i’w cadw mewn cof. Yn wir, dim ond dwywaith y mae’r trosiad am aileni yn digwydd: unwaith yn y stori am Nicodemus (llythyrenolwr i’r carn!) ac yn Epistol gyntaf Pedr (1:22–3).

A dyna reswm da dros ymaflyd yn y metaffor am eni drachefn o safbwynt ehangach gan werthfawrogi bod amryw drosiadau eraill yn britho tudalennau’r Testament Newydd ac yn cyfleu rhywbeth allweddol iawn am ddechrau newydd, gwahanol, sy’n effeithio ar unigolion a’r cymunedau y maen nhw’n perthyn iddyn nhw. O’i iawn ddeall, mae ‘geni o’r newydd’ yn gysyniad eang ond mae ynddo berygl awgrymu mai rhywbeth unwaith ac am byth yw ‘tröedigaeth’. Mae’r trosiad arall, hoff gan Sant Paul, yn sôn am angau ac atgyfodiad, am droi o’r cnawd i’r ysbryd, o fod ‘yng Nghrist’. Mae’n ffordd o ddisgrifio’r broses o gael ein trawsnewid sydd wrth galon y Testment Newydd a’r bywyd Cristnogol, a dydi’r cyfan ddim yn digwydd dros nos.
Ond rhaid i ninnau, pobl y broses hir, ailddeall y trosiad a’i ailfeddiannu. Mae’n golygu meddwl a myfyrio’n feirniadol am ein stori bersonol a chymdeithasol. Lleiafrif erbyn hyn sy’n byw o’r crud i’r bedd mewn un fro ac mewn un gymuned, ac mae pob newid ar y daith yn her ac yn gyfle i feddwl ac ystyried beth sy’n digwydd a sut rydyn ni i ymateb a gwneud synnwyr ac ystyr ohono. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd yna boster Cristnogol poblogaidd yn dangos llun o farnwr yn ystyried carcharor o’i flaen ac yn holi, ‘Pa dystiolaeth sydd dy fod yn Gristion?’ A’r Cristion bach yn ateb, ‘Bydd drugarog, ’dyw Duw ddim wedi gorffen ei waith arna i eto!’

Ann Griffiths
Yn ein cyfnod ni mae seicoleg a chwnsela wedi disodli’r hen seiat a’r eirfa benodol a glywid yno, ac mae elfen o ddrwgdybiaeth rhwng y ddwy ffordd o ddeall hunaniaeth yr unigolyn. Coffa da am Gwilym O. Roberts yn Y Cymro yn y chwedegau yn gweu iaith gyfoes ac yn cymharu’r cwbl ag iaith Theomemphus am ei brofiadau, gan weld cyfatebiaethau eglur rhyngddynt. Roedd ar Ann Griffiths ofn arswydus rhag colli tanbeidrwydd ei phrofiad o dröedigaeth gan fod cymaint pwyslais ar hynny mewn diwygiad. Ond pe bai wedi dod drwy ei phrofiad o esgor ‘yn y cnawd’, tybed a fuasai wedi cymhwyso’i mynegiant o’i phrofiad? Mynnai’r Cardinal Newman ei fod ef wedi newid ddegau o droeon, a bod sancteiddrwydd yn golygu newid llawer iawn, iawn o weithiau.
Dyma rai pwyntiau i’w cofio:
- Mae’r gair a gyfieithir yn gyson fel ‘drachefn’ neu ‘o’r newydd’ yn golygu hefyd ‘oddi uchod’.
- Mae liw nos yn cyfeirio at dywyllwch ysbrydol yn ogystal ag amser o’r dydd. (Mae straeon am rhoi golwg i’r deillion bob amser yn cyfeirio at ddiffyg gweld ysbrydol.)
- Mae dŵr bedydd yn atseinio dyfroedd geni.
- Mae bedydd yn atseinio angau.
- ‘Yfed o’r cwpan’ yn atseinio angau’r groes.
- Mae’r daith i Jeriwsalem yn atseinio’r ‘Ffordd’ a ddefnyddid i ddisgrifio’r Cristnogion cynnar.
Ym myd seicoleg y mae’r broses hon o hunanymchwiliad mewn perygl o fod yn fewnblyg ac unigolyddol. Mae perygl tebyg mewn sawl math o ysbrydolrwydd Cristnogol. Ond mae’r trawsnewid cyson sydd wrth galon y bywyd Cristnogol yn gysylltiedig hefyd â chymuned a’r gymdeithas ehangach fel ei bod yn allweddol gweld ein byw fel halen, goleuni, a burum yn y toes.
Yn yr Efengylau ac yng ngweddill y Testament Newydd, mae marwolaeth ac atgyfodiad, marw a chyfodi drosodd a thro yn fetaffor am drawsnewid personol, y broses seicolegol-ysbrydol wrth galon y bywyd Cristnogol.

I Paul bu’r profiad yn un dramatig ac ingol, ac yntau’n cyfeirio at fynd trwy brofiad o groeshoelio mewnol. Bu farw’r hen Paul; ganwyd Paul newydd – un y mae Crist yn byw ynddo. Ond mae’n amlwg o ran personoliaeth fod egni a thaerni’r Pharisead wedi troi i gyfeiriad newydd, nid wedi’i ddileu. Ac i Paul, nid profiad personol yn unig oedd hyn, ond bywyd yn y gymuned a alwyd ynghyd. Yn y Llythyr at y Rhufeiniaid mae’n cysylltu marw a chyfodi gyda Christ, y ddefod o fentro plymio i ddyfroedd bedydd.
Felly, gyfeillion, dim swildod os herir ni. Dim ond gwyleidd-dra wrth feddwl am y broses o dyfu, o gael ein galw ’nôl, o ddechrau bywyd newydd a cheisio’r gras sy’n rhan o fyw ‘yng Nghrist’.
Ysgogwyd yr erthygl uchod ar ôl darllen pennod o lyfr Marcus Borg, The Heart of Christianity: Re-discovering a Life of Faith (Harper Collins; ISBN:978-0-06-073068-0). O’r gyfrol honno y daw’r stori isod.
Stori swynol i brocio’r meddwl
Roedd gan bâr ifanc eneth fach dair oed, y gyntaf-anedig yn ei theulu. A dyma’i mam yn feichiog eto, a’r fechan yn llawn cyffro o wybod y byddai ganddi frawd bach neu chwaer fach.
Pan ddaethpwyd â’r babi newydd adref, roedd hi am dreulio amser gydag ef yn ei ystafell a chael cau’r drws. Roedd hi’n mynnu bod yn rhaid i’r drws fod ar gau, a doedd dim syndod bod ei rhieni’n petruso ychydig. Ond yr oedd ganddyn nhw beiriant bach gwrando intercom, a dyma sylweddoli y gallen nhw glywed beth bynnag fyddai’n digwydd a thorri ar draws pe bai unrhyw beth annifyr yn digwydd. Clywsant sŵn traed eu merch yn symud ar draws yr ystafell a medrent ei dychmygu hi’n sefyll gerllaw’r crud. Yna, fe’u clywsant yn dweud wrth ei brawd bach dri diwrnod oed, ‘Dwed wrtha i am Dduw. Rwy bron wedi ei anghofio.’
Dywed Marcus Borg:
Dyma stori swynol sy’n codi hiraeth arnom am ei bod yn awgrymu ein bod yn dyfod oddi wrth Dduw, a’n bod ni’n cofio hynny pan ydyn ni’n fach iawn. Ond mae tyfu i fyny, dysgu am y byd hwn yn broses o anghofio fwyfwy yr un y daethom oddi wrtho, yr un yr ydym yn byw ynddo. Mae tyfu, a dwyster dysgu hunanymwybyddiaeth, fel petai’n golygu gwahanu oddi wrth Dduw. (The Heart of Christianity, t. 114)
YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.


Pam? Oherwydd, yn ôl Reuters, bod Is-gadeirydd y cwmni marchnata Marka, sy’n hyrwyddo nwyddau’r clwb, yn gofidio am sensitifrwydd a theimladau’r cwsmeriaid. Hyn er, yn eironig, bod y Calif Mwslimaidd Mu’awiyyah wedi bathu arian oedd yn arddangos croesau mor bell nôl â’r cyfnod 661 – 685 O.C.
Hanes dau offeiriad cenhadol – Rodrigues a Garrpe – o Lisbon yn ystod yr 17eg Ganrif a geir yn y ffilm. Maent yn clywed bod ei harweinydd ysbrydol Ferreira a oedd wedi teithio i Siapan fel cenhadwr wedi gorfod datgyffesu ei ffydd a’i fod bellach yn byw fel Bwdist, wedi priodi gwraig weddw Siapaneaidd ac yn magu ei phlant. Nid yw Rodrigues a Garrpe yn barod i dderbyn hyn ac maent yn teithio i ardal Nagasaki i chwilio amdano. O gyrraedd Siapan profant yr erledigaeth a wyneba’r Cristnogion, sylweddolant fod yr hyn a ddywedwyd am Ferreira yn gwbl gywir, boddir Garrpe o dan orchymyn y chwilyswr sy’n erlid Cristnogion, ac, yn y diwedd, er mwyn achub nifer o Gristnogion rhag dioddef artaith try Rodrigues yn broselyt a diarddel ei ffydd trwy gydsynio i sathru ar gerflun amrwd o Grist. Gorffen y ffilm gyda Rodrigues yn marw ac, yn ôl defodau Bwdïaidd, llosgir ei gorff mewn casgen ond gwelwn ei weddw yn rhoi cerflun o groes yn ei law.
Yn 2006 y llais croyw yn y drafodaeth gyhoeddus am grefydd oedd Richard Dawkins a’i God Delusion. Fe ymddangosai fod secwlariaeth filwriaethus ar gynnydd a bod dadlau dros unrhyw le i grefydd yn y bywyd cyhoeddus yn dipyn o dasg. Roedd Cyfrifiad 2011 fel pe bai’n ategu hynny, gydag ond fymryn dros hanner y boblogaeth bellach yn ticio’r blwch ‘Cristnogol’ wrth lenwi’r ffurflen, a mwy a mwy yn dweud nad oes ganddynt grefydd o gwbl. Mae arolygon barn yn dangos i’r niferoedd hynny gynyddu ymhellach, gyda rhai yn dangos anffyddwyr yn y mwyafrif.


Ychydig o sylw a dalodd y diwygiad Protestannaidd i addoliad y deml; cweryl ydoedd am y ‘pethau’ – y bara a’r gwin a beth oedd yn ‘digwydd’ iddynt.
Mae arddull yn destun tramgwydd hefyd, a rhyddid y weddi o’r frest ac arddull y colect cynnil, eglwysig yn ymddangos yn groes i’w gilydd. Mae’r naill yn dibynnu ar addasrwydd i’r funud bresennol a dilysrwydd personol y gweddïwr. Mae’r llall, y colect cynnil, yn dibynnu ar y cof ac ar gymhwyso meddwl ac ysbryd y gwrandawyr i ystyr y weddi. Dyna hanfod y Weddi Gyffredin. Gwnaeth John Bell a chymuned Iona waith da – ond nid yw’r patrymau bob amser yn gweithio am eu bod yn syrthio rhwng dwy stôl, ond o leiaf maen nhw’n ymdrech at ysgogi meddwl a chalon mewn ffordd wahanol.
Mae mwy iddo na chwifio breichiau yn yr awyr neu fynd i hwyl wrth ganu. (Mynnai Aneirin Talfan gynt mai canu pop a ddifethodd bob diwygiad a fu yng Nghymru. Y cwbl sy ar ôl ydi ambell Gymanfa Ganu.) Hawdd gwneud hwyl am ben chwifio breichiau wrth ganu emyn – ond cyfaddefodd cyfaill fod gwneud hynny wedi peri iddo sylweddoli ei fod fel petai wedi bod yn addoli mewn staes! Mae llawer o’n addoli ni’r Cymry mewn staes. Fel canu emyn Ann Griffiths: ‘Gwna fi fel pren …’ 
Ddydd Sul cyn y Nadolig bu farw’r Rabi Lionel Blue, a fu’n llais mor boblogaidd ar Thought for the Day (Radio 4) am ddegawdau lawer. Roedd yn 86 oed. Rhoddodd Richard Harries, Cyn Esgob Rhydychen, deyrnged uchel iddo wrth sôn am ei gynhesrwydd, ei hiwmor, ei feddwl agored ac am y ddynoliaeth ynddo oedd yn medru cyfathrebu a chyfannu. Cyfeiriodd at y ffaith i’r ddau gynnal deialog yn ystod yr Adfent yn y 70au pan ddywedodd Lionel Blue ei fod bob amser, pan ddeuai’r Nadolig, yn hofran ar gyrion y ffydd Gristnogol. Mae ei gyfrol “My affair with Chritianity” (1998) yn dystiolaeth o hyn. Meddai, yn y bennod ‘Jesus who ?’: “…I began to see him in other people. He was Janusz Korczak who went with the Jewish orphans of the Warsaw ghetto into the camps and gas chambers. He was the image seen by Father Titus Brandsma in the Scheveningen Prison in 1942. He was Anne Frank. Later I began to see him in the unworthy as well as the worthy, and later still I began to see him in me… Then I no longer saw him…. it was like the Emmaus story in the Gospel. You don’t notice whom you meet in life. Only later you add two and two together and make a glorious five.”

Yn gyntaf, dylem ofyn i ni’n hunain beth ydym ni’n gobeithio’i gael drwy adferiad. Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn ateb y cwestiwn hwnnw drwy ddweud ein bod eisiau cyfforddusrwydd, neu hapusrwydd, neu brofi tawelwch meddwl. Dyw’r rhan fwyaf ohonom eisiau dim mwy na gallu dweud ein bod yn ein hoffi ni’n hunain. Ond sut allwn ni hoffi ni ein hunain os nad ydym hyd yn oed yn gwybod pwy ydym?
Mae’r broses hon yn debyg iawn i blicio nionyn. Mae pob haen o’r nionyn yn cynrychioli un elfen yn y rhestr. Mae’r craidd yn cynrychioli’r ysbryd pur ac iach sy’n bodoli yn y canol llonydd hwnnw y tu fewn i bob un ohonom. Bob tro yr awn drwy Gam 4, rydym yn plicio haen arall o’r nionyn gan ddod yn agosach at y craidd. Ein nod mewn adferiad yw cael deffroad ysbrydol, a down yn agosach at wireddu hynny drwy weithio’r broses hon. Mae ein hysbryd yn deffro ryw ychydig mwy bob tro y pliciwn haenen arall i ffwrdd.
Er mwyn adfer, sut bynnag, edrychwn ar ein rhestr eto. Gan anghofio camweddau fy nhad a phobl eraill, edrychwn yn ddyfal ar ein beiau ni ein hunain a gofynnwn bedwerydd cwestiwn: 4) Beth ydw i wedi’i wneud i achosi’r broblem yn y lle cyntaf? Ydw i wedi bod yn hunanol, yn anonest, yn ceisio hunan-fudd, neu’n ofnus? Dyma rywbeth nad ydym, fel arfer, wedi’i wneud o’r blaen – ystyried ein rhan ni yn y treialon sydd wedi’n goddiweddyd.
Felly, ynghyd â chanfod rhinweddau amdanom ein hunain (down at hynny yn y man), bydd rhaid inni hefyd wynebu a derbyn rhai agweddau annymunol ac anghyfforddus arnom ni’n hunain – yr agweddau hynny rydym wedi eu cuddio oddi wrth ein hunain ac oddi wrth y byd – sef ein rhan ni yn hyn oll. Bydd Cam 4 yn ein galluogi, felly, i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr; daw’r ymwadiad i ben wrth i ni weld a derbyn ein hunain fel yr ydym, gan gynnwys pob brycheuyn. Mewn geiriau eraill mae Cam 4 yn ein dysgu i fod yn ddynol – fod ‘crac’ ymhob un ohonom – ein bod yn berffaith amherffaith.