Archifau Categori: Agora 10

Golygyddol

Golygyddol

Esgobion

Cysegru Joanna Penberthy yn Esgob Tyddewi                     

Esgob Tyddewi 2

Joanna Penberthy, Esgob Tyddewi

Un o’r suffragettes ddywedodd ym 1928, “Mae byw i weld achos anobeithiol yn ennill y dydd yn un o bleserau mwya bywyd.” Mae’n siŵr y bydd caredigion Cristnogaeth21 yn barod i gydymdeimlo ag awydd y golygydd i lawenhau yng nghysegru gwraig i fod yn Esgob Tyddewi. (Derbynnir na fydd llawer o lawenydd ym mharhad y drefn esgobol!)

Ym 1923 (ychydig llai na chan mlynedd yn ôl) y cyhoeddwyd llyfr Maude Royden, The Church and Woman. Mae’r gyfrol yn dweud y pethau sylfaenol i gyd ac yn ymosod yn ddeifiol ar rai dadleuon dwl oedd yn cael eu cyflwyno i gyfiawnhau gwarafun lle i wragedd yn y weinidogaeth gyhoeddus, e.e. yr oedd un gŵr clerigol yn honni bod ymddangosiad Iesu i Fair Fadlen yn yr ardd yn ymddangosiad answyddogol, beth bynnag oedd ystyr hynny.

Ond, â’r Eglwys fel petai wedi cyrraedd yr un fan â sefydliadau seciwlar o ran deddf, mae rhywbeth mwy i’w ddweud. Nid dim ond mater ordeinio gwragedd ac agor swyddi o awdurdod iddynt yw’r pwynt. Mae’r gwaith o’n blaen, fel gwŷr a gwragedd, yn fater o gyhoeddi’r deyrnas y daeth Iesu i’w chyhoeddi. Yr oedd y deyrnas honno’n un gwbl benagored, yn gwbl wahanol i’r Deml oedd yn cau gwragedd allan ac yn yr un ffordd yn cau allan y cloff, yr anabl a’r tybiedig aflan. Yng nghymuned y Deyrnas yr oedd croeso i bawb. Buan y newidiwyd hynny, megis, pan aeth rhyw fandal bach ati i groesi’r ‘a’ allan o’r gair Episcopa mewn arysgrif mewn mosaig yn Rhufain. Daeth criw nad oedden nhw’n fodlon hyd yn oed gweld y llun na’r arysgrif i’r Esgob Theodora, coffa da amdano pe gwyddem fwy na dim ond ei henw! Cydymffurfiodd yr eglwys â phatriarchaeth y gymdeithas Rufeinig a oedd yn gwbl benderfynol o gau gwragedd allan o’r byd cyhoeddus. Cydymffurfio â phatriarchaeth, ac yn wir â chasineb at wragedd a wnaeth yng ngenau rhai o’r ‘tadau’, fel Jerôm. Gwell peidio dyfynnu – mae’n swnio’n rhy debyg i Donald Trump! Od, yntê, fod Paul wedi brwydro dros y gosodiad nad oedd yng Nghrist nac Iddew na Groegwr, ond bod ei reddf wrywaidd heb roi’r un brwdfrydedd i gynnal y gosodiad nad oes yng Nghrist na gwryw na benyw chwaith. Fflach o weledigaeth a ddiffoddwyd.

Caniatewch i mi gofio’n annwyl iawn am y Sais hwnnw mewn eglwys fach wledig a ddywedodd, “Thank you very much! Very nice! We’ve not had a woman celebrate here before! Didn’t hurt a bit!” Coffa da am hwnnw hefyd.

Elizabeth_Garrett_Anderson_(1900_portrait)

Elizabeth Garrett Anderson (Portread gan John Singer Sargent)

Mae angen gosod y frwydr hon mewn cyd-destun ehangach. Mae ’na stori hyfryd am dair o arwresau’r frwydr dros iawnderau merched. Roedd Elizabeth Garrett ac Emily Davies yn ben ffrindiau a daeth Emily i Aldburgh i ymweld ag  Elizabeth yn ei chartref. Cawsant drafodaeth danbaid a brwd am yr holl bethau yr oedd angen eu newid yn eu byd; roedd chwaer fach Elizabeth yn eistedd ar stôl fach yn gwrando. Ar ddiwedd y sgwrs dyma Emily’n crynhoi: “Mae’n amlwg beth sy’n rhaid i ni ei wneud: rhaid i ti, Elizabeth, agor drws meddygaeth i ferched” (ac fe wnaeth hynny fel Elizabeth Garrett-Anderson, gyda chefnogaeth ddiamod ei gŵr) “ac mi a’ i ati i agor byd addysg uwch i ferched” (ac fe wnaeth hynny fel Pennaeth Coleg Girton yng Nghaergrawnt). Yna, trodd at y fechan, “Millie, rwyt ti’n iau na ni – rhaid i ti ennill y bleidlais i ni.” Ac fe wnaeth Millicent Fawcett hynny, gyda help y miloedd o wragedd fu’n brwydro dros yr achos. Ac mae ’na enwau yng Nghymru oedd wedi’u diystyru a’u hanner anghofio sydd bellach yn cael eu cofio a’u hanrhydeddu: Frances Hogan, Betsi Cadwaladr a Chranogwen. Genhedlaeth yn ddiweddarach yr oedd Maude Royden yn codi’r gri, “Beth am yr eglwys?”

Bu’r Crynwyr ymhell ar y blaen yn cydnabod gwerth gwragedd yng Nghymdeithas y Cyfeillion; yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn raddol dechreuodd merched ennill hyder cyhoeddus trwy waith y mudiad dirwestol a chenhadol. Ond er i ymneilltuwyr honni nad oedd anhawster o ran egwyddor, yn ymarferol yn ara’ deg y daeth gwragedd i’w lle cyhoeddus yn y weinidogaeth. Ac fe barhaodd y gwawd a’r sylwadau dilornus gan ambell ddyn a ddylai fod wedi gwybod yn well.

Ond nid mater o frwydro dros weinidogaeth gwragedd yn unig yw hyn (ac fe fu cerdd Menna Elfyn, ‘Wnaiff y gwragedd aros ar ôl?’, yn hynod effeithiol yn codi ymwybyddiaeth o’r broblem ddiwylliannol) ac yn sicr nid mater o agor swyddi o awdurdod i wragedd ydyw, ond man cychwyn newydd yn yr ymdrech i fyw yn ôl safonau Teyrnas Nefoedd.

Rhyw dro fe ofynnodd ysgolhaig a beirniad llenyddol i mi, “Beth yw Diwinyddiaeth Ffeministaidd?” Er cywilydd, wyddwn i ddim. Ond yr oedd y cwestiwn yn her ac euthum innau ati i ddarllen peth o’r ddiwinyddiaeth fwyaf cyffrous, a daeth yr enwau hyn yn gerrig milltir ar y daith o ddarganfod ffordd newydd o deall y ffydd.

SchusslerFiorenzaElisabeth_Au

Elizabeth Schussler Fiorenza

Elizabeth Schussler Fiorenza a’in memory of heri chyfrol, In Memory of Her – A Feminist Theological Reconstruction of Christian Origins, sy’n cychwyn gyda hanes y wraig yn eneinio pen Iesu. Dywed Iesu y dylid ei chofio, ond dydi ei henw hi ddim yn yr Ysgrythur.

Cofiaf gyda anwyldeb arbennig am leian yn ei nawdegau mewn cwfaint Anglicanaidd yn cychwyn ar ei ffordd i lawr i grisiau ar y gadair arbennig gyda Sexism and God-talk gan Rosemary Radford Ruether dan ei chesail. Diau ei bod hefyd wedi darllen Women and Redemption, gan yr un awdur. Roedd Texts of Terror gan Phyllis Trible yn agoriad llygad i rai o straeon enbytaf yr Hen Destament am wragedd yn dioddef cam.

_600437_lav150

Lavinia Byrne

Amser a ballai, chwedl yr Epistol at yr Hebreaid, i enwi’r lliaws cyfrolau a gyhoeddwyd yn yr ugeinfed ganrif, ond rhaid crybwyll Lavinia Byrne, Pabyddes a lleian y bu i Basil Hume ei hamddiffyn yn erbyn bygythiadau’r Fatican. Sut y mentrai hi hyd yn oed feddwl am bwnc ordeinio gwragedd, heb sôn am ysgrifennu amdano? 

Ac yn olaf, dyfynnaf o lyfr eglur a huawdl yr Almaenes Dorothee Soelle yn ei chyfrol Images of God

Soelle“Feminist theology is the clearest contemporary expression of the struggle against the ideology of patriarchy – for the sake of the greater divinity. ‘Therefore I beg of God,’ says Meister Eckchart, ‘that he rid me of God.’ That is a plea for liberation from the prison of language which is too small for God; today it is a plea for liberation from a God who is no more than a father.”

Theology for Sceptics (Mowbrays, 1996; ISBN 0-264-67333-6)

 

Yn ddiweddar cyrhaeddodd fideo fach i’m ffôn o Cirque du Soleil, y cwmni dawns a gymnasteg o Ffrainc, o ŵr a gwraig yn dawnsio. Maen nhw’n deall ei gilydd i’r dim, yn gwybod am nerth a gwendid ei gilydd, yn cynnal ac yn ymddiried yn ei gilydd, yn cydsymud, ac mewn cyfuniad cyffrous o ddawns a gymnasteg gyda’i gilydd yn creu delweddau o harddwch a nerth na allai’r naill na’r llall eu cyflawni ar wahân. Byddai’r un peth yn wir am Strictly Come Dancing, os yw’n well gennych yr arddull yna! Gyda’n gilydd yn ôl safonau’r Deyrnas yw’r alwedigaeth i wŷr a gwragedd, ordeiniedig a lleyg.

A chyflwr y ffydd fel y mae yng Nghymru, mae digon o waith i’w wneud ac mewn gwahanol arddulliau a thraddodiadau. Bwriwn ati!

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Neges gan Cynog Dafis:
Diolch am yr erthygl gyfoethog yma. Gwraig hynod o Gymraes sy’n teilyngu sylw yw Gwyneth Vaughan, awdur ‘O Gorlannau y Defaid’ a ‘Plant y Gorthrwm’ sy’n portreadu crefydd, gwleidyddiaeth a chymdeithas yn ddeallus dros ben, o bersbectif benywaidd cadarn. Diolch i wasg Honno am ofalu bod ‘Plant y Gorthrwm’ ar gael o’r newydd, ynghyd â gwaith menyw hynod arall, EM Saunders.

 

Newyddion mis Chwefror

Newyddion mis Chwefror

Dyro dy fendith…

bishop-wayne-t-jackson-preaching

Y Parchedig Wayne T. Jackson,

Ar drothwy sefydlu Donald Trump yn Arlywydd America ar Ionawr 20fed rhoddwyd teyrnged iddo gan y Parchedig Wayne T. Jackson, arweinydd y Great Faith Ministries yn Detroit, (sydd hefyd yn galw ei hun yn Esgob), ac yn un o’r rhai a  gyfrannodd i’r seremoni sefydlu, drwy offrymu’r fendith.  Meddai, “Mae Donald Trump yn enghraifft o rywun sydd wedi cael ei fendithio yn helaeth  gan Dduw. Edrychwch ar ei gartrefi, ei fusnesau, ei wraig a’i jet. Nid ydych yn derbyn pethau felly oni bai eich bod wedi ennill ffafr Duw.”

 Gŵyl Ystwyll ddadleuol

gavin-ashenden

Gavin Ashenden

Mae Gavin Ashenden,  sydd yn Brif Gaplan a darlithydd ym Mhrifysgol Sussex wedi ymddiswyddo fel un o Gaplaniaid y Frenhines er mwyn cael dadlau yr achos a beirniadu Eglwys Gadeiriol St Mary, Glasgow, am ganiatáu i Fwslim ddarllen rhan o’r Koran mewn Arabeg yn ystod y gwasanaeth Gŵyl Ystwyll. Mae’r geiriau a ddarllenwyd yn dweud nad oedd Iesu yn Fab Duw, ond ei fod yn broffwyd. Roedd y gwasanaeth wedi ei drefnu i ddathlu Gŵyl Ystwyll, a dyfodiad y goleuni i’r holl genhedloedd. Mae’r eglwys eisoes yn gwneud llawer iawn  i godi pontydd rhwng Cristnogion a Mwslemiaid yn Glasgow. Barn Gavin Ashenden yw fod hon yn bont oedd yn mynd yn rhy bell.  Yr oedd y cyfan, meddai, wedi cael ei wneud ‘yn y ffordd anghywir, yn y lle anghywir ac yn y cysylltiadau anghywir’. Nid oes hawl gan gaplaniaid y Frenhines fod yn rhan o unrhyw ddadl grefyddol na gwleidyddol.  Go brin, efallai, y bydd y Frenhines yn gweld colli un o’r 33 o’i chaplaniaid. Y mae’r eglwys yn Glasgow, ar y llaw arall, yn dweud fod y gwasanaeth yn rhan o raglen hyfforddi barhaol  yr eglwys  a bod trafodaeth wedi ei threfnu ar ôl yr oedfa,  fel ar ôl pob gwasanaeth aml ffydd.

Cymylau duon iawn.

Jerusalem-IsraelYn nyddiau cyntaf ei Arlywyddiaeth, mae’n amhosibl rhagweld canlyniadau rhai o’r cynlluniau y mae’r Arlywydd Donald Trump yn bwriadu eu gwireddu. Un o’r mesurau hynny yw symud Llysgenhadaeth America yn Israel o Tel Aviv i Jerwsalem.

Oherwydd fod Jerwsalem yn ddinas rhanedig. a chytundeb yn bodoli i geisio cynnal yr ‘heddwch’ bregus,  mae amryw’n gweld bwriad Trump fel un heriol a bygythiol. Cyn hyn, y gobaith oedd y deuai Jerwsalem, ryw ddydd, yn brifddinas i’r Israeliaid yng ngorllewin y ddinas a’r Palestiniaid yn y dwyrain. Yn ei eiriau ei hun, mae’r Arlywydd “am gydnabod Jerwsalem yn brifddinas gyfan gwladwriaeth Israel.”  Y Perygl yw y bydd hyn yn peryglu unrhyw obaith o  ‘Un wlad, Dwy wladwriaeth’.

Yn ogystal â hynny, mae Trump hefyd wedi cefnogi penderfyniad Israel i adeiladau rhagor o gartrefi eto fyth i Israeliaid drwy feddiannu mwy a mwy o dir y Palestiniaid yn nwyrain y ddinas, yn ogystal â chodi 2,500 o gartrefi newydd ar y Llain Orllewinol. Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi’r byd – gan gadarnhau thema’r Wythnos Weddi am Undod Cristnogol  eleni – am i’r eglwysi weddïo a gweithredu am y cymod sy’n cyfannu, nid rhannu, ac yn arbennig, galw am weddi ‘dros Jerwsalem’ (Salm 122).

Williams

Pantycelyn

Ynghanol y sylwadau gan rai fod Cymru yn fwy parod i gydnabod Blwyddyn Roald Dahl neu Blwyddyn Dylan Thomas na Williams Pantycelyn (a anwyd ddechrau Chwefror 1713), neilltuodd Radio Cymru ran helaeth o Sul, Ionawr 29ain, i gofio Pantycelyn. Bu nifer o raglenni megis Bwrw Golwg, Oedfa’r Bore (dan arweiniad Rhidian Griffiths), Ar daith i Bantycelyn gyda Vaughan Roderick (un o ddisgynyddion teulu Pantycelyn), Hawl i Foli (cwis emynau o Langennech gyda phedwar o arbenigwyr, a Huw Edwards yn cadeirio), Caniadaeth y Cysegr (Wyn James yn cyflwyno, ac addewid o dair rhaglen arall), Rhaglen Dei Thomas (Densil Morgan yn cael ei holi am yr argraffiad newydd o gyfrol Saunders Lewis ar Williams), yn ogystal â Dan yr Wyneb ar y nos Lun  –  i gyd yn ymwneud â Phantycelyn. Yn anorfod, fe fydd DCDC wrthi hefyd. Wrth werthfawrogi Sul o raglenni o safon uchel, y gwir yw (chwedl sylwebyddion y cyfryngau) y gallai’r cyfan fod yn gwbwl amherthnasol i gapeli Anghydffurfiol Cymraeg heddiw. Fe fydd cydnabyddiaeth wrth fynd heibio, mae’n siŵr, mewn eglwysi Saesneg eu hiaith. Pennawd Golwg i adolygiad  Geraint Jenkins o’r gyfrol ‘Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Gol. Derec Llwyd Morgan 1991) a gyhoeddwyd i gofio marwolaeth William Williams, oedd ‘I’r Pant y rhed y dŵr ‘. Mae’r adolygiad yn awgrymu fod hanes y Diwygiad a Methodistiaeth wedi troi yn obsesiwn erbyn hyn. Roedd hynny chwarter canrif yn ôl.

Prosiect Pabell Abraham

Liberal Synagogue

Gydag argyfwng ffoaduriaid Ewrop wedi diflannu o benawdau newyddion y byd gorllewinol ers wythnosau erbyn hyn, daeth newyddion am Synagog Rhyddfrydol yn Streatham, Lambeth, yn gwario £50,000 i droi rhan o’i heiddo yn gartref i ffoaduriaid o Syria. “Yr ydym ni, Iddewon, wedi cael lloches yn y gorffennol…yr ydym am gydnabod hynny i genhedlaeth newydd o ffoaduriaid,” meddai llefarydd ar ran y Synagog. Pabell heb ochrau, agored i ddieithriaid, oedd pabell Abraham – yr enw mae’r Synagog wedi ei roi ar y prosiect – ac yn datgan fod lletygarwch yn allweddol i’r bywyd crefyddol. Ugain teulu o ffoaduriaid yw’r nod i Lambeth, ond dim ond chwe theulu sydd wedi cyrraedd hyd yma. Hyd at Rhagfyr 2016, cyfanswm o 294 o ffoaduriaid sydd wedi dod i Gymru, ac yn benodol i Dorfaen, Ceredigion, Port Talbot, Caerffili, Wrecsam a Chaerdydd. Mae Prydain ymhell ar ôl i gyrraedd y nod o 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020.

Datganiad  hanesyddol blwyddyn Luther

luther-3

Cerfluniau Luther yn nhref Wittenberg

Ar ddechrau’r flwyddyn i gofio’r Diwygiad Protestannaidd, mae’r EKD (Eglwys Efengylaidd yr Almaen, sef y brif Eglwys Brotestannaidd yno) wedi dileu yn swyddogol ei chenhadaeth i’r Iddewon. Er nad yw’r eglwysi wedi cenhadu ymhlith yr Iddewon ers yr Holocost, nid yw dileu y genhadaeth hon wedi bod yn hawdd. Er i’r EKD yn ei chynhadledd flynyddol ar Dachwedd 9fed 2016 ddatgan ‘nad yw Cristnogion wedi eu galw i ddangos i Israel y llwybr at Dduw a’i iachawdwriaeth’, y mae lleisiau cryf yn credu fod y cam hwn yn ymwrthod â chomisiwn Crist ‘i wneud disgyblion o’r holl genhedloedd’. Gan na wnaeth Duw erioed ddileu ei gyfamod â’r Iddewon, meddai’r EKD,  nid oes angen iddynt dderbyn y cyfamod newydd yng Nghrist. Mae’n ddatganiad angenrheidiol, yn ôl yr eglwys, wrth gofio gwaith Martin Luther ac ar yr un pryd gydnabod  ei agwedd wrth-Iddewig eithafol a di-gyfaddawd. Mae 23miliwn o aelodau yn yr EKD ond mae mwyafrif efengylwyr yr Almaen (dros filiwn) erbyn hyn yn aelodau yn eglwysi Cyngrair Efengyliadd yr Almaen.

Diolch a chanmol

330px-barry_morgan

Barry Morgan

Dyna a wnaeth Barry Morgan yn y gwasanaeth i nodi ei ymddeoliad (fel Esgob am 17 mlynedd ac fel Archesgob am 14 mlynedd) yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar Sul Ionawr 29ain  Roedd yno gynulleidfa o dros 500 i ddiolch a chydnabod ei arweiniad.  (‘Standing ovation’ yn ôl y Western Mail.)  Soniodd Deon Llandaf am ei ‘welediagaeth, ei garisma, ei ddewrder, ei ddoethineb ac, yn fwy na dim, am ei ddynoliaeth.’ Diolchodd a chanmolodd Barry Morgan yr eglwys ac meddai: “Heb yr eglwysi, fe fyddai llai o lawer o Fanciau Bwyd, llai o lawer o gymorth i’r digartref, y tlawd a’r ceiswyr lloches. Ond,” meddai, “Eglwys Dduw ydym oherwydd ein bod yn perthyn iddo Ef. Yr ydym yn bod o’i herwydd Ef, a’n gwaith cyntaf yw ei addoli Ef a chreu perthynas ag Ef, neu, yn fwy cywir, ymateb i’w gariad Ef tuag atom ni.”

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Gweddïau

Gweddïau machlud 2

Ffynnon bywyd, yr un sy’n ein magu, ein cyfarwyddwr, ein craig, trysorfa bendithion, Diolchwn i Ti am ddod yn agos atom, nid fel dirgelwch annirnad, ond fel cnawd brau.

Credwn iti roi i ni hiraeth a gweledigaeth am weld dy deyrnas yn ein plith.

Dyro inni heddiw feddyliau sy’n glir a phwrpasol, calonnau wedi eu llawenhau wrth feddwl am beth y gallwn ei wneud i’th garu di ac i garu’n gilydd, ewyllys ac egni i weithio a pheidio â chael ein digalonni gan ragfarn, camddeall na gelyniaeth. Gofynnwn i Ti bob tro yn enw Iesu a ddaeth yn dlawd er mwyn i ni gael bod yn gyfoethog. Amen.

IMGP0826

Gwraidd pob bywyd a chynnydd a chynhaeaf,
Yr wyt ti, ffynhonnell popeth, trwy holl weithredoedd natur,
Yn ein dwyn i ddyfnach dealltwriaeth o’th gariad.
Bydded i ni ofalu am bopeth a grëwyd
Ac â chalonnau diolchgar
Lawenhau yn rhyfeddod y ddaear. 
Bendigedig fyddo Duw am byth.


 

 

Cloddio: Pryderi Llwyd Jones yn holi Guto Dafydd

Cyfres newydd o drafodaethau estynedig.  Yn y gyntaf, Pryderi Llwyd Jones sy’n holi  Guto Dafydd.

CLODDIO

guto 3

Guto Dafydd (Llun: Y Cyngor Llyfrau)

Roedd Guto Dafydd eisoes yn fardd coronog, wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth (Ni bia’r awyr), nofel o’r enw Stad, a chyfrol i blant 11–15 oed, pan enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd yn Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Mae’r nofel yn sôn am Gymro o Lŷn yn cael triniaeth radiotherapi am gyfnod o chwe wythnos (deg sesiwn ar hugain o ymbelydredd am 10 munud yn ddyddiol o ddydd Llun tan ddydd Gwener) ar diwmor yn ei gesail. Gan fod y driniaeth ym Manceinion mae’n aros yno (ar wahân i ddychwelyd at ei wraig a’u merch fach yn achlysurol). Mae’n cadw dyddiadur o’r driniaeth a’r un pryd yn crwydro’r ddinas, a dod i adnabod ei phobl a’i bywyd.

pryderi_llwyd_jones_bach

Pryderi Llwyd Jones (Llun: Y Lolfa)

Bu Pryderi Llwyd Jones yn sgwrsio â Guto, nid yn gymaint i’w holi, ond i drafod rhai agweddau o’r gyfrol nodedig hon.

Pryderi:   Llongyfarchiadau, nid yn gymaint ar ennill, ond am nofel gyfoethog iawn. Mae’n hawdd ei darllen, mae’n stori ddiddorol ac mor gyfoes â’r ffrwydriad ddiweddaraf mewn byd o derfysgwyr, yn ogystal â byd o ansicrwydd personol, teuluol a chenedlaethol. Mae’n llawn cymeriadau lliwgar, yn hunangofiannol ac yn ddeifiol ei sylwadaeth.

Gan obeithio y bydd y rhai nad ydynt wedi’i darllen yn gwneud hynny’n fuan, fe hoffwn ddilyn ambell drywydd, heb ddatgelu gormod am y nofel. Oherwydd y clod a’r sylw i’r nofel fe fyddai’n hawdd anghofio gofyn a fu’r driniaeth yn llwyddiannus a sut wyt ti’n teimlo erbyn hyn, ddwy flynedd yn ddiweddarach? O edrych yn ôl (ar wahân i ysgrifennu’r nofel), a gafodd y profiad ddylanwad parhaol arnat fel person? Roedd yn gyfnod anodd iawn i ti a’r teulu.

Guto: Diolch yn fawr am y geiriau caredig, ac am y gwahoddiad i sgwrsio â chi.

‘Nac arwain ni i brofedigaeth,’ meddai Gweddi’r Arglwydd, ond ydi hynny’n ddeisyfiad doeth? Onid drwy gael ein profi yr ydym yn cryfhau, ac yn dod i’n hadnabod ein hunain? 

Ni fyddwn byth yn dewis gorfod mynd drwy gyfnod o radiotherapi ymhell o adref eto, yn bennaf oherwydd y pwysau annheg ar fy ngwraig, a oedd yn gorfod ysgwyddo’r baich o ofalu am ein merch fach heb fy nghefnogaeth i. 

Ond ar y llaw arall, pe na bawn wedi cael fy nadwreiddio a’m gorfodi i dreulio amser ym Manceinion, ni fyddwn wedi cael y cyfle na’r ysgogiad i ysgrifennu Ymbelydredd

ymbelydreddNid yw’n bosib i mi edrych yn ôl ar y profiad ar wahân i ysgrifennu’r nofel. Roedd y ffaith fy mod wrthi’n ei chreu tra oeddwn ym Manceinion yn golygu fy mod yn profi’r ddinas mewn modd gwahanol: roeddwn yn dadansoddi fy nheimladau ar y pryd er mwyn eu cofnodi, ac yn fy ngorfodi fy hun i chwilio am brofiadau y gallwn eu trosglwyddo i’r cymeriad yn y nofel. Wrth gael y profiadau hynny wedyn – boed yn ymweliad ag oriel gelf neu’n blatiad o sglodion – roedd yn rhaid i mi fod yn fwy sylwgar a dadansoddol, a meddwl sut i gyfleu’r profiad i ddarllenydd o fewn cyd-destun y nofel. 

O ran y tiwmor sydd gen i, mae o yma i aros, a’r cwbl y gall y meddygon ei wneud yw ei reoli a cheisio’i atal rhag amharu gormod ar fy mywyd. Rwyf mewn cryn dipyn yn llai o boen ers cael y driniaeth, ac mae’r tiwmor wedi lleihau ychydig o ran maint, ac felly roedd y radiotherapi’n werth chweil yn yr ystyr honno. 

Pryderi:    Mae’n amlwg yn hunangofiannol ac i’r rhai sy’n dy adnabod fe welwn Trefor a Phwllheli (hyd yn oed tafarnau Penlan Fawr a Whitehall – fe ddown yn ôl at hynny) yn y nofel a’i chyfeiriadaeth, e.e. arddull gwmpasog Shakespeare ‘fel mynd o Lanaelhaiarn i Glynnog drwy Dudweiliog’ neu fod pawb yn y clinig yn edrych yn debyg i’w gilydd ‘fel petaent wedi dod ar drip Seren Arian’. Mae Pen Llŷn mor fyw â Manceinion. Nid oes gan y prif gymeriad enw (na’i deulu enwau chwaith). Ond a fyddai rhywun heddiw mewn clinig dros gyfnod o chwe wythnos yn cael ei alw wrth ei rif? Weithiau roeddwn yn blino ar ddarllen am rif ac yn dyheu am enw – unrhyw enw. Tybed a wnest ti deimlo felly?

Guto:  Dyna’n union fy mwriad wrth roi rhif yn lle enw ar fy mhrif gymeriad – creu teimlad o ddiflastod dibersonoliaeth, anghyfarwydd. Er bod y nyrsys yn defnyddio fy enw iawn, wrth gwrs (ni allent ei ynganu, ond ceisient eu gorau), roedd y profiad yn gyffredinol yn un a ddygai fy hunaniaeth. Ar y gwely ar gyfer y driniaeth, wrth i’r staff fy symud a’m tylino, teimlwn fel corff yn hytrach nag fel person. Doedd neb yn fy adnabod ar y stryd. Wrth aros mewn ystafelloedd diflas mewn gwestai mewn gwahanol rannau o’r ddinas, heb gysuron cartref, teimlwn mor ddigymeriad â’r cynfasau gwyn. Wrth fod i ffwrdd o ardal Gymraeg, mewn dinas lle roedd diwylliant Saesneg yn fy amgylchynu i raddau hyd yn oed yn fwy nag arfer, teimlwn fod fy hunaniaeth yn diflannu. 

Efallai nad oes enw ar y cymeriad yn y llyfr, ond mae sawl peth yn y llyfr yno i adfer ei gymeriad a’i hunaniaeth: y sôn am eisteddfod leol, mynd am dro ar y mynydd gyda beirdd, ymdrybaeddu yn y Pethe ym Mhenllyn, amser gyda’i ferch a’i deulu. Credaf fod y gynhysgaeth honno cyn bwysiced ag enw i hunaniaeth rhywun. 

Pryderi: Yn ei sylwadau ar y nofel mae Enid Morgan, golygydd Agora, yn cyfeirio at y nofel fel math o ‘daith y pererin ôl-fodern tuag at yn ôl yn llawn dicter’. A yw’n ddisgrifiad teg? Mae’r nofel yn sôn fod 24609 ‘am i’r ddinas adael ei hôl ar ei enaid’. Mae hi yn gadael ei ôl arno, oherwydd mae’n gwneud pethau na fyddai, efallai, yn ei wneud yn ei gynefin. Yn wahanol i’r dyfyniad gan Simon Brooks ar y dechrau (sy’n sôn mai ‘dieithriwch yw tynged y Cymry’), mae’n teimlo dieithriwch yn y ddinas.

Guto:   Credaf i Enid Morgan alw 24609 yn ‘Snechgi beirniadol o wrth-arwr’ hefyd, ac roedd ei sylwadau’n ychydig o sioc i mi – ond yn sioc bleserus a buddiol. Mae pobl sy’n fy adnabod yn ymateb yn wahanol i 24609: gwelant sinigiaeth ac eironi ceg fawr, lle bydd pobl nad ydynt yn fy adnabod yn fwy tueddol o weld ‘beirniadu’ a ‘dicter’. Rhaid i mi ddysgu meddwl am 24609 fel cymeriad ffuglennol mewn nofel yn hytrach nag fel fi fy hun ar bapur! 

Mae’r disgrifiad hwnnw o ‘daith y pererin ôl-fodern tuag yn ôl’ yn dal yn berffaith yr hyn y ceisiwn ei gyfleu; mewn nofelau arferol, mae’r daith yn puro’r cymeriad, ond nid felly y tro hwn. 

Cynhwysais y dyfyniad gan Simon Brooks (‘Pobl wedi eu dad-diriogaethu yw’r Cymry, a dieithrwch yw eu tynged i gyd’) ar ddechrau’r nofel oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn gofyn a oedd fy mhrofiad i yn y ddinas yn nodweddiadol o brofiad y Cymry’n gyffredinol. Cafodd cael fy symud o’m cynefin a’m hamgylchynu gan ddiwylliant arall effaith arnaf ym Manceinion, ond onid yw hynny’n digwydd i ni’n barhaus, hyd yn oed yng nghadarnleoedd y Gymraeg? 

Manchester-MM-WIDE

Manceinion

Fel antidôt i’r agwedd honno, serch hynny, cynhwysais hefyd ddyfyniad gan Jan Morris, sy’n disgrifio’i chyflwr bendigedig hi – yn llawn o gryfder ffrwythlon ieuenctid – pan oedd yn Fenis yn ysgrifennu ei chyfrol wych am y lle. Er mai’n eironig y’i cynhwysais, a minnau’n mynd i Fanceinion mewn gwaeledd, roedd hefyd yn ffordd o’m hatgoffa fy hun i geisio bod fel Jan Morris: ceisio amsugno cymeriad y ddinas a phopeth diddorol amdani, a chreu o hynny lenyddiaeth safadwy sy’n dweud rhywbeth am gymeriad yr awdur. 

Pryderi: Ond er bod 24609 yn cael ei hun (rydw i’n cymryd yn ganiataol mai dychymyg sydd ar waith yma ac mae’n argyhoeddi yn llwyr) yn isfyd y digartref chwyldroadol sydd am newid y byd a dymchwel y gyfundrefn gyfalafol, er ei fod yn cydymdeimlo â’r egwyddorion, onid yw’r Cymro Cymraeg dosbarth canol, diwylliedig hwn yn fwy o ‘fo ei hun’ yn ei sylwadau goleuedig ar Hamlet a Lowry a llu o rai eraill y daw ar eu traws yn niwylliant dosbarth canol diwylliedig Manceinion? Does dim dieithriwch yma o gwbwl.

GutoWrth ysgrifennu nofel, wyddoch chi byth pa elfennau ar eich cymeriad eich hun a ddaw i’r amlwg heb ichi fwriadu hynny. Yn achos Ymbelydredd, fe’m synnwyd sut y daeth cymaint o’m magwraeth yn Nhrefor i’r wyneb. 

Trefor_-_geograph.org.uk_-_59971

Trefor (Llun: Karen Foxall)

Byddaf bob amser yn ddiolchgar am fy mhlentyndod yn y pentref hwnnw; rwy’n caru’r lle, ac roedd tyfu yno’n un o’r dylanwadau ffurfiannol cryfaf arnaf. Serch hynny, ni allaf honni i mi erioed ‘ffitio i mewn’ yno. Bachgen meddal, sensitif, gwan a swil ydw i, ac oherwydd hynny doedd fy nghymeriad ddim yn gweddu i’r pentref: doedd gen i mo’r cryfder a’r caledwch mewnol angenrheidiol. A minnau wedi methu dygymod â gofynion cymuned ôl-chwarelyddol, ddosbarth gweithiol, efallai nad yw’n syndod fod 24609 yn ymddangos yn fwy cyfforddus ymysg y dosbarth canol diwylliedig. Er hynny, gobeithiaf fy mod wedi rhoi cyfri teg o’m magwraeth yn y pentref chwarel arbennig hwnnw rhwng môr a mynydd.

Ffantasi lwyr oedd gwleidyddiaeth chwyldroadol y Gwrthsafiad digartref – ond roedd iddi ei phwrpas hefyd. Mae nifer y digartref ym Manceinion wedi ffrwydro yn y blynyddoedd diwethaf, a’m tuedd i yn y ddinas yw cerdded heibio heb edrych arnynt unwaith. Teimlaf yn euog am hynny, oherwydd maent i gyd yn bobl, a chanddynt eu stori a’u gwerth eu hunain. Drwy ysgrifennu stori wallgo ar gyfer criw go iawn o bobl ddigartref, gobeithiwn wneud iawn am y ffaith na allwn fagu’r plwc i sgwrsio â hwy.

Felly, a chrynhoi, rydych yn llygad eich lle mai yng nghwmni’r dosbarth canol diwylliedig rydw i fwyaf cyfforddus, ond gobeithiaf nad wyf wedi mynd yn greadur rhy ynysig chwaith.

Pryderi: Mae’r ymwrthod â’i gefndir Cristnogol ac â dylanwad efengylaidd ei laslencyndod yn ymddangos yn llwyr a digyfaddawd. Mae’n deall beth mae’r Gristnogaeth hon yn ei gynnig i gynulleidfa fawr yn y Truth Hope Church, ond mae’n gwybod mai twyll a chelwydd yw’r cyfan, er bod y rhai a ddylanwadodd arno ef yn gwbwl ddiffuant. Oherwydd bod ei ffydd ar seiliau simsan, fe syrthiodd y cyfan. Mae’n mynd o wasanaeth yn y THC yn diolch ei fod yn ymwrthod â’r cyfan gyda’r geiriau ysgytwol, ’Teimla’n lân, fel petae ei enaid wedi ei olchi’. Mae’n ymwrthod â Christnogaeth geidwadol, unigolyddol, ffwndamentalaidd, sydd, gyda llaw, ymhell iawn o’r weledigaeth Iddewig–Gristnogol Feiblaidd o ffydd a chred sy’n cyfannu bywyd cymuned, byd ac unigolion. A yw ein bywydau heddiw – yn bersonol, fel cymunedau, fel Cymry ac fel byd – angen agwedd lawer mwy agored tuag at ysbrydolrwydd a Christnogaeth – na’r ymwrthod simplistig ‘Does dim Duw a dyna fo’ sydd mor gyffredin ymysg yr ‘anffyddwyr newydd’ ? Onid oes yna lawer o anwybodaeth mewn anffyddiaeth hefyd?

Guto:   Ni allaf dderbyn, i ddechrau, fod fy ffydd ar seiliau simsan. Roeddwn wedi ymwrthod â nifer o’r pethau allanol sy’n sgil-effeithiau cred – homoffobia, rhagfarn, gwrthod credu mewn gwyddoniaeth, ac ati – ond nid dyna hanfodion y ffydd Gristnogol, siawns, ond y berthynas rhwng unigolyn a Duw. Dyfyniad Guto dafydd

Yr hyn a ddaeth â’m ffydd i ben oedd y sylweddoliad syml nad oes Duw. Yn fyr, nid wyf o’r farn fod unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r haeriad fod Duw’n bodoli. Siawns y gellir cytuno na ellir profi bodolaeth Duw â dadleuon gwyddonol na rhesymegol. Profiad yr unigolyn o Dduw yw’r prawf cryfaf y gellir ei gynnig, felly. Ond, a minnau wedi bod yn Gristion ac wedi cael y profiadau ysbrydol hynny fy hunan, gwn yn iawn mai cynnyrch fy ymennydd fy hun oeddent. O’r herwydd, ni allaf dderbyn ei bod yn rhesymol credu yn Nuw. 

(Wrth basio, noder nad fy newis i yw peidio â chredu yn Nuw os yw’n bod. Os yw Duw’n bodoli, ef ei hun sy’n ethol pobl ac yn eu galluogi i gredu ynddo. Ceir dau bosibilrwydd: (a) nid yw Duw’n bodoli; (b) mae Duw’n bodoli, ond nid yw’n bosib i mi gredu ynddo oherwydd nid yw Duw wedi fy ethol. Er nad wyf yn grediniwr bellach, rwy’n dal yn Galfinydd rhonc pan ddaw’n fater o ddehongli’r Beibl: Calfiniaeth yw’r unig ddehongliad o’r Beibl a lwyddodd i’m perswadio erioed, ac nid yw’r ffaith nad wyf yn credu yn Nuw bellach yn newid hynny!) 

Ond ni allaf dderbyn mai ‘Does dim Duw a dyna fo’ yw fy agwedd fel anffyddiwr. Fy agwedd yw: ‘Does dim Duw ond, yn ei absenoldeb, beth allaf i ei wneud i wneud fy mywyd yn fwy ystyrlon, ac i wneud y byd yn lle caredicach a chyfoethocach i bobl eraill?’ 

Pryderi: Nid fy mwriad gyda’r ‘Dim Duw a dyna fo’ oedd awgrymu am funud nad yw anffyddwyr am wneud y byd yn lle caredicach a chyfoethocach i fyw i bobl eraill. Nid oes gan unrhyw grefydd fonopoli ar ddaioni a gwerthoedd, wrth gwrs. Mae gan grefyddau, fel ideolegau seciwlar a gwleidyddol, ddigon i gywilyddio amdano yn y gorffennol. Mae’n ddiddorol iawn, o ymwrthod â Christognaeth Galfinaidd, dy fod yn dweud e.e. nad dy ddewis di yw peidio â chredu yn Nuw – Duw ei hun sy’n dewis pwy sy’n credu ynddo drwy eu galluogi i gredu ynddo. (Etholedigaeth ’ta detholedigaeth yw hynny, tybed? Sorri, sylw ar hen ddadl, nid cwestiwn!)  Yr wyt hefyd yn dweud mai Calfiniaeth yw’r unig ddehongliad o’r Beibl a lwyddodd i’th berswadio erioed. Fel nifer o Gristnogion erbyn hyn, fe gefaist dy argyhoeddi, neu fe ddaethost ‘i ffydd’, i gredu mai dyma’r unig ddehongliad posibl o’r Beibl. Onid ffwndamentaliaeth yw gair arall am hynny, un o’r bygythiadau mwyaf i Gristnogaeth, fel i grefyddau eraill?

Ond i symud ymlaen. Mae cariad llwyr a diamod ei nain tuag at ei wyres fach ychydig fisoedd oed a’r hyn a wêl 24609 yn ei wraig (nad yw wedi meddwl llawer amdani yn ystod ei driniaeth, ‘dim ond dibynnu yn llwyr arni’) ‘yn darparu’r cariad diamod, cadarn sy’n ei argyhoeddi bod ystyr ar ôl’. Mae John Gwilym Jones yn taro’r un nodyn ar ddiwedd ei ddrama am Forgan Llwyd. Ai dyna’r unig beth sydd ar ôl a’r unig beth sy’n dod â chysur ac ystyr? Mae’n wahanol iawn i’r criw sydd ar gyrion y gymdeithas ym Manceinion ac am newid y byd. A yw gweledigaeth (ond nid dulliau treisgar) isfyd Manceinion yn amgenach? A oes perygl i ni, Gymry Cymraeg, gael ein dieithrio oddi wrth y byd fel ag y mae yn 2017?

Guto:   Mae’n bwysig fod y diwylliant Cymraeg yn ymwybodol o gerrynt byd-eang, ac yn ymateb iddynt. Dyna un peth cadarnhaol am orfod bod ym Manceinion: cael fy rhyddhau o’m hamgylchiadau arferol, a chael fy ngorfodi i ystyried y byd mawr y tu allan. O’r herwydd, heb yn wybod i mi, roedd ambell linyn yn y nofel a ddeuai’n eithriadol o berthnasol i ddigwyddiadau mawr 2016. 

Ysgrifennais y nofel ddiwedd 2015, pan oedd Brexit a Trump yn ddau bosibilrwydd ychydig yn ecsentrig na chredai fawr neb, o ddifri, y deuent yn realiti. Credem fod strwythurau a chonfensiynau cymdeithasol digon cryf mewn lle i atal cynhyrfwyr casineb rhag perswadio digon o bobl i sefyll dan eu baner. 

Ond o ddarllen Ymbelydredd yn ofalus, gwelir bod rhesymau i amau hynny’n cuddio yno. Mae 24609 yn ymwybodol efallai mai masg yw wyneb amlddiwylliannol ffyniannus y ddinas, a bod dicter a hiliaeth yn llechu yn swbwrbia; mae’r trampiaid terfysgol yn awyddus i chwalu’r gyfundrefn sydd ohoni, a 24609 yn rhy wan i’w rhwystro; mae ymwelwyr â’r Amgueddfa Ryfel fel petaent yn hiraethu am ryfel. Ni wyddwn ar y pryd y byddent yn pleidleisio – wrth gefnogi Brexit a Trump – dros amgylchiadau sy’n gwneud rhyfel yn fwy tebygol. 

Dyfyniad 2O ran rhan gyntaf eich cwestiwn, wrth feddwl am yr heriau mawr sy’n wynebu’r byd heddiw, ai ffansïol yw credu y gall cariad, fel y cariad hwnnw rhwng Casi a Nain, fod yn unrhyw help o gwbl? Ddim yn fy marn i. O garu ein plant, ein teuluoedd, ein cyfeillion a’n cymunedau a’n cenedl, rydym yn magu’r dyhead i adael y cenedlaethau nesaf mewn gwell byd na’r un y’n ganed ni iddo. Cwestiwn mawr 2017 yw a yw’r reddf honno’n gryfach na’r reddf i gasáu, dinistrio ac ymelwa. 

Pryderi:   Mae diwedd annisgwyl iawn i’r nofel. Er iddo, dros dro ac yng nghanol profiadau dwys ac anodd radiotherapi a chanser, gael ei dynnu i fyd gwahanol iawn ac er bod ganddo farn, rhagfarn a theimladau cryf a goleuedig am Gymru a’r byd, nid yw’n medru dianc rhag yr hyn ydyw. Mae wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau trist a bygythiol ym Manceinion ac ni all osgoi hynny. Er ei fod yn ôl yn ei gynefin ar drothwy gŵyl hapusaf y flwyddyn, a oes rhywbeth o’i le? Mae wedi sôn am rai pethau (llai pwysig) a wnaeth yn ei gynefin sy’n gwneud iddo deimlo’n euog. Ond a yw’n teimlo’n euog am rywbeth dyfnach, tybed?

Guto:   Pwy a ŵyr? Fel y dengys ambell beth yn y nofel, rydw i’n greadur sy’n poeni’n ddybryd am y pechodau lleiaf. Ni hoffwn feddwl sut y byddwn i’n dygymod pe bawn wedi gwneud pethau gwaeth. Ond fel y nodais gynnau, nid fi yw 24609! Ac felly rwy’n falch eich bod yn meddwl efallai fod gan 24609 gyfrinachau ysgeler yn ei orffennol. 

Roedd gen i fwriad penodol i’r car heddlu wrth ysgrifennu’r llyfr, ond ni ddywedaf fwy, oherwydd bydd gan bawb ei ddatrysiad ei hun i’r dirgelwch hwn. 

Pryderi: Diolch yn fawr, Guto, am ymateb i’m sylwadau gwasgarog – fe ellid trafod llawer mwy. Fe fyddwn yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith nesaf. Mae digon o ddoniolwch yn y nofel ac mae meddwl amdanat yn prynu carafán ar gyfer Eisteddfod Meifod a’i galw yn Garafann Griffiths yn ddiddorol iawn.

centre

Pwllheli

Ond i ddod yn ôl at Penlan Fawr a Whitehall a threfniadau ei gynhebrwng ei hun gan 24609. Mae’n ddoniol iawn, ond nid yw’n gwbwl amhosibl dychmygu cynhebrwng fel hyn yn digwydd yn y Gymru ‘ôl-fodern, ôl-wirionedd’. (Mae’r ‘gwasanaeth’ braidd yn faith, gyda llaw – fe fydd angen cwtogi, ac fe fyddai darlith ‘fer’ ar waith 24609 yn siŵr o fod o leiaf yn hanner awr!)  Ond pam mynd i’r capel a chanu ‘O fryniau Caersalem’ yn ogystal â ‘Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw’? Ydi hyn yn awgrymu dy fod yn gweld parhad y dystiolaeth Gristnogol fel rhan bwysig o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol? Ai dyna yw safbwynt llawer o’r Cymry Cymraeg sydd wedi’u magu yn y ffydd, ond wedi hen gilio o’r eglwysi? Fe fyddwn yn croesawu dy sylwadau ar hynny.

Guto:   Mae emynau a chanu cynulleidfaol Cymraeg wedi fy ngwefreiddio erioed, a hynny oherwydd cyfuniad o sawl peth. Mae naratif emynau’n un gafaelgar: crëwr y byd yn anfon ei fab i farw’n erchyll er mwyn rhoi gwaredigaeth rhag uffern i bobl bechadurus. Mae eu barddoniaeth yn ysgytwol, yn gynhesol, yn ddyrchafol. Ac mae’r gynghanedd gerddorol, a’r teimlad o ganu gyda thorf o bobl eraill, yn syfrdanol. 

caneuon_ffydd_solffa_1024x1024Ond wrth gwrs, nid wyf yn credu yn neges yr emynau hynny. A wyf yn rhagrithiwr, felly, am eu mwynhau? A wyf yn dibrisio cred ddidwyll Pantycelyn ac Ann Griffiths drwy drin eu gwaith fel adloniant? 

Mae Cristnogaeth yn rhan bwysig o’n treftadaeth a’n hanes. Mae gofyn pam y datblygodd ymneilltuaeth fel y gwnaeth yn ffordd fuddiol o ystyried cymeriad a chymdeithaseg y Cymry. Mae pensaernïaeth y capeli’n destament i lafur ac ysbryd y cenedlaethau a fu o’n blaen – pobl a roddai werth ar gred. Ond a allwn i fyth ddweud y carwn weld y dystiolaeth Gristnogol yn parhau yng Nghymru, fel rhywbeth byw? Rwy’n eithaf siŵr fod credu mewn endid goruwchnaturiol dychmygol, a defnyddio rheolau a bodolaeth yr endid hwnnw er mwyn ennill mantais a rheolaeth dros bobl eraill, yn rhywbeth peryglus, ni waeth pa mor anrhydeddus yw cymhellion credinwyr.

Pryderi:   Mae’r syniad o ‘endid goruwchnaturiol’ i ‘ennill mantais a rheolaeth dros bobl eraill’ yn syniad erchyll o Dduw ac mae’n hen bryd ei gladdu, Guto. Mae’n gwbwl wahanol i’r Duw y rhoddodd Iesu y cyfan er mwyn i ni Ei adnabod. Gyda syniadau o’r fath, onid oes angen gwahaniaethu rhwng ‘Duw’ a syniadau pobl grefyddol amdano?

Guto:   Ond gadewch i mi edrych ar y mater mewn ffordd wahanol. Mae Duw yn bodoli – nid fel peth real, ond fel creadigaeth dychymyg dyn. Yng ngoleuni hynny, mae’n werthfawr gofyn at ba ddiben y creodd dyn Dduw: pa dyllau oedd angen eu llenwi? Yr angen i addoli rhywbeth. Yr angen i gredu bod bywyd tragwyddol ar ôl pydru yn y pridd. Yr angen am awdurdod o’r goruchaf i gefnogi rheolau moesol. Yr angen i gredu bod cariad a chyfiawnder yn teyrnasu, waeth beth fo’n hamgylchiadau daearol. Yr angen am esboniad syml o ddirgelion y bydysawd cymhleth, rhyfeddol. 

Yr her i ni o ddydd i ddydd yw ceisio llenwi’r bylchau hyn – ond gan nad yw’n bodoli, ofnaf fod yn rhaid i ni wneud hynny heb help Duw.

Pryderi:   Ar y llaw arall, Guto, onid yw’r hyn a elwi di yn ‘angen’ a ‘thyllau’ yng ngwead ein natur ddynol, feidrol ni? Oni all ‘yr angen i addoli’ fod yn ‘awydd neu reddf i addoli’? (Mae’r ddawn i ryfeddu yn ganolog i addoli, wrth gwrs.) Ac onid yw ‘ysbrydolrwydd’ a’r ‘tragwyddol’ a’r ‘dimensiwn ysbrydol’ wedi bod yn rhan o greadigrwydd a diwylliant dyn erioed? Nid yw credu mewn Duw sy’n Greawdwr yn esboniad ‘syml’ o fydysawd cymhleth chwaith, e.e. cwestiwn mawr Cristnogaeth o’r dechrau ydi sut y medrwn gredu mewn Creawdwr mewn byd lle mae cymaint o ddioddefaint? Mae Llyfr Job a’r Salmau yn llawer mwy na barddoniaeth, oherwydd bod y pwnc yn oesol feidrol yn y dyhead am atebion. Fel y gwyddost, mae ’na athronydd o Lŷn a bardd o Lŷn wedi sôn llawer am y Duw absennol. Mae’n ymddangos yn absennol ac y mae’n amlwg yn absennol (dyna dy air di yn gynharach yn ein sgwrs) – ond nid yw hynny’n gwrthbrofi ei fodolaeth gan na ellir ei fesur na’i brofi.

Guto Dafydd ennill

(Llun: BBC Cymru Fyw)

Guto:   Egwyddor bwysig yw bod y baich o brofi haeriad ar y sawl sy’n gwneud yr haeriad hwnnw. Yn achos bodolaeth Duw, ni wn i am unrhyw dystiolaeth na dadleuon sy’n dod yn agos at brofi’r haeriad.

Rwy’n sicr yn cytuno bod yr anghenion hynny a ddisgrifiais yn rhan o natur dyn. Ac wrth gwrs, mae pobl wedi bod yn ceisio llenwi’r tyllau hynny mewn amrywiol ddulliau, gan gynnwys drwy gred mewn Duw. Nid yw hynny, chwaith, yn dod yn agos at brofi bod Duw’n bodoli.

Nid wyf yn credu bod y cwestiwn hwnnw ynghylch Duw a dioddefaint yn un pwysig. Mae’r Beibl yn eitha clir, dwi’n credu, fod Duw wedi creu byd optimal, braf, ond bod dyn wedi llygru’r byd hwnnw â’i bechod; gellir olrhain y dioddefaint sydd yn y byd heddiw at drachwant dyn, a’i stiwardiaeth wael o’r ddaear.

Ni welaf beth yw sail pobl dros gredu mai lle Duw yw gwneud bywydau pobl yn neis – hynny yw, dileu unrhyw rwystr i hapusrwydd perffaith; creu Iwtopia. Ond hyd yn oed pe bai modd i Dduw wneud hynny, a fyddai’n beth doeth i ddymuno amdano? ‘Colled i lenyddiaeth yw colli pechod,’ meddai Saunders Lewis, ac rwy’n reit siŵr y byddai pobl berffaith yn lot mwy diflas. Mater arall yw a fyddai hynny’n bris teg i’w dalu am ddileu dioddefaint.

Pryderi:   Diolch yn fawr iawn, Guto, am roi dy amser i ymateb yn agored a gonest, a diolch unwaith eto am Ymbelydredd. Fe fydd sawl Grŵp Darllen yn cael blas mawr o’i darllen a’i thrafod.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Codi ‘nghalon

Gofynnodd y Golygydd i bobl amlinellu beth fyddai’n codi eu calonnau yn ystod 2017. Dyma sylwadau Allan Pickard, Trysorydd Cristnogaeth 21..

Codi ‘nghalon

Un peth fyddai’n codi fy nghalon yn 2017 fyddai gweld pawb yn dod i gredu popeth dwi’n ei gredu. Pe bai hynny’n digwydd, fyddai dim cecru ac anghydweld, ac mae llawer gormod o hynny ymhlith y rhai sy’n dweud mai dilynwyr Iesu ydyn nhw. Roedd hi’n braf cael yr ysgrif wythnosol gan C21 yn 2016, ond doedd popeth ddarllenais i ddim wrth fy nant i. Ac weithiau byddai rhai’n ymateb, gan amla i anghytuno ag awdur yr ysgrif a chynnig safbwynt arall. Tasa pawb yn credu ’run fath, byddai popeth yn hyncidori – dim ond i’r credu ’run fath ddod o’r Efengyl yn ôl Fi.

Peth rhyfedd yw siarad â chi’ch hunan, ond dwi’n ei wneud yn reit aml. Bydd fy ngwraig yn gweld fy ngwefusau’n symud, a bydd hi’n dweud, “Ti’n siarad â thi dy hun eto.” Wel, ia. Ond mae’n braf iawn. Pan dwi’n siarad â fi fy hun, does neb i ddweud mod i’n rong, neu ddim yn deall, neu wedi colli’r plot, neu weithiau – fel sydd wedi digwydd – ddweud nad Cristion mohonof am nad wyf yn gallu ticio bocsys eu Credo nhw. Roedd hynny’n arfer fy ngwylltio, ond bellach dwi ddim yn poeni. Fe stopiais boeni am bethe fel ’na, a llawer peth arall o ran hynny, ymhell cyn imi gyrraedd oed yr addewid.

Allan Pickard copy

Allan Pickard

Peth rhyfedd yw cyrraedd oed yr addewid. Un peth rhyfedd yw bod lot o bethe pwysig wedi stopio bod yn bwysig, yn enwedig lle mae crefydd yn y cwestiwn. Pan oeddwn yn blentyn roedd crefydd, hynny yw, mynd i’r capel, i’r Ysgol Sul a’r Band of Hope, yn hwyl,  yn bleserus. Pan euthum yn ddyn, chwedl yr adnod, fe drodd popeth yn seriws iawn – a lot llai o hwyl a lot llai o bleser. Pan euthum yn ddyn, gwelais lot o gasineb ymhlith fy nghyd-gredinwyr, ac anoddefgarwch mawr. Pan euthum yn ddyn, dechreuais ofyn y cwestiwn, “Lle mae Iesu wedi mynd?”

Sy’n dod â fi ’nôl at yr Efengyl yn ôl Fi. Falle fod angen i mi sefydlu enwad newydd neu eglwys newydd er mwyn i ni i gyd ailddarganfod y pethe pwysig, y pethe hanfodol. Er, wedi dweud hynna, onid dyna fel mae hi wedi bod o’r dechrau’n deg. Onid dyna pam mae gynnon ni’r holl enwadau ac eglwysi a sectau gwahanol, a’r holl arferion a defodau gwahanol, a’r holl ddehongli ac esbonio gwahanol. Hanes yw hanes, a does dim modd ei newid, ac mae mawrion y gorffennol wedi dweud eu dweud a gadael eu hôl a’u hathrawiaethau, a’n cloi ni mewn bocsys, ac wedi cuddio’r allweddi. Byddai dod o hyd i’r allweddi yn rhywbeth arall fyddai’n codi fy nghalon yn 2017, ond fel dwedodd cyfaill pan soniais am hyn wrtho, “Don’t hold your breath.”

Ac eto, rhaid byw mewn gobaith – y gobaith nad oes raid i bethe aros fel maen nhw. Dyna fy man cychwyn ar ddechrau pob blwyddyn. Er, mae dal gafael mewn gobaith yn mynd yn fwy heriol, ac yn enwedig wrth ofni i ble fydd rhai o arweinwyr y gwledydd a’r eithafwyr – llawer ohonyn nhw’n honni eu bod yn gweithredu yn enw crefydd a gyda sêl bendith pobl grefyddol – o bosib yn mynd â ni.

Byddai’n dda gwybod beth fyddai ganddo Fe (Iesu) i’w ddweud wrthym. Wedi’r cwbl, Fe yw’r peth pwysica sydd gynnon ni. Pob parch i Eglwys, Enwad, Traddodiad, Credo, Beibl, Iesu yw calon pawb sy’n ei arddel. Falle dylwn bwyso mwy ar ambell beth mae fy hen ffrind Tomos (y Didymus yna) yn ei gofnodi am Iesu yn ei Efengyl ef. Nid amau wnaeth Tomos, er mai dyna’r label a roddwyd arno. Nid amau, ond cwestiynu – ac  mae gynnon ni i gyd ein cwestiynau. Yn ôl Tomos, dwedodd Iesu rywbeth tebyg i hyn: “Mae’n bosib y dewch o hyd i rywbeth fydd yn ypsetio’ch rhagfarnau, ond fe fyddwch yn darganfod llawer fydd yn gwneud i chi ryfeddu a mynd i’r afael â beth yw pwrpas bywyd.” 

Blwyddyn Newydd Dda i chi oddi wrth yr Agnostic Cristnogol Gobeithiol.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Arwyddbyst

Gofynnodd y Golygydd i rai o gefnogwyr C21 amlinellu beth fyddai’n codi eu calonnau yn ystod 2017. Dyma sylwadau personol Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr.

Arwyddbyst

Un peth fyddai’n codi fy nghalon yn 2017 yw gweld ein heglwysi yn gweithredu’n fwyfwy fel arwyddbyst i ddangos y ffordd yn glir tuag at egwyddorion, rhinweddau a moesau Cristnogol.

judith-morris-maint-600-3044

Judith Morris

Fel y gwyddom, bu’r llynedd yn gyfnod o bryder ac ansicrwydd mawr ledled y byd yn wyneb argyfyngau megis newid hinsawdd, y rhyfel yn y Dwyrain Canol a’r miliynau o ffoaduriaid a chwiliai am noddfa a lloches, heb sôn am ganlyniad y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ac ethol Arlywydd newydd yn yr Unol Daleithiau. Yn wyneb  problemau dyrys ein byd, teimlwn yn aml yn gwbl ddi-rym a diymadferth. Am hynny, mae’r gwaith o gyflwyno gweddi gerbron gorsedd gras, anfon cyfraniadau ariannol i fudiadau dyngarol a chodi llais yn erbyn pob anghyfiawnder yn hollbwysig. Ond beth arall fedrwn ni ei wneud?  

Yn sicr un o gyfrifoldebau mawr yr Eglwys yw gweithredu fel arwyddbyst yn ein cymdeithas. Mae gwaith a swyddogaeth arwyddbyst yn hanfodol. Maent i fod yn glir, yn amlwg, yn hysbys i bawb ac yn gyfrwng i ddangos y ffordd.

Gwn am gapel yng nghefn gwlad Ceredigion sy’n anodd iawn i’w gyrraedd oni bai eich bod yn gyfarwydd â’r ardal neu’n barod i ddilyn yr arwyddbost sy’n dangos y ffordd tuag ato. Rai blynyddoedd yn ôl, cyn dyddiau’r sat-nav, aeth gweinidog i drafferthion mawr wrth iddo geisio mynd i bregethu yno adeg yr haf. Nid oedd y gennad wedi bod yno o’r blaen ac yn anffodus fe gollodd y ffordd am iddo fethu gweld yr arwyddbost. Nid bai’r gweinidog oedd hynny gan fod y glaswellt ar y clawdd wedi tyfu a’r arwydd o ganlyniad wedi’i orchuddio. Afraid yw dweud na chyrhaeddodd y gweinidog y capel y Sul hwnnw a chafodd ei hun yn crwydro o gwmpas lonydd gwledig Ceredigion am hydoedd cyn iddo benderfynu troi am adref.

1_1248318732_welsh-road-signSwyddogaeth yr Eglwys heddiw yw dangos ei hun yn arwyddbost clir a chadarn i’n cymdeithas a’n cymunedau. Er enghraifft, pan fyddwn yn clywed am frodyr a chwiorydd o wledydd eraill yn cael eu disgrifio mewn termau hiliol, onid ein cyfrifoldeb yw dangos y ffordd i frawdgarwch? Pan fyddwn yn clywed am arweinyddion gwledydd yn sôn am godi muriau, onid ein cyfrifoldeb yw ymateb gyda geiriau o drugaredd a goddefgarwch gan wneud yn siŵr bod y rhinweddau hynny yn amlwg yn ein bywydau? Gan nad yw llais yr Eglwys mor amlwg ym mywyd ein cenedl erbyn hyn mae angen inni sicrhau fod yr arwyddbyst hyn yn fwy gweladwy a chlywadwy nag erioed. Felly, fel aelodau o Eglwys Iesu Grist rhaid bod yn barod i fod yn arwyddion pendant neu fe fydd y ffordd i’r cymod a gaed yng Nghrist yn diflannu o dan don o hunanoldeb a diffyg brawdgarwch.

Yn sicr, byddai gweithredu fel hyn yn fodd i godi fy nghalon yn 2017.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

Cymru – Gwlad ddi-Dduw?

Cymru – Gwlad ddi-Dduw?

gethinrhys

Gethin Rhys Swyddog Polisi Cytûn

Dyna deitl sesiwn dan nawdd Gorwel ar 28 Mawrth yn y Senedd (manylion yma: http://www.gorwel.co/wordpress/?page_id=79) pan fyddaf i a Kathy Riddick o Ddyneiddwyr Cymru yn trafod y pwnc.

gorwel_banner_02

Nid trafodaeth am fodolaeth Duw fydd hon, ond trafodaeth am sut mae pobl Cymru bellach yn ymwneud â Duw – neu’n gwrthod ymwneud ag e.

Nid wyf yn yr erthygl hon am fynd ar ôl y ffigurau am ymatebion pobl Cymru i holiaduron barn am y pwnc. (Gallwch weld dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau o gyfrifiad 2011 yma). census

Digon yw dweud fod holiaduron diweddar, megis y British Election Study, yn awgrymu bod llai na hanner poblogaeth Cymru bellach yn arddel yr enw ‘Cristion’, a gwyddom mai llai o lawer sy’n addoli mewn eglwys Gristnogol.

Eto i gyd, o blith y ddwy fil o ymatebion a gafwyd i drafodaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru am newidiadau posibl i raglen gwrth-dlodi Cymunedau’n Gyntaf, yr ymateb y penderfynodd y Pwyllgor perthnasol yn y Cynulliad ei gyhoeddi ar eu gwefan oedd ymateb Cytûn. Nid ymlyniad crefyddol oedd tu cefn i benderfyniad y Pwyllgor, dybiwn i, na medrusrwydd Cytûn wrth ysgrifennu adroddiadau. Yn hytrach, y ffaith fod ein hymateb ni yn cynnwys ymatebion gan wyth o gylchoedd lle mae eglwysi lleol yn ymwneud yn ddwfn ac yn gyson â’u cymunedau.

Roedd ambell un o’r cylchoedd hynny yn mynegi gofid am agweddau ar y rhaglen, yn enwedig y ffordd y mae gweinyddwyr y cynllun yn mynnu cyflwyno’r gweithgareddau y credant hwy y mae cymunedau eu hangen yn hytrach na gofyn barn y bobl eu hunain. Ond roedd pob un ohonynt yn gallu adrodd hanes eu hymwneud nhw â’r cynllun ac – yn bwysicach – â phobl eu hardal. Clywir am glwb ffilmiau yn neuadd un eglwys ar gyfer pobl oedrannus ac unig, mewn cymuned pell iawn o sinema fasnachol. Mae eglwys arall yn cynnig man i gwnselwyr Cyngor ar Bopeth a’r Ganolfan Waith gwrdd â phobl mewn angen na allant, neu na fyddent, yn mynd i ganol y dre i’r swyddfa.

faith in families

Mae cynllun Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, Faith in Families, yn cynnig ystod eang o wasanaethau i deuluoedd ifainc, ac maent wrthi’n trawsffurfio adeilad eglwysig i’r pwrpas. Ceir sôn am Fanciau Bwyd, gwibdeithiau i blant a’u rhieni na allent fforddio hynny fel arall, gwasanaethau cynghori a chymorth o bob math, oll wedi eu cynnal gan eglwysi lleol mewn partneriaeth â mudiadau eraill trwy gynllun Cymunedau’n Gyntaf.

Nid yw arolygon barn am grefydd yn cyffwrdd â’r holl weithgarwch hwn. O’i herwydd, mae yna lawer o bobl, gan gynnwys llawer o bobl fwyaf anghenus ein cymdeithas, yn teimlo ymlyniad cryf â’u heglwys leol a’r bobl sy’n cynnal y gweithgarwch. Byddent yn arswydo pe byddai’r eglwys yn edwino. Dichon eu bod yn gofyn am weddïau trwy’r llyfr gweddïau yn y ganolfan, neu ar lafar i wirfoddolwyr. Eto, fe all y byddent yn ticio’r blwch ‘Dim crefydd’ ar y ffurflen cyfrifiad ac wrth ymateb i holiadur.

Megis dechrau deall y ffenomenon hwn y mae llywodraeth a chymdeithas ddinesig. A dim ond megis dechrau ydym ni, Gristnogion, hefyd. Rydym yn parhau i fesur ein gweithgarwch trwy nifer y gynulleidfa ar y Sul. Ys dywedodd blaenor un capel pan glywodd am farwolaeth menyw leol, ‘Mae hi’n dod i gwrdd y Chwiorydd ac mae hi yn y caffi bob amser cinio, ond dyw hi ddim yn dod i’n capel ni’! Eto i gyd, mae ein cynrychiolwyr etholedig – gan gynnwys rhai sydd yn gwbl agored eu diffyg cred grefyddol – yn parchu ein gwaith ar lawr gwlad, yn gwerthfawrogi ymlyniad ein haelodau i wasanaethu, ac yn barod i gefnogi a rhoi cyhoeddusrwydd i’r gweithgarwch.

Mae hyn yn agor drachefn gwestiwn diwinyddol sydd wedi codi trafodaeth fywiog ar Fwrdd Clebran a thudalen Facebook Cristnogaeth 21 yn ddiweddar, sef y berthynas rhwng credo a gweithredu. Mae hefyd yn agor cwestiwn cyfochrog, sef y berthynas rhwng gweithredu Cristnogol a’r mudiadau seciwlar sy’n gwneud yr un math o waith – megis rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.

secularism Mae mudiadau megis y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol (mudiad gwahanol a mwy milwriaethus na’r Dyneiddwyr) yn awyddus iawn i dorri pob perthynas o’r fath, gan honni mai dim ond “seciwlariaeth” ddi-grefydd sy’n wir “gynhwysol”. Diddorol nodi hefyd nad ydynt (yn wahanol i’r Dyneiddwyr) yn arddel y Gymraeg o gwbl yn eu gwaith.

Am ddwy neu dair cenhedlaeth rydym wedi mynd i gredu mai i un cyfeiriad y mae’r daith – o grefydd i seciwlariaeth. Mae mudiadau a chanddynt wreiddiau Cristnogol wedi troi yn fudiadau seciwlar, ac mewn sawl achos yn claddu eu gwreiddiau Cristnogol yn ddwfn yn eu gwefannau – megis Cyngor ar Bopeth, y Samariaid, Carers UK, Urdd Gobaith Cymru a dwsinau o rai tebyg. Gwnaethant hynny gan amlaf er mwyn osgoi’r cyhuddiad eu bod yn defnyddio’u gwasanaeth er mwyn hyrwyddo efengylu, a chreu rice Christians Cymreig. Buont yn awyddus i bwysleisio eu bod am wasanaethu pawb ac nid Cristnogion yn unig. Mae’r Comisiwn Elusennau yn mynnu y gellir dangos hyn er mwyn cofrestru fel elusen, a’r llywodraeth yn gwneud yr un fath wrth ddosrannu grantiau.

cymorth xnogolOnd mae ambell fudiad wedi dewis trywydd gwahanol. Yr amlycaf yw Cymorth Cristnogol, sydd wedi cadw’r cyfeiriad crefyddol yn yr enw ond ar yr un pryd yn pwysleisio’r ymlyniad at wasanaethu pawb, waeth beth fo’u crefydd neu eu cred. Rwy’n cofio cyn-Bennaeth y mudiad yng Nghymru, Jeff Williams, yn dweud ar y radio: ‘Dyna sy’n ein gwneud ni’n Gristnogol – ein bod ni’n rhoi heb ofyn dim yn ôl, dim hyd yn oed ffydd.’ Mae rhai yn gwrthod cefnogi’r fath fudiad am ei fod yn rhy grefyddol, ac eraill am nad yw’n ddigon crefyddol. Serch hynny, mae i’r model hwn ei apêl yn ein hoes ni. Wrth sefyll gyda bwced casglu yn un o strydoedd siopa Caerdydd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol y llynedd, fe sylwais ar batrwm clir o ran rhoi. Mae plant yn hoffi gwneud, er mwyn gweld y darn arian yn syrthio i’r bwced a derbyn sticer. Mae aelodau eglwysi yn awyddus i gefnogi, wrth reswm. Ond y garfan arall oedd yn rhoi bron yn ddieithriad oedd merched mewn gwisg Islamaidd. Mewn sawl achos, dyma nhw’n cerdded heibio’r bwced ar y cychwyn, yna sylweddoli beth oedd enw’r elusen, a dod yn eu hôl i roi yn hael. Y bore hwnnw, allwn i ddim credu am eiliad ein bod yn byw mewn Cymru ddi-Dduw.

hand-holding-brexit-sign-eu-referendumOchr arall y geiniog, fel petai, yw’r ymateb i ganlyniad refferendwm Ewrop, a’r hanesion brawychus am gasineb at bobl o Ewrop gan Gymry eraill, rhai ohonynt yn gapelwyr neu’n eglwyswyr pybyr. Yng nghyfarfod diwethaf Gweithgor Cymru ac Ewrop Cytûn, fe glywsom hanesion trist a chywilyddus am Gristnogion yn brolio eu bod yn edrych ymlaen at weld cyd-addolwyr o wledydd eraill Ewrop yn ‘mynd adre’. Bryd hynny, rwy’n dechrau meddwl fod Cymru wedi troi yn ddi-Dduw, nid oherwydd y bobl hynny nad ydynt yn ymlynu wrth grefydd, ond oherwydd rhai o’r bobl sydd yn gwneud. Fe gafodd dinasyddion Prydain a ddaeth yma o India’r Gorllewin ac Affrica yn yr 20fed ganrif lawer o brofiadau tebyg.

Fy mhrofiad i yn y gwaith y mae gen i’r fraint o’i gyflawni yw hyn. Tra ydym ni, Gristnogion, yn dueddol o weld y dirywiad ar y Sul a’r gwegian o ran cred – gan mai dyna ein profiad – mae’r llywodraeth a mudiadau elusennol eraill yn gweld rhywbeth gwahanol. Nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng enwadau na diwinyddiaeth wahanol. Felly, yn ôl eu tyb hwy, mae’r eglwys yn sefydliad aruthrol o fawr. Mae ganddi ganghennau ym mhob tref, maesdref a phentref ledled Cymru. Er eu bod yn sylwi fod ambell un o’r canghennau hynny yn ddifywyd, maent yn gwybod hefyd fod aelodau’r llefydd hyn yn weithgar dros ben yn y gymuned, fel eglwys ac fel unigolion o fewn mudiadau eraill. Bydd rhai am holi am y gredo sydd tu cefn i hyn. Bydd eraill heb boeni am hynny, ond yn rhyfeddu at ddycnwch niferoedd bychain o wirfoddolwyr yn cynnal sefydliad mor gymhleth. Byddant yn awyddus i glywed barn y bobl ymroddedig hyn am eu cymdeithas a’i dyfodol. Mae’r drws yn agored i ni fynegi ein barn, i ni adrodd hanes caru cymydog, ac i ni alluogi’r cymdogion hynny i lefaru â’u lleisiau eu hunain.

cytun-logoOs ydym yn chwilio am Dduw yn seddi gweigion ein capeli, yna rydym yn chwilio yn y man anghywir. Gwell o lawer chwilio ynghanol y gweithgarwch o garu cymdogion ledled ein cymdeithas. Chwiliwn am y sibrydion am Dduw yn ein cymunedau tlotaf a mwyaf difreintiedig lle mae Cristnogion ar waith. Chwiliwn yn amlenni casglu Cymorth Cristnogol. Yn y llefydd hynny fe welwn i sicrwydd nad ydym yn byw mewn gwlad ddi-Dduw, ond mewn gwlad sy’n pefrio â’i bresenoldeb.

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru. Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Pedwerydd Cam yr AA – Rhan Dau

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y PEDWERYDD CAM – Rhan Dau

Cam 4 sy’n ein galluogi i ddechrau dod i adnabod ein hunain. Rhydd inni hefyd y wybodaeth rydym ei hangen i ddechrau hoffi ni’n hunain a chael y pethau eraill y dymunwn gael o’r rhaglen – cyfforddusrwydd, hapusrwydd, tawelwch meddwl.  Mae Cam 4 yn ein dysgu i fod yn ddynol  – fod diffygion ymhob un ohonom – ein bod yn berffaith amherffaith. Y tro hwn, bydd Wynford Ellis Owen yn manylu ar y pynciau sy’n gofyn sylw wrth ddod i adnabod ein hunain…

Byddwch yn fanwl, yn drylwyr ac yn ddi-ofn, a theimlwch yn rhydd i fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei grybwyll yn y paragraffau nesaf.

Dicter dwfn

Rydym yn dal dig pan na fedrwn adael fynd, pan na allwn faddau ac anghofio rhywun neu rywbeth sydd wedi’n gwylltio. Mae angen i ni restru’r personau, y sefydliadau neu’r egwyddorion sydd wedi’n gwylltio, ac yna gofyn y tri chwestiwn a amlinellwyd yn erthygl y mis diwethaf: 1) Beth yw’r broblem? 2) Pam bod hynny’n broblem? 3) Sut mae’n effeithio arnaf fi? Yna, diweddu gyda chwestiwn 4) Beth wnaethon ni ein hunain i achosi’r broblem yn y lle cyntaf?

Efallai nad arnom ni yr oedd y bai i gyd am ryw sefyllfa neu’i gilydd, ond a geision ni ddiystyru’r person arall yn gyfan gwbl? Ble oeddem ni ar fai? Ein rhestr ni ydyw – nid un y person arall – felly gadewch i ni fod yn hollol onest.

logo-stafell-fyw-300x177Mae’n glir nad yw bywyd sy’n cynnwys dicter dwfn yn arwain at ddim ond oferedd a thristwch. Mae’n un o’r diffygion cymeriad hynny y dylid eu hosgoi ar bob cyfri; i’r adict sy’n ceisio adfer, gall fod yn farwol. Wrth goleddu’r fath deimladau o ddig, byddwn yn creu llen rhyngom ni a heulwen yr Ysbryd. Daw gwallgofrwydd alcohol (neu beth bynnag yw’r ddibyniaeth) yn ôl ac awn ati i yfed eto. Ac i ni, mae yfed eto yn golygu marwolaeth.

Gyda llaw, peidiwch ag anghofio am y ‘sefydliadau’ a’r ‘egwyddorion’ wrth baratoi eich rhestr. Efallai fod y system addysg wedi’ch siomi, neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), swyddfa’r Dreth Incwm a.y.b. Neu efallai bod egwyddorion neu gredoau crefyddol yn eich corddi, neu’r egwyddorion/rheolau teuluol hynny y bu’n rhaid i chi ufuddhau iddynt yn groes i’ch ewyllys. Rhestrwch nhw i gyd a rhowch nhw dan chwyddwydr y pedwar cwestiwn uchod.

Ofn

Pe baen ni’n gallu symud pob symptom o ddibyniaeth a’i nodweddion amlwg i gyd, o dan y cyfan fe welem bod ‘ofn’ yn sail ddieflig i’r cyfan. Mae dau ofn yn rheoli ein bywydau: ofni colli yr hyn sydd gennym, ac ofni peidio cael yr hyn rydym ei eisiau. Dyma’r ddau ofn sydd wrth wraidd ein holl broblemau yn y byd heddiw – y drafferth yn Syria, y chwyldro sy’n digwydd drwy’r byd gwleidyddol, ansicrwydd y marchnadoedd arian, a phob trallod a chynnwrf arall.

cwestiynauMae arnom ofn cael ein brifo, neu efallai ofn gorfod teimlo’n rhy angerddol, felly rydym yn cysgu-gerdded ein ffordd drwy ein bywydau heb unwaith brofi beth yw bod yn gwbl effro. Rydym yn ofni unrhyw beth fydd yn achosi i ni deimlo, felly rydym yn ynysu’n hunain ac encilio. Ofnwn na fydd pobl yn ein hoffi, felly defnyddiwn gyffuriau neu ymddygiad niweidiol i fod yn fwy cyfforddus yn ein crwyn. Ofnwn y cawn ein dal yn gwneud rhywbeth a gorfod talu’r pris, felly rydym yn dweud celwydd neu dwyllo neu niweidio eraill i amddiffyn ein hunain. Ofnwn fod ar ein pen ein hunain, felly defnyddiwn ac ecsploitiwn eraill i osgoi teimlo’n unig neu’n wrthodedig. Ofnwn na fydd gennym ddigon – o unrhywbeth – felly ymdrechwn yn hunanol i berchnogi popeth, heb falio am y niwed rydym yn ei achosi i eraill yn y broses. Ofn myfïol, hunangeisiol yw’r math hyn o ofn – a rhaid i ni gael gwared arno fel na fydd y pŵer ganddo mwyach i’n difetha.  Ond sut?

Quote gweddi Wynford

Wedi cwblhau ein rhestr ac ateb cwestiynau 1, 2, 3 a 4, gweddïwn y weddi syml hon: ‘Dduw nerthol, wnei di ddwyn ymaith oddi arnaf fy holl ofnau a chyfeirio fy sylw at beth rwyt Ti eisiau i mi fod. Amen.’  Ymddiriedwn yn Nuw hollalluog yn hytrach na ni’n hunain i ddileu’r ofnau hyn. Pan adawn iddynt fynd, profwn ryddid, a gall y briwiau ddechrau gwella. O hyn ymlaen, bydd gennym yr hyder i wynebu bywyd fel y mae’n dod yn hytrach na byw mewn ofn.

Rhyw

Mae angen i rai ohonom ailystyried ein hagwedd yngŷn â’r mater hwn.

Rhestr wynford Ond yn bennaf oll, mae angen bod yn synhwyrol ynglŷn ag e oherwydd mae’n destun anghyfforddus i lawer ohonom. Rydym angen bod yn gyfforddus gyda’n rhywioldeb, a dyna pam fod angen cynnwys ein credoau a’n hymddygiadau rhywiol yn ein rhestr. Mae’n bwysig atgoffa’n hunain, sut bynnag, mai nid er mwyn cymharu ein hunain ag eraill ry’n ni’n tybio sy’n ‘normal’ y gwnawn y rhestr, ond er mwyn adnabod  ein gwerthoedd, ein hegwyddorion a’n moesau ni’n hunain.

 Edrychwn ar ein hymddygiad ein hunain dros y blynyddoedd a aeth heibio. Ble buon ni’n hunanol, yn anonest ac anystyriol? Pwy wnaethom ddolurio? A wnaethom, heb achos cyfiawn, achosi cenfigen, drwgdybiaeth neu chwerwder? Ym mha fodd roeddem ar fai, a beth ddylem fod wedi’i wneud? Nodwn hyn i gyd ar bapur a’u hastudio.

 Trwy wneud hyn, ceisiwn lunio patrwm call a dibynnol ar gyfer ein bywyd rhywiol yn y dyfodol. Gofynnwn  i Dduw drefnu ein hegwyddorion, a’n cynorthwyo i ddal atynt. Cofiwn mai rhodd Duw yw ein pwerau rhywiol, a’u bod yn dda – nad ydynt i’w defnyddio’n ddifeddwl nac yn hunanol, nac i’w casáu a’u ffieiddio.

Ein perthynas ag eraill

Mae’n bwysig ein bod yn sgwennu am ein perthynas ag eraill yng Ngham 4 – pob un ohonynt, nid dim ond y rhai rhamantus – fel y gallwn ddarganfod lle mae ein penderfyniadau, ein credoau, a’n hymddygiadau wedi arwain at berthynas afiach a dinistriol gydag eraill. Mae angen inni edrych ar ein hymwneud â pherthnasau, ein priod neu bartner, ffrindiau, cyn-ffrindiau, cydweithwyr a chyn-gydweithwyr, cymdogion, pobl o’r ysgol, pobl o glybiau a chymdeithasau, y cymdeithasau eu hunain, personau o awdurdod fel yr heddlu, sefydliadau, ac unrhyw un neu unrhyw beth arall y gallwn feddwl amdanynt.

confusion 2Dylem hefyd edrych ar ein perthynas â Duw (neu Bŵer mwy na ni’n hunain). Efallai y cawn  ein temptio i anwybyddu’r berthynas rywiol-un-noson honno flynyddoedd yn ôl, neu o bosib y ffrae â’r athro arweiniodd at ollwng y pwnc a symud i ddosbarth arall. Ond mae’r digwyddiadau yma’n bwysig hefyd, yn enwedig os ydynt ar ein meddyliau neu fod gennym deimladau wrth gofio amdanynt. Maent i gyd yn ddeunydd addas ar gyfer eu cynnwys yng Ngham 4.

Camdriniaeth

Dylem fod yn hynod ofalus cyn dechrau ar y adran hon. Fel rheol, byddwn i’n awgrymu gohirio’r adran hon i ddyddiad arall pan fyddwn yn barotach i ddelio gyda’r boen emosiynol ddaw o ganlyniad i’r gwaith hwn. Os awn ymlaen ag o, sut bynnag, dylem fod yn ymwybodol y bydd gweithio ar y rhan hon o Gam 4 yn un o’r pethau mwyaf poenus a wnawn yn ystod ein holl adferiad.  Bydd cofnodi yr adegau pan gawsom ein cam-drin neu ein niweidio gan y bobl oedd i fod i’n caru a’n diogelu yn sicr o achosi’r boen emosiynol fwyaf y gwnawn fyth ei ddioddef. Dylid ond ei wneud pan fyddwn yn barod, felly.

Rhinweddau

Pa werthoedd 2

Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau hyd yn hyn wedi’u bwriadu er mwyn ein galluogi i adnabod union natur ein camweddau, gwybodaeth y byddwn ei hangen ar gyfer Cam 5. Ond mae’r un mor bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn rydym wedi’i wneud yn iawn yn ystod ein bywydau neu yr hyn sydd wedi cael effaith gadarnhaol arnom ni ac eraill. Gwnawn hyn am ddau reswm. Yn gyntaf, mae angen i ni fedru amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr wrth weithio Cam 4, ac nid cael gwedd unllygeidiog yn unig ohonom ni’n hunain. Ac yn ail, mae angen i ni ddarganfod pa nodweddion cymeriad ac ymddygiadau cadarnhaol y bydd angen mwy ohonynt arnom yn ein bywydau.

 Pa rinweddau sydd gen i rwy’n hoff ohonynt? Pa bethau mae pobl eraill yn eu hoffi amdanaf? Beth yw fy ngwerthoedd? Pa rai ydw i’n tynghedu i fyw wrthynt, a sut?

Cyfrinachau

Cyn gorffen Cam 4 dylem oedi am ychydig a meddwl: oes rhywbeth rydw i wedi methu’i gynnwys, yn fwriadol neu beidio? Oes rhywbeth sydd mor ddrwg fel na fedrwn ystyried ei gynnwys yn ein rhestr? Os oes, dylem fod yn ofalus. Bydd cadw cyfrinachau yn fygythiad i’n hadferiad. Cyn belled â’n bod yn cadw cyfrinach, rydym yn gosod rhwystr peryglus ar ffordd ein hadferiad.

Pa gyfrinachau sy’n aros heb eu datgelu? Beth ydynt? Dyma’r amser i ddweud y gwir, a’r holl wir, amdanom ni ein hunain.

I grynhoi

Gellir diffinio dibyniaeth (addiction)fel hyn, sef rhoi ein ffydd mewn pethau/sylweddau/pobl/ymddygiadau niweidiol y tu allan i ni ein hunain: defnyddio pethau y tu allan i ni’n hunain i wneud i ni deimlo’n well, a hynny er gwaethaf canlyniadau negyddol i ni’n hunain ac i eraill.

ThomasMae’r adict yn colli nabod ar y person ‘authentic’ y tu mewn ac yn gweld ei hun fel rhyw ego pitw sy’n gorfod crafu a begera am bob owns o fodlonrwydd yn y byd a’i bethau. Nid dioddefaint corfforol, ac nid poen meddwl nac emosiynol sy’n dod â phobl i’r Stafell Fyw i chwilio am help, ond y tlodi ysbrydol enbyd hwnnw sy’n dilyn ymddygiad o’r fath. Nid oes ganddynt syniad pwy neu beth ydynt, a dioddefant faich llethol unigrwydd a’r syniad affwysol o arwahanrwydd oddi wrth eu hunain, eu cyd-ddyn ac oddi wrth y Creawdwr. Dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd.

Dyma’r tlodi y cyfeiria’r Iesu ato: ‘Pan fyddwch yn eich adnabod chi eich hunain, byddwch yn cael eich adnabod, a byddwch yn deall mai chi ydy plant y Tad byw. Ond os nad ydych yn eich adnabod eich hunain, yna rydych mewn cyflwr o dlodi, a chi ydy’r tlodi hwnnw’.  (Efengyl Thomas)

Cam 4 yw’r cam sydd yn caniatáu i ni ddechrau dod i’n hadnabod ni ein hunain – ac yn bwysicach na dim, mae’n rhoi’r gallu i ni sylweddoli nid yn unig ei bod yn iawn i fod yn amherffaith,  ond bod hynny yn agwedd o bob person dynol. Ac mae hynny fel cymryd anadl o awyr iach i’r adict sydd wedi treulio’i oes yn trio’n aflwyddiannus i fod yn berffaith ymhob rhyw ffordd.

Y tro nesaf

Y mis nesaf byddwn yn edrych ar Gam 5. ‘Cyfaddefwn i Dduw, i ni ein hunain, ac i berson arall, union natur ein camweddau.’ A dyma pryd y profwn un o wirioneddau mawr William Johnston yn The Inner Eye of Love – ‘Pan mae popeth wedi’i ddweud, does dim sy’n debyg i agor ein henaid i rywun arall – i un sy’n derbyn, sy’n caru, sy’n clywed, nad yw’n barnu, sy’n bwydo nôl i mi beth sydd yn fy meddwl a ’nghalon, sy’n fy helpu i adnabod llais yr Ysbryd yn fy mywyd’.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Iaith a Metaffor

Iaith a Metaffor

Seiliedig ar waith Richard Rohr

Pan fyddwn ni’n siarad am Dduw mae’n rhaid dibynnu o reidrwydd ar symbol a delwedd. O ran hynny mae unrhyw air am unrhyw beth yn symbol. Nid y peth ei hun yw’r gair a ddefnyddiwn amdano – boed bysgodyn, neu goeden, neu aderyn neu galon. Dyna paham yr oedd yr athronydd yn mynnu na allwn ddweud dim am rhywbeth nad ydyn ni’n gwybod dim amdano! At beth felly y mae’r geiriau Duw/Dieu/Gott/God/deus a theos yn cyfeirio?

Bourdon,_Sébastien_-_Burning_bush

‘Y Berth sy’n llosgi’ Sébastien Bourdon (1616 – 1671)

Roedd cryn ddoethineb yn y gwaharddiad ar Foses o’r berth yn llosgi rhag enwi Duw. Mae’r ‘YDWYF’ na ddylid ei yngan o gwbl yn debycach i ochenaid neu chwythiad awel nag i air cyffredin, ac yn ymarferol, os ydym yn dyheu am adnabod rhywun rhaid ei alw’n rhywbeth! Adonai/Arglwydd/Lord/Seigneur/ dominus neu eu tebyg yw geiriau Ewrop, a Dominus Deus Sabaoth, Arglwydd Dduw’r Lluoedd, yn fetaffor anghyfforddus, heb sôn am Frenin.

 

Ond mae ambell fetaffor fel Tad, fel petai’n cael ei gymeradwyo gan Iesu ei hun: Ein Tad yn y nefoedd, Abba, nad oes llawer ohonom yn gwbl esmwyth i’w gyfieithu fel Daddy, neu Data, neu hyd yn oed ’Nhad neu Dad. Gallwn ddyfalu bod Abba yn air oedd yn cyfleu agosrwydd ac ymddiriedaeth Iesu a’r Ydwyf dirgel hwnnw, perthynas o ymddiriedaeth tebyg i blentyn yn dibynnu ar Dad gwerth yr enw. Ac nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng geiriau’r ‘Pader’ a’r disgrifiad ohono fel ‘Mab Duw’ gan fod yr ymadrodd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r offeiriaid yn eu priod waith yn y Deml.

Gwaith geiriau ydi cyfeirio at ryw beth a dyna paham y ‘daeth y Gair yn gnawd’ (Ioan 1:14) Mewn Hwngareg dywedir bod y Gair wedi dod yn ferf. Pan ddaw’n fater o amgyffred Duw a dirgelion mawr cariad ac angau, mae’n rhaid dal gwybod ac anwybod mewn clorian. Gall gair bwyntio bys ar y lleuad: ond nid y lleuad ydyw, nid hyd yn oed ei lewyrch. Trwy’r Gair y dechreuwn weld y lleuad a’i lewyrch.

mam-a-merchMae Iesu byth a hefyd yn defnyddio cymariaethau yn ei ddamhegion: ‘Y mae Teyrnas Nefoedd yn debyg i …’ Yn y Beibl disgrifir Duw fel craig, fel bugail, ac mae Iesu ei hun yn galw ei hun yn fetafforaidd yn fara’r bywyd ac yn oleuni’r byd. Portreadir yr Ysbryd fel anadl a gwynt nerthol. Nid dyna’n llythrennol beth yw Duw, ond mae’r delweddau’n ein galluogi i ddychmygu’r hyn na ellir ei yngan am y dirgelwch hwnnw sy’n hanfod Duw.

Ac mae angen i Gristnogion gyfaddef bod y Testament Newydd wedi ei ysgrifennu bron i gyd mewn Groeg, iaith nad oedd Iesu hyd y gwyddom yn medru ei deall, heb sôn am ei siarad; ac ysgrifennwyd y testun ddeg ar hugain i ddeg a thrigain mlynedd ar ôl cyfnod Iesu. Dim ond pytiau bach o eiriau penodol Iesu yn ei famiaith, Aramaeg, sydd gennym.

Rhaid felly i ni gasglu nad oedd union eiriau Iesu mor aruthrol bwysig i’r Ysbryd Glân – nag i ninnau, a dylai hynny roi i ni i gyd ysbryd gwylaidd sy’n chwilio’n profiad presennol o’r Crist Atgyfodedig nawr, a pheidio â dadlau am amser berfau yn y testun.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Embaras, dyna beth yw e!

‘Rhaid eich geni chwi drachefn … o’r newydd … oddi uchod …’

Embaras, dyna beth yw e!
Embaras i’r rhyddfrydwyr i gyd …

Enid R. Morgan

Os oes un ymadrodd sy’n debyg o godi swildod ymhlith dilynwyr Cristnogaeth21, mi dybiwn i mai’r ymadrodd am aileni yw hwnnw. Fe gysylltwn yr ymadrodd â’r cwestiwn go haerllug sy’n cael ei holi weithiau gan Gristnogion ceidwadol: “Gawsoch chi’ch aileni?” neu “Ydych chi’n Gristion?” A gwyddom fod ystyr gyfyng a phenodol i’r cwestiwn. Mae’n golygu nos dywyll yr enaid a bwlch yr argyhoeddiad a’r gair pechod wedi eu dehongli mewn ffordd gyfyngedig. Ac mae’r patrwm yn edrych fel bocs y mae’n rhaid ffitio i mewn iddo, bocs sy’n rhy fach a chaethiwus.

dorothy-day1

Dorothy Day (1897–1980)

Roedd profiad Dorothy Day, y radical o Americanes a roddodd ei bywyd i wasanaethu’r tlawd, yn dra gwahanol – ond yr un mor ddilys. Mynnai hi ei bod wedi dod i berthynas ag Iesu trwy fod yn hapus, yn feddwol o hapus wrth fynd â’i baban bach yn ei drol am dro ar hyd y traeth. A twt twt, doedd hi ddim yn briod! Sylweddoli bod yna gariad anferth y tu hwnt iddi hi a thu hwnt i fyd lle ac amser yn estyn ati oedd y profiad cychwynnol. Fel Sacheus, wedyn y daeth yr awydd i newid a gwella a thyfu yn y bywyd newydd oedd yn ymestyn o’i blaen.

Gwn am wraig ifanc o Gymraes y bu eistedd yng nghanol clychau’r gog yn haul a chysgod y coed ym mis Mai gyda’i dwy ferch fach yn gyfrwng bywyd newydd, er y buasai’n arswydo rhag ei ddisgrifio fel aileni! Roedd hi fel llawer o bobl ag alergedd, nid o reidrwydd i brofiad ond i ‘iaith’ y rhai a alwai hi yn ‘efengýls’. Bu cyfaill arall yn ddoniol bryfoclyd wrth ddisgrifio’i phrofiad hi o ddygymod â phroblemau priodasol.

“Ti’n gwybod pan wyt ti’n dechrau ffansïo rhywun?” meddai hi.

“Ydw’n iawn,” medde fi.

“A ti’n gwybod pan mae rhywun yn dechrau dy ffansïo di ’nôl?”

“Ydw,” medde fi.

“Wel, fel ’na mae hi rhyngof fi a Iesu,” meddai hi a chwerthin, a chwerthin, a chwerthin … A’r peth diwethaf yr oedd ei angen arni oedd patrwm a geirfa i lurgunio’i phrofiad.

Roedd y cwestiwn am brawf dilysrwydd ei dröedigaeth, meddir, yn boendod i Martin Luther a byddai mewn gwewyr wrth ystyried ei gyflwr ysbrydol. Byddai’n ymgysuro trwy ddweud Rydw i wedi fy medyddio’ gan fynnu, yn ôl y traddodiad sacramentaidd, mai cyfle i Dduw wneud rhywbeth yw bedydd, ac nid tystiolaeth o brofiad personol a dilysrwydd ffydd.

pedr 2Gellid sylwi hefyd fod geni plentyn ‘yn y cnawd’ yn brofiad tra amrywiol i fam a phlentyn. Bydd ambell un yn llithro i’r byd yn reit ddidrafferth (fel tynnu pys o blisg, meddai un ffrind i mi) ac eraill yn diodde hir boenau peryglus esgor anodd, ac ymyrraeth dechnegol i dynnu a sugno plentyn o’r groth. Mae’n gallu golygu triniaeth lawfeddygol, a’r gwewyr yn gadael ei ôl ar fam a’r baban ar hyd eu hoes. Wrth estyn trosiad yn rhy bell mae modd gweld mai trosiad ydyw. Felly daw ambell un yn Gristion gloyw heb sylwi bron, heb unrhyw drawma dirdynnol, oherwydd magwraeth gariadus, cyhyrau cryf a dysgeidiaeth iach, tra bod y profiad o frwydro, a stryffaglu, a dadlau hefyd yn ddigon cyffredin. Nid gwewyr y profiad sy’n bwysig ond natur y bywyd sy’n cael ei fyw, neu’r daith sy’n cael ei cherdded, neu’r dewrder o ddechrau ar ffordd newydd o ddilyn Iesu. Nid yw’r trosiad, y gymhariaeth, y metaffor yn eiddo i un traddodiad, a chan mai trosiad ydyw mae’r trosiadau eraill i’w cadw mewn cof. Yn wir, dim ond dwywaith y mae’r trosiad am aileni yn digwydd: unwaith yn y stori am Nicodemus (llythyrenolwr i’r carn!) ac yn Epistol gyntaf Pedr (1:22–3).

ail eni

A dyna reswm da dros ymaflyd yn y metaffor am eni drachefn o safbwynt ehangach gan werthfawrogi bod amryw drosiadau eraill yn britho tudalennau’r Testament Newydd ac yn cyfleu rhywbeth allweddol iawn am ddechrau newydd, gwahanol, sy’n effeithio ar unigolion a’r cymunedau y maen nhw’n perthyn iddyn nhw. O’i iawn ddeall, mae ‘geni o’r newydd’ yn gysyniad eang ond mae ynddo berygl awgrymu mai rhywbeth unwaith ac am byth yw ‘tröedigaeth’. Mae’r trosiad arall, hoff gan Sant Paul, yn sôn am angau ac atgyfodiad, am droi o’r cnawd i’r ysbryd, o fod ‘yng Nghrist’. Mae’n ffordd o ddisgrifio’r broses o gael ein trawsnewid sydd wrth galon y Testment Newydd a’r bywyd Cristnogol, a dydi’r cyfan ddim yn digwydd dros nos.

Ond rhaid i ninnau, pobl y broses hir, ailddeall y trosiad a’i ailfeddiannu. Mae’n golygu meddwl a myfyrio’n feirniadol am ein stori bersonol a chymdeithasol. Lleiafrif erbyn hyn sy’n byw o’r crud i’r bedd mewn un fro ac mewn un gymuned, ac mae pob newid ar y daith yn her ac yn gyfle i feddwl ac ystyried beth sy’n digwydd a sut rydyn ni i ymateb a gwneud synnwyr ac ystyr ohono. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd yna boster Cristnogol poblogaidd yn dangos llun o farnwr yn ystyried carcharor o’i flaen ac yn holi, ‘Pa dystiolaeth sydd dy fod yn Gristion?’ A’r Cristion bach yn ateb, ‘Bydd drugarog, ’dyw Duw ddim wedi gorffen ei waith arna i eto!’

griffiths

Ann Griffiths

Yn ein cyfnod ni mae seicoleg a chwnsela wedi disodli’r hen seiat a’r eirfa benodol a glywid yno, ac mae elfen o ddrwgdybiaeth rhwng y ddwy ffordd o ddeall hunaniaeth yr unigolyn. Coffa da am Gwilym O. Roberts yn Y Cymro yn y chwedegau yn gweu iaith gyfoes ac yn cymharu’r cwbl ag iaith Theomemphus am ei brofiadau, gan weld cyfatebiaethau eglur rhyngddynt. Roedd ar Ann Griffiths ofn arswydus rhag colli tanbeidrwydd ei phrofiad o dröedigaeth gan fod cymaint pwyslais ar hynny mewn diwygiad. Ond pe bai wedi dod drwy ei phrofiad o esgor ‘yn y cnawd’, tybed a fuasai wedi cymhwyso’i mynegiant o’i phrofiad? Mynnai’r Cardinal Newman ei fod ef wedi newid ddegau o droeon, a bod sancteiddrwydd yn golygu newid llawer iawn, iawn o weithiau.

Dyma rai pwyntiau i’w cofio:

  • Mae’r gair a gyfieithir yn gyson fel ‘drachefn’ neu ‘o’r newydd’ yn golygu hefyd ‘oddi uchod’.
  • Mae liw nos yn cyfeirio at dywyllwch ysbrydol yn ogystal ag amser o’r dydd. (Mae straeon am rhoi golwg i’r deillion bob amser yn cyfeirio at ddiffyg gweld ysbrydol.)
  • Mae dŵr bedydd yn atseinio dyfroedd geni.
  • Mae bedydd yn atseinio angau.
  • ‘Yfed o’r cwpan’ yn atseinio angau’r groes.
  • Mae’r daith i Jeriwsalem yn atseinio’r ‘Ffordd’ a ddefnyddid i ddisgrifio’r Cristnogion cynnar.

Ym myd seicoleg y mae’r broses hon o hunanymchwiliad mewn perygl o fod yn fewnblyg ac unigolyddol. Mae perygl tebyg mewn sawl math o ysbrydolrwydd Cristnogol. Ond mae’r trawsnewid cyson sydd wrth galon y bywyd Cristnogol yn gysylltiedig hefyd â chymuned a’r gymdeithas ehangach fel ei bod yn allweddol gweld ein byw fel halen, goleuni, a burum yn y toes.

Yn yr Efengylau ac yng ngweddill y Testament Newydd, mae marwolaeth ac atgyfodiad, marw a chyfodi drosodd a thro yn fetaffor am drawsnewid personol, y broses seicolegol-ysbrydol wrth galon y bywyd Cristnogol.

Quote paul

I Paul bu’r profiad yn un dramatig ac ingol, ac yntau’n cyfeirio at fynd trwy brofiad o groeshoelio mewnol. Bu farw’r hen Paul; ganwyd Paul newydd – un y mae Crist yn byw ynddo. Ond mae’n amlwg o ran personoliaeth fod egni a thaerni’r Pharisead wedi troi i gyfeiriad newydd, nid wedi’i ddileu. Ac i Paul, nid profiad personol yn unig oedd hyn, ond bywyd yn y gymuned a alwyd ynghyd. Yn y Llythyr at y Rhufeiniaid mae’n cysylltu marw a chyfodi gyda Christ, y ddefod o fentro plymio i ddyfroedd bedydd.

Felly, gyfeillion, dim swildod os herir ni. Dim ond gwyleidd-dra wrth feddwl am y broses o dyfu, o gael ein galw ’nôl, o ddechrau bywyd newydd a cheisio’r gras sy’n rhan o fyw ‘yng Nghrist’.

Ysgogwyd yr erthygl uchod ar ôl darllen pennod o lyfr Marcus Borg, The Heart of Christianity: Re-discovering a Life of Faith (Harper Collins; ISBN:978-0-06-073068-0). O’r gyfrol honno y daw’r stori isod.

 Stori swynol i brocio’r meddwl

Roedd gan bâr ifanc eneth fach dair oed, y gyntaf-anedig yn ei theulu. A dyma’i mam yn feichiog eto, a’r fechan yn llawn cyffro o wybod y byddai ganddi frawd bach neu chwaer fach.cot mobile Pan ddaethpwyd â’r babi newydd adref, roedd hi am dreulio amser gydag ef yn ei ystafell a chael cau’r drws. Roedd hi’n mynnu bod yn rhaid i’r drws fod ar gau, a doedd dim syndod bod ei rhieni’n petruso ychydig. Ond yr oedd ganddyn nhw beiriant bach gwrando intercom, a dyma sylweddoli y gallen nhw glywed beth bynnag fyddai’n digwydd a thorri ar draws pe bai unrhyw beth annifyr yn digwydd. Clywsant sŵn traed eu merch yn symud ar draws yr ystafell a medrent ei dychmygu hi’n sefyll gerllaw’r crud. Yna, fe’u clywsant yn dweud wrth ei brawd bach dri diwrnod oed, ‘Dwed wrtha i am Dduw. Rwy bron wedi ei anghofio.’

Dywed Marcus Borg:

borgDyma stori swynol sy’n codi hiraeth arnom am ei bod yn awgrymu ein bod yn dyfod oddi wrth Dduw, a’n bod ni’n cofio hynny pan ydyn ni’n fach iawn. Ond mae tyfu i fyny, dysgu am y byd hwn yn broses o anghofio fwyfwy yr un y daethom oddi wrtho, yr un yr ydym yn byw ynddo. Mae tyfu, a dwyster dysgu hunanymwybyddiaeth, fel petai’n golygu gwahanu oddi wrth Dduw. (The Heart of Christianity, t. 114)

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.