E-fwletin Ionawr 22ain, 2017

Anaml iawn bydd unrhyw ffilm yn cydio ynof i’r fath raddau fel ei bod yn pwyso ar fy meddwl am ddyddiau, wythnosau a dweud y gwir erbyn hyn, ar ôl ei sgrinio. Dyna ddigwyddodd ar ôl gweld  ffilm ddiweddaraf Martin Scorsese.  Addasiad o nofel nodedig Shusaku Endo o’r un enw yw’r ffilm; dyma’r trydydd addasiad ffilm o’r llawysgrif. Cafwyd ffilm o’r un enw yn 1971 gyda Masahiro Shinoda yn cyfarwyddo, ac yna o dan yr enw The Eyes of Asia sgriniwyd addasiad arall o dan gyfarwyddyd Joao Mario Grilo yn 1994.  Fel pob cynhyrchiad o’r genre hwn – merthyrdod Cristnogol -, ac fel gyda gwaith blaenorol Martin Scorsese, yn arbennig felly The Last Temptation of Christ, cwyd y ffilm nifer o gwestiynau heriol.

silenceHanes dau offeiriad cenhadol – Rodrigues a Garrpe – o Lisbon yn ystod yr 17eg Ganrif a geir yn y ffilm. Maent yn clywed bod ei harweinydd ysbrydol Ferreira a oedd wedi teithio i Siapan fel cenhadwr wedi gorfod datgyffesu ei ffydd a’i fod bellach yn byw fel Bwdist, wedi priodi gwraig weddw Siapaneaidd ac yn magu ei phlant. Nid yw Rodrigues a Garrpe yn barod i dderbyn hyn ac maent yn teithio i ardal Nagasaki i chwilio amdano. O gyrraedd Siapan profant yr erledigaeth a wyneba’r Cristnogion, sylweddolant fod yr hyn a ddywedwyd am Ferreira yn gwbl gywir, boddir Garrpe o dan orchymyn y chwilyswr sy’n erlid Cristnogion, ac, yn y diwedd, er mwyn achub nifer o Gristnogion rhag dioddef artaith try Rodrigues yn broselyt a diarddel ei ffydd trwy gydsynio i sathru ar gerflun amrwd o Grist.  Gorffen y ffilm gyda Rodrigues yn marw ac, yn ôl defodau Bwdïaidd, llosgir ei gorff mewn casgen ond gwelwn ei weddw yn rhoi cerflun o groes yn ei law.

Beth felly yw ffydd? A oes rhaid i ffydd fod yn weladwy? Ai dweud wrthym a wna’r ffilm, er bod Rodrigues, yn gyhoeddus, yn gwrthod y ffydd Gristnogol, ac yn wir, fel Ferreira, yn gwadu Crist ymysg ei gyfoedion a’i gyd-ddinasyddion eto, parha i gredu yn ei galon? A ydyw’n bosibl cuddio ffydd? I ni yn yr 21ain Ganrif ai posibl ymwrthod â phob ymwneud ag eglwys, oedfa a chwrdd gweddi, ac astudiaeth Feiblaidd, peidio sôn am ein ffydd, ac yn wir fod yn barod i’w diarddel os oes angen – ond eto parhau i gredu mewn preifatrwydd?

A nifer o’r Cristnogion yn dioddef artaith, yn hongian pen i waered mewn pydewau a thoriad bychan wedi ei wneud yn un o rydweli’r gwddf, a’r gwaed yn araf ddiferu allan, ceisia Ferreira ddarbwyllo Rodrigues nad dilyn y ffydd y mae’r Cristnogion hyn ond, yn hytrach, ei ddilyn ef.  Maent yn barod i ddioddef rhag ei siomi. Ai euog ydym ninnau yng Nghymru weithiau o anghofio gwir destun ein mawl a’n haddoliad, anghofio pwy yw gwrthrych ein ffydd a’n cred? A fyddwn yn mynychu oedfaon yn ein heglwysi ein hunain ond go brin, os na fydd oedfa yn ein ‘capel ni’ neu ‘eglwys ni’, yr ymunwn â chynulleidfa o addolwyr mewn eglwys arall? Os na fydd y gweinidog yn pregethu ai llai yr awydd i fod mewn oedfa? A oes angen i ninnau, weithiau, ofyn pwy, neu beth, a addolwn?

Gofynnir y cwestiwn mawr yn nheitl y ffilm – a ydyw Duw yn dawel? Mewn sefyllfa o erledigaeth fel y wynebodd y Cristnogion hynny yn Siapan, mewn rhyfeloedd, mewn trychinebau naturiol, ble mae Duw? Pam na chlywn ei lais? Pam na chawn ein cyfeirio? … “How can I explain his silence to these people?”, gofyn Rodrigues.  Gorchest fawrSilence yw trwy ddwysbigo cydwybod am gred a ffydd, gwna i ni hefyd ofyn y cwestiwn cwbl bersonol – sut ydw i yn chwilio a gwrando am arweiniad Duw?