E-fwletin Ionawr 29ain, 2017

Yn ôl y newyddion ddydd Mercher diwethaf mae clwb pêl-droed Real Madrid yn bwriadu tynnu’r groes oddi ar arfbais y clwb sy’n ymddangos ar ei nwyddau yn y mwyafrif o wledydd Mwslimaidd. Yn gyfredol, gwelir croes fechan ar ben y goron a welir ar logo’r clwb. real madridPam? Oherwydd, yn ôl Reuters, bod Is-gadeirydd y cwmni marchnata Marka, sy’n hyrwyddo nwyddau’r clwb, yn gofidio am sensitifrwydd a theimladau’r cwsmeriaid. Hyn er, yn eironig, bod y Calif Mwslimaidd Mu’awiyyah wedi bathu arian oedd yn arddangos croesau mor bell nôl â’r cyfnod 661 – 685 O.C.

Enghraifft arall yw hyn o beth sy’n digwydd ledled ein gwlad a’r byd Cristnogol. Nid yw’n briodol bellach i wisgo croes neu’r arwydd ICTHUS; nid yw chwaith yn briodol i drafod ffydd a chred yn y gweithle. Trodd y Nadolig yn Ŵyl y Gaeaf, a cheisir gwahardd gweddi a sôn am Grist a’i neges mewn digwyddiadau cyhoeddus. A’r cyfan mae’n debyg oherwydd ein bod yn gofidio am sensitifrwydd a theimladau ein brodyr a chwiorydd sy’n arddel ffydd wahanol.

Oes rhywun erioed wedi gofyn i’n cyd-ddinasyddion Mwslimaidd, Bwdïaidd a Sicaidd a ydy gweld croes, clywed rhannau o’r Beibl yn cael eu darllen, cael eu gwahodd i ddathliad Nadolig neu Wasanaeth Carolau yn eu tramgwyddo, yn amharchus neu hyd yn oed yn sarhau? Scarsli bilîf! Yn fy ngwaith rwy’n ymwneud yn ddyddiol â phobl o bob ffydd – a dim ffydd – a chawn foddhad mawr yn trafod ein gwahanol gredoau dros frechdan. Ers blynyddoedd ‘rwyf wedi ymuno gyda chyfeillion Mwslimaidd i fwyta ‘iftar’ ar ddiwedd diwrnod ympryd, ac yna dathlu Eid ar ddiwedd cyfnod Ramadan yn eu plith.  Cawn gyfle i rannu egwyddorion y ddwy ffydd, eu trafod ac ystyried eu goblygiadau.  Go brin y byddwn yn cael gwahoddiad dro ar ôl tro i ddychwelyd ac ymuno gyda hwy pe byddent yn teimlo mod i yn cablu a difenwi’r hyn a gredant!

Pam sôn am hyn? Oherwydd mod i’n credu bod angen bellach i ni pobl ffydd – yn Gristnogion, Mwslimiaid, Siciaid, Bwdistiaid – ddod at ein gilydd a datgan yn eglur nad yw gweld arwyddion ffydd arall yn ein pryderu, nad ydym yn teimlo yn anghysurus o glywed darlleniadau o lawysgrifau ein gilydd a’n bod yn mwynhau trafod gwahanol agweddau o’n ffydd. Mae angen i ni ddod at ein gilydd a datgan hyn er mwyn i’r gwybodusion – sydd wrth gwrs bob amser yn gywir! – ddeall mai nhw ac nid ni, pobl ffydd, sy’n achosi’r broblem.