E-fwletin Ionawr 15fed, 2017

E-fwletin Ionawr 15fed, 2017

Mae’r berw o fewn y Blaid Lafur yn parhau, gyda diffyg dealltwriaeth rhwng cefnogwyr Jeremy Corbyn a’r mudiad Momentwm, ar y naill law, a’r aelodau mwy hirhoedlog ar y llall. Tybed oes gan brofiad eglwysi Cymru rywbeth i’w gynnig i’w helpu?

Fe’m trawyd gan sylw Aelod Seneddol Llafur ar y cyfryngau cyn y Nadolig. Gofynnodd y cyfwelydd iddo onid oedd yn falch o weld cynifer o aelodau newydd yn llifo i’r Blaid Lafur. “Wel, ydw, ond mae’n rhaid i chi sylweddoli fod yna aelodau hŷn yn y blaid sydd wedi gwneud pethau mewn ffordd benodol ers blynyddoedd, a maen nhw’n teimlo’n anfodlon iawn ar sut mae popeth yn newid. Eu plaid nhw yw hi.”

Sawl cenhedlaeth yn addoldai Cymru clywodd y gri “Ein capel/eglwys ni yw hi”? Mae sawl hanes lleol i’w hadrodd. Ond yr hyn ddaeth i ‘nghof i oedd cyfnod y diweddar Barch. Ddr Martyn Lloyd-Jones, a gafodd gymaint ddylanwad ar un genhedlaeth o bobl ifainc, a’r ymateb yng nghymaint o eglwysi Cymru pan geisiodd y bobl ifainc hynny newid pethau yn ôl ei ddiwinyddiaeth a’i ddulliau ef yn Sandfields ac yn Llundain. Gwelwyd rhai capeli yn hollti’n ddau, ac fe fu gofid y byddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gwneud yr un fath – tebyg iawn i Blaid Lafur heddiw.

Ar y pryd roedd Cristnogion mwy rhyddfrydol yn ofnus iawn eu bod yn colli “eu heglwys nhw” – er bod cefnogwyr Lloyd-Jones yn gallu pwyntio at elfennau o hanes y Methodistiaid Calfinaidd oedd o’u plaid hwythau hefyd. Am gyfnod, fe ymddangosai mai’r to efengylaidd a orfu, ac mae yn eu dwylo nhw yr oedd momentwm (!) Cristnogaeth Gymreig.

Ond erbyn hyn, cenhedlaeth neu ddwy yn ddiweddarach, nid yw pethau mor eglur. Mae llawer o’r cynulleidfaoedd efengylaidd, o fewn a’r tu hwnt i’r enwadau traddodiadol, yn edwino yr un mor gyflym â’r rhai rhyddfrydol. Mae rhai ohonynt yn mabwysiadu diwinyddiaeth fwy rhyddfrydol, a’r rhan helaethaf yn weithgar yn gymdeithasol yn eu cymunedau – rhywbeth yr oedd Lloyd-Jones yn ei ffieiddio. Mae Calfiniaeth draddodiadol yn cael ei herio gan genhedlaeth newydd a ddylanwedir gan Bentecostiaeth a dulliau addoli tra gwahanol – ac fe ellir olrhain y rheiny nôl i Gymru, a Diwygiad 1904-05.

Weithiau, nid yw momentwm hanes mor eglur ag y byddai rhai yn dymuno – ac eraill yn ei ofni. Yn dilyn refferendwm Ewropeaidd 1975 fe holltodd y Blaid Lafur ym 1981 wrth ffurfio’r SDP. Ond nid dyna oedd momentwm hanes. Diflannodd yr SDP, ac fe ddaeth Llafur nôl i rym ym 1997. Mae’n ddyddiau cynnar iawn i ni wybod canlyniadau gwleidyddol Refferendwm 2016; nid yw’r momentwm eto yn eglur.

Dros yr un cyfnod fe welwyd edwino a thrai mewn gwahanol rannau o’r byd Cristnogol hefyd. Rhagwelwyd tranc rhyddfrydiaeth – ond mae Cristnogaeth 21, Greenbelt a’i gymar Cymreig newydd Coda oll yn awgrymu’n wahanol. Mae hefyd bywyd o hyd mewn Cristnogaeth draddodiadol iawn, gyda dros 3000 wedi addoli ar Noswyl a Dydd Nadolig yng Nghadeirlan Llandaf. Diolch i Dduw ei fod Ef – a hanes – o hyd yn gallu ein syfrdanu!