E-fwletin Ionawr 8fed, 2017

E-fwletin Ionawr 8fed, 2017

Cyhoeddodd y mudiad Theos (www.theosthinktank.co.uk ) cyn y Nadolig yr adroddiad Doing Good: A future for Christianity in the 21st century. Mae’r teitl yn ddynwarediad bwriadol o enw eu hadroddiad cyntaf ddeng mlynedd yn ôl Doing God (yr hyn, meddai Alistair Campbell, nad oedd y Llywodraeth am ei wneud).

theos_logoYn 2006 y llais croyw yn y drafodaeth gyhoeddus am grefydd oedd Richard Dawkins a’i God Delusion. Fe ymddangosai fod secwlariaeth filwriaethus ar gynnydd a bod dadlau dros unrhyw le i grefydd yn y bywyd cyhoeddus yn dipyn o dasg. Roedd Cyfrifiad 2011 fel pe bai’n ategu hynny, gydag ond fymryn dros hanner y boblogaeth bellach yn ticio’r blwch ‘Cristnogol’ wrth lenwi’r ffurflen, a mwy a mwy yn dweud nad oes ganddynt grefydd o gwbl. Mae arolygon barn yn dangos i’r niferoedd hynny gynyddu ymhellach, gyda rhai yn dangos anffyddwyr yn y mwyafrif.

Bellach, casgliad Theos yw fod pethau’n newid. Mae crefydd yn gyffredinol yn bwnc trafod eang iawn yn ein cymdeithas, ac ar draws gwledydd Prydain mae’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n mynychu capel ac eglwys wedi arafu’n sylweddol. Mae hyn yn bennaf oherwydd twf mewn cynulleidfaoedd Catholig a Phrotestannaidd sy’n cael eu harwain gan fewnfudwyr ac mewn llawer achos yn addoli mewn ieithoedd tramor. Fe all y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn gwyrdroi’r duedd hon. Ni chafwyd cymaint o fewnfudo i Gymru, felly ni welsom gymaint o hyn – a dyw twf fel hyn ddim yn help i gynulleidfaoedd Cymraeg.

Ond y peth mwyaf arwyddocaol mae Theos yn ei weld yw bod y niferoedd cymharol fach sydd yn arddel perthynas agos ag addoldy bellach yn fwy gweithgar nag y buont ers cenedlaethau. Mae llymder economaidd a thoriadau mewn budd-daliadau – pethau y bu’r eglwysi yn eu gwrthwynebu’n chwyrn – wedi agor cyfle i eglwysi weithredu yn gyhoeddus ar ran y tlawd a’r anghenus na welwyd ei bath ers y 1980au, neu yn wir y 1930au. Fe ddaeth yr eglwysi yn amlwg eto am “doing good” yn hytrach nag am “doing God”.

Bu peth trafod ar dudalen Facebook Cristnogaeth 21 yn ddiweddar am sut y dylid pwyso’r ddwy wedd yma ar y ffydd. A yw uniongrededd (doing God – orthodoxia) yn angenrheidiol ar gyfer galw gweithgarwch yn ‘Gristnogol’? Wedi’r cyfan, mae pobl o bob ffydd ac anffyddwyr yn ddigon abl i weithredu’n dda dros eraill – fel y mae adroddiad Theos yn ei gydnabod. Neu a yw gweithredu yn unol â chyfarwyddyd Iesu i garu cymydog a blaenori’r sâl, y tlodion, y carcharorion ayb (Mathew 25.31-46) yn ddigon i wneud y gweithgarwch hwnnw yn ‘Gristnogol’?

Yr hyn sy’n ddifyr yw cymaint o Gristnogion efengylaidd fyddai bellach yn arddel yr ail safbwynt. A chymaint o Gristnogion rhyddfrydol sydd yn awyddus iawn i’w arddel yn ddeallusol, ond yn rhyfeddol o brin o weithredu arno yn ymarferol. Cristnogion efengylaidd sy’n greiddiol i’r rhan fwyaf o fanciau bwyd, sesiynau cynghori am ddyledion a Bugeiliaid y Stryd ledled Cymru. Mae’n bryd i ryddfrydwyr gydnabod hynny – ac ymegnïo i gefnogi’r eglwysi hynny sy’n gwneud daioni i’n cyd-ddyn.