E-fwletin Dydd Calan 2017

A yw f’enw i lawr?

Bydd blwyddyn ariannol llawer o eglwysi yn cau ddiwedd Rhagfyr, ac agorir llyfr arall Ddydd Calan. Os byddai Trysorydd yn cadw at y dyddiad yn ddeddfol, gwae y rhai araf i gyfrannu. Byddai bwlch gyferbyn â’u henwau yn yr Adroddiad Ariannol. A’u hunig obaith oedd y byddai eu henwau’n ymddangos yn y llyfr arall ymhen blwyddyn. Sonnir am “agor llyfr arall” yn y Beibl, a’i alw’n “llyfr y bywyd”. Daeth y syniad am lyfr y bywyd yn rhan amlwg yn athrawiaeth etholedigaeth, ynghyd â’r geiriau, “Pwy bynnag ni chafwyd ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, fe’i bwriwyd i’r llyn tân.”

O ganlyniad i hyn datblygodd rhyw agwedd hunanol ymhlith Cristnogion, y crefu am sicrwydd achubiaeth bersonol. Bydd rhai ohonom yn cofio unawdwyr yn canu: 

Nid wy'n gofyn am gyfoeth,
Aur ac arian y byd,
Ond cael sicrwydd o'r nefoedd:
Dyna geisiaf o hyd...

Ac yna’r gytgan:

   Geir fy enw i lawr
    Yn y dwyfol lyfr mawr?
    O! mi garwn gael gwybod
    Fod fy enw i lawr.

Fe honnir yn aml mai un o brif gymhellion cenhadu yw’r argyhoeddiad fod bywyd tragwyddol pob unigolyn yn dibynnu ar i’w enw fod wedi ei ysgrifennu yn y llyfr. Felly, yn llythrennol, byddai pregethu’r efengyl i ennill yr enaid hwnnw i argyhoeddiad y ffydd yn fater bywyd a marwolaeth. Eto y mae’n rhyfeddol mai diwinydd a fu’n llafurio mewn maes cenhadol, Lesslie Newbigin, a ddefnyddiodd fwy nag un o’i gyfrolau i ddangos mor gyfeiliornus yw’r syniad hwn: y syniad mai llawenydd mawr bywyd i bawb yw gwybod fod ei enw yn y llyfr, ac mai’r hyn sydd yn y llyfr yw rhestr enwau’r rhai sydd i dderbyn anrhydeddau Duw. Fel y dengys Brian Mc Claren: “Election is not about who gets to go to heaven; election is about who God chooses to be part of his crisis-response team to bring healing to the world.” Felly rhestr gweithwyr Duw sydd yn llyfr y bywyd.

schindler_oskar

Oskar Schindler

Pan ddaeth yr Almaenwyr ym 1939 i feddiannu gwlad Pwyl, un o’u gorchmynion cynta oedd fod pob Iddew i wisgo seren Dafydd ar ei lawes. Daeth Oskar Schindler, a oedd yn wreiddiol yn un o’r Nazïaid ac yng ngwasanaeth gudd Hitler, daeth yntau i Krakov ac agor ffatri a ddaeth i gyflogi cannoedd o Iddewon. Yn 1944 gorchmynnwyd i bawb o’r Iddewon fynd i’r gwersylloedd carcharorion. Gwyddai Schindler yn union beth oedd ystyr hynny, a phenderfynodd ymroi i achub yr Iddewon rhag eu tranc. Trefnodd lunio rhestr ac arni fil dau gant o enwau Iddewon, a’u galw yn “weithwyr angenrheidiol” oherwydd gwyddai mai’r gweithwyr angenrheidiol yn unig a gâi eu cadw yn y ffatri, a’u cadw’n fyw. Fel yna achubwyd cannoedd o Iddewon rhag wynebu cael eu lladd.

Dyna’r gwir am restr Duw, rhestr llyfr y bywyd: nid rhestr y gwobrwyo mohoni, ond rhestr y gweithwyr angenrheidiol. Rhestr y rhai sy’n barod i weithio a llafurio a dioddef gyda Iesu. Ac fel gyda rhestr Schindler, y gweithwyr sy’n gadwedig. “Yn dy waith y mae fy mywyd, yn dy waith y mae fy hedd.”