Archifau Categori: Agora 9

Golygyddol: Addoli Pam a Sut?

GOLYGYDDOL: Addoli – Pam a Sut?

I lawer iawn o garedigion C21 mae geiriau addoli mewn perygl o fynd yn broblem. Mae mynegiant llawer o weddïau traddodiadol ac ieithwedd llawer o emynau yn peri mesur o swildod, naill ai am eu bod yn rhy benodol neu’n rhy aneglur eu hystyr. Mae ambell emyn yn wirioneddol dramgwyddus! Byddai’n help llythrennol i ysgafnhau’r llyfrau emynau.

caneuon_ffydd_solffa_1024x1024

Penderfynodd grŵp C21 yn y Morlan yn Aberystwyth arbrofi ychydig yn nhymor yr hydref eleni. Bu’n waith caled: chwe chyfarfod i feddwl am natur addoli, y traddodiad Cristnogol, ein harferion cyfoes yng Nghymru a’n hiraeth am rywbeth gwahanol, gan lunio a defnyddio gwasanaeth ‘arbrofol’ i glymu’r cwrs. Y rheswm am fentro i’r maes oedd synhwyro nad yw arferion capel nac eglwys yn ‘gweithio’ nac yn gyfrwng mynegiant perthnasol i’r genhedlaeth sydd wedi troi ei chefn arnynt. Y gobaith oedd mynd yn ôl i’r gwreiddiau a cheisio bod yn ‘radical’ – ac yn ddoniol ddigon bu’n fethiant yn hynny, er i’r gwasanaeth fod yn fendithiol.

Daethom i sylweddoli bod yna wahaniaeth eglur rhwng profiadau ysbrydol personol a bod yn rhan o gynulleidfa sy’n fwriadus ddod at ei gilydd i ymroi i’r ‘gwaith’ o addoli. Dyna, wedi’r cyfan, ydi litwrgi. Roedd yn ddiddorol mynd ar ôl hanes addoli Cristnogol a gweld y gwreiddiau yn y synagog ac yn y deml, a sut y bu i iaith, symboliaeth a pherfformio defodau’r deml lywio iaith a chynnwys y ddefod honno a darparu delweddau oedd bryd hynny’n ystyrlon i’r disgyblion.

Ond mae’r gair defod yn un peryglus. Tuedd capelwyr ydi rhoi dim ond o flaen y gair. Ond cafodd y capelwyr blwc o chwerthin wrth sylweddoli o’r newydd mor ddefodol yw ymddygiad cynulleidfa capel wrth ddod ynghyd. icon-1720445_960_720Ar y pegwn arall, dieithr hollol i’r mwyafrif fyddai’r arfer mewn eglwysi uniongred o gynnau cannwyll, a chuschurch-750250_960_720anu eicon y dydd â’i ddelwedd draddodiadol yn darlunio’r efengyl a gosod y gannwyll i losgi gyda chanhwyllau gweddill y gynulleidfa. I’r dieithryn, testun swildod neu ddieithrwch ydi symlrwydd gweithredoedd fel plygu a chyffwrdd a hyd yn oed gusanu’r llawr. Nodwyd mai ystyr y gair Groeg am addoli yw ‘mynd tuag at i gusanu’. Camu i bresenoldeb Duw’r creawdwr a’i anrhydeddu mewn ‘parchedig ofn’ mewn gweithredoedd bach corfforol, fel ymgroesi. Nid yw hyn, wrth gwrs, er mwyn effeithio ar Dduw, ond i effeithio arnom ni, i ymgnawdoli ein hagwedd fewnol at y trosgynnol, dragwyddol Dduw sy’n ymbresenoli yn ein plith mewn cariad a thrugaredd. Gall ddirywio’n ofergoel neu’n swyngyfaredd, ond gall ystum heb lol, na swildod, fod yn hynod brydferth ac ystyrlon.

Y bardd W. B. Yeats sy’n crynhoi’r peth: ‘Where but in custom and in ceremony are innocence and beauty born?’

Ystyriwyd traddodiadau addoli o gyfnod ymgasglu Pobl y Ffordd yn y deml. Efallai eu bod yn canu cantiglau sydd wedi cael eu cadw yn Efengyl Luc: caneuon yr angylion, Mair, Simeon a Sachareias.

Ystyriwyd y ‘cynnwys’ sydd wedi bod yn rhan o’r fframwaith addoli: y dynesu, y diolch, y cyffesu, yr eiriol, yr ymbil, ynghyd â’r strwythurau: darllen yr ysgrythur (Gweinidogaeth y Gair) ac Ordinhad Swper yr Arglwydd (Gweinidogaeth y Sacrament). communion-glassesYchydig o sylw a dalodd y diwygiad Protestannaidd i addoliad y deml; cweryl ydoedd am y ‘pethau’ – y bara a’r gwin a beth oedd yn ‘digwydd’ iddynt.

Mewn cymdeithasau economaidd llewyrchus, pan ddaeth y cyfoethog i mewn i’r ffydd yr oedd modd rhoi pwys ar geinder celf a chân ac urddas corfforol. A bu cyfnodau o ymateb chwyrn yn erbyn hynny. Mae cerdd T. Rowland Hughes i’r ‘Blychau’ ymneilltuol yn ddwys ei hargyhoeddiad wrth anrhydeddu traddodiadau gwerin. Ond pan aeth cymdeithasau Cymraeg yn fwy cysurus eu byd, buan iawn yr aed ati i ddefnyddio coed a phlastar a phaent i harddu’r addoldai a chreu capeli ‘cadeiriol’ yn y frwydr i gystadlu â’r eglwys. Digon tlodaidd oedd eglwysi Cymry o’u cymharu â rhai Lloegr. (Disgrifiodd Emrys ap Iwan y ddadl honno fel un ‘rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr’ – ac rydyn ni’n dal i fyw ar sorod a chwerwder y frwydr.)

A oes modd datblygu patrwm addoli sy’n cyfuno gorau ein traddodiadau? Byddwn ofalus gan ein bod yn sefyll ar ‘dir sanctaidd’ iaith ac estheteg ac ysbrydolrwydd sydd wedi bod yn gyfryngau bendith i genedlaethau lawer erbyn hyn. Ydi’n gweithredoedd/defodau/geiriau’n cael eu cyfeirio at ein gilydd, neu i’r tu hwnt, at Dduw?  Ydi’n testunau ni i fod yn feiblaidd yn unig, neu a oes modd ychwanegu cynnyrch diwylliannol heb droi addoli’n gyngerdd? Mae’n fater o bwys ysbrydol, am fod addoli a’n sacramentau ni yn gyfrwng i’n newid ni. Natur ein haddoli sy’n arddangos ein credo (lex orandi, lex credendi).

Dysgodd y grŵp yn fuan iawn mor beryglus yw geiriau! Mae mater iaith gynhwysol yn enghraifft o hynny – anaml y mae gwrywod yn sylweddoli mor batriarchaidd yw iaith swyddogol addoli, ac mae llawer o’r gwragedd wedi arfer â’r peth. Mae bod yn fyddar i’r mater yn llesteirio bod yn agored i newid o unrhyw fath. Gochelwyd rhag defnyddio delweddau benywaidd i osgoi ymdebygu i grefyddau ffrwythlondeb. Ond beth am y peryglon  o feddwl am Dduw fel gwryw, neu filwr neu frenin?  

praying-29965_960_720Mae arddull yn destun tramgwydd hefyd, a rhyddid y weddi o’r frest ac arddull y colect cynnil, eglwysig yn ymddangos yn groes i’w gilydd. Mae’r naill yn dibynnu ar addasrwydd i’r funud bresennol a dilysrwydd personol y gweddïwr. Mae’r llall, y colect cynnil, yn dibynnu ar y cof ac ar gymhwyso meddwl ac ysbryd y gwrandawyr i ystyr y weddi. Dyna hanfod y Weddi Gyffredin. Gwnaeth John Bell a chymuned Iona waith da – ond nid yw’r patrymau bob amser yn gweithio am eu bod yn syrthio rhwng dwy stôl, ond o leiaf maen nhw’n ymdrech at ysgogi meddwl a chalon mewn ffordd wahanol.

Tystiolaeth yr eglwyswyr yw bod cael geiriau’r colect i ffrwtian yn greadigol yn y galon yn rheitiach profiad na chwilio am wreiddioldeb ymadrodd i’w edmygu. A phrofiad capelwyr yw bod brys a llafarganu’n llesteirio ymateb. Parodd gweddi capel i un plentyn o eglwyswr amau bod ‘dwy bregeth’. Gall barddoniaeth fod yn ‘effeithiol’ (a beth yw ystyr y gair yna yn y cyd-destun hwn ?), ond onid oes angen gochel rhag gwneud gwasanaeth yn flodeugerdd o hoff ddarnau?

Bu llawer iawn o waith datblygu adnoddau mewn defod briodol a geiriau hardd a cherddoriaeth gain. A gall technoleg wneud mwy na bwrw geiriau ar sgrin! Ond mae angen gwaith ac ymroddiad i arbrofi â litwrgi (gweithredoedd o addoli) sy’n gyfrwng bendith i ni yn ein cyflwr heddiw.revival1-620x403 Mae mwy iddo na chwifio breichiau yn yr awyr neu fynd i hwyl wrth ganu. (Mynnai Aneirin Talfan gynt mai canu pop a ddifethodd bob diwygiad a fu yng Nghymru. Y cwbl sy ar ôl ydi ambell Gymanfa Ganu.) Hawdd gwneud hwyl am ben chwifio breichiau wrth ganu emyn – ond cyfaddefodd cyfaill fod gwneud hynny wedi peri iddo sylweddoli ei fod fel petai wedi bod yn addoli mewn staes!  Mae llawer o’n addoli ni’r Cymry mewn staes. Fel canu emyn Ann Griffiths: ‘Gwna fi fel pren …’  

Dyma gynnig rai o’r gwersi i’ch sylw:

  • Dysgu sut i ddefnyddio distawrwydd a thywys grŵp drwyddo.
  • Bod yn llawer mwy ymwybodol o allu geiriau i gyfleu ac i dramgwyddo.
  • Diogelwch arfer cyson.
  • Yr angen am arbrawf.
  • Bod angen clymu gweddi a mawl wrth thema’r bregeth.
  • Bod colli ymwybyddiaeth o’r hunan ac ymgolli mewn mawl yn fwy na mynd i hwyl.
  • Rhoi lle i rywbeth i ddigwydd?

Mae a wnelo addoli â’n hanghenion a’n briwiau, â’n dyheadau a’n hiraeth dwysaf. Awn ati mewn cylchoedd bychain i chwilio ac arbrofi, heb ofni defnyddio trysorau’r gorffennol, a chwilio am eiriau priodol i ni heddiw sy’n gyfoethog ac yn gryf, yn gelfydd ac yn gain am mai dim ond y gorau sy’n deilwng o Dduw a dim ond y gorau sy’n gweithio i ni.

Dyma ble o’r galon, felly. Cynigiwch eich hadnoddau i Agora er mwyn i ni gasglu a rhannu gyda’n gilydd.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Newyddion mis Ionawr

Newyddion mis Ionawr

Cynhadledd Anaphora

O gofio mai Syria, Irac, Yemen, yr Aifft a gwledydd eraill y Dwyrain Canol sydd agosaf at leoliad y Nadolig cyntaf  a chan gofio fod rhai o Eglwysi’r Dwyrain heb ddathlu’r Nadolig tan Gŵyl yr Ystwyll) gweithred broffwydol oedd i nifer o ddiwinyddion o wahanol draddodiadau Cristnogol gyfarfod yng Nghanolfan Anaphora ger Cairo yn ystod mis Rhagfyr, ychydig ddyddiau cyn i 25 o addolwyr Coptaidd gael eu saethu’n farw yn Eglwys St. Marc, yn y ddinas. Thema’r  gynhadledd oedd ‘Ireneaus a dynoliaeth oleuedig’. Er yn swnio’n bwnc academaidd a dyrys, nod Canolfan Anaphora yw ‘cloddio yn ddigon dwfn nes darganfod cariad Crist’, ac mae hynny’n golygu darganfod ein hundod yng Nghrist.

anaphora

Canolfan Encil Anaphora ger Cairo

“Gogoniant Duw yw dynion/merched sy’n fwrlwm o fywyd. Mae person byw ac effro yn fynegiant o ogoniant Duw” meddai Ireneaus ar ddiwedd yr ail ganrif yn Lyon. Mae rhai wedi tynnu sylw at ddylanwad Ireneaus ar dystiolaeth Cristnogion Celtaidd cynnar. Mae’r angen i gloddio yn ddigon dwfn – mewn Ysgrythur a thraddodiad – yn alwad gyfoes a thyngedfennol, os yw Cristnogaeth i fod yn lais gobeithiol, nid yn unig yn y Dwyrain Canol ond drwy’r byd.

Colli Lionel Blue

lionelblue_1444111cDdydd Sul cyn y Nadolig bu farw’r Rabi Lionel Blue, a fu’n llais mor boblogaidd ar Thought for the Day (Radio 4) am ddegawdau lawer. Roedd yn 86 oed. Rhoddodd  Richard Harries, Cyn Esgob Rhydychen, deyrnged uchel iddo wrth sôn am ei gynhesrwydd, ei hiwmor, ei feddwl agored ac am y ddynoliaeth ynddo oedd yn medru cyfathrebu a chyfannu. Cyfeiriodd at y ffaith i’r ddau gynnal deialog yn ystod yr Adfent yn y 70au pan ddywedodd Lionel Blue ei fod bob amser, pan ddeuai’r Nadolig, yn hofran ar gyrion y ffydd Gristnogol. Mae ei gyfrol “My affair with Chritianity” (1998) yn dystiolaeth o hyn. Meddai, yn y bennod ‘Jesus who ?’: “…I began to see him in other people. He was Janusz Korczak who went with the Jewish orphans of the Warsaw ghetto into the camps and gas chambers. He was the image seen by Father Titus Brandsma in the Scheveningen Prison in 1942. He was Anne Frank. Later I began to see him in the unworthy as well as the worthy, and later still I began to see him in me… Then I no longer saw him…. it was like the Emmaus story in the Gospel. You don’t notice whom you meet in life. Only later you add two and two together and make a glorious five.”

Silence

Yn gynnar yn Ionawr fe ryddheir ffilm ddiweddaraf Martin Scorsese. Mae‘r ffilm wedi ei sylfaenu ar nofel enwog Shusaku Endo, “Silence” (1966) ac yn enghraifft arall o ddiddordeb mawr Scorsese yn y Jesiwitiaid.

Martin Scorsese

Mae’r ffilm yn sôn am ymdrech dau  offeiriad o Bortiwgal i chwilio am offeiriad oedd wedi mynd i Japan fel cenhadwr ond, yn wyneb erledigaeth, oedd wedi troi cefn ar ei gred. “Sut y gallaf  esbonio tawelwch Duw?” gofynnodd yr offeiriad, Ferreira, wrth weld Cristnogion yn cael eu herlid a’u poenydio i’r fath raddau.

Bu Scorsese ei hun, ar un adeg, yn cael ei dynnu i’r offeiriadaeth er na ddigwyddodd hynny, ond y mae cymaint o’i waith wedi bod yn ymwneud â ffydd ac amheuaeth.

Mae rhai wedi cyfeirio at ei waith fel ‘sinema ddefosiynol’.

Theos

Mae Theos  – sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘think tank’ – yn ddeg oed, ac ar Ragfyr 16eg cyhoeddodd adroddiad  “Doing Good : A future for Christianity in the 21st Century”  i ddathlu’r pen-blwydd. theos_logoPrif ganlyniad yr adroddiad (tra’n cydnabod y dirywiad ystadegol eglwysig ym Mhrydain o 300,000 yn llai yn addoli ym Mhrydain nag yn 2006, a gostyngiad o 72% i 59% sy’n honni bod yn Gristnogion) yw bod aelodau’r eglwysi’n gwneud llawer iawn mwy, er yn gostwng o ran niferoedd, nag unrhyw fudiad arall o safbwynt gwasanaeth yn y gymuned ac i elusennau. Mae dylanwad Cristnogol a/neu eglwysig y tu ôl i fwy na hanner elusennau Prydain, ac mae’r ystadegau’n dangos fod o leiaf 1.4 miliwn o wirfoddolwyr eglwysig o fewn elusennau o bob math. Nid oes gan Gristnogion – nac unrhyw grefydd na mudiad dyngarol – fonopoli ar wneud daioni, wrth gwrs, ond mae Theos yn pwysleisio’r angen am i’r eglwysi wneud ‘litwrgi/addoli cymdeithasol’ yn ystyrlon a chanolog. Cyhoeddwyd ar adroddiad ar Ragfyr 16eg.

 

 

Pedwerydd Cam yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y PEDWERYDD CAM

Mae’r mwyafrif o bobl yn dod i’r Stafell Fyw am eu bod eisiau osgoi gwneud rhywbeth sy’n effeithio’n negyddol a dinistriol ar eu bywydau – boed hynny’n gamddefnydd o alcohol neu gyffuriau eraill, neu’n ymddygiad niweidiol megis gamblo, camddefnyddio bwyd neu ryw, neu hunan-niweidio. Pan ddaethom ni yma nid oedd llawer ohonom wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r hyn ’roeddem yn dechrau arno – sef rhaglen o adferiad, a beth oeddem yn gobeithio’i gael o’r rhaglen. Efallai mai dyma’r amser i ni gymryd saib a gwneud hynny.

Logo Stafell FywYn gyntaf, dylem ofyn i ni’n hunain beth ydym ni’n gobeithio’i gael drwy adferiad. Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn ateb y cwestiwn hwnnw drwy ddweud ein bod eisiau cyfforddusrwydd, neu hapusrwydd, neu brofi tawelwch meddwl. Dyw’r rhan fwyaf ohonom eisiau dim mwy na gallu dweud ein bod yn ein hoffi ni’n hunain. Ond sut allwn ni hoffi ni ein hunain os nad ydym hyd yn oed yn gwybod pwy ydym?

Cam 4 sy’n ein galluogi i ddechrau dod i adnabod ein hunain. Rhydd inni hefyd y wybodaeth rydym ei hangen i ddechrau hoffi ni’n hunain a chael y pethau eraill y dymunwn gael o’r rhaglen – cyfforddusrwydd, hapusrwydd, tawelwch meddwl.

Mae Cam 4 yn ddechrau ar gyfnod newydd yn ein hadferiad. Gellid disgrifio Camau 4 i 9 fel proses oddi fewn i broses. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ganfyddwn yng Ngham 4 i weithio Camau 5, 6, 7, 8 a 9 – proses y byddwn yn ail ymweld â hi droeon yn ystod ein hadferiad.

Y Broses

Y peth cyntaf i’w wneud yng Ngham 4 yw ymchwilio’n ddi-ofn i’n gorffennol. Mae hyn yn golygu gwneud rhestr o’r holl bethau sydd wedi bod yn gwasgu arnom ar hyd y blynyddoedd – pob cam a ddioddefwyd gennym, pob niwed a gawsom, pob peth drwg a wnaethom i ni ein hunain ac i eraill, a phob gwendid yn ein cymeriad yr ydym yn ymwybodol ohonynt. Ond dylai’r rhestr hefyd gynnwys y pethau da, y pethau positif. Y rhestr hon yw sylfaen Cam 4, felly rhaid iddi fod yn gyflawn ac yn gwbl onest. Byddwn yn trafod pob elfen ynddi yn fanwl – oherwydd dyna’r unig ffordd i ddod i’n hadnabod ni ein hunain a dod i delerau â’r bwganod sydd wedi arwain at ein cyflwr presennol.

alcoholMae’r broses hon yn debyg iawn i blicio nionyn. Mae pob haen o’r nionyn yn cynrychioli un elfen yn y rhestr. Mae’r craidd yn cynrychioli’r ysbryd pur ac iach sy’n bodoli yn y canol llonydd hwnnw y tu fewn i bob un ohonom. Bob tro yr awn drwy Gam 4, rydym yn plicio haen arall o’r nionyn gan ddod yn agosach at y craidd. Ein nod mewn adferiad yw cael deffroad ysbrydol, a down yn agosach at wireddu hynny drwy weithio’r broses hon. Mae ein hysbryd yn deffro ryw ychydig mwy bob tro y pliciwn haenen arall i ffwrdd.

Agor drws i hunan-adnabyddiaeth wna Cam 4, felly, ac mae a wnelo gymaint â darganfod rhinweddau cymeriad ac ag adnabod union natur ein diffygion.  Mae’n broses sydd hefyd yn agor y drws i ryddid. Rydym wedi cael ein rhwystro rhag bod yn rhydd ers amser maith – mwy na thebyg drwy ein hoes. Drwy weithio Cam 4, darganfydda llawer ohonom nad pan wnaethon ni yfed alcohol neu gymryd cyffuriau eraill am y tro cyntaf y dechreuodd ein problemau, ond ymhell cyn hynny, pan blannwyd union hadau ein dibyniaeth. Roeddem o bosib wedi teimlo’n unig ac yn wahanol ymhell cyn i ni gymryd y cyffur.

quote-wynford

Yn wir, mae’r ffordd yr oeddem yn teimlo, a’r grymoedd oedd yn ein gyrru, wedi’u clymu’n annatod wrth y ddibyniaeth. Ein hawydd i newid y teimladau hynny ac i ostegu’r grymoedd hynny wnaeth ein harwain at gymryd y cyffur yn y lle cyntaf. Trwy restru a datgelu unrhyw boen neu gynnen o’n gorffennol nas datryswyd, byddwn yn cael eu gwared o’n system – fel na fyddwn mwyach yn ysglyfaeth iddynt. Byddwn wedi sicrhau rhyw fesur o ryddid.

Un rhybudd bach cyn disgrifio’r broses yng Ngham 4: os na fyddwn yn gwbl onest wrth weithio’r cam pwysig hwn, os cadwn gyfrinach yn ôl rhag y byd oherwydd ffug falchder neu ofn, y tebygolrwydd yw y gwnawn lithro nôl i grafangau ein dibyniaeth, a does dim sicrwydd wedyn y cawn y cyfle i adfer eto. Mae Cam 4 yn mynnu gonestrwydd llwyr os ydym o ddifri eisiau adfer yn llawn.

Sut mae CAM 4 yn gweithio

Fel rheol mae’r adict yn gofyn tri chwestiwn: 1) Beth yw’r broblem? 2) Pam bod hynny’n broblem? 3) Sut mae’n effeithio arnaf fi? Bydd yn eu  hateb, o bosib, fel a ganlyn: 1) Fy nhad; 2) Am nad yw’n fy ngharu fel y dymunwn iddo ’ngharu; 3) Mae’n effeithio ar fy hunanhyder (ego), fy sicrwydd emosiynol ac ariannol (ofn), fy uchelgais (fy nyfodol), a’m perthynas bersonol a rhywiol (methu dangos emosiwn). Yna, â ymlaen i feio a beirniadu pawb a phopeth (yn enwedig ei dad) am ei broblemau neu ei gyflwr. Dyna yw ein hymddygiad a’n patrwm arferol o ymddwyn – yn gwbl hunanol a myfïol.

alcoholic1Er mwyn adfer, sut bynnag, edrychwn ar ein rhestr eto. Gan anghofio camweddau fy nhad a phobl eraill, edrychwn yn ddyfal ar ein beiau ni ein hunain a gofynnwn bedwerydd cwestiwn: 4) Beth ydw i wedi’i wneud i achosi’r broblem yn y lle cyntaf? Ydw i wedi bod yn hunanol, yn anonest, yn ceisio hunan-fudd, neu’n ofnus? Dyma rywbeth nad ydym, fel arfer, wedi’i wneud o’r blaen – ystyried ein rhan ni yn y treialon sydd wedi’n goddiweddyd.

alcoholism-1825900_960_720Felly, ynghyd â chanfod rhinweddau amdanom ein hunain (down at hynny yn y man), bydd rhaid inni hefyd wynebu a derbyn rhai agweddau annymunol ac anghyfforddus arnom ni’n hunain – yr agweddau hynny rydym wedi eu cuddio oddi wrth ein hunain ac oddi wrth y byd – sef ein rhan ni yn hyn oll. Bydd Cam 4 yn ein galluogi, felly, i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr; daw’r ymwadiad i ben wrth i ni weld a derbyn ein hunain fel yr ydym, gan gynnwys pob brycheuyn. Mewn geiriau eraill mae Cam 4 yn ein dysgu i fod yn ddynol  – fod ‘crac’ ymhob un ohonom – ein bod yn berffaith amherffaith.

Dyma’r patrwm o gwestiynau y byddwn yn eu defnyddio felly yn y broses o weithio Cam 4.

Yn rhifyn Chwefror bydd Wynford Ellis Owen yn manylu ar y pynciau sy’n gofyn sylw wrth i ni ddod i adnabod ein hunain…

Anerchiad yr Archesgob

Anerchiad yr Archesgob

Cafodd anerchiad yr Archesgob ar ddefnyddio’r Ysgrythur rywfaint o sylw yn y wasg am ei fod yn trafod perthynas pobl hoyw. Dyma destun cyflawn yr anerchiad i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, Medi 2016

330px-barry_morgan

Yr Archesgob Barry Morgan (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)

Rhaid cyfaddef, yn ystod y tair blynedd ar ddeg diwethaf, nid wyf erioed wedi ailddarllen un o anerchiadau’r llywydd a roddais i’r Corff Llywodraethol hwn. Efallai bydd rhai ohonoch yn dweud mai da o beth yw hynny, gan fod unwaith yn fwy na digon i bawb! Cyn mynd ati’r tro hwn fodd bynnag, penderfynais ailddarllen yr anerchiad cyntaf imi erioed ei roi fel yr Archesgob newydd ac roedd yn syndod o’r mwyaf imi weld fy mod wedi sôn am awdurdod yr Ysgrythur a’i dehongliad, natur Anglicaniaeth, gwneud penderfyniadau yn y Cymundeb Anglicanaidd, a lle Penderfyniadau Lambeth, a’r cyfan mewn un anerchiad. Roedd yn atgoffa rhywun o’r bregeth gyntaf y byddai rhywun yn ei rhoi wrth gael ei ordeinio, lle mae holl syniadau diwinyddol y person wedi eu cynnwys i gyd gyda’i gilydd.

Y rheswm i mi ailddarllen yr anerchiad oedd fy mod am weld a oeddwn wedi sôn am ddirnad ewyllys Duw trwy ddarllen yr Ysgrythur Sanctaidd yn enwedig mewn perthynas â rhywioldeb dynol. Roedd y drafodaeth a gawsom ar y mater hwnnw mewn Corff Llywodraethol diweddar yn un o’r trafodaethau mwyaf eirenig, adeiladol, cytbwys a gweddigar i ni erioed ei chael yn y Corff hwn. Ni chafwyd cydsyniad ynghylch sut y dylem ymdrin â phriodas a pherthynas unrhyw ond cafwyd gwrandawiad parchus i’r hyn oedd gan bawb ei ddweud.

Ers y drafodaeth honno, fel y gwyddoch, mae’r esgobion wedi cyhoeddi gweddïau y gellir eu hoffrymu gyda’r sawl sydd mewn perthynas unrhyw, ac yn ôl y disgwyl, daeth beirniadaeth gan bobl a oedd yn dweud inni fynd y tu hwnt i’n hawdurdod gan anwybyddu gorchmynion beiblaidd ac oddi wrth rai a ddywedodd nad aethom ni’n hanner digon pell i ddefnyddio’r awdurdod sydd gennym. Boed hynny fel y bo, y cwestiwn hanfodol rwyf am fynd i’r afael ag ef y prynhawn yma yw lle’r Ysgrythur wrth ddirnad ewyllys Duw. A gwnaf fy ngorau i beidio ag ailadrodd unrhyw beth a ddywedais yn 2003.

Mae un llythyr yn crynhoi safbwynt un garfan o bobl. Roedd yn cychwyn gyda’r geiriau “Fy Arglwydd Archesgob”. Pan fo llythyr yn cychwyn gyda’r geiriau hyn, rydych chi’n gwybod eich bod chi wedi tramgwyddo. Aeth ymlaen i ddweud “Ysgrifennaf i fynegi fy mod wedi fy siomi a’m dadrithio’n ddirfawr â chywirdeb moesol eich safiad ar fater perthynas unrhyw. Mae angen i’r eglwys gael ei harwain ar y mater hwn gan lais awdurdodol yr Ysgrythur.”

1588_first_welsh_bible

Roedd y datganiad hwnnw’n awgrymu bod yr esgobion wedi anwybyddu’r Beibl a’u bod wedi cael eu dylanwadu gan ddiwylliant rhyddfrydig ein hoes ac nad oeddent felly’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r Ysgrythur Sanctaidd. Hoffwn ateb fod hyn ymhell o fod yn fater o anwybyddu’r Ysgrythur Sanctaidd, yn hytrach, mae’r esgobion wedi cymryd y cam hwn oherwydd inni roi ystyriaeth ddifrifol i’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud wrth geisio dirnad ewyllys Duw.

barry-morgan-1-quote

ANGHYSONDEBAU

Dydw i ddim am gyfyngu’r hyn sydd gennyf i’w ddweud i fater perthynas un-rhyw yn unig. Mae yma gwestiwn llawer ehangach am sut mae rhywun yn dirnad ewyllys Duw fel y’i datguddir yn yr Ysgrythur Sanctaidd yn fwy cyffredinol. Yn gyntaf, gadewch i mi ddweud yr hyn sy’n amlwg. Nid un llyfr yw’r Beibl ond cyfres o lyfrau ac yn y llyfrau hynny, a ysgrifennwyd gan amrywiol awduron, mae nifer o wahanol safbwyntiau ond hefyd safbwyntiau sy’n newid ynghylch pynciau penodol. Nid geiriau Duw yw testunau’r Beibl, sydd wedi eu harddweud gan Dduw i’w hysgrifennu gan awduron dynol, yn hytrach maent yn ymateb ysbrydoledig i ddatguddiad. Ymateb dynol felly yw’r ymateb, ac ni ellir ystyried ei fod yn union yr un fath â’r datguddiad hwnnw yn enwedig gan fod rhannau o’r Beibl yn anghyson â rhannau eraill.

Dyma rai enghreifftiau.

Mae Ail Lyfr y Brenhinoedd yn cofnodi cyflafan gan Jehu o Dŷ Brenhinol Ahab yn Jesreel. Dywedir i gyflafan teulu cyfan y Brenin Ahab a’r Frenhines Jesebel ac unrhyw un a oedd yn gysylltiedig â hwy gael ei chyflawni gan Jehu ar orchymyn y proffwyd Eliseus, a oedd, yn ôl y gair wedi’i eneinio gan Dduw i gyflawni cyflafan o’r fath.

Hynny yw, gwelir Eliseus a Duw yn cymeradwyo polisi o lofruddiaeth dorfol. Wrth gwrs, rwy’n sylweddoli nad dyma’r hanes cyntaf am lofruddiaeth a chyflafan yn yr Hen Destament, ond wrth ysgrifennu’n llawer diweddarach am y digwyddiad hwn, dywedodd y proffwyd Hosea 1:4 fod Jehu wedi ymddwyn yn warthus ac y dylid bod wedi ei gosbi am yr hyn a wnaeth.

rowan

Dr Rowan Williams

Mewn geiriau eraill, roedd yna newid safbwynt yn yr Ysgrythur ynghylch yr un digwyddiad. Meddai +Rowan wrth ysgrifennu am y digwyddiad hwn “Byddai Hosea wedi dweud “Rwy’n siŵr bod fy rhagflaenydd proffwydol, Eliseus, yn sicr ei fod yn cyflawni ewyllys Duw ac rwy’n siŵr bod angen rhoi terfyn ar ormes ac eilunaddoliaeth Tŷ’r Brenin Ahab, ond ai cyfiawn ydoedd i Jehu eu llofruddio yn y fath fodd?”” Ac mae +Rowan yn mynd ymlaen i ddweud bod sylw Hosea yn ennyd bwerus iawn yn ysgrifau’r Hen Destament – yn gydnabyddiaeth bod modd tyfu mewn dealltwriaeth o ewyllys Duw a bod modd ail-feddwl y gorffennol.

Roedd rhywbeth ym myd Hosea, proffwyd sy’n ysgrifennu mor wefreiddiol am gariad aruthrol Duw at Ei bobl, wedi agor ei galon i ddealltwriaeth newydd o Dduw fel bod, na fyddai’n awdurdodi llofruddiaeth dorfol. Mae Iesu’n mynd â’r mater yn llawer pellach pan ddywed “Clywsoch fel y dywedwyd, llygad am lygad, a dant am ddant. Ond rwyf fi’n dweud wrthych, peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy’n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro’r llall iddo hefyd. Carwch eich gelynion. Gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich casáu.”

Felly mae Hosea ac Iesu yn sôn am Dduw ac yn ei weld Ef mewn ffordd gwbl wahanol i’r hyn a welir yn llyfrau eraill yr Hen Destament ac maen nhw’n dangos nad cefnogaeth Eliseus i gyflafan Jehu oedd y gair olaf ar y mater hwn. Felly os ydyn ni am ofyn i’n hunain pa safbwynt dybiwn ni sy’n adlewyrchu ewyllys Duw, sut byddem ni’n ateb?

DEUTERONOMIUM

Trown at enghraifft arall, y tro hwn o lyfr Deuteronomium.

Mae Deuteronomium 23: 1-4 yn darllen fel a ganlyn:

“Nid yw Ammoniad na Moabiad, na neb o’u disgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd. Nid yw bastardyn, na neb o’i ddisgynyddion hyd y ddegfed genhedlaeth, i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd.”

Yr hyn mae Deuteronomium yn ei ddweud yw bod pawb a oedd yn gynnyrch uniadau anghyfreithlon neu losgach neu a oedd yn ddisgynyddion i’r Moabiaid a’r Ammoniaid i gael eu gwahardd am byth o addoliad oherwydd nad oedden nhw’n cael eu hystyried yn dderbyniol gan Dduw.

barry-quote-2Ond mae o leiaf ddau hanes o losgach yn yr Hen Destament sy’n anwybyddu’r gwaharddiadau hyn. Yn gyntaf, Lot a’i ferched, uniadau a gynhyrchodd Ammoniaid a Moabiaid, ac yna mae llosgach Jwda gyda’i ferch yng nghyfraith Tamar. Rhoes merched Lot a Tamar enedigaeth i feibion sydd wedi llunio rhan o linach achyddol a arweiniodd yn y pen draw at Dafydd ac yna Iesu. Mae Ruth, sy’n un o’r Moabiaid, yn un o hynafiaid Dafydd. Os yw hi a’i disgynyddion, a meibion merched Lot a mab Tamar yn cael eu gwahardd o’r gymuned addoli, ble mae hynny’n gadael y Brenin Dafydd?

Felly mae Deuteronomium yn rhoi dedfryd o waharddiad parhaol ar Foabiaid a chynnyrch llosgach rhag dod yn rhan o’r gymuned addoli ond y bobl hyn yw cyndeidiau Dafydd ac Iesu. Mae cyfraith Deuteronomium yn dweud hyn wrthym ni tra bod hanesion yr Hen Destament yn dweud rhywbeth cwbl wahanol.

Mae Dafydd yn ddisgynnydd llosgach ddwywaith gan fod ganddo waed y Moabiaid yn ei wythiennau ac eto mae’n Frenin Israel ac yn llais gweddi Israel ar Dduw. Yn Efengyl Matthew, caiff Tamar a Ruth eu henwi yn llinach y Meseia, heb sôn o gwbl y dylai llosgach a gwaed y Moabiaid wahardd Iesu rhag cymryd rhan yn y gymuned addoli, ac yn sicr ei wahardd rhag bod y Meseia. Mewn geiriau eraill, mae’r Ysgrythur ei hun yn cefnogi cynnwys yn llwyr y sawl y mae testunau ysgrythurol eraill wedi eu dynodi yn wrthun.

Yn Actau’r Apostolion, mae Pedr yn dechrau ymgysylltu â Chenedl-ddynion ac yn eu bedyddio, mae’n anufuddhau yn uniongyrchol i’r gwaharddiad beiblaidd yn Lefiticus i beidio ag ymwneud o gwbl â phobl o dras arall am eu bod yn aflan. Rhoddir Cod Sancteiddrwydd Lefiticus o’r neilltu o blaid credu mewn Duw sy’n derbyn pobl aflan.

Dyma enghraifft arall yr wyf wedi cyfeirio ati o’r blaen.

Mae Deuteronomium 23:1-4 yn dweud:

“Nid yw neb sy’n eunuch i fynychu cynulleidfa’r Arglwydd”.

Ond yn Eseia 56:4-5 mae’r proffwyd yn dweud:

“I’r eunuchiaid sy’n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i’m muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched”.

LLE’R EUNUCH YN Y BEIBL

Yn olaf, yn Actau’r Apostolion pennod 8:38 mae hanes yr apostol Philip sy’n bedyddio eunuch o Ethiop.

Yn ôl Deuteronomium, mae eunuchiaid yn wrthun gan Dduw ac nid oes croeso iddyn nhw addoli oherwydd eu deuoliaeth rywiol ac oherwydd bod ganddynt enw o fod yn cael rhyw goddefgar gyda dynion eraill. Mae’r proffwyd Eseia yn anghytuno ac yn dweud y cânt eu derbyn a’u bendithio gan Dduw, hyd yn oed yn fwy na’r Iddewon, pobl ddethol Duw. Ac mae hyn i gyd yn cael ei wireddu yn Actau’r Apostolion pan welir Philip yn bedyddio eunuch o Ethiop sydd wedi bod i Fynydd Seion yn Jerwsalem i addoli. Mae’r eunuch, ffigwr gwrthodedig yn ôl Deuteronomium, yn awr yn dod yn dderbyniol i Iddewiaeth ac i Eglwys Crist hefyd.

philipRoedd yr Iddewon yn casáu tramorwyr a gwyredigion rhywiol yn arbennig am nad oedden nhw’n cynhyrchu plant. Er hynny, mae eunuch o Ethiop yn cael ei dderbyn gan Philip a’i werthfawrogi fel unigolyn o’r iawn ryw ac nid yw ei dras na’i rywioldeb yn cyfrif yn ei erbyn. Mae Eseia yn rhoi gwaharddiadau Deuteronomium o’r neilltu gyda’i gyfreithiau o sancteiddrwydd a phurdeb ac mae’r Testament Newydd yn mynd gam ymhellach ym mherson Philip trwy fod yn barod i fedyddio eunuch.

NEWIDIADAU O RAN DEALLTWRIAETH

Mae hyn i gyd yn dangos bod yr Ysgrythurau eu hunain yn cynnwys newidiadau sylfaenol o ran dealltwriaeth yn yr hyn mae dirnad ewyllys Duw yn ei olygu. Yn sicr, nid yw dyfynnu testunau o rannau o’r Beibl mewn modd simplistig heb gyfeirio at eu cyd-destun yn gwneud y tro o gwbl. Mae’n rhaid i rywun drin y Beibl yn ei gyfanrwydd a dirnad, yn aml trwy’r hanesion, i ba gyfeiriad y mae’n symud. Mewn geiriau eraill, mae’r Ysgrythur Sanctaidd nid yn unig yn cynnwys gorchmynion moesegol ond hanesion hefyd, ac mae’r hanesion yn cyfleu gwirionedd am ddealltwriaeth pobl o Dduw. Wedi’r cyfan, treuliodd Iesu’r rhan fwyaf o’i fywyd yn adrodd damhegion er mwyn i bobl ddeall natur a chymeriad Duw.

Meddai George Herbert yn un o’i gerddi wrth sôn am yr Ysgrythurau:

“Oh that I knew how all thy lights combine,
And the configurations of their glory!
Seeing not only how each verse doth shine,
But all the constellations of the story.”

Mae angen ystyried pob un o elfennau’r stori.

Mae’r holl enghreifftiau rwyf wedi eu rhoi yn dangos nad oes un ddealltwriaeth sefydlog o’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am nifer o bynciau ac o’i ddarllen fel cyfanwaith, gall newid safbwynt rhywun yn llwyr.

CAETHWASIAETH

Gadewch i mi roi enghraifft arall i chi sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Mae’r Beibl yn dweud llawer am gaethwasiaeth. Roedd gan Abraham gaethweision ac yn ôl Genesis 24:35, bendithiodd Duw ef gan roi caethweision gwryw a benyw iddo. Cipiodd Joshua, Dafydd, a Solomon bobl i fod yn gaethweision ar orchymyn Duw. Mae’r Deg Gorchymyn yn cymryd yn ganiataol y bydd gan bobl gaethweision ac mae’r proffwydi yn siarad am drin caethweision yn deg. Nid oes dim yn yr Hen Destament i ddweud bod caethwasiaeth mewn unrhyw fodd yn anfoesol a bod angen dileu’r arfer. Nid oedd Iesu chwaith wedi condemnio caethwasiaeth yn Ei ddamhegion ond eu trin fel petaent yn ffenomen naturiol. Mae Paul yn dweud wrth gaethweision am ufuddhau i’w meistri.

Felly, mae cefnogaeth feiblaidd sylweddol i gaethwasiaeth. Ydy, mae’n wir fod meistri’n cael eu cymell i’w trin nhw’n dda ond fel sefydliad mae’n cael ei ystyried yn rhywbeth da. Yn wir, yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd rhai Cristnogion yn pledio dadleuon a oedd yn seiliedig ar destunau beiblaidd o blaid bod yn berchen ar gaethweision.

martinique-206916_960_720Felly, pam y dilëwyd caethwasiaeth o ystyried y gefnogaeth ysgrythurol sylweddol a oedd o blaid hynny? Pam – oherwydd pe baech chi’n darllen yr Ysgrythurau yn eu cyfanrwydd, maen nhw yn erbyn gormes, gorthrwm a chamdriniaeth. “Y mae wedi fy anfon,” meddai Iesu yn Efengyl Luc “i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd”.

Felly, er gwaethaf yr holl ddarnau sydd o blaid caethwasiaeth, wrth fynd ati i archwilio’r Ysgrythurau yn eu cyfanrwydd a gweinidogaeth Iesu yn benodol, rydych chi’n sylweddoli eu bod yn siarad am ryddid oddi wrth bopeth sy’n bychanu ac yn dad-ddyneiddio pobl. Gobeithio na fyddai’r un Cristion heddiw yn dadlau mai peth da yw caethwasiaeth, ond am bedair canrif ar bymtheg, roedd yr Eglwys yn derbyn ac yn amddiffyn yr arfer; mae Duw trwy ei Ysbryd Glân wedi ein harwain at y gwirionedd o weld pethau mewn ffordd gwbl wahanol heddiw ac mae darllen am bobl sydd wedi cael eu cadw yn gaethweision gan eraill yn codi arswyd arnom.

YR YSGRYTHUR YN AMRYWIOL

Y cyfan y mae hyn yn ei ddatgelu yw na allwn ddadlau bod un ffordd draddodiadol dderbyniol o ddehongli’r Ysgrythur sy’n wir ac uniongred ac mai glastwreiddio modern, sy’n cael ei gyflyru gan ddiwylliant yw popeth arall. Mae’r Ysgrythur ei hun yn amrywiol ac mae safbwyntiau diwinyddol rhai llyfrau beiblaidd yn cael eu hadolygu yng ngoleuni profiadau ysgrifenwyr eraill.

Fel y dywedodd Iesu yn Efengyl Ioan: “Y mae gennyf lawer eto i’w ddweud wrthych, ond ni allwch ddal y baich ar hyn o bryd. Ond pan ddaw ef, Ysbryd y gwirionedd, fe’ch arwain chwi yn yr holl wirionedd; oherwydd nid ohono’i hun y bydd yn llefaru, ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a’r hyn sy’n dod y bydd yn ei fynegi i chwi”. Ioan 16:2-13

pope_francis

Y Pab Ffransis

Neu i ddyfynnu’r Pab Francis yn Synod yr Esgobion y llynedd: “Y demtasiwn yw anhyblygrwydd gelyniaethus, a chau eich hun yn y gair ysgrifenedig (y llythyren) a pheidio â gadael i chi’ch hun gael eich synnu gan Dduw, y Duw sy’n llawn syndod, yr Ysbryd”.

 

Felly mae cymryd y Beibl yn ei gyfanrwydd a chymryd yr hyn a ddywed yn ddifrifol iawn yn gallu ein harwain at safbwynt gwahanol iawn ynghylch perthnasau un-rhyw i’r safbwynt traddodiadol a goleddir gan yr Eglwys. Nid wyf am edrych yn fanwl yma ar y testunau y dywedir eu bod yn ymdrin â’r mater hwn – beth bynnag, nid oes llawer ohonynt i gyd. Wrth i chi eu harchwilio, y cyfan rwyf am ei ddweud yw nad ydyn nhw’n sôn am berthynas fonogamaidd, ffyddlon, gariadlon ac ymroddgar gyda phersonau o’r un rhyw, yn hytrach maen nhw’n ymwneud â rhywbeth cwbl wahanol.

SODOM A GOMORA

Mae hanesion Sodom a Gomora er enghraifft, yn gysylltiedig â chyfunrywioldeb ac mae hyn wedi creu’r gair difrïol Sodomiad, sydd mewn gwirionedd yn disgrifio camddefnydd ar letygarwch sef yr hyn y mae un awdur yn ei alw yn “haid o dreiswyr yn ceisio ymosod ar ddau ddieithryn a oedd yn westeion i Lot”. Yn wir, mae Eseciel yn dweud bod perthnasau Lot wedi cael eu cosbi’n bennaf oherwydd iddynt wrthod helpu’r tlodion a’r anghenus.

Yn y Testament Newydd hefyd, nid yw rhai o’r darnau a ddyfynnir yn aml yn sôn am berthynas ffyddlon, ymroddgar a chariadlon rhwng pobl o’r un rhyw, ond yn hytrach am bederastiaeth a phuteindra dynion. Ond ar wahân i hynny, ac o dderbyn y gellir dehongli pob darn am gyfunrywioldeb mewn mwy nag un ffordd, down at y cwestiwn sylfaenol, o gymryd y Beibl yn ei gyfanrwydd, a oes modd inni ddod i’r un casgliad am berthynas un-rhyw gariadlon, ffyddlon ac ymroddgar â’r casgliad a gafwyd ynghylch caethwasiaeth.

DEHONGLI YN GYSON Â DYSGEIDIAETH IESU

Nid ydym, trwy hyn, yn troi cefn ar y Beibl ond yn hytrach yn ceisio ei ddehongli mewn modd sy’n gyson â phrif bwyslais gweinidogaeth Iesu, a aeth yr ail filltir i weinidogaethu ymhlith pobl a oedd yn cael eu heithrio, eu gwthio i’r cyrion, a’u hanwybyddu gan Ei gymdeithas oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn aflan ac annuwiol gan arweinwyr crefyddol Ei ddydd, naill ai ar sail eu rhyw, eu hoed, eu moesoldeb neu eu rhywioldeb. Mae rhoi sylw difrifol i’r Ysgrythur Sanctaidd yn golygu rhoi sylw i weinidogaeth gynhwysol Iesu.

Ac mae hyn i gyd heb inni roi’r un ystyriaeth i’r hyn a wyddom am atyniad un-rhyw yn nhermau seicoleg a bioleg a phrofiad pobl gyfunrywiol. A diau, os mai Duw yw’r Creawdwr, mae’n Ei ddatguddio Ei hun i ni trwy wybodaeth a gweledigaeth newydd fel nad oes angen, er enghraifft, i ni gredu bellach fod y byd wedi ei greu mewn chwe diwrnod. Fel rwyf wedi ceisio ei ddangos, mae’r Beibl yn cynnwys nifer o safbwyntiau cwbl wahanol ar yr un mater. Yr hyn a fu’n gyfrifol am y newidiadau hyn oedd twf mewn dealltwriaeth am y mater dan sylw.

Felly, i’r cenedlaethau a fu, ystyrid arfer cyfunrywiol yn fethiant moesol am nad oedd gan bobl ddealltwriaeth o rywioldeb dynol a’r ffordd y mae bodau dynol wedi eu creu yn fiolegol, yn seicolegol ac yn gymdeithasol. Felly, iddyn nhw, anhwylder ydoedd. Erbyn hyn, gwyddom nad dewis personol yw tueddfryd rhywiol, ond yn hytrach, yr hyn ydyw pobl, a dylai hynny wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydyn ni’n gweld pethau.

Yn y gyfrol wych “Amazing Love”, ysgrifennodd y golygydd, Andrew Davison, y geiriau canlynol:

amazing-love“Rydyn ni’n fwyaf triw i ni’n hunain pan fyddwn ni’n byw er mwyn eraill ac rydyn ni’n cael bywyd buddiol nid trwy gydio’n dynn ynddo ond trwy ei roi i eraill. Mae byw er mwyn eraill yn tanlinellu ystyr eithaf rhywioldeb. Mae Cristnogion wedi gweld bod pobl yn ffynnu ar eu gorau pan fo’r bywyd hwn er mwyn eraill yn canfod ffocws mewn ymrwymiad i un person arall: pan fo pâr yn gwneud ymrwymiad gydol oes sy’n rhoi lle priodol i ryw”.

Mae’r rheiny yn ein plith sydd, neu a oedd wedi priodi, wedi cael profiad o’r sefyllfa uchod. Pam y byddem ni am wrthod sefyllfa bosibl o’r fath i bobl sy’n cael eu denu at bobl o’r un rhyw â nhw eu hunain?

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Natur y Nadolig

Cyhoeddwyd yr erthygl isod yn Y Tyst ar drothwy’r Nadolig. Diolchwn i’r awdur a’r Golygydd am yr hawl i’w hatgynhyrchu yma.

Natur y Nadolig

Geraint Rees

Eleni,  am y tro cyntaf, rwy wedi sylwi ar ddadleuon diwinyddol estynedig am natur y Nadolig  ar y cyfryngau cymdeithasol cyffredin.  Neithiwr, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan un blogiwr o dde Cymru am rȏl Mair Forwyn yn yr holl stori, datblygodd trafodaeth fywiog iawn. 

phone-916392_960_720Braf yw gweld hyn, ac mae’n awgrymu i mi fod diddordeb gwirioneddol gan bobl y tu allan i’r eglwysi mewn materion ffydd. Yn aml, maen nhw’n holi cwestiynau agored, gonest. Yn anffodus, mae’r diddordeb weithiau yn cael ei ddiffodd yn gyflym iawn wrth i rai  Cristnogion ddechrau ateb cwestiynau’r holwyr gonest, agored, gydag atebion caëdig.

Yr un mwyaf hurt a welais i heddiw oedd ymateb gan Gristion trwy wefan http://www.bibleanswerstand.org/conceived.htm  Gwefan yw hon sy’n ceisio rhoi atebion ‘ysgrythurol’ i broblemau y mae pobl yn eu codi. Byddwch yn falch i ddeall mai’r esboniad am y Nadolig yw:

‘Obviously God did not use copulation to produce the motile sperm cell thru insemination.  Instead, in a haze of brilliancy His spirit surrounded Mary as He effortlessly created the male gamete cell within the fertile egg of this virgin woman.  The male gamete that God created subsisted with all the necessary DNA molecules to produce a male human being, including allelomorphic and mitochondria properties.’

Pan fo ‘gwyddoniaeth’ a darluniau cyfoethog y ganrif gyntaf yn cwrdd, cawn weledigaeth unigryw o fywyd.

christmas-crib-figures-1903954_960_720Mae cwestiynau pobl yn rhai real iawn – hyd yn oed os nad yw’r atebion yn cyrraedd y nod.  Mae’n debyg ei bod hi’n wir i ddweud fod y rhan fwyaf o Gristnogion y ganrif hon wedi llythrenoli storiau geni Iesu a welir yn unig ym Matthew a Luc, er fod digon yn y storiau i awgrymu mai nid dyna’u bwriad. 

Gwyddom nad yw’r sêr yn symud yn ddigon araf i sêr ddewiniaid allu eu dilyn ar droed, (nac hyd yn oed ar gefn camel). Dyw sêr ddim chwaith yn stopio uwchben adeiladau penodol.  Dyw pobl tramor ddim fel arfer yn teithio i dalu gwrogaeth i frenin sy’n fab i saer. Mae’n anarferol iawn i wyryf feichiogi – er mae’n debyg ei fod yn gysyniad sy’n rhan o fytholeg llawer gwlad ym Mȏr y Canoldir. Rhaid cyfaddef hefyd y byddai golwg wael iawn gyda ni heddiw ar ddyn fyddai’n mynd a’i wraig am sbin o bron i 100 milltir ar gefn asyn pan ei bod yn drwm o feichiog. 

Mae’n amlwg fod Matthew a Luc yn defnyddio’r storiau i roi bri ar y grym anarferol, hyd yn oed dwyfol ei natur,  a brofwyd ym mywyd Iesu’r oedolyn. Mae storiau’r doethion a’u gwreiddiau yn yr Hen Destament. Mae hanes Herod yn lladd y plant yn adlais o hanesion y Pharo yn lladd babanod yn yr Aifft, ac felly’n ffordd o roi statws  Mosesaidd  i’r Iesu. 

Mae grym Iesu Grist yn cael ei fynegi mewn hanesion sy’n tynnu at ei gilydd y nefoedd a’r ddaear – y sêr a’r angylion ar yr un llaw a’r llety tlawd ar y llaw arall.  

christmas-1875885_960_720Roedd cyflwyno Iesu fel Meseia yn galw am symbolau pwysig.   Roedd ei wisgo yn olyniaeth Moses ar yr un llaw (Herod fel Pharo, a’r dianc i’r Aifft) a Dafydd (Brenin Bethlehem) ar y llall yn allweddol bwysig wrth apelio at Iddewon.  Fodd bynnag, i mi y symbol pwysicaf wrth werthfawrogi’r Nadolig yw’r ymdrech a wnaed yn yr efengylau i ddweud  fod Iesu Grist i bawb.  Yn un cofnod cawn ddyfodiad y doethion crand o genhedloedd y dwyrain (nid Iddewon), ac ar yr un pryd mae’n destun addoliad i fugeiliaid (Iddewig?) garw’r bryniau uwchben Bethlehem.   

Mae’n debyg na fyddai Paul na Marc wedi clywed yr hanesion nadoligaidd – daethon nhw i fodolaeth yn y 9ed degawd, ac mae Ioan (awdur yr efengyl hwyraf i gael ei ysgrifennu) yn cyfeirio ddwywaith at Iesu fel mab Joseff.   Mae’r hanesion fel y’u cyflwynir i ni yn ceisio esbonio mawredd yr Iesu a greodd y fath gyffro mewn pobl.  Y cyffro hwnnw sy’n dal i danio calonau pobl ar draws y byd.  Gwae ni os collwn y ddawn o adael i’r symbolaeth siarad â ni wrth i ni lythrenoli’r storiau tu hwnt i grebwyll.   Ein her ni yw eu hadrodd mewn ffordd sy’n gadael i’w gwirioneddau cyfriniol ein hysbrydoli, gan obeithio y caiff y rhai sydd heb eto eu geni  fyw mewn byd fydd yn dal i brofi’r rhin arbennig hwnnw. 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

 

Myfyrdod ar y Colect am Burdeb

Myfyrdod ar y Colect am Burdeb

Walter Brueggeman

Walter Brueggemann

I Ti y mae pob calon yn agored,
pob dymuniad yn hysbys, a phob dirgel yn amlwg;
glanha feddyliau ein calonnau trwy ysbrydoliaeth dy Lân Ysbryd,
fel y carom di yn berffaith a mawrhau’n deilwng dy enw sanctaidd;
trwy Grist ein Harglwydd.
 

                 banner-949932__340  
                          'I Ti y mae pob calon yn agored'

Dywed y gweinidog, ‘I ti y mae pob calon yn agored ...’
ac yna mae’n bwrw ’mlaen i’r cymal nesaf,
ond beth am oedi yn y fan hon am ychydig a phendroni 
am ein calonnau ...
            man ein teimladau dyfnaf o gariad a defosiwn,
            a gwae.
            Y darn o gnawd sy’n ein cynnal yn fyw,
            y galon yn aml sy’n gwneud ein penderfyniadau,
             y man sy’n rhoi prawf ar ein dilysrwydd.
Yno daw curiad o ddyhead am cyswllt â thi –           
            A chael calon agored.
            Nid bob amser yn agored chwaith – a hynny o fwriad,
oherwydd fe garem weithiau
            gau ein calonnau, ein meddyliau a’n dwylo.
Ond maen nhw ar agor, am na all ein calonnau
wrthsefyll dy ofal a’th alwad cyson.
Ond mae ein calonnau’n agor i ti, wir Dduw.
            Ti yw’r un a’n lluniodd fel bod ein
            calonnau’n aflonydd
            nes ymlonyddu ynot ti.
Gwna dy waith annirnad a mawreddog ynom ni –
y gwaith o blannu duwdod ynom ni,
yn ein calonnau i
adennill,
            adnewyddu,
            adfywhau
fel y cawn fynd o’th bresenoldeb wedi ein
            trawsblannu
            trawsnewid,
            trawsffurfio
a thrwy dy sylwgarwch di (ac mae ofn hwnnw arnom)
fod yn agored i dderbyn
yn onest a diamddiffyn
a hynny heb ofni ymroi i ufudd-dod.
Gad i guriad ein calon guro nawr
yn ôl goslef dy reol di;
rho orchymyn ac fe ufuddhawn,
goruwchlywodraetha ac fe ildiwn,
arwain ac fe ddilynwn ôl dy droed
i fannau na feddylion ni erioed am fynd iddyn nhw.
I ti,
nid i’n gilydd
nac i’n hoff brosiectau
nac i’n hoff elusen na’n pennaf serch,
i ti ... y mae ein calonnau’n agored.
Eiddot ti ydym; bydd yn Dduw i ni – eto fyth.

praying-1319101_960_720                             ‘Pob dymuniad yn hysbys ...’

Dywed y gweinidog, ‘Hollalluog Dduw, i ti y mae ... 
pob dymuniad yn hysbys’
ac fe ruthrwn ymlaen i’r cymal nesaf.
Ond gadewch i ni oedi yn y fan hon.
Creaduriaid ydyn ni â lleng o ddymuniadau’n llechu ynom.
Pan glywn am chwant, meddwl am ryw a wnawn ni
a chawn ein gyrru gan rywioldeb (peth da yn dy olwg di),
ond ein bod ni yn ei ofni ac yn ei lurgunio.
Mae ambell un ohonon ni wedi crebachu mewn rhywioldeb
a phrin yn medru cofio chwennych.
Ond mae’r gair chwennych yn estyn yn ddwfn ac ymhell –
ambell un ohonon ni’n ffeirio arian am ryw
             a byth yn cael digon ohono.
Ambell un yn ofidus ac yn chwennych medru rheoli,
rheoli ein hunain a phopeth arall;
ambell un mor llawn casineb a chwerwder
fel mai ei bennaf chwant yw gweld dymchwel ei elynion;
                        hen fygwth cystadleuol brawd a chwaer,
                        cariad wedi troi cefn,
                        cystadlu, ymryson,
                        ag Arab neu Iddew neu Sais,
                        Comiwnyddion neu hoywon.
Ymegnïwn i gadw trefn ar ein chwantau
            a’u meithrin, buddsoddi ynddyn nhw, eu cadw nhw o’r golwg.
Ond rwyt ti’n gwybod, ac wrth fod yn bresennol gwyddost 
sut i newid ein chwantau,
oherwydd yn dy bresenoldeb di mae ein chwantau’n colli eu grym.
A daw’n bosibl i ni dderbyn dy gariad unwaith eto,
dy gofleidio cryf,
dy alwad cyson,
ac yna cawn ninnau adnabod ein chwantau hunanfoddhaus.
Y salmydd sy’n torri ar ein traws i ddweud:
‘Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond tydi?
Ac nid oes dim ar y ddaear yr wyf yn ei chwennych yn fwy na thi.’
Gwnaethost ni i dy chwennych di yn unig,
ti, ein dechrau a’n diwedd,
ti, ein bwyd a’n gorffwys
ti, ein llawenydd a’n llonyddwch.
Tro ni i ffwrdd oddi wrth ein chwantau a’r obsesiynau chwerw.
Cymer ein beichiau fel y cawn adnabod ein gwir ddymuniad
a diweddu mewn cymundeb â thi –
ti, sy’n ein chwennych ni,
yn disgwyl, disgwyl cael bod yn gyfaill ac yn waredwr i ni.

hands-1926414_960_720                            ‘A phob dirgel yn amlwg’

Dywed yr offeiriad, ‘Hollalluog Dduw, i ti y mae ... 
pob dirgel yn amlwg ...’
a dyma ni’n rhuthro at y cymal nesaf – ond yn oedi yma nawr.
Mae gennym ni sachaid o gyfrinachau;
fe fyddwn yn gweu patrwm o gelwydd er mwyn i bobl ein parchu ni.
Awn ati i dwyllo gan fethu bod yn onest;
cariwn hen gyfrinachau sy’n rhy boenus i’w hyngan,
rhy gywilyddus i’w cydnabod,
rhy drwm i’w dioddef,
methiannau na allwn eu dad-wneud,
gelyniaeth yr ydym yn edifar amdani,
a rhyw ddangos ein hunain na fedrwn ei reoli.
Ac fe wyddost ti am y cwbl.
Felly, rhown ochenaid fawr yn dy bresenoldeb,
 lle does dim angen cogio a chuddio a gwadu.
Gan amlaf, nid pechodau mawr sydd gennym i’w cyffesu,
dim ond mân bethau sy’n ein cywilyddio,
sy ddim yn gweddu i’n gobeithion drosom ein hunain.

Ac yna, rydyn ni’n darganfod bod dy adnabod di 
yn drech na’n cyfrinachau ni.
Rwyt ti’n gwybod heb droi i ffwrdd,
ac mae’r cyfrinachau oedd yn ymddangos mor beryglus
yn colli eu grym,
a chyfrinachau oedd yn teimlo mor drwm
yn llai bygythiol bellach.
Rwyt ti’n ein hadnabod mor dda,
yn dal i aros gyda ni,
yn ein cymryd o ddifri ...
ond ddim yn ormodol felly, gan
drechu ein methiannau bach â’th gariad anferthol
a’th amynedd di-ben-draw.

Dyhëwn am gael ein dinoethi yn llwyr,
yn onest i’th edrychiad tyner di.
Wrth i ti ein hadnabod, cawn ein hesmwytháu a’n hysgafnhau.
Mae rhyw don o lawenydd yn symud yn ein cyrff,
oherwydd nid eiddom ni ydym wrth inni ymostwng,
ond dy eiddo di mewn cymundeb.

Eiddot ti ydym wrth ddarganfod bod cyflwyno’r gwir ger dy fron 
yn ein rhyddhau,
yn ein rhyddhau i ryfeddu, i garu a moli – ac i fyw o’r newydd.

Dynwarediad o weddïau gan Walter Brueggeman yn 
Prayers for a Privileged People
 (Abingdon, 2008); ISBN13: 978-0-687-65019-4.

Crist Gorllewinol a Chul

Crist Gorllewinol a Chul

Vivian Jones

Bob Nadolig, rhyfeddaf fod geni un baban wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Ond tristâf hefyd am nad yw Cristnogion wedi gadael iddo wneud mwy o wahaniaeth. Soniaf am un ffordd y rhwystrwyd ei effaith gennym, sef culni affwysol ein gorwelion.

andrew_f-_walls

Andrew F. Walls

Un o’n proffwydi cyfoes yw Andrew Walls, cyn-genhadwr a fu’n Athro ym Mhrifysgol Caeredin ar Gristnogaeth y Byd Anorllewinol. Wrth ei waith gwelodd o’r newydd Gristnogaeth y Byd Gorllewinol, ac un o’i ddywediadau yw: ‘For decades the God that theological students in the West have been taught about has been a territorial and denominational Baal.’! Pa ddydd, galwodd y cylchgrawn Christian Century Walls ‘the most important man you may not know’, a rhoddodd Prifysgol Hope yn Lerpwl ei enw ar adeilad a godwyd ganddi ar gyfer ymchwil Cristnogol.

 

Cefais seiliau diwinyddol da ond cyfyng yng Nghymru. Bu’r un peth yn wir wedi gadael. O leiaf astudiais dri chyfnod eglwysig yn y coleg, ond braidd na chlywais ond am Anghydffurfiaeth Annibynnol yn y weinidogaeth. Y mae ihwnnw ei le heddiw, a ni, Annibynwyr, sy’n gyfrifol amdano, ond gresyn na bai rhai ohonom wedi ymchwilio i draddodiad arall (fel y gwnaeth Rowan Williams) neu’n bod wedi cael ambell sgwrs, mewn cwrdd chwarter dyweder, gan ysgolhaig o enwad arall am ei enwad ef. Dyna hanes pob enwad Cymreig.

Ni chawsom eto wared ar gulni enwadol yng Nghymru, ond mae culni Cristnogol lletach yn ein cyfyngu – beth wn i am gyd-Gristnogion yn Asia? Mae rhwyg 1054 rhwng Eglwys y Gorllewin ac Eglwys y Dwyrain yn parhau; ni fyddwn hyd yn oed yn dathlu’r Pasg ar yr un dyddiad.

Mae a fynno llawer o’n culni yn y Gorllewin â’r ffaith ein bod yn Orllewinol falch. Gellid dadlau bod lle gennym i ymfalchïo, â chynifer o sylfeini ein byd cyfoes a’u gwreiddiau yn y Gorllewin – fel gwybodaeth yn gyffredinol, gwyddoniaeth, a diwydiant.

yuval_noah_harari_photo

Yuval Noah Harari

Mae Yuval Harari, o Libanus, Athro Hanes y Byd ym Mhrifysgol Jerwsalem, wedi dangos y datblygiad hwnnw yn ei lyfr Sapiens: A Brief History Of Humankind (2011), llyfr sy’n croesi’r byd; meddyg o Awstralia a yrrodd gopi ataf fi.

Aiff  pwyslais Cristnogaeth ar y byd gorllewinol yn  ôl mor bell â’r Testament Newydd. Pan wasgarodd dilynwyr cynnar Iesu, aeth rhai i’r Gorllewin ac eraill i’r Dwyrain, ond oherwydd blaenoriaeth cenhadaeth Paul i eglwysi gorllewinol yn y Testament Newydd – Rhufain, Corinth, Effesus ac ati, Cristnogaeth y Gorllewin piau hi o’r dechrau yn y meddylfryd Cristnogol.

Mae’r flaenoriaeth Orllewinol yn y meddylfryd Cristnogol yn ddwfn ac eang. Mae’n lletach na Christnogaeth ffurfiol; mae’n ymwneud â’r ‘diwylliant Cristnogol’ a’i effaith ar y diwylliant Gorllewinol yn gyffredinol, a’n perthynas ni Gristnogion Gorllewinol felly â phobl dduon a phobl y Dwyrain Canol, ac â’r Iddewon, wrth gwrs.

Bu rhaglenni teledu’n ddiweddar yn ymwneud â düwch croen. Roedd un am chwaraewyr pêl-droed proffesiynol, duon, yn rhannu straeon am adwaith gwylwyr tuag atynt ’slawer dydd. Yr oedd y straeon yn oeri’r gwaed. Epil  y diwylliant  ‘Cristnogol’ Gorllewinol oedd y gwylwyr hynny. Ac mor aml y darluniwyd Iesu yn hwnnw fel Gorllewinwr.

cristo_redentor_vendo_po_de_aucarBob diwrnod yn ystod y gemau Olympaidd diweddar ym Mrasil,  gwelem ar y teledu y ddelwedd o Iesu ar ben Corcovado, y pinacl sy’n codi dros Rio. Mae’n dda gan lu, mae’n siŵr, godi eu llygaid a chael eu hatgoffa o Grist y Gwaredwr, yn codi’n uwch na meidrolion, a’i ddwylo’n croesawu pawb. Ond ‘does fawr o debygrwydd rhwng y ddelwedd  a Iesu hanes. Gall haneswyr ddangos nad oedd dynion y cyfnod hwnnw mor dal ag yr awgryma’r cerflun, a wyneb Ewropead sydd iddo.

Bu’n naturiol ers tro i Gristnogion ledled byd ddylunio Iesu fel un o’u hil hwy, yn rhannol efallai mewn adwaith i’r gorddefnydd o ddelweddau Ewropeaidd ohono drwy hanes. A gafodd delweddau o Iesu Ewropeaidd effaith niweidiol? A fyddai’r Croesgadau, sy’n dal ar gof y Dwyrain Canol, wedi bod yn llai dieflig pe bai cof diwylliannol yn y Gorllewin mai Iddew oedd Iesu? Dywedodd Luther fod pawb sy’n llosgi synagog yn gwneud ffafr â Duw! Yr oedd gwrth-Iddewiaeth yng ngwead yr Almaen Gristnogol ymhell cyn i Hitler godi.

Rhai blynyddoedd yn ôl, daeth archeolegwyr ar draws llawr tŷ o deils ym Mhalestina, ac arno lun o’r hyn a dybient oedd Iddew o’r ganrif gyntaf. Dangosodd y cylchgrawn Americanaidd Time y darlun ar ei ddalen flaen: dyn byr, croendywyll ac â gwallt du, mân, cyrliog. Cododd Time y cwestiwn: ‘Ai un fel hyn oedd Iesu?’ Ymateb un Americanes oedd nad oedd hi ddim eisiau Arglwydd a edrychai fel dyn na allai fynd drwy ‘airport security’!

Mae’n tuedd ni, Orllewinwyr, i wneud Iesu yn ddyn sy’n ein plesio’n hiliol wedi gorlifo  i’n meddwl ni am ei osgo a’i neges. A ninnau’n bustachu am ryddfrydiaeth a ffwndamentaliaeth, mae Cristnogion y Gorllewin yn lleihau mewn rhif a Christnogion y Dwyrain yn lluosogi – Corea, De America, a’r Affrig yn fannau tyfiant amlwg. Ond nid mater o rif yn unig mohono. Mae Cristnogaeth yn newid. Daw Cristnogion o’r Dwyrain  i astudio yng ngholegau gorau’r Gorllewin, a chael yr hyder i anghytuno ag ysgolheigion y Gorllewin, gan gyflwyno gwybodaeth a safbwyntiau Dwyreiniol – ynghylch hanes cenhadaeth i ddechrau. Bu’n gred yn y Gorllewin mai gwynion aeth â’r efengyl i’r Affrig, ond nid gwynion aeth â’r efengyl i Liberia, i enwi un lle’n unig, ond duon dysgedig nad oedd gwynion America eu heisiau yn eu gwlad wedi’r rhyfel cartref.

Ysgrifennodd Athro Hanes Eglwysig o Iâl, Kenneth Latourette, hanes yr eglwys mewn chwe chyfrol, (1965),  ond dibynnodd yn ormodol ar dystiolaeth cenhadon gwyn. (Nid felly Diarmaid MacCullogh, Athro o Rydychen, yn ei lyfr, A History of Christianity (2009), campwaith y dylai pob pregethwr ei ddarllen o glawr i glawr.)

history-of-xtianity

Caiff rhai o’r myfyrwyr Cristnogol o’r Dwyrain sy’n dod i’r Gorllewin i astudio gynnig cadeiriau yn y Gorllewin mewn Hanes Eglwysig, ond yn aml eu dewis hwy yw teitl fel Athro Hanes Cristnogaeth Byd-eang. Ac ysgrifennant lyfrau diwinyddol gwahanol iawn i’r rhai unffurf sydd wedi bwydo Cristnogaeth y Gorllewin ers sawl cenhedlaeth nawr, hyd at ddiffyg traul meddyliol weithiau? – y mwyafrif o ffynhonnell gyfyng, sef awduron gwyn, gwrywaidd, dosbarth canol, academaidd, o’r Almaen neu’r Swistir!

Cofiaf ddarllen erthygl gan athronydd o wlad anOrllewinol. Nododd ynddi na allai ei iaith frodorol ef fynegi’r brif broblem feddyliol a boenodd athroniaeth y Gorllewin ers cenedlaethau. Efallai y daw goleuni diwinyddol cwbl newydd i ni, Gristnogion Gorllewinol balch, oddi wrth Gristnogion anOrllewinol y mae eu hanes a’u profiadau sylfaenol o’r efengyl mor wahanol i’n rhai ni. Dyna fyddai bendith.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

 

Duw yn y Pethau Hysbys

Duw yn y Pethau Hysbys 

Dietrich Bonhoeffer

Mae’r gyfrol Golwg y Byd ar Ffiseg gan Weizsäcker yn fy nghadw’n brysur iawn. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli’n glir iawn mor anghywir yw defnyddio Duw i lanw bwlch yn ein gwybodaeth.

bonhoeffer

Dietrich Bonhoeffer

Os yw ffiniau gwybodaeth yn cael eu gwthio’n bellach ac yn bellach allan, ac mae’n rhaid mai felly y mae hi, yna mae Duw yn cael ei wthio ymhellach i ffwrdd gyda nhw ac felly’n gyson yn mynd ymhellach oddi wrthym. Fe ddylem ddod o hyd i Dduw yn y pethau yr ydym yn eu gwybod, nid yn y pethau nad ydym yn eu gwybod; dymuniad Duw yw i ni sylweddoli’r presenoldeb dwyfol nid yn y problemau sydd heb eu datrys ond yn y rhai sydd wedi cael eu datrys.

Mae hynny’n wir am y berthynas rhwng Duw a gwybodaeth wyddonol, ond mae’n wir hefyd yn y problemau dynol ehangach – angau, dioddefaint ac euogrwydd.

 

Teyrnged i John Heywood Thomas

Rhidian Griffiths sy’n pwyso a mesur y gyfrol Dirfodaeth, Cristnogaeth a’r Bywyd Da: ysgrifau John Heywood Thomas a olygwyd gan E. Gwynn Matthews a D. Densil Morgan (Astudiaethau Athronyddol; 5) (Y Lolfa, 2016). ISBN 978-1-78461-268-9. £6.99

Cyfrol Deyrnged i John Heywood Thomas

Adolygiad Rhidian Griffiths

Gan iddo dreulio ei yrfa academaidd y tu allan i Gymru, efallai nad yw enw’r Athro John Heywood Thomas mor adnabyddus i leygwyr ag y dylai fod. Eto i gyd, dyma Gymro Cymraeg sy’n haeddu ei gyfrif yn un o ddiwinyddion athronyddol praffaf ei gyfnod, a phriodol iawn yw casglu ynghyd rai o’i ysgrifau athronyddol a diwinyddol yn deyrnged iddo ym mlwyddyn ei ben blwydd yn 90 oed.

heywood-thomas-john1-e1440687272579

John Heywood Thomas

Yn frodor o Lwynhendy, fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanelli, Coleg y Brifysgol Aberystwyth, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin, Prifysgol Caergrawnt, a’r Union Theological Seminary yn Efrog Newydd, lle bu’n astudio wrth draed yr enwog Paul Tillich a Reinhold Niebuhr. Bu’n dysgu ym Mhrifysgolion Durham, Manceinion a Nottingham, a chyhoeddodd nifer o lyfrau pwysig a dylanwadol, gan gynnwys astudiaethau arloesol ar Søren Kierkegaard, yr athronydd o Ddenmarc. Er i’w yrfa fynd ag ef i brifysgolion yn Lloegr, cadwodd ei gariad at Gymru a’r Gymraeg, gan gyhoeddi yn ei famiaith pan gâi gyfle, ac wedi ymddeol, dychwelodd i Gymru i fyw, ar Ynys Môn i ddechrau a bellach ym Mro Morgannwg.

Ceir cyflwyniad byr gan Densil Morgan sy’n amlinellu gyrfa a chyfraniad John Heywood Thomas, a chwech o ysgrifau a luniwyd yn wreiddiol yn Gymraeg. Mae rhai ohonynt wedi ymddangos o’r blaen, yn Efrydiau Athronyddol, Diwinyddiaeth a’r Traethodydd, a’r lleill heb weld golau dydd tan nawr. Ac mae’r teitl yn adlewyrchu ystod y themâu a geir o fewn y gyfrol, lle y trafodir syniadau dirfodol am fywyd yn ogystal â’r meddwl Cristnogol.

dirfodaethFel lleygwr nad yw’n athronydd nac yn ddiwinydd, rhaid dweud imi gael blas ar yr ysgrifau hyn. Er bod eu harddull yn academaidd, nid ydynt yn rhy hir nac yn rhy drwm, ac mae’r iaith a’r ymresymu yn glir ac yn gadarn. Yn yr ysgrif gyntaf, ‘Sut mae byw y bywyd da? Yr ateb dirfodol’, er enghraifft, ceir ymdriniaeth loyw â syniadaeth Heidegger a Sartre sy’n pwysleisio gwerth y cwestiwn ‘Sut mae byw y bywyd da?’, pa ateb bynnag a roddwn iddo. Agorir yr ysgrif ar ‘Syniadau dirfodol am farwolaeth’, ysgrif heb ei chyhoeddi o’r blaen sy’n trafod ac yn ymwrthod â syniadau Heidegger ar y pwnc, gyda brawddeg ogleisiol sy’n tynnu sylw’r darllenydd yn syth: ‘Er nad gwlad o grefyddwyr yw Cymru bellach, yn rhyfedd iawn ymddengys fod y mwyafrif yn credu mewn anfarwoldeb o hyd’ (t. 28). Ac wrth ddadlau bod ‘rhamantu marwolaeth yn dibrisio bywyd’ (t. 40) mae’r awdur yn galw sylw at berthnasedd y gred Gristnogol yn atgyfodiad y person. Dyma drafodaeth sy’n amserol iawn yn wyneb y ddadl gyfoes am gymorth i farw. Ceir hefyd ysgrif werthfawr ar agwedd ar athroniaeth Kierkegaard, sef ‘Kierkegaard ar grefydd fewnol’, sy’n dangos fel y mae Kierkegaard yn personoli ffydd o ran yr unigolyn ond hefyd yn pwysleisio perthynas yr unigolyn â gwrthrych ffydd, a’r cysylltiad agos rhwng y ddau: ‘Ni ŵyr neb sut i ddefnyddio’r gair “Duw” ond y sawl a gymer naid ffydd … dewis o ewyllys rydd yw ffydd, rhywbeth na ellir, yn rhinwedd y sefyllfa, ei gadarnhau yn hollol a thrwy brawf rhesymegol’ (t. 59–60). 

cyflwyniad1Amheuthun hefyd yw’r drafodaeth a geir yn yr ysgrif ‘Yr ymchwil am ddiwinyddiaeth fyd-eang’, sydd eto heb ei chyhoeddi o’r blaen, ac yn trafod syniadaeth Wilfred Cantwell Smith yn ei gyfrol Towards a World Theology. Dadl Heywood Thomas yw fod athrawiaeth y Drindod yn ganolog i ‘[d]dealltwriaeth drwyadl Gristnogol a Christ-ganolog o ddiwinyddiaeth y crefyddau’ (t. 81), a bod y term ‘datguddiad’ yn golygu llawer mwy na chrefydd. Diwedda’r drafodaeth hon trwy ddyfynnu barn Tillich mai ‘rhywbeth sy’n ymestyn y tu hwnt i grefydd yw’r ymchwil am ffydd fyd-eang’ (t. 83), geiriau sobreiddiol a pherthnasol iawn mewn byd sydd fel petai’n symud fwyfwy at ddiffiniadau caethiwus ac anoddefgar o safbwyntiau crefyddol. A’r un mor gyfoethog yw’r dadansoddiad a geir yn yr ysgrifau eraill: ‘Myth a symbol mewn crefydd’ a ‘Perthynas hanes crefydd ag athroniaeth crefydd’. Atodir rhestr ddefnyddiol o ysgrifau a phenodau Cymraeg John Heywood Thomas a ymddangosodd mewn cylchgronau rhwng 1954 a 2015.

Y mae’r gyfrol hon, sy’n adlewyrchu trigain mlynedd o astudio, dadansoddi ac ysgrifennu gan yr awdur, yn ychwanegiad teilwng i’r gyfres Astudiaethau Athronyddol. Mae’n deyrnged haeddiannol i’r gwrthrych, ac yn haeddu ei darllen a’i thrafod yn eang.

Diolch am Gymro Cymraeg sydd wedi gwneud cyfraniad mor arbennig yn ei faes.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.

Cristnogaeth Sgeptigol

Cristnogaeth Sgeptigol – Robert Reiss

Tipyn o siom oedd clywed am salwch yr Esgob John Spong. Ar ei daith yr oedd i fod i siarad â phobl C21 yn y de. Y cynllun oedd y byddai’n cynnal cynhadledd dros ddau ddiwrnod arall  yng Nghymru yn seiliedig ar ei gyfrol ddiweddaraf, ac (yn ei eiriau ei hun) ‘efallai ei gyfrol olaf’, Biblical Literalism: a Gentile Heresy.

Yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, yr oedd y gynhadledd i fod.

gladstone

Llyfrgell Gladstone, Penarlâg

Nid hawdd fyddai i’r llyfrgell ddod o hyd i rywun i gymryd lle Jack Spong ar fyr rybudd, ond yn Robert Reiss yr oedden nhw’n galw ar un oedd newydd gyhoeddi cyfrol fwy cyffredinol ei chynnwys, sef Sceptical ChristianityExploring Credible Belief (Jessica Kingsley Publishers, ISBN 978 1 785929622).

Gŵr wedi ei fagu yn sŵn diwinyddion y 60au a’r 70au yw Robert Reiss, a ymddeolodd yn ddiweddar o swydd Canon Drysorydd yn Abaty Westminster. Peth naturiol i rywun a ddatblygodd ei ffydd wrth ddarllen John Robinson a David Jenkins oedd meddwl am y pynciau sy’n dal i boeni selogion Cristnogaeth21. Dyma’r pynciau a drafodwyd yn llyfr diweddar Aled Jones Williams a Chynog Dafis, Duw yw’r Broblem.

robert-reiss

Robert Reiss

Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Spong a Reiss ydi eu personoliaeth! Dyn mwyn a thawel ydi Bob Reiss. Mae Spong, medden nhw, yn ŵr hynaws tu hwnt, ond mae ei ysgrifennu’n fachog a hyd yn oed yn ymosodol am ei fod yn delio ag Americaniaid tra cheidwadol adain dde sy’n ddylanwadol ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol America. Does dim syndod fod tipyn o awch ar y gyllell weithiau! Mae ganddo ddawn gyfathrebu danbaid y poblogeiddwyr Americanaidd. Sais o Anglican mwyn a thawel ei naws ydi Bob Reiss, a’r casaf a ddywedir am ei gyfrol yw cwyn yn y Church Times yn ddiweddar ei bod hi’n mynd dros hen ddadleuon y chwedegau. Ond mae’n gwneud hynny mewn ffordd eglur a dealladwy.

llyfr-reiss‘Dwi ddim yn credu bod hynny’n gweithio mwyach’ yw ei ymateb mwyaf chwyrn. Felly, doedd ei ddarlithiau ddim mor gyffrous a thanbaid ag y buasai rhai Spong wedi bod, ond yr oedden nhw’n feddylgar a chraff a hynod gwrtais wrth ambell un oedd yn dal i grafangu wrth y modelau traddodiadol.

Felly, gair o gymeradwyaeth i Bob Reiss, a chanmol mawr i’r cysur a’r bwyd yn y llyfrgell. Mae’r llyfrgell ei hun yn braf ac mae’r gwasanaeth cymun bob bore’n hynod iawn. Mae’n werth mynd yno ar gyfer y rheini’n unig.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.