Cyhoeddwyd yr erthygl isod yn Y Tyst ar drothwy’r Nadolig. Diolchwn i’r awdur a’r Golygydd am yr hawl i’w hatgynhyrchu yma.
Natur y Nadolig
Geraint Rees
Eleni, am y tro cyntaf, rwy wedi sylwi ar ddadleuon diwinyddol estynedig am natur y Nadolig ar y cyfryngau cymdeithasol cyffredin. Neithiwr, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan un blogiwr o dde Cymru am rȏl Mair Forwyn yn yr holl stori, datblygodd trafodaeth fywiog iawn.
Braf yw gweld hyn, ac mae’n awgrymu i mi fod diddordeb gwirioneddol gan bobl y tu allan i’r eglwysi mewn materion ffydd. Yn aml, maen nhw’n holi cwestiynau agored, gonest. Yn anffodus, mae’r diddordeb weithiau yn cael ei ddiffodd yn gyflym iawn wrth i rai Cristnogion ddechrau ateb cwestiynau’r holwyr gonest, agored, gydag atebion caëdig.
Yr un mwyaf hurt a welais i heddiw oedd ymateb gan Gristion trwy wefan http://www.bibleanswerstand.org/conceived.htm Gwefan yw hon sy’n ceisio rhoi atebion ‘ysgrythurol’ i broblemau y mae pobl yn eu codi. Byddwch yn falch i ddeall mai’r esboniad am y Nadolig yw:
‘Obviously God did not use copulation to produce the motile sperm cell thru insemination. Instead, in a haze of brilliancy His spirit surrounded Mary as He effortlessly created the male gamete cell within the fertile egg of this virgin woman. The male gamete that God created subsisted with all the necessary DNA molecules to produce a male human being, including allelomorphic and mitochondria properties.’
Pan fo ‘gwyddoniaeth’ a darluniau cyfoethog y ganrif gyntaf yn cwrdd, cawn weledigaeth unigryw o fywyd.
Mae cwestiynau pobl yn rhai real iawn – hyd yn oed os nad yw’r atebion yn cyrraedd y nod. Mae’n debyg ei bod hi’n wir i ddweud fod y rhan fwyaf o Gristnogion y ganrif hon wedi llythrenoli storiau geni Iesu a welir yn unig ym Matthew a Luc, er fod digon yn y storiau i awgrymu mai nid dyna’u bwriad.
Gwyddom nad yw’r sêr yn symud yn ddigon araf i sêr ddewiniaid allu eu dilyn ar droed, (nac hyd yn oed ar gefn camel). Dyw sêr ddim chwaith yn stopio uwchben adeiladau penodol. Dyw pobl tramor ddim fel arfer yn teithio i dalu gwrogaeth i frenin sy’n fab i saer. Mae’n anarferol iawn i wyryf feichiogi – er mae’n debyg ei fod yn gysyniad sy’n rhan o fytholeg llawer gwlad ym Mȏr y Canoldir. Rhaid cyfaddef hefyd y byddai golwg wael iawn gyda ni heddiw ar ddyn fyddai’n mynd a’i wraig am sbin o bron i 100 milltir ar gefn asyn pan ei bod yn drwm o feichiog.
Mae’n amlwg fod Matthew a Luc yn defnyddio’r storiau i roi bri ar y grym anarferol, hyd yn oed dwyfol ei natur, a brofwyd ym mywyd Iesu’r oedolyn. Mae storiau’r doethion a’u gwreiddiau yn yr Hen Destament. Mae hanes Herod yn lladd y plant yn adlais o hanesion y Pharo yn lladd babanod yn yr Aifft, ac felly’n ffordd o roi statws Mosesaidd i’r Iesu.
Mae grym Iesu Grist yn cael ei fynegi mewn hanesion sy’n tynnu at ei gilydd y nefoedd a’r ddaear – y sêr a’r angylion ar yr un llaw a’r llety tlawd ar y llaw arall.
Roedd cyflwyno Iesu fel Meseia yn galw am symbolau pwysig. Roedd ei wisgo yn olyniaeth Moses ar yr un llaw (Herod fel Pharo, a’r dianc i’r Aifft) a Dafydd (Brenin Bethlehem) ar y llall yn allweddol bwysig wrth apelio at Iddewon. Fodd bynnag, i mi y symbol pwysicaf wrth werthfawrogi’r Nadolig yw’r ymdrech a wnaed yn yr efengylau i ddweud fod Iesu Grist i bawb. Yn un cofnod cawn ddyfodiad y doethion crand o genhedloedd y dwyrain (nid Iddewon), ac ar yr un pryd mae’n destun addoliad i fugeiliaid (Iddewig?) garw’r bryniau uwchben Bethlehem.
Mae’n debyg na fyddai Paul na Marc wedi clywed yr hanesion nadoligaidd – daethon nhw i fodolaeth yn y 9ed degawd, ac mae Ioan (awdur yr efengyl hwyraf i gael ei ysgrifennu) yn cyfeirio ddwywaith at Iesu fel mab Joseff. Mae’r hanesion fel y’u cyflwynir i ni yn ceisio esbonio mawredd yr Iesu a greodd y fath gyffro mewn pobl. Y cyffro hwnnw sy’n dal i danio calonau pobl ar draws y byd. Gwae ni os collwn y ddawn o adael i’r symbolaeth siarad â ni wrth i ni lythrenoli’r storiau tu hwnt i grebwyll. Ein her ni yw eu hadrodd mewn ffordd sy’n gadael i’w gwirioneddau cyfriniol ein hysbrydoli, gan obeithio y caiff y rhai sydd heb eto eu geni fyw mewn byd fydd yn dal i brofi’r rhin arbennig hwnnw.
YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.