Cristnogaeth Sgeptigol

Cristnogaeth Sgeptigol – Robert Reiss

Tipyn o siom oedd clywed am salwch yr Esgob John Spong. Ar ei daith yr oedd i fod i siarad â phobl C21 yn y de. Y cynllun oedd y byddai’n cynnal cynhadledd dros ddau ddiwrnod arall  yng Nghymru yn seiliedig ar ei gyfrol ddiweddaraf, ac (yn ei eiriau ei hun) ‘efallai ei gyfrol olaf’, Biblical Literalism: a Gentile Heresy.

Yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, yr oedd y gynhadledd i fod.

gladstone

Llyfrgell Gladstone, Penarlâg

Nid hawdd fyddai i’r llyfrgell ddod o hyd i rywun i gymryd lle Jack Spong ar fyr rybudd, ond yn Robert Reiss yr oedden nhw’n galw ar un oedd newydd gyhoeddi cyfrol fwy cyffredinol ei chynnwys, sef Sceptical Christianity – Exploring Credible Belief (Jessica Kingsley Publishers, ISBN 978 1 785929622).

Gŵr wedi ei fagu yn sŵn diwinyddion y 60au a’r 70au yw Robert Reiss, a ymddeolodd yn ddiweddar o swydd Canon Drysorydd yn Abaty Westminster. Peth naturiol i rywun a ddatblygodd ei ffydd wrth ddarllen John Robinson a David Jenkins oedd meddwl am y pynciau sy’n dal i boeni selogion Cristnogaeth21. Dyma’r pynciau a drafodwyd yn llyfr diweddar Aled Jones Williams a Chynog Dafis, Duw yw’r Broblem.

robert-reiss

Robert Reiss

Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Spong a Reiss ydi eu personoliaeth! Dyn mwyn a thawel ydi Bob Reiss. Mae Spong, medden nhw, yn ŵr hynaws tu hwnt, ond mae ei ysgrifennu’n fachog a hyd yn oed yn ymosodol am ei fod yn delio ag Americaniaid tra cheidwadol adain dde sy’n ddylanwadol ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol America. Does dim syndod fod tipyn o awch ar y gyllell weithiau! Mae ganddo ddawn gyfathrebu danbaid y poblogeiddwyr Americanaidd. Sais o Anglican mwyn a thawel ei naws ydi Bob Reiss, a’r casaf a ddywedir am ei gyfrol yw cwyn yn y Church Times yn ddiweddar ei bod hi’n mynd dros hen ddadleuon y chwedegau. Ond mae’n gwneud hynny mewn ffordd eglur a dealladwy.

llyfr-reiss‘Dwi ddim yn credu bod hynny’n gweithio mwyach’ yw ei ymateb mwyaf chwyrn. Felly, doedd ei ddarlithiau ddim mor gyffrous a thanbaid ag y buasai rhai Spong wedi bod, ond yr oedden nhw’n feddylgar a chraff a hynod gwrtais wrth ambell un oedd yn dal i grafangu wrth y modelau traddodiadol.

Felly, gair o gymeradwyaeth i Bob Reiss, a chanmol mawr i’r cysur a’r bwyd yn y llyfrgell. Mae’r llyfrgell ei hun yn braf ac mae’r gwasanaeth cymun bob bore’n hynod iawn. Mae’n werth mynd yno ar gyfer y rheini’n unig.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.