Archif Awdur: admin

Adroddiad o Aberystwyth

Ddechrau Medi, daeth grŵp Cristnogaeth 21 yn Aberystwyth at ei gilydd i drafod papur gan Enid Morgan. Rydym yn cyhoeddi’r papur hwnnw ar y botwm “Erthyglau”  dan y teitl “Beth yw’r Beibl”.

Yna, rydym yn cyhoeddi crynodeb a wnaed gan Cynog Dafis o’r drafodaeth a ddilynodd.

Beth am ymateb i’r cyfan yn Y Fforwm?

E-fwletin Medi 16, 2013

Darllenaf fod Esgobaeth Bangor wedi penderfynu cau dwy eglwys yn ei phrif ddinas. Nid ‘penderfynu’ cau a wnaed ond gorfod cau. Darllenaf yn y papurau enwadol Cymraeg sy’n wynebu ‘penderfyniadau’ cyffelyb fod hwn yn gyfnod o ‘her’ a  ‘sialens a roed gan Dduw’ i’r eglwysi. Geiriau mhwyth pob un am sefyllfa grefyddol sy’n datod yn ddi-droi’n-ôl. Yn eu calonnau fe ŵyr pawb hynny, ond y mae ei ddweud yn hyglyw yn ormod i neb dyn.

Beth yw’r gwir reswm am y trai, nid yn unig yng Nghymru ond drwy Orllewin Ewrop achlân? Mae’r ateb yn giaidd o syml: ‘Duw’.

Nid dweud wyf fi y dylem roi heibio ein theistiaeth. Nid wyf fi’n fodlon gwneud hynny am bensiwn! Ond dylem wynebu’r anawsterau difrifol sydd ynglŷn â ‘Duw’ yn onest, yn ddiwyro ac yn agored.

Mae ‘ffwndamentaliaeth’- prif darged (?)  C21, ond y targed anghywir – a’r gweddill ohonom yn yr un cwch yn union: un garfan un pen, a’r llall y pen arall, a’r ddwy’n gwgu ar ei gilydd. Ond yr un yw’r cwch. A bod yn wamal, mae ‘Duw’ rhyddfrydiaeth yn ‘gleniach peth’ na ‘Duw’ ffwndamentaliaeth. Ond yn y bôn yr un yw’r ‘Duw’. A’r ‘Duw’ hwnnw yw’r broblem.  Mae credu yn ‘Nuw’ yn y byd gorllewinol sydd ohoni hefo’i hanes diweddar a’i wyddorau yn fwyfwy anos i’r mwyafrif o bobl bellach. Nid oes angen Dawkins ar bobl siŵr, mae eu profiadau a’u crebwyll yn eu harwain i’r cyfeiriad yma! Nid yw pobl yn dwp. Y syniad o ‘Dduw’ yn ein cyfoesedd yw’r broblem fawr sy’n ein hwynebu. ‘Decoys’ yw unrhyw sôn am strwythurau eglwysig, a newid patrymau addoli, a ‘gweinidogaeth i’r ifanc’ gan feddwl y rhydd y pethau hyn i ni ‘adfywiad’. Ni ddaw. ‘Duw’ yw’r broblem.

Credaf ein bod yn methu rhywbeth go bwysig oherwydd y ‘brwydro’ ofer yn ‘erbyn’ ffwndamentaliaeth, sef yw hwnnw, y mathau o ysbrydolrwydd sy’n mynd â bryd pobl. Ysbrydoliaethau an-theistaidd (non-theistic) yw bron bob un ohonynt. A’r pennaf ohonynt yw Bwdistiaeth. Y mae’r mudiad ‘mindfulness’- a’i wreiddiau’n ddyfn yn y traddodiad Bwdaidd – yn rhan allweddol bellach o’r gwasanaethau iechyd. Mae pobl yn medru canfod eu hysbrydoled ond o’r newydd gan roi ‘Duw’ o’r neilltu. Hynny y dylem edrych arno, holi ‘pam?’ ac fel theistiaid bryderu nid ychydig.

Cafwyd yn ein cynhadledd eleni resume o’r cyhoeddi diwinyddol ‘diweddaraf’ yng Nghymru. O’m rhan fy hun, roedd darllen nifer o’r cyhoeddiadau hyn yn debyg iawn i fwyta powlenaid ar ôl powlenaid o cornfflecs sych. Nid oes ynddynt na beiddgarwch, ffresni na nemor ddim o ddychymyg.  ‘Hanesyddol’ a ‘cheidwadol’ iawn yw’r ymdriniaethau hyn ar y cyfan. Gochelir rhag y prif anhawster i’r rhan fwyaf o bobl: ‘Duw’. Ond hwyrach fod hyn yn ormod i’w ddisgwyl gan rai sydd wedi llwyr ymrwymo eu bywydau i’r eglwysi.  Fel y byddai i aelodau o fwrdd cwmni gydnabod nad y ‘sales pitch’ sy’n ddiffygiol ond y ‘brand’ ei hun.

Dim ond mudiad ar y cyrion a eill edrych yn glir ac yn onest ar wir reswm ein crebachu. Nid oes gwell llwyfan i hyn yn unman yn y Gymru Gristnogol – beth sydd weddill ohoni – na C21. Dyma gymwynas arall – y brif gymwynas? – y medr ei wneud â’r eglwysi na allant hwy edrych ar y cwestiwn hwn o gwbl. Mae’n brifo gormod. Feiddiwn ni wneud?

A ydych wedi prynu copi( au )  o ‘Byw’r Cwestiynau’ eto ? Naddo ?

E-fwletin Medi 9fed, 2013

Unwaith yn y pedwar amser deuwn ar draws rhywbeth y gwyddwn sy’n mynd i fod yn hanfodol i ni weddill ein dyddiau. Felly  y bu i mi y dydd o’r blaen. Cymal ydoedd mewn brawddeg o eiddo Brian Davies yn ei ragarweiniad i lyfr am y diwinydd a’r athronydd Gwyddelig o’r nawfed ganrif, John Scottus Eriugena. Cynnig diffiniad o ddiwinyddiaeth negyddol (negative theology) – yr oedd Eriugena yn ddehonglydd ohono – a wna Davies, a dyma’r diffiniad:  “the attempt to safeguard the transcendence of God by stressing the limits of human understanding, by reminding us of what God cannot be.’’  A’r cymal sydd wedi mynd a’m mryd yw: ‘by reminding us of what God cannot be.’

Yr hyn na eill Duw ei fod. Pan haerwn fod Duw ‘fel-a’r-fel’, neu ‘dyma ewyllys Duw’- a gwneir hyn yn llawer rhy aml a rhyw bendantrwydd syfrdanol-  a yw’n croesi ein meddyliau  na all Duw fod yn hyn? A yw hi erioed wedi croesi meddwl ambell un na eill Duw fod yn ‘un’ sydd yn dirnad gwraig fel bod israddol i ddyn? A eill Duw fod yn ‘un’ sydd a ‘rhywbeth’ yn erbyn hoywder? A eill Duw’ fendithio’ llongau rhyfel neu ochri a’r garfan hon yn erbyn y llall?

Digwydda’r cymal mewn rhagarweiniad i lyfr sy’n trafod ‘diwinyddiaeth negyddol’. Ar y cyfan, a hyd y gwelaf, nid yw’r ddealltwriaeth hon o ddiwinyddiaeth wedi cael lle amlwg yng Nghymru erioed. Enw arall ar y ddiwinyddiaeth hon yw’r ‘apoffatig’. Yn ei lyfr cwbl ardderchog  The Darkness of God  mae Denys Turner yn diffinio’r apoffatig fel hyn: ‘..the name of that theology which is done against the background of human ignorance of the nature of God.’ Cyferbyna hyn a’r ochr arall i bethau -y cataffatig, sef: ‘the verbose element in theology…the Christian mind deploying all the resources of language in the effort to express something about God..’ Y ‘cataffatig’ hwn sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers canrifoedd. Medrir efallai ddweud fod y ‘cataffatig’ yn hyderus a’r ‘apoffatig’ yn fwy gochelgar. Hyn yw Duw, meddai’r cataffatig. Ni eill Duw fod yn hyn, meddai’r apoffatig.

Tybed mai egin mudiad apoffatig yw Cristnogaeth21? Yno i lefaru wrth yr eglwysi : na eill Duw fod yn hyn-‘reminding us of what God cannot be.’ A bod iddo swyddogaeth broffwydol a chwbl angenrheidiol.

Mae hi’n bryd i ni werthuso a chloriannu ein hunain erbyn hyn. Ai dyna fwriad y cyfarfod yn Nhrefeca?

Cofiwch roi gwybod i ni os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail.  Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”.  Fe fydd dau neu dri yn ein harwain, fe fydd cyfle i fyfyrio ac ymdawelu ac fe fydd cyfle i drafod datblygiad Cristnogaeth 21. Mae croeso i bawb, ond fe hoffem gael gwybod cyn ddydd Sadwrn  yr wythnos hon, os gwelwch yn dda.

A chofiwch am ‘Byw’r Cwestiynau’. Mae un cylch wedi prynu 14eg.copi – ar ôl gweld ei gynnwys.

Erthygl Aled Jones Williams

Dyma i chi gerdd i fyfyrio arni hi:

‘The Birds of the Air’

I’m vague about their names-

laziness, yes, but also a wish

to keep them free. Isn’t it enough

to foul their brooks and fields

and flay the high trees with our floodlights

without this last assault of language?

I limit myself

to the one thing I know

that they were light

(the word splits on a prism,

revealing them luminous, weightless

and all tones between).

 

I learnt this as a child

in the little yard behind the chapel

where I would be sent with the leftover bread.

When I stepped out from the cool, screened interior

 

they were waiting in the sunshine.

They glittered in the branches

while I crumbled the host and scattered it

among the weeds and broken paving.

 

 

Jean Sprackland yw’r bardd. A daw’r gerdd o’i chasgliad diweddaraf ‘Sleeping Keys’.

Cyfyd ei theitl o’r adnod yn Mathew: ‘ A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediad y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.’

Mae’n gerdd grefyddol. Un o’i themâu pwysicaf yw natur iaith crefydd. ‘Rwy’n annelwig am eu henwau’ dywedir wrthym. Hwyrach mai diogi am beidio gwybod yr enwau yw hyn? Ond, na! ’Rwyf am eu cadw yn rhydd, meddai’r bardd. Oherwydd caethiwo a lleihau y mae unrhyw enw. Y mae hyn yn ein hatgoffa am ddymuniad Moses i gael enw gan y Trosgynnol. A chael yn hytrach y tawtoleg ‘’YDWYF YR HWN YDWYF’’. Yr annelwig os bu unrhyw beth erioed! A chawn ryfeddod y toriad yn y llinell (line break)-‘Onid yw’n ddigon/Isn’t it enough’. Yr annelwig sy’n ddigon, wrth gwrs heb straffîg a lleihad enwi.

Wedyn y chwarae ar ystyr y gair ‘foul’-‘aderyn’ a ‘maeddu’. Geill iaith faeddu’r hyn y mae’n taer geisio ei ddisgrifio. Teimlwn ddicter y bardd yn sŵn y gair ‘flay’ cyn cyrraedd sioc y gair ‘floodlights’-y goleuni cras, egr sy’n cael ei daflu’n hyll ar y creaduriaid delicet  hyn. Dyma ‘gyrch iaith’- yr ‘assault of language’.

Onid yw hyn yn ddisgrifiad cysáct o’r hyn sy’n digwydd yn y byd crefyddol heddiw? Mynnu diffinio, mynnu tomen o eiriau a’r geiriau hynny yn tywyllu yn hytrach nag egluro. Yn y bôn camddefnydd o iaith yw hanfod ‘ffwndamentaliaeth’. Mae iaith crefydd yn debycach i ddull barddoniaeth o drin iaith: awgrymu nid dweud, delweddu nid disgrifio, geiriau sy’n ffenestri nid waliau, ar hytraws nid ‘yn fy wyneb’. Math ar farddoni yw’r crefyddau i gyd.

‘I limit myself’ , meddai’r bardd mewn tor-linell effeithiol arall, cyn mynd rhagddi i ddweud: ‘to the one thing I know/ that they are light’.

Onid oes rhyw amharodrwydd syfrdanol yn y byd crefyddol cyfoes i ‘limit myself’?  Teimlaf ar brydiau mai gwybod y cyfan y mae rhai ac na chlywsant erioed am ‘o ran y gwyddom’ Paul. Ni faliwn fawr am hyn oni bai ei fod yn chwalu bywydau pobl eraill: crintachrwydd llawn sicrwydd  rhai eglwysi tuag at hoywon a pharodrwydd rhai crefyddau i chwythu pobl yn smiddarîns oherwydd mai hynny yw ‘ewyllys duw’ neu fod y peth-a’r-peth ‘yn ‘Y Beibl’- mae’r ddeubeth hyn, a phethau gwrthun eraill, ar yr un continuum, gyda llaw. ‘Un peth a wn’, meddai’r bardd. Ie, ‘un peth’! Nid degau o bethau, cannoedd ohonynt. Mae’r hyn a wyddom yn grefyddol yn ychydig iawn. Trwy gil y drws a thrwy gornel fy llygaid, drwy’r caddug ac o hirbell y gwelaf. A pham, tybed, iddi italeiddio’r gair light? Oherwydd mai gair ydyw nid goleuni ei hun. Geiriau am dduw sydd gennym, nid Duw. Mi gawn gerdded pont y geiriau ond peidiwn fyth a meddwl fod y bont honno’n medru cyrraedd yr ochr arall. Mae’n stopio gan adael gagendor ac affwys. Mae iaith crefydd yn ei hanfod yn dyllau i gyd. Fe feddyliech fod iaith crefydd rhai yn focs o haearn!

Wedyn cawn gan y bardd linellau mewn cromfachau. Pam? Swildod iaith, tybed?. Ofni dweud efallai ac felly gosod y ‘dweud’ hwnnw mewn parenthesis? Mae’r gair light yn chwalu i ddatguddio -ac o! revealing, sylwer-yr adar luminous, weightless/ and all tones between. Bron iawn nad ydynt yno. Bron iawn fod y geiriau luminous a weightless yn eu diffodd. Fedrwn ni ddim cweit weld y naill beth na’r llall na’u teimlo. Gwyddom eu hystyron ond rhywsut nid ydynt yn peri gweld. Ac am all tones between,  rydych yn gorfod crafu pen i wybod beth yn union yw’r  tones hyn. Mae’r annelwig – y vague cychwynnol yn ôl. Ond annelwig tebyg i rywun yn ceisio disgrifio bod mewn cariad ydyw: fe ŵyr ond mae trio disgrifio’n strach. O! na fyddem yn grefyddol yn cofleidio’r annelwig a’r gwybod sy’n methu’n lan a dweud beth yn hollol a ŵyr. Mae Duw yn drech na geiriau. Mae sicrwydd crefyddol yn cuddio ansicrwydd mawr bob tro. Tynnwch fricsan o wal y ffwndamentalydd ac fe gwymp y wal.

A’r diwedd? I learnt this as a child . Ond nid tu mewn i’r capel sylwch ond oddi allan yn yr iard gefn lle roedd yr adar yn aros – waiting. Fan honno mae hi’n briwsioni’r bara sbâr and scattered it/ among the weeds and broken paving. Ymhlith y chwyn a’r pafin toredig y mae’r datguddiad yn digwydd nid yn y disgwyliadwy crefyddol saff a gloyw. Mm! Efallai er mwyn darganfod Duw eto fod yn rhaid i ni roi heibio popeth a wyddom – Beibl, capel, eglwys, gweinidogaeth, dogma, Cristionogaeth ei hun. Eu briwsioni a’u gwasgaru i ganol y chwyn a’r pethau toredig. Sy’n gwneud i mi feddwl am linellau gan fardd arall – W.B. Yeats y tro yma: Now that my ladder’s gone/ I must lie down where all the ladders start,/ In the foul rag-and-bone shop of the heart. Hynny’n ddychryn pur i nifer ohonom dwi’n siŵr. Ond yn y fan yna mae hi dwi’n meddwl  oherwydd bellach mae’r ysgolion cyfarwydd gynt i gyd wedi mynd. ( A dyna dric arall ffwndamentaliaeth efengylaidd: cogio bach fod yr ysgolion yn dal yna, yna’n gyfan.) Ac onid hyn yn y bôn yw gwir ystyr Ffydd? Ymollwng ac anwybod ac ymddiried.    

Yr Ymofynnydd

Efallai y byddai gan eich darllenwyr ddiddordeb mewn noson sy’n cael ei chynnal yn enw cylchgrawn Yr Ymofynnydd yn Llanwnnen, nos Wener, 13 Medi yng Ngwesty’r Grannell Llanwnnen – Noson Caws a Gwin a Bach o Feddwl. Fe fydd panel yno’n trafod materion ysbrydol a chred – Dafydd Iwan, Mererid Hopwood a’r Parch Eric Jones – dan gadeiryddiaeth Dylan Iorwerth. Mae’n rhan o ymdrech newydd gan Undodiaid y Smotyn Du i gynyddu’r drafodaeth ar y materion pwysicaf. Wrth reswm, mae croeso i bawb o bob cefndir i ddod draw. Mae tocynnau’n £5 ac ar gael am £5 trwy e-bost – ymofynnydd@yahoo.com – neu ar y noson.

E-fwletin Medi 2il, 2013

Bu’n wythnos gythryblus yng nghoridorau grym, a rhyfeddod annisgwyl oedd gweld synnwyr cyffredin yn cario’r dydd, am ba reswm bynnag, yn y drafodaeth ar Syria yn San Steffan. Fodd bynnag, eironi o’r mwyaf oedd clywed ambell i lais yn bygwth gwae ac yn gweiddi am weithredu treisgar yn yr union wythnos y cawsom ein hatgoffa o weledigaeth gynhwysol a heddychlon Martin Luther King. Roedd yn braf cael ail brofi gwefr y brotest yn Washington hanner canrif yn ôl, a rhyfeddu at ei ddawn dweud yntau. Rhyfeddu hefyd, mewn ffordd wahanol, wrth gael ein hatgoffa o gywilydd yr anghyfiawnder cymdeithasol oedd yn bodoli mewn cyfnod mor ddiweddar, mewn gwlad oedd yn honni ei bod yn gartref i gymdeithas wâr. Ac er na fu hylltod apartheid erioed yn rhan o’n gwead ni yma yn Ynysoedd Prydain, efallai nad oes raid crafu ymhell o dan yr wyneb i weld agweddau digon annifyr mewn rhai carfanau wrth drafod mewnfudwyr heddiw. Yn anffodus, mae’r gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, gwryw a benyw, caeth a rhydd yn aros mewn sawl cylch.

Er mai ei araith yn y rali yn Washington gafodd y sylw i gyd yr wythnos hon, mae’n werth cofio am frawddeg ysgytwol Luther King ychydig fisoedd cyn hynny, “Os na all dyn ganfod achos gwerth marw drosto, dyw e ddim ffit i fyw”.

Does neb yn galw arnom i farw dros unrhyw achos heddiw, ond cawn ein galw i fyw dros achos y Deyrnas, a dehongli’r alwad honno mewn modd cyfoes ar gyfer ein dyddiau ni yw diben Cristnogaeth 21.

Rydym yn agor tymor newydd yn ein hanes gyda digwyddiad cyffrous, sef cyhoeddi erthygl hynod o ddifyr a thra phwysig gan Aled Jones Williams ar y botwm Erthyglau.  Fe’i gwelwch ar http://www.cristnogaeth21.org ac yna gwasgu “Erthyglau”.

Cofiwch roi gwybod i ni yn fuan os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail.  Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”.  Y bwriad yw trafod cyfeiriad Cristnogaeth 21, ac mae croeso i bawb.

Os nad ydych wedi prynu’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, mae modd ei archebu trwy bwyso’r botwm “Prynu’r Llyfr”. A dyma awgrym i chi….. Beth am wneud yr hyn y mae nifer o gylchoedd yn ei wneud, sef archebu nifer o gopïau a chynnal seiadau yn seiliedig ar y llyfryn gydol yr hydref a’r gaeaf?  Mae yna gwestiynau ar ddiwedd pob pennod, felly mae’r gyfrol yn ei chynnig ei hun ar gyfer astudiaeth grŵp.

Cyfarfod yn Nhrefeca

Byddwn fel criw yn cyfarfod dros nos yn Nhrefeca ddechrau mis Hydref. Y bwriad yw cyrraedd brynhawn Mawrth, Hydref 1af, ac aros tan ddiwedd prynhawn Mercher, Hydref 2il. Rydym yn gobeithio treulio’r amser yn trafod dyfodol Cristnogaeth 21 – ac mae croeso i unrhyw un gynnig eitem i’w chynnwys ar yr agenda.

Y pris fydd £65 i gynnwys swper nos Fawrth, gwely a brecwast a chinio ysgafn ddydd Mercher.

Ac mae croeso cynnes i BAWB.

Os hoffech ddod, ewch i’n tudalen gartref ac anfon neges trwy bwyso Cysylltu â ni.

Hefyd, mae croeso i chi gynnig eitem i’w chynnwys ar yr agenda trwy gysylltu yn yr un modd.

E-fwletin Gorffennaf 29ain, 2013

Rywdro rhwng plentyndod a llencyndod, mae gen i go am sgwrs fer rhwng fy mrawd a minnau lle’r oeddem yn cyd-weld bod dyfodol y Gymraeg ynghlwm wrth ddyfodol Cristnogaeth. Rhag imi roi’r argraff ein bod yn cael sgyrsiau athronyddol yn amal, efallai mai sôn am y capel a’r Gymraeg yr oeddem: os oedd y capel am oroesi, roedd yn rhaid i’r Gymraeg oroesi. Ni allai’r naill fyw heb y llall, yn ein barn ddiniwed ni.

O edrych yn ôl drwy’r blynyddoedd gyda doethineb yr heddiw sydd ohoni, mae’n sicr fod dirywiad y capeli wedi mynd law yn llaw ag enciliad yr iaith. Roedd y capeli yn cynnal y diwylliant Cymraeg i raddau helaeth iawn, ac yn fodd i roi tipyn o raen ar ein hiaith lafar a’n hiaith ysgrifenedig. Yn y capel y cawsom flas ar ganu ac adrodd ac actio, yno y cawsom ddysgu darllen sol ffa a chanu mewn harmoni, ac yno y clywsom sain Cymraeg y Beibl. Ac wrth gwrs, yno y cawsom storfa o emynau a ddaeth yn ddefnyddiol yn ddiweddarach ar bob math o achlysuron.

Roeddwn yn siarad yn ddiweddar gydag un oedd yn llais cyfarwydd ar y llwyfan canu poblogaidd, ac sydd bellach yn fam i sawl un sy’n dal i berfformio yn y maes hwnnw. Gresynu oedd hi nad oedd fawr neb o athrawon – ie, athrawon Cymraeg ei hardal hi – bellach  yn cymryd fawr o ddiddordeb mewn adloniant Cymraeg. Er mai dysgu Cymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg,  yw eu swyddogaeth feunyddiol, roedd eu hadloniant bron yn gyfangwbl Saesneg. Ac awgrymu a wnâi y dylai’r llywodraeth fynd ag adloniant Cymraeg cyfoes i ysgolion a cholegau a chlybiau ieuenctid er mwyn i’n plant gysylltu’r Gymraeg ȃ cherddoriaeth gyfoes, a hwyl a mwynhau. Cytunaf yn llwyr ȃ hi; yr unig beth sy’n mynd i annog ein plant i siarad Cymraeg yw bod yr iaith yn cael ei gweld fel rhywbeth cyfoes, ffasiynol a “chŵl”.

Mae’r un peth yn wir i raddau am ein crefydd. Ym mhle mae ein plant a’n hieuenctid yn cael cyswllt ȃ Christnogaeth? Mae’r Gymraeg yn bwnc yn yr ysgol, ac i filoedd diolch i’r drefn  yn iaith cyfrwng yr addysg. Ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn mynd i sicrhau ei goroesiad. Mae crefydd yn bwnc yn yr ysgol, ond fel pwnc academaidd yn unig, a gall hynny wneud mwy o ddrwg nag o les yn aml, gan nad oes raid i’r athrawon ddysgu o unrhyw argyhoeddiad. Rhaid i’n pobl ifanc gael eu cyflwyno i ysbryd y peth byw, ac nid dysgu am hanes a daearyddiaeth crefydd yn unig.

Yr her amlwg i ni yw gwneud ein llefydd o addoliad yn ganolfannau cymunedol bywiog a pherthnasol, lle gall ein pobl – o bob oed – gael hwyl ar ddiwylliant cyfoes a chyffrous, cael gafael ar iaith Gymraeg gref a rhywiog, a hynny oll mewn cyd-destun o Gristnogaeth anturus a heriol.

Dyma’r E-fwletin olaf am y tro – byddwn yn cael hoe fach yn ystod mis Awst – ond mae bwriad i anfon neges arall atoch yn fuan i sôn am ein cynlluniau yn yr Eisteddfod, a nodi cynlluniau i ddod at ein gilydd am sgwrs ym mis Hydref.

Presenoldeb Cymdeithas y Cymod ar Faes yr Eisteddfod

Presenoldeb Cymdeithas y Cymod ar Faes yr Eisteddfod

Sir Ddinbych a’r Cyffiniau

3 – 10 Awst 2013

Dewch i’n gweld yn y Babell Heddwch ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych!  Cewch groeso mawr yno.

Ar wahan i arddangosfeydd, bydd cyfle i gymryd rhan yng ‘nghystadleuaeth Heddwch75’ – sef cystadleuaeth a drefnir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru i ddathlu penblwydd y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 75 blwydd oed!  Yr her yw dweud beth y mae heddwch yn ei olygu i chi mewn 75 o eiriau neu 75 o eiliadau – mewn cerdd neu gân – neu ar ffurf fideo.    Caiff rhai o’r cyfraniadau eu harddangos yn ystod gwyl deuluol  a gynhelir yn y Deml Heddwch ar 30 Tachwedd 2013.

Am 11 y bore ar Ddydd Mawrth 6 Awst Diwrnod Coffáu Hiroshima – cynhelir gwasanaeth arbennig  ym Mhabell Cytûn  ar y Maes.  Caiff y gwasanaeth ei arwain gan aelodau o Gymdeithas y Cymod.

Yno, am 2 o’r gloch y prynhawn ar Ddydd Gwener 9 Awst cynhelir cyfarfod yn Y Stiwdio i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch i sefydlu  Academi Heddwch Cymru.  Bydd Mererid Hopwood yn cadeirio a Robin Gwyndaf yn annerch y gynulleidfa ar y thema ‘Heddwch ar Waith ac Arweiniad Cymru i’r Byd’.  Dewch i glywed mwy ac i fynegi barn.

Dewch i ymuno â ni a chadw tystiolaeth heddwch yn fyw ar y Maes!

E-fwletin Gorffennaf 22ain, 2013

Diddorol yw cysylltiad crefydd ac adeiladau. Yng ngwres y diwygiadau mawr, fe aethom ni’r Cymry dros ben llestri a chodi capeli ym mhob man – llawer gormod a dweud y gwir. Rhaid oedd cael un i bob enwad, ac un i bob treflan a phentre’, a llawer un yng nghefn gwlad heb yr un pentre’n agos. Mi fyddai rhywun yn meddwl mai’r capeli anghysbell hyn fyddai’r cyntaf i gau pan ddaeth y trai mawr. Ond nid felly mae hi ym mhob achos. Un Sul diweddar, bûm mewn dau o’r rhain sy’n dal i fod yn frwd a bywiog – Gwaungoleugoed nid nepell o Lanelwy, a Nantybenglog wrth droed mynydd Tryfan. (Gwerth eu cadw er mwyn yr enwau’n unig!).

Ond cau yw hanes capel ar ôl capel, a hyn yn arwain at gwestiwn perthnasol o bigog gan John Roberts ar “Bwrw Golwg” yn ddiweddar i arweinydd enwad – “Ydech chi’n anghyfforddus efo sefyllfa lle ma’r coffrau’n llawn a’r capeli’n wag?”. Crefydd ased-gyfoethog ac ysbrydol-dlawd? Tristach fyth yw clywed swyddog enwadol yn mynnu bod “rhaid” i elusen werthu’r capeli gwag i’r cynnig ariannol uchaf, yn hytrach na gofalu fod yr adeiladau hyn yn cyfrannu at angen y gymdeithas leol. A thristach fyth yw gweld aelodau capel yn gwrthod pob cynnig i uno gyda chapel cyfagos a bodloni ar weld yr achos yn rhygnu i farwolaeth anochel.

Dylem fel Cristnogion fod yn ddigon dewr i wynebu bod oes y rhan fwyaf o’n hadeiladau wedi dod i ben. Maen nhw’n adeiladau anhyblyg a llawer rhy gostus i’w cynnal, heb sôn am eu gwresogi. Ac o’u gwerthu, dylem wneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael defnydd cymdeithasol, fel cartrefi fforddiadwy neu ganolfannau cymunedol neu weithdai hyfforddi. Bydd y Comisiynwyr Elusen yn gorfod gwrando ar enwadau sy’n dadlau mai dyma’r “gwerth uchaf” yn unol ȃ bwriad sylfaenol elusen Gristnogol. Does dim rhaid derbyn gair ymgynghorwyr ac arwerthwyr stadau fel efengyl.

Ond os oes digon o ruddin ar ôl yn yr aelodau i drawsnewid ein capeli (neu’r ysgoldai fynychaf) yn adeiladau amlbwrpas i wasanaethu Duw a’r gymuned, gall adnewyddu’r adeilad hefyd adnewyddu’r achos ei hun. Mae hynny’n sicr o fod yn wir am Waungoleugoed, a heddiw gwelais enghraifft arall o’r un math o ysbryd yng nghapel Gad Newydd, Bodffordd.

Ynghanol sefyllfa ddigon digalon, mae enghreifftiau fel hyn yn ysbrydoliaeth.