Bu’n wythnos gythryblus yng nghoridorau grym, a rhyfeddod annisgwyl oedd gweld synnwyr cyffredin yn cario’r dydd, am ba reswm bynnag, yn y drafodaeth ar Syria yn San Steffan. Fodd bynnag, eironi o’r mwyaf oedd clywed ambell i lais yn bygwth gwae ac yn gweiddi am weithredu treisgar yn yr union wythnos y cawsom ein hatgoffa o weledigaeth gynhwysol a heddychlon Martin Luther King. Roedd yn braf cael ail brofi gwefr y brotest yn Washington hanner canrif yn ôl, a rhyfeddu at ei ddawn dweud yntau. Rhyfeddu hefyd, mewn ffordd wahanol, wrth gael ein hatgoffa o gywilydd yr anghyfiawnder cymdeithasol oedd yn bodoli mewn cyfnod mor ddiweddar, mewn gwlad oedd yn honni ei bod yn gartref i gymdeithas wâr. Ac er na fu hylltod apartheid erioed yn rhan o’n gwead ni yma yn Ynysoedd Prydain, efallai nad oes raid crafu ymhell o dan yr wyneb i weld agweddau digon annifyr mewn rhai carfanau wrth drafod mewnfudwyr heddiw. Yn anffodus, mae’r gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr, gwryw a benyw, caeth a rhydd yn aros mewn sawl cylch.
Er mai ei araith yn y rali yn Washington gafodd y sylw i gyd yr wythnos hon, mae’n werth cofio am frawddeg ysgytwol Luther King ychydig fisoedd cyn hynny, “Os na all dyn ganfod achos gwerth marw drosto, dyw e ddim ffit i fyw”.
Does neb yn galw arnom i farw dros unrhyw achos heddiw, ond cawn ein galw i fyw dros achos y Deyrnas, a dehongli’r alwad honno mewn modd cyfoes ar gyfer ein dyddiau ni yw diben Cristnogaeth 21.
Rydym yn agor tymor newydd yn ein hanes gyda digwyddiad cyffrous, sef cyhoeddi erthygl hynod o ddifyr a thra phwysig gan Aled Jones Williams ar y botwm Erthyglau. Fe’i gwelwch ar http://www.cristnogaeth21.org ac yna gwasgu “Erthyglau”.
Cofiwch roi gwybod i ni yn fuan os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail. Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”. Y bwriad yw trafod cyfeiriad Cristnogaeth 21, ac mae croeso i bawb.
Os nad ydych wedi prynu’r llyfryn Byw’r Cwestiynau, mae modd ei archebu trwy bwyso’r botwm “Prynu’r Llyfr”. A dyma awgrym i chi….. Beth am wneud yr hyn y mae nifer o gylchoedd yn ei wneud, sef archebu nifer o gopïau a chynnal seiadau yn seiliedig ar y llyfryn gydol yr hydref a’r gaeaf? Mae yna gwestiynau ar ddiwedd pob pennod, felly mae’r gyfrol yn ei chynnig ei hun ar gyfer astudiaeth grŵp.