E-fwletin Medi 16, 2013

Darllenaf fod Esgobaeth Bangor wedi penderfynu cau dwy eglwys yn ei phrif ddinas. Nid ‘penderfynu’ cau a wnaed ond gorfod cau. Darllenaf yn y papurau enwadol Cymraeg sy’n wynebu ‘penderfyniadau’ cyffelyb fod hwn yn gyfnod o ‘her’ a  ‘sialens a roed gan Dduw’ i’r eglwysi. Geiriau mhwyth pob un am sefyllfa grefyddol sy’n datod yn ddi-droi’n-ôl. Yn eu calonnau fe ŵyr pawb hynny, ond y mae ei ddweud yn hyglyw yn ormod i neb dyn.

Beth yw’r gwir reswm am y trai, nid yn unig yng Nghymru ond drwy Orllewin Ewrop achlân? Mae’r ateb yn giaidd o syml: ‘Duw’.

Nid dweud wyf fi y dylem roi heibio ein theistiaeth. Nid wyf fi’n fodlon gwneud hynny am bensiwn! Ond dylem wynebu’r anawsterau difrifol sydd ynglŷn â ‘Duw’ yn onest, yn ddiwyro ac yn agored.

Mae ‘ffwndamentaliaeth’- prif darged (?)  C21, ond y targed anghywir – a’r gweddill ohonom yn yr un cwch yn union: un garfan un pen, a’r llall y pen arall, a’r ddwy’n gwgu ar ei gilydd. Ond yr un yw’r cwch. A bod yn wamal, mae ‘Duw’ rhyddfrydiaeth yn ‘gleniach peth’ na ‘Duw’ ffwndamentaliaeth. Ond yn y bôn yr un yw’r ‘Duw’. A’r ‘Duw’ hwnnw yw’r broblem.  Mae credu yn ‘Nuw’ yn y byd gorllewinol sydd ohoni hefo’i hanes diweddar a’i wyddorau yn fwyfwy anos i’r mwyafrif o bobl bellach. Nid oes angen Dawkins ar bobl siŵr, mae eu profiadau a’u crebwyll yn eu harwain i’r cyfeiriad yma! Nid yw pobl yn dwp. Y syniad o ‘Dduw’ yn ein cyfoesedd yw’r broblem fawr sy’n ein hwynebu. ‘Decoys’ yw unrhyw sôn am strwythurau eglwysig, a newid patrymau addoli, a ‘gweinidogaeth i’r ifanc’ gan feddwl y rhydd y pethau hyn i ni ‘adfywiad’. Ni ddaw. ‘Duw’ yw’r broblem.

Credaf ein bod yn methu rhywbeth go bwysig oherwydd y ‘brwydro’ ofer yn ‘erbyn’ ffwndamentaliaeth, sef yw hwnnw, y mathau o ysbrydolrwydd sy’n mynd â bryd pobl. Ysbrydoliaethau an-theistaidd (non-theistic) yw bron bob un ohonynt. A’r pennaf ohonynt yw Bwdistiaeth. Y mae’r mudiad ‘mindfulness’- a’i wreiddiau’n ddyfn yn y traddodiad Bwdaidd – yn rhan allweddol bellach o’r gwasanaethau iechyd. Mae pobl yn medru canfod eu hysbrydoled ond o’r newydd gan roi ‘Duw’ o’r neilltu. Hynny y dylem edrych arno, holi ‘pam?’ ac fel theistiaid bryderu nid ychydig.

Cafwyd yn ein cynhadledd eleni resume o’r cyhoeddi diwinyddol ‘diweddaraf’ yng Nghymru. O’m rhan fy hun, roedd darllen nifer o’r cyhoeddiadau hyn yn debyg iawn i fwyta powlenaid ar ôl powlenaid o cornfflecs sych. Nid oes ynddynt na beiddgarwch, ffresni na nemor ddim o ddychymyg.  ‘Hanesyddol’ a ‘cheidwadol’ iawn yw’r ymdriniaethau hyn ar y cyfan. Gochelir rhag y prif anhawster i’r rhan fwyaf o bobl: ‘Duw’. Ond hwyrach fod hyn yn ormod i’w ddisgwyl gan rai sydd wedi llwyr ymrwymo eu bywydau i’r eglwysi.  Fel y byddai i aelodau o fwrdd cwmni gydnabod nad y ‘sales pitch’ sy’n ddiffygiol ond y ‘brand’ ei hun.

Dim ond mudiad ar y cyrion a eill edrych yn glir ac yn onest ar wir reswm ein crebachu. Nid oes gwell llwyfan i hyn yn unman yn y Gymru Gristnogol – beth sydd weddill ohoni – na C21. Dyma gymwynas arall – y brif gymwynas? – y medr ei wneud â’r eglwysi na allant hwy edrych ar y cwestiwn hwn o gwbl. Mae’n brifo gormod. Feiddiwn ni wneud?

A ydych wedi prynu copi( au )  o ‘Byw’r Cwestiynau’ eto ? Naddo ?