E-fwletin Medi 9fed, 2013

Unwaith yn y pedwar amser deuwn ar draws rhywbeth y gwyddwn sy’n mynd i fod yn hanfodol i ni weddill ein dyddiau. Felly  y bu i mi y dydd o’r blaen. Cymal ydoedd mewn brawddeg o eiddo Brian Davies yn ei ragarweiniad i lyfr am y diwinydd a’r athronydd Gwyddelig o’r nawfed ganrif, John Scottus Eriugena. Cynnig diffiniad o ddiwinyddiaeth negyddol (negative theology) – yr oedd Eriugena yn ddehonglydd ohono – a wna Davies, a dyma’r diffiniad:  “the attempt to safeguard the transcendence of God by stressing the limits of human understanding, by reminding us of what God cannot be.’’  A’r cymal sydd wedi mynd a’m mryd yw: ‘by reminding us of what God cannot be.’

Yr hyn na eill Duw ei fod. Pan haerwn fod Duw ‘fel-a’r-fel’, neu ‘dyma ewyllys Duw’- a gwneir hyn yn llawer rhy aml a rhyw bendantrwydd syfrdanol-  a yw’n croesi ein meddyliau  na all Duw fod yn hyn? A yw hi erioed wedi croesi meddwl ambell un na eill Duw fod yn ‘un’ sydd yn dirnad gwraig fel bod israddol i ddyn? A eill Duw fod yn ‘un’ sydd a ‘rhywbeth’ yn erbyn hoywder? A eill Duw’ fendithio’ llongau rhyfel neu ochri a’r garfan hon yn erbyn y llall?

Digwydda’r cymal mewn rhagarweiniad i lyfr sy’n trafod ‘diwinyddiaeth negyddol’. Ar y cyfan, a hyd y gwelaf, nid yw’r ddealltwriaeth hon o ddiwinyddiaeth wedi cael lle amlwg yng Nghymru erioed. Enw arall ar y ddiwinyddiaeth hon yw’r ‘apoffatig’. Yn ei lyfr cwbl ardderchog  The Darkness of God  mae Denys Turner yn diffinio’r apoffatig fel hyn: ‘..the name of that theology which is done against the background of human ignorance of the nature of God.’ Cyferbyna hyn a’r ochr arall i bethau -y cataffatig, sef: ‘the verbose element in theology…the Christian mind deploying all the resources of language in the effort to express something about God..’ Y ‘cataffatig’ hwn sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers canrifoedd. Medrir efallai ddweud fod y ‘cataffatig’ yn hyderus a’r ‘apoffatig’ yn fwy gochelgar. Hyn yw Duw, meddai’r cataffatig. Ni eill Duw fod yn hyn, meddai’r apoffatig.

Tybed mai egin mudiad apoffatig yw Cristnogaeth21? Yno i lefaru wrth yr eglwysi : na eill Duw fod yn hyn-‘reminding us of what God cannot be.’ A bod iddo swyddogaeth broffwydol a chwbl angenrheidiol.

Mae hi’n bryd i ni werthuso a chloriannu ein hunain erbyn hyn. Ai dyna fwriad y cyfarfod yn Nhrefeca?

Cofiwch roi gwybod i ni os hoffech ymuno â ni dros nos yn Nhrefeca ar Hydref y cyntaf a’r ail.  Mae’r manylion i gyd ar y wefan, ar y botwm “Newyddion”.  Fe fydd dau neu dri yn ein harwain, fe fydd cyfle i fyfyrio ac ymdawelu ac fe fydd cyfle i drafod datblygiad Cristnogaeth 21. Mae croeso i bawb, ond fe hoffem gael gwybod cyn ddydd Sadwrn  yr wythnos hon, os gwelwch yn dda.

A chofiwch am ‘Byw’r Cwestiynau’. Mae un cylch wedi prynu 14eg.copi – ar ôl gweld ei gynnwys.