Archifau Categori: Uncategorized

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw … gan Rocet Arwel

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw …  Rocet Arwel

Arwel Rocet

Arwel Rocet Jones

Lleisiau’n trampio i mewn i’r tawelwch
Yn chwalu cadeiriau rhydd
Mewn gofod gwyn
A fu’n gorau uniongred.


Sgrin
Yn hoelio
Sylw
Ac arni lwybr o nodau
Fel cerrig
I gamu
Dros afon.


Taro nodyn,
Taro troed
Ar y garreg gyntaf
Yn betrus,
Sigledig,
I’r nesaf,
Cyn codi pen a chanu.
Pawb â’i lais a’i gân,
Yn gras, yn swil, yn betrus
Yn mentro’r nodau mân.
Nes cydio yn ei gilydd
Y naill i’r llall yn dyst,
A phedwar llais yn enfys
Mor felys ar y glust,
Yn plethu yn gynghanedd
Gyntefig, lonydd, ddofn,
Yn llifo gyda’i gilydd
Dros greigiau llithrig, ofn ...


Nes cyrraedd rhyw fan tenau ...

Yn lluwch o dawelwch ...

Yn ysgafn ...

Yn drwm ...

Yn dawel ...

Dawel ...

Dawel ...

Nes daeth sŵn


A geiriau’r byd
O bell
A’u sodlau’n trampio trwy’r tawelwch,
Yn rhygnu cadair flêr ar lawr
A gollwng y gynulleidfa’n
Rhydd
Drachefn.

E-fwletin 19 Ionawr, 2015

E-fwletin 19eg Ionawr 2015

Mae Ffrainc newydd brofi deng niwrnod tebyg i’r cyfnod a brofodd gwledydd Prydain yn dilyn marwolaeth y Dywysoges Diana ym 1997, ar ôl iddi farw yn ddisymwth ym Mharis. Pan oeddwn i yno yn dathlu fy mhenblwydd llynedd, fe gerddais heibio’r gofeb syml uwchben y ffordd danddaearol lle cafodd ei lladd.

Yn ogystal â digwydd yn yr un ddinas, gwedd gyffredin arall y ddau achlysur yw i boblogaeth gyfan deimlo fod rhaid iddyn nhw uniaethu ag un safbwynt ac un symbol. Y tro hwn “Je suis Charlie” a’r bensel oeddynt. Roedd Medi 1997 yn gyfnod anodd i unrhyw un oedd yn amheus o werth y teulu brenhinol. Bu’r deng niwrnod diwethaf yn anodd i unrhyw un sy’n amheus o “laïcité” Ffrainc – y seciwlariaeth eithafol sydd nid yn gymaint yn “rhyddid crefyddol” ond yn “rhyddid rhag crefydd”. Ers y Chwyldro ym 1789, mewn ymateb i orthrwm brenhiniaeth Gatholig y 18fed ganrif, fe wthiwyd crefydd o’r neilltu i breifatrwydd y cartref yn unig. Mae Islam, a’i phwyslais ar rôl crefydd yn y bywyd cyhoeddus, yn her i hynny, a dyna un rheswm dros wahardd y burkha yn Ffrainc.

Nid oes neb am amddiffyn lladd yn enw unrhyw grefydd. Ond rhaid gofyn ai doeth yw chwifio pensil er mwyn amddiffyn penrhyddid y wasg wrth-grefyddol. Ar wahân i ddim arall, nid newyddiadurwyr yn unig a laddwyd. Fe laddwyd pedwar am eu bod yn meiddio siopa mewn siop Iddewig – adlais arswydus o Kristallnacht, ac agwedd a hybir nid yn unig gan Fwslimiaid eithafol ond hefyd gan Marine Le Pen a’r Front National. Diolch i Francois Hollande am fod yn ddigon hirben i’w chadw hi draw o’r ymdaith ym Mharis a sicrhau gwarchodaeth ychwanegol i synagogau.

Yr eironi yw fod ymdeithiau’r bensil, yng Nghaerdydd yn ogystal â Pharis, yn honni clodfori rhyddid barn a mynegiant. Ond mewn gwirionedd roedd ynddynt gyfle i fynegi un farn yn unig, a mae rhyddid unrhyw un sydd am fynegi’n wahanol wedi’i gyfyngu nid gan y gyfraith ond gan bwysau torfol. Ar Twitter ac ati fe gafodd sawl un ei fygwth am feiddio awgrymu nad yw agwedd wrth-grefyddol Charlie Hebdo yn llesol i gymdeithas. Nid rhyddid yw hynny ond gorthrwm y mwyafrif dros y lleiafrif. Trasiedi Chwyldro Ffrainc ym 1789 oedd iddo sefydlu nid rhyddid i leiafrifoedd, ond gosod mwyafrif newydd yn lle’r hen fwyafrif. Ac fe aeth y mwyafrif newydd ati i ddyfeisio’r guillotine i ddelio â’u gwrthwynebwyr.

Gorthrwm y mwyafrif sy’n rhannol gyfrifol am dwf y Front National yn Ffrainc ac UKIP ym Mhrydain – pobl yn teimlo na allant leisio eu barn. Dyw troi pleidiau felly yn fwyafrif ddim yn ateb, oherwydd fe wyddom y byddant wedyn yn gorthrymu’r lleiafrifoedd a erys. Yr her i gymdeithas yn Ffrainc ac yng Nghymru yw sut y gallwn gynnal cymdeithas lle y gallwn roi lle i’n gilydd heb orfod cytuno â’n gilydd, lle y gallwn anghytuno â’n gilydd heb ladd na bygwth. Mae’n her oesol. Mae’n her ganolog i’n dyddiau ni. Efallai y dylem ddarllen Effesiaid 4.15 o’r newydd yr wythnos hon cyn chwifio’n pensiliau o flaen y camerâu.

E-fwletin Chwefror 17

E-fwletin Chwefror 17eg.

Rhwng y siom a’r llon!

Mae gen i beth mwdradd o siomedigaethau ar hyd fy nhaith grefyddol – a chrefyddol nodwch, nid ysbrydol. A dyna fi wedi’i ddeud o’n gyhoeddus! Och a gwae! Y fi – sydd wedi bod yn gyfaddawdwr erioed, yn oddefgar, yn cefnogi’r achos – “oherwydd os na wnawn ni, wel, pwy neith”, yn gyndyn o feirniadu’n gyhoeddus a “g’na’n well dy hun ‘ta” fy magwraeth yn adleisio’n y cof. Ond bellach, yn haf hwyr fy nyddiau, dyma gydnabod fy rhwystredigaeth.

Bûm aelod o sawl grŵp trafod crefyddol ac er mynd yno’n llawn diddordeb (a chyffro hyd yn oed!) deuwn oddi yno yn llawn clyma’.  Trobyllau fyddai’r cyfarfodydd hyn – yn fy sugno i mewn i drafodaeth di-ddychymyg yn aml, yn tindroi o gwmpas yr un hen destunau, yn llwyfan i ambell un serennu efo’i wybodaeth ddiwinyddol (nodwch  mai “efo’i wybodaeth” y dywedaf – gan mai o enau gwrywaidd yn aml y deuai’r cyfryw wybodaeth!) yn  eiriog – a fyddai’n fy ngwneud i deimlo fel Moses gynt yn ‘safndrwm a thafotrwm’ ac yn gwbl ddigalon, pawb yn trio’u gorau glas i roi atebion ysgubol. Dyma’r grefydd ymenyddol, eiriog, strwythuredig sydd gynnon ni bellach, yn ein harwain i nunlle. O, mi driwn newid rhyw fymryn ar betha’- digideiddio a moderneiddio, mwy o swing yn y canu ac ambell glap, er mwyn denu. Minlliw ar wyneb gwelw yw hyn i gyd yn y diwedd. ‘Concealer’ ar y craciau. Celu’r gwirionedd a dal yn dynn yn llinyn ffedog mam o hyd rhag ofn i ni suddo’n rhy ddwfn a dadwneud y diogelwch a rydd crefydd ddoe i ni. Chwiliaf yn daer am rywle i fynd, ond fedra’ i ddim meddwl am unman. Chwiliaf yn daer am brofiad merch yng nghanol eglwys batriarchaidd wrywaidd, ond wela’ i yr un. Cyd-ganaf â Nicola Slee pan ddywed:

Dear brother Church,

I am standing here as a woman struggling to be who I am.

I am speaking:

are you listening?

Ond y mae ambell encilfa ar hyd y daith hon hefyd

– a roddodd i mi gipolwg ar y cyfareddol,

– a ddangosodd i mi’r hyfrydwch sydd i’w gael pan ballo geiriau ,

-a agorodd ddrws i ddeialog ddyfnach,

– a ganiataodd i mi ymateb â nghalon.

‘Rhwng y siom a’r llon’ meddwn ar y dechrau, pa le mae’r llon fe’ch clywaf yn holi! Wel, mae ‘na wythnos arall  on’d oes ?

 

Cofion atoch ac fel yr awgryma awdur yr e-fwletin hwn – tan wythnos nesaf. Yn y cyfamser , mae gwahoddiad cynnes i chi ymateb i’r neges ar y Bwrdd Clebran. Diolch am y drafodaeth tros y bythefnos ddiwethaf.

 Ymddiheurwn os bu inni gam arwain rhywun wrth gymysgu y diwrnod a’r dyddiad wrth gyfeirio at sesiynau C21 yn Aberystwyth. Y dyddiadau nesaf yw nosweithiau Mercher Chwefror 26 a Mawrth 12,26 ac Ebrill 9ed.

‘Iesu – yr aberth sy’n maddau’ dan arweinid Enid Morgan     Morlan, Aberystwyth am 7.30.

E-fwletin Tachwedd 11, 2013

Dysgu Lladd

Mae achos y milwr a gafwyd yn euog o ladd un o’r Taliban yn dangos unwaith yn rhagor mor drallodus o chwerthinllyd yw Cyfamod Genefa. Mae meddwl fod modd ymladd rhyfel yn ôl rheolau yn gyfystyr â meddwl mai gêm rhwng plant ydyw. Yn wir yr ymadrodd a fathwyd am yr ymgiprys gwaedlyd rhwng Prydain a Rwsia i reoli Afghanistan dros ganrif yn ôl oedd “Y Gêm Fawr”.

I wneud pethau’n waeth, yn achos yr un milwr druan yr wythnos dwetha, fe’i defnyddiwyd yn gyfle i glodfori “y lliaws anrhydeddus o filwyr sy’n cyflawni gwaith mor ogoneddus ar draws y byd”. O na bai modd i ryw hanesydd adrodd am y gyflafan warthus a gyflawnodd milwyr Prydain yn Afghanistan yn y 19eg ganrif, pan losgwyd pentrefi, pan laddwyd miloedd o ddynion a phlant ac y rhannwyd y gwragedd ymhlith y milwyr i’w treisio’n ddidrugaredd. Ac un o’r arweinwyr pennaf a gafodd ei anrhydeddu am weithredoedd felly yn Afghanistan oedd y Cadfridog Nott, y parheir i’w anrhydeddu yng Nghaerfyrddin! Dyna wrthun yw’r ymadroddion o enau gwleidyddion a sylwebyddion mai byddin Prydain yw’r orau yn y byd a bod heddlu Prydain yn batrwm i holl wledydd eraill y ddaear! Ofnaf y bydd yn rhaid dioddef rhyw gawl diflas fel yna hyd at syrffed drwy’r pedair blynedd nesaf. 

     Ond yr hyn sy’n loes dyfnach yw’r modd y mae’r Eglwys ar hyd y canrifoedd wedi derbyn rhyfel a thrais. Yn wir nid yn unig eu derbyn, ond eu bendithio. Y mae’n dangos gymaint y mae’r Eglwys wedi cefnu ar Iesu. Mae’n arwyddocaol fod holl arweinwyr cynnar yr Eglwys yn wrthwynebol i ryfel. Gwelent eu bod yn ddinasyddion mewn Teyrnas newydd, a’u brenin wedi eu gwahardd rhag defnyddio’r cledd. Mae tystiolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn dangos i Gristnogion gael eu dienyddio am wrthod ymladd yn y fyddin. Roedd hyn yn siom hyd yn oed i Ymerawdwr mor oleuedig â Marcus Aurelius. I’r Cristnogion cynnar roedd geiriau Iesu yn ddiamwys. Roeddent hwy, a oedd yn byw o fewn dwy neu dair cenhedlaeth i Iesu ei hun, yn gwybod yn iawn beth oedd hanfod ei ddysgeidiaeth.

     Yn ddiweddarach, efallai oherwydd i Gristnogaeth droi’n grefydd yr Ymerodraeth, fe aeth diwinyddion ati yn ddiwyd i greu athrawiaeth y “rhyfel cyfiawn”, gan ei gwneud yn esgus dros yr erchyllterau rhyfeddaf megis y Croesgadau. I mi does yna ddim modd i ddiwinydd nac athrawiaeth osgoi’r gwirionedd sylfaenol mai heddychwr di-drais yw Iesu. Dysgodd i ni ymwrthod â’r cledd a charu hyd yn oed ein gelynion. Calon Cristnogaeth yw’r cariad hwnnw. Os dywedaf fod y Bregeth ar y Mynydd yn rhy ddelfrydol, neu os dywedaf fod Iesu yn rhy radical i mi, yna a oes hawl gennyf fy ngalw fy hun yn Gristion?

Y Gymdeithas Emynau

Dau ddigwyddiad gan y Gymdeithas Emynau yr haf ‘ma:
1. Bara ein Bywyd – 30.7.13
Cynhelir cyfarfod i lansio’r gyfrol
BARA EIN BYWYD – EMYNAU, CERDDI AC YSGRIFAU
Tudor Davies
Capel St Paul, Aberystwyth
Nos Fawrth, 30 Gorffennaf 2013
7.00pm
Pris y gyfrol fydd £6.50, a bydd ar werth ar y noson ac yn y siopau wedi hynny.
2. Thomas Jones, Dinbych – 7.8.13
Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru
THOMAS JONES O DDINBYCH
Anerchiad gan y Parchg Athro D. Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan
Pabell y Cymdeithasau 2 – Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych
Bore Mercher, 7 Awst 2013
10.30am
(sylwer ar yr amser: 10.30, nid 10.00 fel sy’n arferol … ac mae ‘na ddwy Babell y Cymdeithasau: ym mhabell rhif 2 mae’r ddarlith hon)

E-fwletin Mai 13eg, 2013

Byddwn wrth fy modd yn cael dweud wrth eglwys fy ngofal i ‘fynd i’r diawl’! Ie, i uffern â hi!

Er mor bwysig cyhoeddi gras, a chariad a chymdeithas, dylwn hefyd, yn gyson, gyhoeddi mai ‘mynd i’r diawl’ yw gwaith yr eglwys, mynd i’r afael â’r uffern hwnnw sy’n stripio pobl o’u hunaniaeth fel plant Duw. Nid cadw’n glir o fywyd yw ffydd, ond mynd ma’s i’w ganol. Nid cymal astrus mewn credo yw ‘Disgynnodd i Uffern’, ond crynodeb o bwrpas ein bodolaeth fel eglwysi lleol.

Felly, y bore Llun hwn, dw i am i chi gyd ‘fynd i’r diawl’! Pe gofynnid i mi am awgrymiadau plwmp a phlaen, fe’u rhestrwn:

• Mynnwch gyfle i nodi pwy yn eich eglwys, eich cymuned, eich cymdogaeth, eich gwlad a’r byd sydd mewn angen. Nodwch, ar ddarn o bapur, osodiad tebyg i hwn: Myfi yw…mam yn y Congo. Myfi yw…a dw i’n llusgo byw yng ngwersyll ffoaduriaid Za’atari. Myfi yw…plentyn yng Nghymru sy’n byw o ddydd i ddydd heb ddigon i’w fwyta. Gosodwch y darnau papur hyn o gwmpas eich capel un bore Sul. Gweddïwch dros y bobl hyn.

• Amlygwch y ffiniau yn eich eglwys leol – y ffiniau a saif rhwng ‘Ni’ fan hyn, a ‘Nhw’ fan draw. Amlygwch ffiniau tebyg yn eich cymuned a’ch cymdogaeth, boed ddinas, dref neu bentref. Trefnwch gyfle i groesi’r ffiniau hyn. Trefnwch ymweliad â mosg neu synagog, nid i genhadu, ond i wrando. Mae’r naill yn haws o dipyn na’r llall! Oes carchar yn lleol? Oes Banc Bwyd yn agos? A oes bellach, gymuned o ‘estroniaid’ yn y gymdogaeth leol? Mynnwch gael camu dros y ffin a saif rhyngom ‘Ni’ a ‘Nhw’. Nid cynnal gardd furiog mo’n gwaith, ond codi pont o ynys fechan ein ffydd i gyfandir cymhleth byw a bod. Dylid sicrhau mai cyfarfod â phobl yw’r nod, nid gweld adeiladau ac adnoddau – y cyfarfod hwn sy’n achub, a’r adnabod sy’n iachau. Wedi croesi’r ffiniau, dewch ynghyd i drafod nid beth allwn ‘Ni’ ei wneud i helpu ‘Nhw’, ond yn hytrach: Sut mae ‘Nhw’ yn gweld a’n deall ‘Ni’? Cyn cyhoeddi, mae’n rhaid dysgu gwrando; cyn rhoi, rhaid dysgu derbyn.

• Ffurfiwch gylch o bobl o fewn eich eglwys leol sy’n fodlon buddsoddi egni, amser ac amynedd er mwyn bod yn feirniaid creadigol o’ch gweinidogaeth. Efallai bod angen dweud ambell beth digon elfennol a naïf cyn mentro cam ymhellach. Mae rhai’n tybio mai ystyr beirniadu eglwysi lleol ydy lladd ar yr eglwys honno. Dw i’n gwrthod y dadleuon hynny’n llwyr. Rhaid wrth feirniadaeth, ac nid oes diben o gwbl i feirniadaeth, os nad yw’n feirniadaeth ddi-flewyn-ar-dafod. Mae angen dad-adeiladu yn y Gymru Grefyddol: tynnu’r llechi a’r brics i ffwrdd, a gweld y trawstiau; codi prennau’r llawr, a mynd at y sylfeini. Mae angen dadansoddi; dadelfennu sydd angen. Dylai hyn fod yn broses organig, mewnol a gwirfoddol.

• Gan ddefnyddio pob cyfrwng, cyfle ac adnodd mynnwch amlygu’r gwahaniaeth rhwng ‘gwaith eglwys’ (gweinyddiaeth, strwythurau, strategaethau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau) a ‘gwaith yr eglwys’ – ei gweinidogaeth hi, estyn allan â chariad, mewn ffydd, gyda gobaith. Ym mhob cylch ar fywyd yr eglwys, lleol ac enwadol, dylid sicrhau bod ‘gwaith eglwys’ yn gwasanaethu a hyrwyddo ‘gwaith yr eglwys’, a byth ‘gwaith yr eglwys’ yn was, os nad yn ysglyfaeth i ‘waith eglwys’.

Ni fydd yr un o’r uchod, nac unrhyw syniad arall yn tolcio dim ar uffern ein byw, heb ein bod ni a’n tebyg, nid yn unig yn clywed am rym achubol yr Efengyl, ond yn ei brofi hefyd. Yr unig bridd da i’r hadau gwan uchod yw’r math o gymuned Gristnogol lle mae pob un a berthyn iddi yn derbyn y nerth i wynebu, a’r ysgogiad i herio’r ‘tywysogaethau’ a ‘grymusterau’ sy’n ei bygwth yn feunyddiol. Os na lwyddwn yn hynny, waeth i ni roi ein pregethau, ein blogiau, ein gwefannau – y cyfan oll – yn y to ddim!

(Gyda llaw, ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y Gynhadledd eto?)

RHWNG Y PASG A’R PENTECOST

‘Ryn ni yn y cyfnod rhwng y Pasg a’r Pentecost, ac mi garwn i wneud rhai sylwadau wedi’u seilio ar ddamcaniaeth yr Esgob Spong yn ei lyfr Resurrection: Myth or Reality?
Mae Spong yn tynnu sylw at adnod yn llyfr Deuteronomium, pennod 21, adnod 23 “y mae un a grogwyd ar bren dan felltith Duw.” Mae hyn yn awgrymu mai Duw trwy ei farnwyr bioedd cael dyn yn euog a’i gosbi, ac felly nid oedd y syniad o ddienyddio dyn dieuog ar gam yn taro meddwl yr Iddew o gwbl.
Pan ddwedodd Iesu y byddai’n cael ei ladd, ymateb Pedr oedd “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.” Ni allai Pedr ddychmygu’r Crist, mab y Duw byw, yn cael ei ddienyddio. Ar y nos Iau yn yr oruwchystafell, pan ddywedodd Iesu fod un ohonyn nhw yn mynd i’w fradychu, ‘rwy’n siŵr nad oedd yr un ohonyn nhw yn meddwl o ddifri y byddai’n cael ei ddienyddio. Ac yna yng Ngardd Gethsemane, ‘rwy’n siŵr fod Pedr yn teimlo ei fod yn offeryn yn llaw Duw yn tynnu’i gleddyf i amddiffyn Iesu, ac y byddai, gyda help Duw, wedi llwyddo i’w achub rhag y milwyr. Ond beth wnaeth Iesu ond ei wahardd. Dyma’r foment y sylweddolodd y disgyblion fod posibilrwydd cryf bellach y câi Iesu ei ddienyddio, ac os digwyddai hyn fe fyddai’n golygu mai dyn drwg yn haeddu melltith Duw oedd e. Anodd yw dychmygu maint y sioc oedd hyn iddyn’ nhw: oes ryfedd eu bod nhw wedi dianc?
Fe gofiwn i Pedr ddilyn yr osgordd i’r llys, a’i feddwl yn gymysg oll i gyd, mewn cyflwr o sioc a phanig. ‘Roedd yn mentro yno er mwyn cael ateb i’r cwestiwn oedd wedi codi yn ei feddwl; ai’r Athro a’r Meistr yr oedd yn ei garu oedd Iesu, ynteu dihiryn oedd wedi’i dwyllo fe a’r disgyblion eraill? Os mai dyn drwg oedd e, yna ‘roedd eu bywydau nhw mewn perygl hefyd; fyddai’r Rhufeiniaid yn poeni dim am groeshoelio’r cwbl lot ohonyn nhw os oedden nhw’n dymuno gwneud hynny? Felly pan ofynnwyd i Pedr a oedd yn un o ddilynwyr Iesu, fe wadodd dair gwaith. Allwn ni ei feio fe? Wedi i Iesu edrych arno, fe dorrodd i wylo; ‘roedd y sefyllfa’n drech nag ef. Gallwn ddychmygu’r gri ingol yn codi o’i galon, “Dduw mawr, beth sy’n digwydd?”
Brynhawn drannoeth fe groeshoeliwyd Iesu.
Ac fel yna daeth pethau i ben. ‘Doedd dim amdani bellach ond cerdded yn ôl i Galilea, yn dal i ddioddef ergyd lem ‘roedden nhw wedi’i chael, ac yn methu deall sut y bu iddyn nhw gael eu twyllo gan y melltigedig hwn. Ail-gydio yn y gwaith o bysgota – ‘roedd yn rhaid cadw corff ac enaid ynghyd.
Ond fedren nhw ddim anghofio; ‘roedd yr atgofion yn dod yn ôl o hyd ac o hyd. Cofio’r hyn ddwedodd Iesu:
“Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu’r ddaear. Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw.  Carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid.  Maddau inni ein troseddau, fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn.”Cofio’r straeon hynny oedd yn dal eu sylw yn dynn, ac yn dysgu gwersi pwysig am eu buchedd; am gariad anhygoel y tad hwnnw a dderbyniodd ei fab yn ôl i’r cartref yn ddiamod, a’i anrhydeddu, wedi iddo dreulio amser maith i ffwrdd gan wario cyfran helaeth o eiddo’r teulu; am yr ynfytyn cyfoethog hwnnw a fynnai gasglu mwy o gyfoeth iddo’i hun mewn ysguboriau mwy, ond heb sylweddoli y gallai Duw derfynu’i einioes yn ddirybudd.
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Cofio wedyn am weithredoedd Iesu, am y nifer fawr o bobl yr oedd wedi’u hiachau o’u hafiechydon, afiechydon yr oedden nhw’n credu eu bod yn gosb am bechodau.  Cofio amdano yn galw’r plant ato gan ddweud, “i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.”
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Arfer y pysgotwyr oedd mynd allan yn eu cychod yn ystod y nos, a dal yr helfa orau yn ystod yr oriau cyn y wawr. Cyn mynd â’r pysgod i’r farchnad, bydden nhw’n cael brecwast ar y traeth; coginio ychydig o’r pysgod newydd eu dal, a thorth o fara cartref. Mi fyddai un ohonyn nhw yn torri’r bara gan offrymu gweddi megis “Bendigedig wyt ti, O Arglwydd Dduw, Brenin y bydysawd, sy’n peri i’r grawn dyfu o’r ddaear er cynhaliaeth ein cyrff.” Cofio am Iesu’n torri’r bara ar sawl achlysur, yn arbennig wrth swper y noson cyn ei groeshoelio.
Ond ‘roedd Iesu wedi’i ddienyddio, a dynion drwg oedd yn cael eu dienyddio.
Fe allwn ni deimlo’r tensiwn yn tyfu’n dynnach, dynnach ym meddwl a chalon Pedr a’r disgyblion. Ni fyddai Iddew cyffredin byth yn meddwl amau’r Torah. Ac eto, po fwyaf yr oedden nhw’n meddwl dros yr atgofion lu am Iesu, yn eu byw y medren nhw gofio dim amdano oedd yn ddrwg, yn sicr dim i gyfiawnhau ei ddienyddio.
I’r gwrthwyneb, wrth feddwl fel hyn dros gyfnod o wythnosau a misoedd, ‘roedd y darnau fel pe baen nhw’n disgyn i’w lle. Nid rhywun oedd wedi dod i adfer y frenhiniaeth i Israel oedd Iesu, ond rhywun anhraethol bwysicach na hynny. ‘Roedd e’n berson o dragwyddol bwys ym mywyd pob un ohonyn’ nhw, yn sylfaen ac yn hanfod eu bywyd. Fedren’ nhw ddim byw hebddo mwyach. ‘Roedd e’n FYW iddyn’ nhw.
Pam felly ‘roedd Iesu wedi’i groeshoelio? Yn sicr nid am fod Duw wedi’i gael e’n euog o ddrygioni. Rhaid bod yna eglurhad arall. Daethon’ nhw i weld mai marwolaeth Iesu ar y groes oedd uchafbwynt ei fywyd, y mynegiant mwyaf a chliriaf o gariad Duw, y cariad diamod, cariad tu hwnt i ffiniau cyfiawnder, cariad nad oedd yn gofyn unrhyw dâl. ‘Roedden nhw’n teimlo’r cariad hwn yn eu cofleidio, a hynny’n atgyfnerthu’u sicrwydd fod Iesu’n FYW iddyn’ nhw.
Erbyn hyn ‘roedd yr haf yn dirwyn i ben, a’r hydref, tymor Gŵyl y Pebyll yn agosáu. Hon oedd yr Ŵyl Ddiolchgarwch, gŵyl arall pryd y disgwylid i’r Iddewon ymgynnull yn Jerwsalem. A dyma Pedr a’r disgyblion yn cerdded drachefn i Jerwsalem, cyfarfod eto â’r disgyblion oedd yn dal yno a’u hargyhoeddi nhw o’r sicrwydd a’r llawenydd newydd oedd wedi gafael ynddyn’ nhw. Ac yna, dechrau pregethu’r Crist byw i’r bobl oedd wedi dod ynghyd yno ar gyfer yr ŵyl.
Ond pam Gŵyl y Pebyll? Y darnau ysgrythur mwyaf perthnasol i’r ŵyl hon oedd Salm 118 ac ail ran Llyfr Sechariah. Mae Spong yn dweud “This psalm meant Tabernacles to Jewish people just as surely as ‘O come all ye faithful’ means Christmas to Christians.” Ynddi fe geir yr adnodau hyn:
“Yr ydym yn erfyn, Arglwydd, achub ni; (dyma ystyr y gair Hosanna)  yr ydym yn erfyn, Arglwydd, rho lwyddiant.  Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd.  Bendithiwn chwi o dŷ’r Arglwydd.  Yr Arglwydd sydd Dduw, rhoes oleuni i mi.  Â changau ymunwch yn yr orymdaith hyd at gyrn yr allor.”
Ac yr oedd gorymdeithio gan gario cangau palmwydd a gweiddi Hosanna yn rhan hanfodol o Ŵyl y Pebyll.
Yn Llyfr Sechariah fe geir yr adnodau hyn:
“Llawenha’n fawr, ferch Seion;  bloeddia’n uchel ferch Jerwsalem.  Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.”
“A dywedais wrthynt, ‘Os yw’n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.’ A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian. Yna dywedodd yr Arglwydd wrthyf, ‘Bwrw ef i’r drysorfa – y pris teg a osodwyd arnaf, i’m troi ymaith!’ A chymerais y deg darn ar hugain o arian a’u bwrw i’r drysorfa yn nhŷ’r Arglwydd.”
“A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a thrugaredd, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am un unig anedig, ac wylo amdano fel am gyntaf-anedig.”
Ac ar ddiwedd y llyfr ceir cyfeiriad at yr ŵyl ei hunan: “Ac os bydd teulu o’r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr Arglwydd i daro’r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw Gŵyl y Pebyll. Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw’n mynd i fyny i gadw Gŵyl y Pebyll.”
Rhan bwysig o ddefodau’r ŵyl oedd bod teulu yn gosod pabell, neu godi sukkoth, adeilad dros dro yng ngardd eu cartref. Yn ystod wyth niwrnod yr ŵyl (yr un nifer o ddyddiau â’r wythnos sanctaidd o Sul y Blodau i Sul y Pasg, gyda llaw) mi fyddai’r teulu yn paratoi pryd arbennig o fwyd a’i gludo i’r sukkoth i’w fwyta. Hefyd mi fydden’ nhw’n mynd â blwch o berlysiau i mewn i’r sukkoth. Ac yna ar yr wythfed dydd mi fyddai’r teulu yn ymadael yn derfynol â’r sukkoth.
‘Does dim angen i mi egluro’r cyfeiriadau hyn a’u harwyddocâd yn stori’r Pasg fel y’i ceir yn yr efengylau. Mae’n bosib fod profiad newydd a gogoneddus y disgyblion o’r Iesu byw yn ystod Gŵyl y Pebyll wedi peri i’r ddau beth fod yn anwahanadwy yn eu profiad. A dyna’r ffurf a gymerodd stori’r Pasg rai degawdau’n ddiweddarach.
Ai dyma ddigwyddodd mewn gwirionedd? Pwy all ddweud? Ond dyma fel mae’r esgob Spong yn diweddu: Y tu ôl i’r straeon a gododd o gwmpas y foment hon, mae yna realiti na fedra’ i byth ei wadu. Mae’r Iesu’n fyw. Mi ‘rydw i wedi gweld yr Arglwydd. Wrth y ffydd a’r argyhoeddiad yna ‘rwy’n byw fy mywyd ac yn cyhoeddi ‘r efengyl.
Delwyn Tibbott
(Traddodwyd mewn cyfarfod yn Eglwys  y Crwys, Caerdydd, a’i gyhoeddi yn  Y Gadwyn, cylchgrawn yr eglwys)
08/04/2013