E-fwletin 19 Ionawr, 2015

E-fwletin 19eg Ionawr 2015

Mae Ffrainc newydd brofi deng niwrnod tebyg i’r cyfnod a brofodd gwledydd Prydain yn dilyn marwolaeth y Dywysoges Diana ym 1997, ar ôl iddi farw yn ddisymwth ym Mharis. Pan oeddwn i yno yn dathlu fy mhenblwydd llynedd, fe gerddais heibio’r gofeb syml uwchben y ffordd danddaearol lle cafodd ei lladd.

Yn ogystal â digwydd yn yr un ddinas, gwedd gyffredin arall y ddau achlysur yw i boblogaeth gyfan deimlo fod rhaid iddyn nhw uniaethu ag un safbwynt ac un symbol. Y tro hwn “Je suis Charlie” a’r bensel oeddynt. Roedd Medi 1997 yn gyfnod anodd i unrhyw un oedd yn amheus o werth y teulu brenhinol. Bu’r deng niwrnod diwethaf yn anodd i unrhyw un sy’n amheus o “laïcité” Ffrainc – y seciwlariaeth eithafol sydd nid yn gymaint yn “rhyddid crefyddol” ond yn “rhyddid rhag crefydd”. Ers y Chwyldro ym 1789, mewn ymateb i orthrwm brenhiniaeth Gatholig y 18fed ganrif, fe wthiwyd crefydd o’r neilltu i breifatrwydd y cartref yn unig. Mae Islam, a’i phwyslais ar rôl crefydd yn y bywyd cyhoeddus, yn her i hynny, a dyna un rheswm dros wahardd y burkha yn Ffrainc.

Nid oes neb am amddiffyn lladd yn enw unrhyw grefydd. Ond rhaid gofyn ai doeth yw chwifio pensil er mwyn amddiffyn penrhyddid y wasg wrth-grefyddol. Ar wahân i ddim arall, nid newyddiadurwyr yn unig a laddwyd. Fe laddwyd pedwar am eu bod yn meiddio siopa mewn siop Iddewig – adlais arswydus o Kristallnacht, ac agwedd a hybir nid yn unig gan Fwslimiaid eithafol ond hefyd gan Marine Le Pen a’r Front National. Diolch i Francois Hollande am fod yn ddigon hirben i’w chadw hi draw o’r ymdaith ym Mharis a sicrhau gwarchodaeth ychwanegol i synagogau.

Yr eironi yw fod ymdeithiau’r bensil, yng Nghaerdydd yn ogystal â Pharis, yn honni clodfori rhyddid barn a mynegiant. Ond mewn gwirionedd roedd ynddynt gyfle i fynegi un farn yn unig, a mae rhyddid unrhyw un sydd am fynegi’n wahanol wedi’i gyfyngu nid gan y gyfraith ond gan bwysau torfol. Ar Twitter ac ati fe gafodd sawl un ei fygwth am feiddio awgrymu nad yw agwedd wrth-grefyddol Charlie Hebdo yn llesol i gymdeithas. Nid rhyddid yw hynny ond gorthrwm y mwyafrif dros y lleiafrif. Trasiedi Chwyldro Ffrainc ym 1789 oedd iddo sefydlu nid rhyddid i leiafrifoedd, ond gosod mwyafrif newydd yn lle’r hen fwyafrif. Ac fe aeth y mwyafrif newydd ati i ddyfeisio’r guillotine i ddelio â’u gwrthwynebwyr.

Gorthrwm y mwyafrif sy’n rhannol gyfrifol am dwf y Front National yn Ffrainc ac UKIP ym Mhrydain – pobl yn teimlo na allant leisio eu barn. Dyw troi pleidiau felly yn fwyafrif ddim yn ateb, oherwydd fe wyddom y byddant wedyn yn gorthrymu’r lleiafrifoedd a erys. Yr her i gymdeithas yn Ffrainc ac yng Nghymru yw sut y gallwn gynnal cymdeithas lle y gallwn roi lle i’n gilydd heb orfod cytuno â’n gilydd, lle y gallwn anghytuno â’n gilydd heb ladd na bygwth. Mae’n her oesol. Mae’n her ganolog i’n dyddiau ni. Efallai y dylem ddarllen Effesiaid 4.15 o’r newydd yr wythnos hon cyn chwifio’n pensiliau o flaen y camerâu.