Archifau Categori: E-Fwletin

E-fwletin Wythnosol

E-fwletin 6 Mehefin, 2021

Pwy ydw i?

Yn ystod y dyddiau diwethaf fe ddaeth hi’n amlwg i mi fy mod yn ddyn estron wrth ymweld â harddwch Gwynedd.  “Un o’r Sowth ‘da chi?” holodd cwpwl o bobl yn ystod yr wythnos.   Mae pobl yn y gwaith yn fy ngalw’n ‘valleys boy’.   Mae un person yn y gwaith, sy’n digwydd byw mewn ardal wledig iawn yng ngogledd Powys,  yn cyfeirio ataf fel  ‘city dweller’.   Rwy wedi gweithio lawr yng Nghaerdydd yn y gorffennol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd cydweithwyr oedd yn meddwl amdanaf fel ‘country bumpkin’.     Mae’n amlwg na all y cyfan uchod fod yn wir amdanaf ar yr un pryd, a byddwn i’n dweud mai dim ond un o’r disgrifiadau uchod sy’n gywir.  Rwy’n un o’r Sowth.

Mae’r byd yn un rhyfedd iawn gyda phawb, mae’n debyg, yn frwd i roi label ymwybodol neu anymwybodol ar bawb arall. 

Fel y mae amryfusedd am ddaearyddiaeth fy hunaniaeth, rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr un aneglurder yn bodoli am fy mywyd crefyddol.   Mae’n hysbys yn y gwaith fy mod yn weithgar mewn eglwys.   Mae’r adborth sy’n gysylltiedig â hynny’n amrywio’n fawr.   Mae ambell un yn gweld y peth fel gwendid ymenyddol.  Y frawddeg orau a glywais i oedd “Am un sy’n credu mewn tylwyth teg a majic ar ddydd Sul, ti’n rhyfeddol o synhwyrol yn ystod yr wythnos”.  Roedd cydweithiwr arall yn fy holi gyda’r bwriad o wybod a ydwyf yn Gristion go iawn.   Roedd yr unigolyn hwnnw am wybod os yw fy eglwys yn credu yn y Beibl fel “gair Duw”.  Rwy’n tybio fod y ffaith i mi orfod gofyn iddo “beth yn union wyt ti’n ei feddwl wrth hynny?” yn golygu fy mod, iddo ef,  yn syth yn cwympo y tu allan i gylch y cadwedig. 

I fi, rwy’n Gristion ac yn Gymro.  Mae bod yn Gristion yn ddigon syml – sef rwyf wedi ymrwymo i geisio dilyn ffordd Iesu Grist a gwneud hynny yng nghwmni pobl sydd am wneud yr un peth.  Mae’n biti erbyn hyn bod mwy o amrywiaethau o Gristnogion nag sydd o fwydydd gan Heinz.  Fodd bynnag, gyda phêl-droed yr Ewros ar fin dechrau,  o leia fydd dim angen i mi esbonio fy nghenedligrwydd i neb arall am fis.  O deued y dydd pan fydd ein dealltwriaeth o fod yn Gristion yr un mor syml â’n dealltwriaeth o Gymreictod, a phan fydd dilyn Iesu a charu cyd-ddyn yn ddigon o esboniad i bawb arall.

 

E-fwletin 30 Mai 2021

Gorbryder

Mae pob un ohonom yn poeni am rywbeth neu rywun, mae hynny’n gwbl naturiol. Ond pan yw’r weithred o boeni’n broblem tymor hir sy’n effeithio ar eich byw bob dydd, mae’n troi’n anhwylder gorbryder.

A pha ffurf bynnag ar orbryder sy’n eich poeni (boed yn gymdeithasol, GAD: General Anxiety Disorder, OCD, PTSF) mae’n peri i chi wneud pob math o bethau gwirion.  Ofni lleisio eich barn mewn cyfarfod rhag ofn i eraill feddwl eich bod yn siarad trwy’ch het, ofni dweud y peth anghywir, neu ypsetio rhywun, neu’r ofn y bydd rhywun yn anghytuno â chi, ac y bydd pawb yn siarad amdanoch wedi’r cyfarfod. Dweud pob math o bethau twp er mwyn cynnal sgwrs, a phoeni am y pethau a ddywedwyd oriau ar ôl eu dweud.

Mae gorbryder yn peri i’ch calon lamu wrth glywed y postmon yn gwthio’r amlen drwy’r drws bob bore. Mae llythyr sy’n edrych yn swyddogol yn gwneud i chi ofni ei agor, rhag ofn – wn ni ddim rhag ofn beth ychwaith! Mae gorbryder yn peri i chi ofni agor ambell e-bost ac ofni ei ateb.

Mae gorbryder yn peri i chi fethu â phenderfynu beth i’w wisgo cyn mynd allan, a’r weithred o geisio dewis eich gwisg yn achosi i chi fod yn hwyr i’r cyfarfod. Haws yw aros gartref.  A sôn am fod yn hwyr, mae gorbryder yn peri i chi gyrraedd pobman yn ddiweddar gan nad ydych, mewn rhyw ffordd na ellir ei esbonio’n iawn, yn cael eich hunan yn barod i ddod mas o’r tŷ mewn pryd.

A oes gan Dduw gonsýrn am eich gorbryder? Credaf fod ganddo. Mae E’n gwybod taw llestri pridd digon bregus ydym. A yw Pedr yn dangos arwyddion o orbryder neu ddiffyg hyder wrth annog ‘Bwriwch eich holl bryder arno (Duw), oherwydd y mae ganddo ofal amdanoch’. (1 Pedr: 5:7)?   A yw Paul yn poeni am gyflwr iechyd meddwl y Philipiaid, ‘Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil.’ (Philipiaid 4:6).

Felly, mae Pedr yn dweud wrthym am beidio â phryderu – ydy hyn yn bosib tybed?  Fe fyddai unrhyw un sy’n dioddef o orbryder yn ei chael hi’n anodd dirnad yr anogaeth i beidio â phryderu o gwbl; yn wir, wn ni ddim faint o ddaioni y byddai clywed hynny’n ei wneud i ddioddefwr. Onid annog rhywun i ddelio â’r pryder sydd ei angen? Mae arbenigwyr yn cynnig pob math o ffyrdd o ddelio â gorbryder, a nifer ohonynt yn rhai llwyddiannus iawn.

Ond mae’r Beibl yn mynd â ni un cam ymhellach drwy sôn am ‘symud‘ y pryder, yn hytrach na pheidio â phryderu o gwbl. Dyna’n union yw ystyr ‘bwrw dy faich’, ei symud, fel symud pwysau, oddi ar ysgwyddau’r sawl sy’n ei gario ar Dduw.  A oes gan Gristnogaeth rywbeth arall i’w ddweud am orbryder tybed?

Yr hwn fo’n gaeth sy’n rhydd.

 

E-fwletin 23 Mai 2021

Beth wnes i heddiw?

Sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro … tafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt … pobl ofnus a dryslyd oedd yn llechu yn niogelwch yr oruwchystafell yn mentro allan ac yn dechrau annerch y dorf mewn ieithoedd dieithr … dyna’r hyn a ddigwyddodd, yn ôl Llyfr yr Actau, pan gafwyd ‘tywalltiad o’r Ysbryd Glân’ ar y Pentecost.

Yn wreiddiol, un o dair gŵyl Iddewig i ddiolch am y cynhaeaf oedd y Pentecost. Y Pasg oedd yr ŵyl gyntaf, diwrnod i ddathlu ‘geni’ y genedl yn yr Aifft pan gafodd ei gollwng yn rhydd dan arweiniad Moses. Saith wythnos yn ddiweddarach, byddai’r Iddewon yn diolch am gynhaeaf ‘blaenffrwyth dy lafur’ mewn gŵyl arbennig o’r enw ‘Gŵyl yr Wythnosau’.

Yn ddiweddarach, fe gyflwynwyd elfen grefyddol i’r ŵyl drwy honni i’r Iddewon dderbyn eu cyfraith ar lethrau mynydd Sinai hanner can diwrnod ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft am y Môr Coch a’r anialwch.

Ond ar ddydd y Pentecost, rai canrifoedd yn ddiweddarach, a’r disgyblion yn drist ac yn ofnus ar ôl colli eu harweinydd, fe ddigwyddodd rhywbeth gwirioneddol ryfeddol iddyn nhw, rhywbeth a newidiodd eu bywydau am byth. Ac yn draddodiadol, ystyrir mai dyma ddiwrnod sefydlu’r Eglwys Fore a dechrau lledaeniad Cristnogaeth ledled y byd.

Wrth edrych ymlaen at ddydd y Pentecost eleni, roeddem yn cofio hanner canmlwyddiant marw Waldo Williams, bardd a lwyddodd i grynhoi mor effeithiol rai o brif egwyddorion Cristnogaeth – yn arbennig ei syniad o frawdoliaeth (a chwaeroliaeth). Mae pennill clo ei gerdd ‘Brawdoliaeth’ yn ysgytwol, ac yn dal mor berthnasol heddiw, er enghraifft, wrth inni feddwl am y gwrthdaro sy’n digwydd o hyd rhwng Israel a’r Palestiniaid:

            Mae Teyrnas gref, a’i rhaith

            yw cydymdeimlad maith;

            cymod a chyfiawn we

            myfi, tydi, efe

            a’n cyfyd uwch y cnawd:

            pa werth na thry yn wawd

            pan laddo dyn ei frawd?

Mae neges Waldo am faddeuant yn ei gerdd ‘Pa beth yw dyn’ yn siarad â phob oes:

Beth yw maddau? Cael ffordd trwy’r drain
At ochr hen elyn.

Sut allwn ninnau geisio ymgyrraedd at y ddelfryd hon? Beth am holi ein hunain, fel y gwnaeth Henri Nouwen ein hannog i wneud?

Wnes i gynnig heddwch heddiw?

Ddois i â gwên i wyneb rhywun?

Ddywedes i eiriau oedd yn iacháu?

Wnes i gael gwared ar deimladau cas a chwerw?

Wnes i faddau?

Wnes i garu?

 

Dyma’r cwestiynau hollbwysig.

 

(Henri Nouwen, offeiriad a diwinydd o’r Iseldiroedd, 1932–96)

 

E-fwltin 16 Mai. 2021

DOD YNGHYD

‘Cwrdd’. Testun cyfoethog ar gyfer cadair neu goron y Gendlaethol eleni, pe bai’r fath gyd-gwrdd yn bosib. Berf a ddaeth – diolch i’r chwyldro Anghydffurfiol – yn enw hefyd. Sawl enw. Lle. Digwyddiad. Gweithred. Yn gyfuniad o ddwy ddynameg wrthgyferbyniol. Mynd / Llonyddu. Symud / Oedi. Y naill mor angenrheidiol a’r llall yn nhyndra cynhaliol ein byw a’n bod. Cyd-oedi wrth gyd-symud. Cyd-lonyddu wrth gyd-aflonyddu. Ymdeithio. Myfyrio. Mentro. Ymdeimlo. Cyffroi. Ymroi. Ynghyd.

Yn y dwys distawrwydd, holltwn atom ‘cwrdd’ a chanfod mai cyd-ddawnsio y mae proton a niwtron symud a sefyll o gwmpas haul ‘cyffwrdd’ – y grym quantum-gynnil sy’n estyn. Sy’n neidio ar draws. Sy’n cydio a dal gafael. Ynghyd.

Heb ‘cyffwrdd’ y mae cwrdd namyn rhith.

Heb ‘cyffwrdd’ ofer yw estyn. Nid oes afael i gydio ynddi. Nid oes ynghyd. ’Mond rhith. Ymddangosiad. Tebygrwydd mynd-a-dod. Scene sgrîn-debyg. Sy’n bresennol-absennol. O fewn cymdeithas sy’n byw ar ei chof. Sy’n namyn byw. Sy’n llonydd. Nad yw’n aflonydd. Sy’n oedi. Ac oedi. Wedi gorfod.

Sy’n dal i oedi. A’i fwynhau. (Yn dawel bach.) Y dim rhaid. Y rhyddid. Yr Id rhydd. Y codi pwysau oddi ar ysgwyddau. Y datglymu a’r ryddhau. Yr ymryddhau. Oddi wrth bawb. Popeth. Yr ynghyd.

A nawr? A’r trydydd dydd ar wawrio?  Pan na fydd dim rhaid? Pan na fydd dim dewis? Pan fydd cyfle. I symud. I aflonyddu. I dasgu. I ddewr-gamu oddi wrth. I ofod-neidio tuag at. I ddringo’r enfys. I bontio pobloedd. I estyn. I afael. I gydio.

I gyffwrdd. I gwrdd. Ynghyd.

Be wnawn?

E-fwletin 9 Mai 2021

Curo ar y Drws

‘Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a bydd y ddau ohonom yn cyd-fwyta gyda’n gilydd’. (Dat. 3:20)

Drws: y bwlch yr eir i mewn drwyddo i adeilad, dôr, cyfrwng mynediad neu gyrhaeddiad, agoriad, cyfle.

Mae’r dystiolaeth archeolegol yn dangos fod drysau wedi eu gosod ar gytiau crwn ein hynafiaid dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd eu defnydd pryd hynny, fel heddiw, i’n cadw’n ddiogel gyda’r hwyr, i gadw’r byd mawr led braich tu draw i’r rhiniog, i amddiffyn y teulu oedd yn swatio rownd y tân, cyfle i anwybyddu’r hyn oedd yn digwydd o’u cwmpas.

Mae pobl wastad wedi bod yn barod i gau’r drws ar realiti’r hyn sy’n digwydd yn eu milltir sgwâr neu ymhellach i ffwrdd. Saffach o lawer yw swatio rownd y tân gan wybod fod y drws wedi ei gloi.

Mae’n siŵr fod pawb yn wybyddus â gwaith yr arlunydd Holman Hunt, ‘The Light of the World’. Mewn perllan saif ffigwr sy’n gwisgo coron o ddrain ac yn cario lamp sy’n taflu ei goleuni ar ddrws caeedig nad oes modd ei agor o’r tu allan. Mae’n amlwg fod y drws wedi bod ynghau ers amser. Mae’r iorwg wedi prysur dyfu a gorchuddio’r drws.

Iesu wrth gwrs yw’r ffigwr sydd wrth y drws. Mae ar fin curo arno. Dyna sy’n denu sylw’r mwyafrif sy’n craffu ar y llun. Ond mae yna un manylyn arall yn y llun nad oes pawb wedi sylwi arno. Pan welwch y llun y tro nesaf, edrychwch ar draed Iesu. Maent wedi eu darlunio fel petai Iesu ar fin cerdded i ffwrdd. Yr awgrym yw ei fod wedi blino aros. Mae wedi blino ar guro’r drws a methu cael ateb.

Nod y darlun yw ein herio. Ydyn ni’n mynd i agor y drws cyn ei fod yn rhy hwyr? Ydyn ni’n mynd i gadw’r drws ar gau oherwydd ein bod yn ofni’r dyfodol? Ydyn ni’n mynd i gadw’r drws ar gau oherwydd bod hi’n well gennym swatio rownd y tân a throi ein cefn ar realiti’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas?

Es i am dro’r diwrnod o’r blaen. Roedd yna fwriad penodol i’r daith. Fy mwriad oedd cyfrif faint o gapeli’r cylch, sy’n dal i gynnal gwasanaethau, oedd â hysbysfwrdd ger eu drysau – hysbysfwrdd a fyddai’n nodi rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad e-bost, amserau’r gwasanaethau ac ati.

Ymwelwyd ag ugain capel. ‘Sbin’ bach braf! O’r ugain dim ond chwech oedd yn cynnig unrhyw fath o wybodaeth – boed hynny’n rhif cyswllt neu’r amserau pryd fyddai’r drws ar agor i groesawu’r addolwyr. Roedd un deg pedwar yn amlwg yn glybiau preifat i’r detholedig rai.

Eglurodd Holman Hunt mai’r hyn oedd yn ceisio ei gyfleu yn y llun oedd ‘the obstinately shut mind’. Onid yw hyn yn ein hatgoffa o aelodau ac arweinwyr eglwysig ar hyd a lled Cymru heddiw. Does dim gwahoddiad yn y rhelyw o’r capeli i’r dieithryn, yr ymwelydd, y cymydog, y newydd ddyfodiad – dim gwahoddiad i droi’r bwlyn a dod drwy’r drws. Mae’r ‘obstinately shut minds’ wedi penderfynu mai gwell yw swatio rownd y tân ac anwybyddu’r gymdeithas tu hwnt i’r drws. Gwell ganddynt gadw pawb lled braich mewn adeiladau ac achosion sy’n prysur ddadfeilio ac aros yn y tywyllwch.

E-fwletin 2 Mai 2021

Cydradd yng Nghrist

Ydych chi wedi sylwi cymaint mae straeon am fenywod wedi bod yn hawlio’r penawdau yn ddiweddar? Dyna chi’r digwyddiad erchyll yna am Sarah Everard yn cael ei chipio a’i llofruddio yn Llundain a’r protestiadau a ysgogodd hynny ynghylch diogelwch menywod. Yna cafwyd y stori am y modd yr honnir i’r Dywysoges Latiffa gael ei cham-drin gan ei theulu yn Dw-bai. Stori ddiddorol i mi (ac eraill ohonon ni sydd wedi bod yn gwylio’r gyfres ‘The Queen’s Gambit’ ar Netflix mae’n siŵr) oedd honno am Anna Muzychuk, y bencampwraig gwyddbwyll o Wcrain, sydd wedi gwrthod amddiffyn ei choron byd drwy chwarae gwyddbwyll yn Saudi. Sail ei gwrthwynebiad yw y byddai, o fynd i Saudi, wedi cael ei thrin yn eilradd, fel pob merch arall yn y deyrnas hynod gyfoethog honno.

Bu’n Sul y Gymanfa Bwnc yn ein capeli ni yn ddiweddar. Ond oherwydd yr haint digwyddiad rhithiol ar Zoom a gafwyd eleni. Gwahoddwyd Arfon Jones (Beibl.net) atom i drafod agweddau ar ei lyfryn dadlennol, ‘Y Beibl ar… Ferched’. Cafwyd gwledd o wybodaeth gan Arfon wrth iddo olrhain seiliau Beiblaidd cydraddoldeb y rhywiau o’r Creu drwy’r Hen Destament i’r Efengylau a llythyrau Paul. Bu hefyd yn herio rhai o’r rhagdybiaethau simsan a ddefnyddiwyd yn hanesyddol i gyfiawnhau safle eilradd menywod mewn byd a betws.

Cawsom glywed ganddo am agwedd flaengar Iesu yn ei ddydd, yn torri confensiynau diwylliannol Iddewig, Groegaidd a Rhufeinig, ac yn herio patriarchaeth yr oes. Clywsom pa mor feiddgar oedd Iesu i fentro siarad gyda’r wraig o Samaria, i addysgu Mair ‘wrth ei draed’ ym Methania ac i amddiffyn gwraig odinebus. Roedd y ffaith fod menywod yn amlwg ymhlith disgyblion Iesu hefyd yn nodwedd anarferol yn ei ddydd. O dderbyn mai dynion oedd y Deuddeg, fel arall, mae’n ymddangos bod Iesu yn trin menywod â pharch anghyffredin yn ei ddydd ac yn ystyried menywod mor gydradd a bo modd o fewn hualau diwylliannol a chymdeithasol yr oes.

Nawr, meddech chi, does dim byd newydd yn y bregeth honno. Mae menywod wedi hen ennill parch a statws o fewn ein prif enwadau anghydffurfiol. Mae hyd yn oed yr Eglwys Anglicanaidd wedi unioni’r dafol yn y degawdau diweddar. Efallai wir, ond mae’n werth i ni atgoffa ein hunain bod yr egwyddor sylfaenol o gydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn nodwedd ganolog a chwyldroadol o’n Cristnogaeth ni.

Ac mae hynny’n ots i’r cyffredin, achos, fel mae penawdau’r newyddion yn tystio, dydy normau cymdeithasol y byd seciwlar heddiw – ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach – ddim bob amser yn cefnogi nac yn adlewyrchu hynny. Mae’r byd yn un llai diogel i fenywod, yn llai llewyrchus i fenywod, yn llai llwyddiannus i fenywod, yn llai cydradd i fenywod. Mae hanes diweddar Sarah Everard a’r Dywysoges Latiffa wedi ein hatgoffa o hynny. Mae safiad Anna Muzychuk wedi ein hatgoffa o hynny. Mae’r ‘Batriarchiaeth’ mor fyw ag erioed.

Felly, pan ddaw rhyw stori i’n sylw ar y newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol ynghylch safle menywod mewn cymdeithas, peidied i ni Gristnogion ddilyn ‘normau’ cymdeithasol normadol y Batriarchiaeth gyfoes. Dilynwn Iesu. Byddwn flaengar. Safwn dros gydraddoldeb pawb yn ddiwahân. Rydym oll yn un – ac  yn gydradd – yng Nghrist Iesu.

 

E-fwletin 25 Ebrill, 2021

Codi Pontydd

Mae Jo Teffnell yn enghraifft o rywun sydd wedi dangos dewrder a gras. Roedd ei thad, Syr Anthony Berry, yr Aelod Seneddol Torïaidd, yn un o bump a gafodd eu lladd gan Patrick Magee yn Brighton yn ystod cynhadledd y Torïaid ar 12 Hydref 1984. Fe benderfynodd Jo Tuffnell gysylltu gyda Patrick Magee, a gafodd 8 dedfryd am oes am y weithred, ond a ddaeth allan o’r carchar ar ôl 13 blynedd. Roedd hi’n awyddus i ddeall y person a gyflawnodd y weithred erchyll trwy godi pont. Bu’r cyfarfod cyntaf yn un hynod o bwerus a thrydanol. Ond fe roddodd Jo ei meddyliau ar ffurf cerdd. Roedd hi’n byw ym Mhorthmadog ar y pryd.

Ymdrech yw’r isod i gyfieithu cerdd Jo Tuffnell: 

   Mae’n bosibl codi pontydd

Mae tanau yn rhuo yn fy nghalon,
Mae’r gwres yn iachau’r boen,
mae’n bosibl codi pontydd.

fel bod dynol
gwrandawaf ar dy ddioddefaint.
cynigiaist i mi dy stori,
poen rhyfel,
dysgaf
mae’n bosibl codi pontydd

dywedwyd wrthyf ti yw fy ngelyn
bydd yn hogan dda,
siarada ein geiriau ni yn unig,
ac yna cyfarfûm â thi,
mae`n bosibl codi pontydd


mae’r gwirionedd yn fwy pwysig,
mi a siaradaf yn hyf dros iachâd y byd,
bydd wrol,
bydd ysbrydol,
nid i mi gêm y llwyth,
mae`n bosibl codi pontydd.

â gwisgoedd rhagfarn yn awr wedi eu diosg
wrth i mi ymagor i ti,
gadael yn noeth fy enaid
a all eich caru chwi oll,
mae’n bosibl codi pontydd.

gyda llygaid gwybod
symudaf oddi wrth ni a nhw,
diflanna ein gwahaniaethau,
erys undeb dynoliaeth,
mae`n bosibl codi pontydd.

geill dy feibion fod yn eiddo i mi,
a gallwn innau fod yn frawd i ti
yn plannu’r bom a laddodd y bachgen bach,
mae’n bosibl codi pontydd.

ac yn awr safaf yn unig 
gyda thi a laddodd fy Nhad,
mae lle y tu mewn i mi sydd yn gwybod
i ti weithredu dy wirionedd di
herio anghyfiawnder a gorthrwm,
‘roedd fy Nhad yn y ffordd,
mae`n bosibl codi pontydd.

`rwy’n colli fy Nhad,
a `rwy’n wylo am y taid na all fy ngenethod ei adnabod,
dagrau galar dros bawb a ddioddefodd,
`rydym yn un yn ein colled, yn ein poen,
mae’n bosibl codi pontydd.

weithiau teimlaf fod fy nghalon yn iachau 
fel y mae Iwerddon yn iachau,
‘rwyn gofidio am y dioddefaint a achoswyd gan fy llwyth,
'rwy’n cydnabod eich ymgyrch,
mae`n bosibl codi pontydd.

llosga fy nghalon dros heddwch, cyfiawnder 
a chydraddoldeb i bawb
yr angerdd o wybod
mae`n bosibl codi pontydd.

E-fwletin 18 Ebrill, 2021

Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth

Anaml y gwelir y ddau bennawd yma gyda’i gilydd gan y credir gan lawer, o bosib, nad oes a wnelo gwleidyddiaeth ddim â ffydd. Ac eto, mae dysgeidiaeth yr Iesu yn dangos yn glir sut y dylen fyw ein bywyd bob dydd ac mae gwleidyddiaeth yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein bywyd dyddiol hefyd. Felly mae yn angenrheidiol i’r Cristion ddilyn athrawiaeth Iesu Grist wrth benderfynu a gweithredu ei hawliau gwleidyddol, gan geisio ufuddhau i’r Deg Gorchymyn, y Gwynfydau a Rheolau’r Bywyd Cristnogol a gyflwynir gan Paul.

Mae’r cyfnod yma yn ein hanes fel gwlad yn brawf mawr i’r Cristion; ni allwn droi cefn ac anwybyddu sefyllfa argyfyngus sydd yn bodoli yn y Deyrnas Unedig y blynyddoedd hyn. Mae gwleidyddiaeth heddiw yn llygredig iawn, yn llawn o ddiffyg parch a hunanoldeb, anonestrwydd, trachwant, celwydd, casineb, hiliaeth ac anfoesoldeb o bob math. Dichon fod hyn wedi bodoli erioed mewn gwleidyddiaeth ond yr hyn sydd yn wahanol y dyddiau hyn, mi gredwn, yw ei fod yn dderbyniol inni! Mae’r cyfryngau yn hapus i atgyfnerthu y nodweddion yma a rydyn ninnau fel etholwyr wedi pleidleisio i barhau y math yma o wleidyddiaeth.

Trwy roddi mwyafrif mor sylweddol i’r llywodraeth bresennol yn San Steffan rydym fel pobl wedi rhoi sêl ein bendith i nifer o bolisïau sydd i’w gweld yn groes iawn i ddysgeidiaeth Iesu Grist; polisïau fel cwtogi’r cyllid a roddir i’r gwledydd tlawd gan chwyddo, ar yr un pryd, y cyllid i gynhyrchu arfau niwclear 40%, gwrthod lloches i ffoaduriaid – gan gofio fod Iesu a’u deulu wedi bod yn ffoaduriaid, ymwahanu oddi wrth wledydd Ewrop gan fentro difetha heddwch a ddaeth yn dilyn cytundebau a wnaed i ddod â’r gwledydd at ei gilydd ar ôl rhyfeloedd.

Canlyniad cefnogi y math yma o bolisïau yw casineb at gyd-ddyn, diffyg parch at rai sydd yn wahanol oherwydd lliw croen, crefydd, rhywioldeb, iaith a diwylliant. Gwelwyd hyn yn eglur yn y ffordd sarhaus y cafodd pobl y Windrush eu trin; tristach fyth yw gweld fod cynifer o’r llywodraeth bresennol yn ddisgynyddion o ffoaduriaid eu hunain ac eto yn trin ffoaduriaid presennol mor haerllug. – atgoffa rhywun o’r gwas yn Mathew 18 a gafodd drugaredd ond heb roddi trugaredd i eraill!

Ydyn ni fel Cristnogion yn gallu cyfiawnhau, gyda chydwybod clir, rhoi ein cefnogaeth i’r math yma o weithredu? Neu ydyn ni yn anghofio – yn gyfleus efallai – gorchmynion a roddwyd inni gan yr Iesu, e.e. gwneud i eraill fel y dymunwn i eraill wneud i ni, caru ein cymydog fel ni ein hunain, dewis yn ddoeth rhwng Duw a Mamon, a.y.y.b.

Ym mis Mai mae gennym gyfle unwaith eto i ethol gwleidyddion i’n cynrychioli yn y Senedd yng Nghymru. Ein gobaith yw, ddyliwn, y byddwn yn gwneud hynny yng ngoleuni ein ffydd Gristnogol gan ethol cynrychiolwyr gonest, cyfrifol, cydwybodol sydd yn barod i amddiffyn y gwan, i sicrhau cyfiawnder i bawb yn ddiwahân. Fyddwn ni, sydd yn honni bod yn ddilynwyr Crist, yn gwneud ein gorau i wireddu hynny?

E-fwletin 11 Ebrill, 2021

Mae’r cyfnod wedi’r Pasg, fel mae diwedd yr Efengylau yn ei brofi, yn fwrlwm o feddyliau, cwestiynau , rhybuddion a bywyd yn cyniwair. Mae awdur yr e-fwletin heddiw yn ymwybodol iawn o hynny.

Meddyliau digyswllt ynglŷn â’r Pasg

1.

Gwirionedd am Dduw yn unig yw’r atgyfodiad. Y mae’n tarddu o’i  gariad. Os nad oes Duw Cariad nid oes atgyfodiad ychwaith. Nid oes dim mewn dyn a gwraig a eill oddiweddyd marwolaeth.

2.

Y mae gwahaniaeth pendant rhwng atgyfodiad â bywyd ar ôl marwolaeth. Nid yr un peth ydynt. Gweithred ddwyfol o’n mewn yw atgyfodiad.  Dyhead fy ego – y Fi Fawr – yw’r awch am fywyd ar ôl marwolaeth. Tasga o fy ofn marw, fy ngwrthryfel yn erbyn fy meidroldeb. Nid fy ngelyn yw marwolaeth, ond rhan annatod o broses naturiol. Nid yw marwolaeth yn ‘dewis’ neb. Hap, damwain, anlwc ydyw. Y mae’r awch am fywyd ar ôl marwolaeth wedi ei drosglwyddo i’r syniad o Gynnydd yn y byd seciwlar – un o’r syniadau mwyaf peryglus, sy’n arwain ‘dyn’oliaeth i feddwl fod adnoddau’r byd yn ddihysbydd, ac y medrir perffeithio y natur ddynol maes o law mewn rhyw iwtopia cyfalafol/comiwnyddol. Pethau’r byd hwn wedi eu tragwyddoli – y ‘para am byth’ bondigrybwyll, y ‘mi gaf ei weld eto’ – yw ‘cynnwys’ ciami Bywyd ar ôl marwolaeth. Dirgelwch llwyr a hollol yw atgyfodiad. Ni ŵyr neb – neb! – beth sydd ynddo ond Duw Sofran.

3.

Nid yw ffydd yn ddibynnol ar atgyfodiad.  Os dywedaf, nid wyf yn credu  os nad oes yna atgyfodiad, yna peth salw iawn yw ‘fy’ ffydd. Yr wyf wedi gosod amodau ar Dduw. Fersiwn grefyddol o fynd â fy mhêl adref os nad ydw i yn cael sgorio’r gôls i gyd. Os nad oes atgyfodiad y mae ffydd yn dal yn hollol ddilys a phosibl. Duw yw hanfod ffydd, nid be’ gaf i allan ohono. Yr wyf fi mewn dyled i Dduw. Nid yw Duw mewn unrhyw ddyled i mi.

4.

Corff wyf fi. Heb fy nghorff nid wyf finnau. Y mae’r ysbrydol fel yr emosiynol a’r teimladwy wedi eu hymgnawdoli’n wastad. Ni ellir canfod teimlad heb fod corff i’w deimlo. Y mae’r meddwl yn fwy na’r ymennydd, wrth gwrs ei fod, ond nid oes meddwl heb yr ymennydd. Felly atgyfodiad y corff sydd yna. Y cwestiwn yw: beth yw ystyr corff yng nghyd destun dirgelwch yr atgyfodiad? Mae’r atgyfodiad wastad yn drech na’r ysbrydol a’r symbolaidd.

5.

‘Paid â glynu wrthyf..’ yw adnod/arwyddair canolog yr atgyfodiad. Peth cwbl amhosibl mae’n amlwg i bobl grefyddol ei gyflawni oherwydd iddynt ar hyd y canrifoedd lynu wrth bob dim.

E-fwletin Sul y Pasg

Yr un yw neges y Pasg ag erioed, ond gyda’n hamgylchiadau mor wahanol ar ôl blwyddyn a mwy o’r Pla byd eang, efallai y bydd mwy o ddyhead a dathliad, mwy o obaith a llawenydd, mwy o gredu na dadansoddi ar Ŵyl Atgyfodiad Iesu eleni.

PROFIAD Y PASG

Tystia’r Testament Newydd nad atodiad i’r ffydd Gristnogol yw atgyfodiad Iesu; yn hytrach, ei atgyfodiad ef o feirw yw craidd a chalon y ffydd. “Os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw ein pregethu ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwithau” (1 Cor. 15: 14). “No resurrection; no Christianity” (Michael Ramsey).

Ac eto, rhaid cydnabod nad yw credu yn yr atgyfodiad yn hawdd, yn enwedig mewn oes seciwlar a sinigaidd fel sydd heddiw. Y mae’r cyfan yn ymddangos yn afreal ac yn anwyddonol, fel tase’r efengylwyr wedi cynllunio diweddglo hapus i stori bywyd Iesu.

O droi at y Testament Newydd gwelir i ganlynwyr Iesu eu hunain gael trafferth fawr i gredu iddo gyfodi o’i fedd. Fe’u gadewir mewn ”penbleth” (Luc 24: 3), a chant anhawster i’w adnabod. I Mair, y “garddwr” ydyw (Ioan 20: 15); i Cleopas a’i gymar, cyd-deithiwr dieithr ydyw (Luc 22: 15); i’r disgyblion, “ysbryd” ydyw (Luc 24: 37); i’r pysgotwyr ar lan Mor Tiberias, dieithryn ydyw (Ioan 21: 4). Pan yw Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago yn tystio i’w profiad wrth y bedd gwag, tybia’r un ar ddeg mai “lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu’r gwragedd” (Luc 24:11).

Ar ba sail, felly, y gallwn ninnau heddiw gredu yn nirgelwch y trydydd dydd? Ofer, bellach, yw dyfalu ynghylch dull yr atgyfodiad. Cofier nad oedd neb yn bresennol pan atgyfodwyd Iesu; nid ei weld wrth iddo atgyfodi a wnaed, ond yn unig wedi iddo atgyfodi. Ac nid adfywhau ohono’i hun a wnaeth Iesu; yn hytrach “cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau” (Actau 2: 24).

Yr hyn sy’n drawiadol yw’r trawsnewidiad syfrdanol sy’n digwydd yn ymateb y disgyblion. Yn dilyn yr atgyfodiad fe’u gwelir – hwy a fu’n ymguddio’n llwfr y tu ôl i ddrysau clo “oherwydd eu bod yn ofni’r Iddewon” – yn mentro allan yn arwrol i strydoedd Jerwsalem (gan roi eu bywydau mewn perygl) i gyhoeddi bod yr Iesu a groeshoeliwyd yn fyw. Trowyd eu galar yn orfoledd, eu hofn yn hyder, eu dadrithiad yn argyhoeddiad, eu hocheneidiau yn gân. Prin bod unrhyw eglurhad credadwy arall am y newid radical hwn yn eu hymddygiad – ac am barhad a chynnydd yr eglwys ar hyd y canrifoedd – ond bod ysbryd y Crist byw, a grym ei atgyfodiad, ar waith ymhlith ei bobl.

Sonia David Jenkins (cyn-esgob Durham) am y duedd i feddwl am yr atgyfodiad yn nhermau tragwyddoldeb a’r byd a ddaw, ond, meddai, un o wirioneddau mawr y Pasg yw’r ffaith fod Crist gyda ni yn awr, ynghanol troeon a thrafferthion byd a bywyd. Tystia unigolion fel Simone Veil, C.S. Lewis a’r diwinydd Jurgen Moltmann, y trowyd eu hanffyddiaeth yn ffydd fyw wrth i Iesu ei ddatguddio ei hun iddynt mewn ffordd gwbl annisgwyl. Un o allweddeiriau’r diwinydd Emil Brunner yw “ymgyfarfod” (encounter). A yw’n bosibl i ninnau heddiw ymgyfarfod â Christ? A ddaw ef i ymgyfarfod â ni? Fel Cristnogion mynnwn ateb yn gadarnhaol. Fel y nesaodd gynt at y ddau ar y ffordd i Emaus, “a dechrau cerdded gyda hwy”, daw atom ninnau hefyd a’n gwahodd i’w ganlyn. Dyma hanfod profiad y Pasg.