E-fwletin 18 Ebrill, 2021

Cristnogaeth a Gwleidyddiaeth

Anaml y gwelir y ddau bennawd yma gyda’i gilydd gan y credir gan lawer, o bosib, nad oes a wnelo gwleidyddiaeth ddim â ffydd. Ac eto, mae dysgeidiaeth yr Iesu yn dangos yn glir sut y dylen fyw ein bywyd bob dydd ac mae gwleidyddiaeth yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein bywyd dyddiol hefyd. Felly mae yn angenrheidiol i’r Cristion ddilyn athrawiaeth Iesu Grist wrth benderfynu a gweithredu ei hawliau gwleidyddol, gan geisio ufuddhau i’r Deg Gorchymyn, y Gwynfydau a Rheolau’r Bywyd Cristnogol a gyflwynir gan Paul.

Mae’r cyfnod yma yn ein hanes fel gwlad yn brawf mawr i’r Cristion; ni allwn droi cefn ac anwybyddu sefyllfa argyfyngus sydd yn bodoli yn y Deyrnas Unedig y blynyddoedd hyn. Mae gwleidyddiaeth heddiw yn llygredig iawn, yn llawn o ddiffyg parch a hunanoldeb, anonestrwydd, trachwant, celwydd, casineb, hiliaeth ac anfoesoldeb o bob math. Dichon fod hyn wedi bodoli erioed mewn gwleidyddiaeth ond yr hyn sydd yn wahanol y dyddiau hyn, mi gredwn, yw ei fod yn dderbyniol inni! Mae’r cyfryngau yn hapus i atgyfnerthu y nodweddion yma a rydyn ninnau fel etholwyr wedi pleidleisio i barhau y math yma o wleidyddiaeth.

Trwy roddi mwyafrif mor sylweddol i’r llywodraeth bresennol yn San Steffan rydym fel pobl wedi rhoi sêl ein bendith i nifer o bolisïau sydd i’w gweld yn groes iawn i ddysgeidiaeth Iesu Grist; polisïau fel cwtogi’r cyllid a roddir i’r gwledydd tlawd gan chwyddo, ar yr un pryd, y cyllid i gynhyrchu arfau niwclear 40%, gwrthod lloches i ffoaduriaid – gan gofio fod Iesu a’u deulu wedi bod yn ffoaduriaid, ymwahanu oddi wrth wledydd Ewrop gan fentro difetha heddwch a ddaeth yn dilyn cytundebau a wnaed i ddod â’r gwledydd at ei gilydd ar ôl rhyfeloedd.

Canlyniad cefnogi y math yma o bolisïau yw casineb at gyd-ddyn, diffyg parch at rai sydd yn wahanol oherwydd lliw croen, crefydd, rhywioldeb, iaith a diwylliant. Gwelwyd hyn yn eglur yn y ffordd sarhaus y cafodd pobl y Windrush eu trin; tristach fyth yw gweld fod cynifer o’r llywodraeth bresennol yn ddisgynyddion o ffoaduriaid eu hunain ac eto yn trin ffoaduriaid presennol mor haerllug. – atgoffa rhywun o’r gwas yn Mathew 18 a gafodd drugaredd ond heb roddi trugaredd i eraill!

Ydyn ni fel Cristnogion yn gallu cyfiawnhau, gyda chydwybod clir, rhoi ein cefnogaeth i’r math yma o weithredu? Neu ydyn ni yn anghofio – yn gyfleus efallai – gorchmynion a roddwyd inni gan yr Iesu, e.e. gwneud i eraill fel y dymunwn i eraill wneud i ni, caru ein cymydog fel ni ein hunain, dewis yn ddoeth rhwng Duw a Mamon, a.y.y.b.

Ym mis Mai mae gennym gyfle unwaith eto i ethol gwleidyddion i’n cynrychioli yn y Senedd yng Nghymru. Ein gobaith yw, ddyliwn, y byddwn yn gwneud hynny yng ngoleuni ein ffydd Gristnogol gan ethol cynrychiolwyr gonest, cyfrifol, cydwybodol sydd yn barod i amddiffyn y gwan, i sicrhau cyfiawnder i bawb yn ddiwahân. Fyddwn ni, sydd yn honni bod yn ddilynwyr Crist, yn gwneud ein gorau i wireddu hynny?