E-fwletin Sul y Pasg

Yr un yw neges y Pasg ag erioed, ond gyda’n hamgylchiadau mor wahanol ar ôl blwyddyn a mwy o’r Pla byd eang, efallai y bydd mwy o ddyhead a dathliad, mwy o obaith a llawenydd, mwy o gredu na dadansoddi ar Ŵyl Atgyfodiad Iesu eleni.

PROFIAD Y PASG

Tystia’r Testament Newydd nad atodiad i’r ffydd Gristnogol yw atgyfodiad Iesu; yn hytrach, ei atgyfodiad ef o feirw yw craidd a chalon y ffydd. “Os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw ein pregethu ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwithau” (1 Cor. 15: 14). “No resurrection; no Christianity” (Michael Ramsey).

Ac eto, rhaid cydnabod nad yw credu yn yr atgyfodiad yn hawdd, yn enwedig mewn oes seciwlar a sinigaidd fel sydd heddiw. Y mae’r cyfan yn ymddangos yn afreal ac yn anwyddonol, fel tase’r efengylwyr wedi cynllunio diweddglo hapus i stori bywyd Iesu.

O droi at y Testament Newydd gwelir i ganlynwyr Iesu eu hunain gael trafferth fawr i gredu iddo gyfodi o’i fedd. Fe’u gadewir mewn ”penbleth” (Luc 24: 3), a chant anhawster i’w adnabod. I Mair, y “garddwr” ydyw (Ioan 20: 15); i Cleopas a’i gymar, cyd-deithiwr dieithr ydyw (Luc 22: 15); i’r disgyblion, “ysbryd” ydyw (Luc 24: 37); i’r pysgotwyr ar lan Mor Tiberias, dieithryn ydyw (Ioan 21: 4). Pan yw Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago yn tystio i’w profiad wrth y bedd gwag, tybia’r un ar ddeg mai “lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu’r gwragedd” (Luc 24:11).

Ar ba sail, felly, y gallwn ninnau heddiw gredu yn nirgelwch y trydydd dydd? Ofer, bellach, yw dyfalu ynghylch dull yr atgyfodiad. Cofier nad oedd neb yn bresennol pan atgyfodwyd Iesu; nid ei weld wrth iddo atgyfodi a wnaed, ond yn unig wedi iddo atgyfodi. Ac nid adfywhau ohono’i hun a wnaeth Iesu; yn hytrach “cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau” (Actau 2: 24).

Yr hyn sy’n drawiadol yw’r trawsnewidiad syfrdanol sy’n digwydd yn ymateb y disgyblion. Yn dilyn yr atgyfodiad fe’u gwelir – hwy a fu’n ymguddio’n llwfr y tu ôl i ddrysau clo “oherwydd eu bod yn ofni’r Iddewon” – yn mentro allan yn arwrol i strydoedd Jerwsalem (gan roi eu bywydau mewn perygl) i gyhoeddi bod yr Iesu a groeshoeliwyd yn fyw. Trowyd eu galar yn orfoledd, eu hofn yn hyder, eu dadrithiad yn argyhoeddiad, eu hocheneidiau yn gân. Prin bod unrhyw eglurhad credadwy arall am y newid radical hwn yn eu hymddygiad – ac am barhad a chynnydd yr eglwys ar hyd y canrifoedd – ond bod ysbryd y Crist byw, a grym ei atgyfodiad, ar waith ymhlith ei bobl.

Sonia David Jenkins (cyn-esgob Durham) am y duedd i feddwl am yr atgyfodiad yn nhermau tragwyddoldeb a’r byd a ddaw, ond, meddai, un o wirioneddau mawr y Pasg yw’r ffaith fod Crist gyda ni yn awr, ynghanol troeon a thrafferthion byd a bywyd. Tystia unigolion fel Simone Veil, C.S. Lewis a’r diwinydd Jurgen Moltmann, y trowyd eu hanffyddiaeth yn ffydd fyw wrth i Iesu ei ddatguddio ei hun iddynt mewn ffordd gwbl annisgwyl. Un o allweddeiriau’r diwinydd Emil Brunner yw “ymgyfarfod” (encounter). A yw’n bosibl i ninnau heddiw ymgyfarfod â Christ? A ddaw ef i ymgyfarfod â ni? Fel Cristnogion mynnwn ateb yn gadarnhaol. Fel y nesaodd gynt at y ddau ar y ffordd i Emaus, “a dechrau cerdded gyda hwy”, daw atom ninnau hefyd a’n gwahodd i’w ganlyn. Dyma hanfod profiad y Pasg.