E-fwletin 11 Ebrill, 2021

Mae’r cyfnod wedi’r Pasg, fel mae diwedd yr Efengylau yn ei brofi, yn fwrlwm o feddyliau, cwestiynau , rhybuddion a bywyd yn cyniwair. Mae awdur yr e-fwletin heddiw yn ymwybodol iawn o hynny.

Meddyliau digyswllt ynglŷn â’r Pasg

1.

Gwirionedd am Dduw yn unig yw’r atgyfodiad. Y mae’n tarddu o’i  gariad. Os nad oes Duw Cariad nid oes atgyfodiad ychwaith. Nid oes dim mewn dyn a gwraig a eill oddiweddyd marwolaeth.

2.

Y mae gwahaniaeth pendant rhwng atgyfodiad â bywyd ar ôl marwolaeth. Nid yr un peth ydynt. Gweithred ddwyfol o’n mewn yw atgyfodiad.  Dyhead fy ego – y Fi Fawr – yw’r awch am fywyd ar ôl marwolaeth. Tasga o fy ofn marw, fy ngwrthryfel yn erbyn fy meidroldeb. Nid fy ngelyn yw marwolaeth, ond rhan annatod o broses naturiol. Nid yw marwolaeth yn ‘dewis’ neb. Hap, damwain, anlwc ydyw. Y mae’r awch am fywyd ar ôl marwolaeth wedi ei drosglwyddo i’r syniad o Gynnydd yn y byd seciwlar – un o’r syniadau mwyaf peryglus, sy’n arwain ‘dyn’oliaeth i feddwl fod adnoddau’r byd yn ddihysbydd, ac y medrir perffeithio y natur ddynol maes o law mewn rhyw iwtopia cyfalafol/comiwnyddol. Pethau’r byd hwn wedi eu tragwyddoli – y ‘para am byth’ bondigrybwyll, y ‘mi gaf ei weld eto’ – yw ‘cynnwys’ ciami Bywyd ar ôl marwolaeth. Dirgelwch llwyr a hollol yw atgyfodiad. Ni ŵyr neb – neb! – beth sydd ynddo ond Duw Sofran.

3.

Nid yw ffydd yn ddibynnol ar atgyfodiad.  Os dywedaf, nid wyf yn credu  os nad oes yna atgyfodiad, yna peth salw iawn yw ‘fy’ ffydd. Yr wyf wedi gosod amodau ar Dduw. Fersiwn grefyddol o fynd â fy mhêl adref os nad ydw i yn cael sgorio’r gôls i gyd. Os nad oes atgyfodiad y mae ffydd yn dal yn hollol ddilys a phosibl. Duw yw hanfod ffydd, nid be’ gaf i allan ohono. Yr wyf fi mewn dyled i Dduw. Nid yw Duw mewn unrhyw ddyled i mi.

4.

Corff wyf fi. Heb fy nghorff nid wyf finnau. Y mae’r ysbrydol fel yr emosiynol a’r teimladwy wedi eu hymgnawdoli’n wastad. Ni ellir canfod teimlad heb fod corff i’w deimlo. Y mae’r meddwl yn fwy na’r ymennydd, wrth gwrs ei fod, ond nid oes meddwl heb yr ymennydd. Felly atgyfodiad y corff sydd yna. Y cwestiwn yw: beth yw ystyr corff yng nghyd destun dirgelwch yr atgyfodiad? Mae’r atgyfodiad wastad yn drech na’r ysbrydol a’r symbolaidd.

5.

‘Paid â glynu wrthyf..’ yw adnod/arwyddair canolog yr atgyfodiad. Peth cwbl amhosibl mae’n amlwg i bobl grefyddol ei gyflawni oherwydd iddynt ar hyd y canrifoedd lynu wrth bob dim.