Codi Pontydd
Mae Jo Teffnell yn enghraifft o rywun sydd wedi dangos dewrder a gras. Roedd ei thad, Syr Anthony Berry, yr Aelod Seneddol Torïaidd, yn un o bump a gafodd eu lladd gan Patrick Magee yn Brighton yn ystod cynhadledd y Torïaid ar 12 Hydref 1984. Fe benderfynodd Jo Tuffnell gysylltu gyda Patrick Magee, a gafodd 8 dedfryd am oes am y weithred, ond a ddaeth allan o’r carchar ar ôl 13 blynedd. Roedd hi’n awyddus i ddeall y person a gyflawnodd y weithred erchyll trwy godi pont. Bu’r cyfarfod cyntaf yn un hynod o bwerus a thrydanol. Ond fe roddodd Jo ei meddyliau ar ffurf cerdd. Roedd hi’n byw ym Mhorthmadog ar y pryd.
Ymdrech yw’r isod i gyfieithu cerdd Jo Tuffnell:
Mae’n bosibl codi pontydd
Mae tanau yn rhuo yn fy nghalon, Mae’r gwres yn iachau’r boen, mae’n bosibl codi pontydd. fel bod dynol gwrandawaf ar dy ddioddefaint. cynigiaist i mi dy stori, poen rhyfel, dysgaf mae’n bosibl codi pontydd dywedwyd wrthyf ti yw fy ngelyn bydd yn hogan dda, siarada ein geiriau ni yn unig, ac yna cyfarfûm â thi, mae`n bosibl codi pontydd mae’r gwirionedd yn fwy pwysig, mi a siaradaf yn hyf dros iachâd y byd, bydd wrol, bydd ysbrydol, nid i mi gêm y llwyth, mae`n bosibl codi pontydd. â gwisgoedd rhagfarn yn awr wedi eu diosg wrth i mi ymagor i ti, gadael yn noeth fy enaid a all eich caru chwi oll, mae’n bosibl codi pontydd. gyda llygaid gwybod symudaf oddi wrth ni a nhw, diflanna ein gwahaniaethau, erys undeb dynoliaeth, mae`n bosibl codi pontydd. geill dy feibion fod yn eiddo i mi, a gallwn innau fod yn frawd i ti yn plannu’r bom a laddodd y bachgen bach, mae’n bosibl codi pontydd. ac yn awr safaf yn unig gyda thi a laddodd fy Nhad, mae lle y tu mewn i mi sydd yn gwybod i ti weithredu dy wirionedd di herio anghyfiawnder a gorthrwm, ‘roedd fy Nhad yn y ffordd, mae`n bosibl codi pontydd. `rwy’n colli fy Nhad, a `rwy’n wylo am y taid na all fy ngenethod ei adnabod, dagrau galar dros bawb a ddioddefodd, `rydym yn un yn ein colled, yn ein poen, mae’n bosibl codi pontydd. weithiau teimlaf fod fy nghalon yn iachau fel y mae Iwerddon yn iachau, ‘rwyn gofidio am y dioddefaint a achoswyd gan fy llwyth, 'rwy’n cydnabod eich ymgyrch, mae`n bosibl codi pontydd. llosga fy nghalon dros heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb i bawb yr angerdd o wybod mae`n bosibl codi pontydd.