Pa fath ddiwygiad (3)
Ar 13 Medi 1904 yr oedd dyn ifanc o’r enw Evan Roberts wedi cyrraedd Castellnewydd Emlyn yn fyfyriwr yn Ysgol John Phillips, i’w baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Fe gafodd letya, ynghyd â chyfaill iddo, Sydney Evans o Gorseinon, yn Tŷ Llwyd gyda dwy chwaer garedig, dwy wraig weddw, Rachel ac Ann Davies. Ond roedd rhyw brofiadau ysbrydol dirdynnol yn gafael ynddo drwy’r wythnos gyntaf fel na allai roi ei feddwl ar wersi. Y Beibl yn unig a roddai dangnefedd iddo. Fe glywodd am y cyffro yn ardal Ceinewydd, a hynny yn cymhlethu ei deimladau.
Ar Sul, 25 Medi, daeth Seth Joshua i Gastellnewydd i ymgyrch yng nghapel Bethel. Roedd Evan Roberts yn sâl a methodd fynd. Felly hefyd nos Lun, a Sydney Evans yn dod yn ôl i Tŷ-llwyd a sôn wrtho am orfoledd y cyfarfod, a’r modd y clywsai bobol ifanc Ceinewydd yn tystio a chanu. Aeth i gyfarfod nos Fawrth, ond teimlai ryw rwystredigaeth, a’r diafol yn ei boeni. Y dydd Mercher, er bod yna gyfarfod gan Seth Joshua yn Bethel Castellnewydd, roedd yna gynhadledd yn Blaenannerch a drefnwyd gan Joshua Jenkins a John Thickens. Ac i honno yr aeth Evan Roberts y dydd Mercher hwnnw, a dangos yn amlwg ryw anniddigrwydd mawr yn ei enaid, nes codi pryder ar y ddau drefnydd. Yr oedden nhw wedi gobeithio cael cynhadledd dawel i ddyfnhau profiadau. Doedd John Thickens yn arbennig ddim yn gweld pwrpas mewn cyfarfodydd afreolus, yn weddïo a chanu.
Bore drannoeth, bore dydd Iau, fe gychwynnodd Evan Roberts allan o Tŷ-llwyd am chwech y bore, a chyda Seth Joshua a rhyw ugain eraill mewn car a cheffyl yn teithio i fod yn oedfa saith o’r gloch y bore ym Mlaenannerch. Yn eu plith yr oedd y merched o Geinewydd, a phawb yn canu “O fryniau Caersalem” ac emynau eraill. Yn yr oedfa honno fe deimlai Evan Roberts yr ysbryd yn gafael, ac fe weddïodd Seth Joshua ar derfyn y cyfarfod i’r Arglwydd eu plygu nhw i gyd. Yn nhŷ M P Morgan, Blaenannerch, dros frecwast dyma Mag Phillips yn cynnig darn o fara menyn i Evan Roberts, ac yntau’n gwrthod. Ond fe gymerodd Seth Joshua ddarn. Ai dyna sy’n bod, meddai Evan Roberts, mod i’n gwrthod yr ysbryd a Seth yn ei gymryd? Ar y ffordd i gyfarfod naw roedd Evan Roberts bron â rhwygo gan brofiad.
Yna, yn yr oedfa honno fe wyddai fod yn rhaid iddo weddïo. Roedd y gwasanaeth yn rhydd ac eraill wrthi yn eu tro. Gofynnai Evan Roberts i’r Ysbryd, “A gaf i weddïo nawr?” “Na,” meddai’r Ysbryd, “aros am ychydig.” Eraill wedyn yn gweddïo. “A gaf i weddïo nawr?” meddai Evan Roberts. “Na,” meddai’r Ysbryd eto. Roedd bron ffrwydro gan angen i weddïo. Yng ngeiriau Evan Roberts,
teimlais ynni byw yn myned i’m mynwes. Daliai hwn fy anadl, crynai fy nghoesau yn arswydus. Cynyddu wnâi yr ynni byw yma, fel y byddai pob un yn gweddïo, a bron fy rhwygo, ac fel y gorffennai pob un gofynnwn, “Gaf i yn awr?” Ond mewn rhyw ysbaid wedi rhyw weddi, fe weddïais. Mi es ar fy ngliniau a mreichiau dros y sedd o mlaen a chwys ar fy wyneb. Daeth Mrs Davies, Mona, Ceinewydd i sychu’r chwys a Mag Phillips (merch y Parchg Evan Phillips, Castlellnewydd Emlyn) ar y dde i mi a Maud Davies ar y chwith. Bu yn ofnadwy arnaf am ddeng munud annioddefol. Minnau’n gweiddi “Plyg fi! Plyg fi! Plyg ni! O! O! O! O! Wrth sychu fy chwys, meddai Mrs Davies, “O! ryfedd ras!” Ie meddwn innau, “O! ryfedd ras!” A dyna don o dangnefedd wedyn yn llanw fy mynwes. Canai y gynulleidfa gyda blas pan oeddwn dan y teimlad hwn, “Arglwydd dyma fi, Ar dy alwad di”.
Aeth y lle yn wyllt, er braw i’r gweinidogion a drefnodd y gynhadledd. Rhy wyllt iddynt hwy a oedd wedi dymuno cael cyfarfodydd i ddyfnhau profiad a gwybodaeth.
Cwrdd cymundeb oedd cyfarfod deg o’r gloch, a’r ddau weinidog yn gwahodd tystio gan y rhai ifanc. Cododd Sydney Evans i sarad dan grynu, a buasai wedi syrthio oni bai i Maud Davies ei ddal.
Am bump, caed cwrdd y bobol ifanc, a thair merch ifanc yn y fan honno yn glynu wrth orsedd gras. Yna fe gododd rhyw hen ŵr gan ailadrodd y pennill,
Dyma Geidwad i’r colledig,
Meddyg i’r gwywedig rai …
Aeth Mag Phillips dan ddylanwadau llethol, a dweud wrth Evan Roberts ei bod yn ormod o bechadures i gael maddeuant. Yntau’n ei chysuro a sôn am helaethrwydd yr Iawn. Trawodd Sydney Evans yn ddirybudd allan i ganu,
Golchwyd Magdalen yn ddisglair,
A Manase’n hyfryd wyn
Yn y dŵr a’r gwaed a lifodd
O ystlys Iesu ar y bryn.
Pwy a ŵyr na olchir finnau,
Pwy a ŵyr na byddaf fyw,
Mae rhyw drysor anchiliadwy
O ras ynghadw gyda’m Duw.
Pan orffennwyd canu, teimlodd y goleuni’n dod. Gofynnodd i Sydney Evans ar y ffordd allan, “Ai chi drawodd yr emyn?”
“Ie,” meddai.
“A wyddech chi mai Magdalen yw fy enw i?”
“Na,” meddai, “rown i’n meddwl mai Maggie oedd eich enw chi. Ond a oedd yr emyn yn dweud y gwir amdanoch chi?”
“Oedd nawr,” meddai hithau. Ac fe gerddon nhw i gyd yn ôl i Gastellnewydd Emlyn dan ganu y noson honno.
Byddai Evan Roberts a Sydney Evans am nosweithiau wedyn yn aros i lawr yn hwyr y nos i weddïo a darllen y Beibl a chanu nes i’r chwiorydd Rachel ac Ann Davies yn Tŷ Llwyd feddwl fod rhywbeth o’i le ar eu synhwyrau.
Ar ddydd Gwener, cyn diwedd Medi, y dechreuodd Evan Roberts sôn sut y byddai’n mynd drwy Gymru oll i gynnig Crist i bechaduriaid, gan ddechrau rhoi ar bapur ei gynlluniau. Mewn cyfarfodydd dilynol, fel yr un yng Nghapel Drindod, ger Castellnewydd, fe welwyd eto’r emynau yn allweddol, lle mynnai Evan Roberts gael yr emyn “Ni buasai gennyf obaith”.
Dychwelodd y cwmni i Gastellnewydd eto dan ganu, a chyrraedd rhwng un a dau y bore. Tua thri fe aethon nhw i’r gwely. Yna Evan Roberts yn gofyn i Sydney Evans, “A yw dy dad yn aelod?”
“Nac ydi,” meddai Sydney.
“Beth am weddïo drosto fe te?”
A dyna beth wnaeth y ddau. Tua phedwar, troi i sôn am Iesu, ac Evan Roberts yn torri lawr i wylo. Yna torrodd Sydney allan i ganu: “Gogoniant byth am drefn / y cymod a’r glanhad, / derbyniaf Iesu fel yr wyf / a chanaf am y gwa’d.” A’r noson honno, y chwiorydd druain yn codi a rhedeg o’r llofft arall at y drws ac ymbil arnyn nhw dawelu. Ond eto, wrth gwrs, yr emyn yn cael rhan allweddol yn y profiad.
Erbyn hynny roedd y dylanwadau yn dechrau ymledu. Mae Nantlais Williams, Rhydaman, yn sôn am Joseph Jenkins yn dod atynt i bregethu ar yr ail Sul yn Hydref. Adroddai’r hanes am gyfarfod a gawsent yn y Ceinewydd lle roedd y gynulleidfa wedi torri allan i ganu:
Dewch, hen ac ieuanc, dewch
at Iesu, mae’n llawn bryd.
A dyma un o’r blaenoriaid tawelaf oedd gyda Nantlais yn Rhydaman yn torri ar draws Joseph Jenkins gan droi at y gynulleidfa a dweud, “Beth am i ni ei ganu yma nawr fel y gwnaethon nhw yn y Ceinewydd?” A dyna weddnewid y cyfarfod. Roedd Nantlais wedi cyhoeddi cwrdd gweddi am bump, cyn oedfa’r hwyr, a phryderai nawr pwy allai ddod yn ôl mewn pryd i hwnnw. Ond doedd dim angen iddo bryderu – roedd y lle yn orlawn.
Yna, yn ôl yn y Ceinewydd, pan oedd Joseph Jenkins yn pregethu adre, dyma Florrie Evans yn torri ar draws ei bregeth gan ddechrau canu,
Dof fel yr wyf, does gennyf fi
Ond dadlau rhin dy aberth di
a’th fod yn galw, clyw fy nghri
Rwy’n dod, Oen Duw, rwy’n dod.
Ac erbyn y pennil ola, roedd Joseph Jenkins ei hun druan ar ei liniau’n gweiddi: “Oen Duw, rwy’n dod”.
Penderfynodd Evan Roberts yn gynnar ym mis Hydref adael yr ysgol yng Nghastellnewydd a dychwelyd adre i Gasllwchwr. Mewn cyfarfod ar y nos Lun, canwyd
Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli,
am y tro cyntaf yn y gyfres cyfarfodydd.
Yng nghyfarfod nos Fercher ym Mryn-teg Gorseinon, roedd y lle’n orlawn a’r canu’n wefreiddiol, a’r ddau emyn a nodwyd yn arbennig oedd: “Dyma gariad fel y moroedd,” a’r un arall, yn briodol iawn,
Mi nesaf atat eto’n nes
Pa les im ddigalonni,
Mae sôn amdanat ti ̕mhob man
Yn codi’r gwan i fyny.
Yr oedd y sôn am Dduw yn codi pobol o’u gwendid ysbrydol yn cerdded drwy dde Cymru erbyn hynny.
Ar y nos Wener, dechreuwyd y cyfarfod yn hen gapel Moriah, ond aeth yn llawer rhy fychan, a bu raid mynd i’r capel newydd. Aethpwyd dan ganu o’r naill gapel i’r llall, a buan y llanwyd hwnnw wedyn. Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd, roedd yna gerbydau o fannau eraill yn dod i gyfarfod yng Nghasllwchwr. Yn ystod y dydd roedd dwy ferch wedi mynd i Gorseinon i gyhoeddi’r efengyl o flaen tafarndai. Ni fuont yn hir cyn i eraill ymuno â hwy. yn canu a gweddïo ac annerch. A’r noson honno fe barhaodd cyfarfodydd yr hwyr yn y capeli tan 5 o’r gloch bore Sul.
(i’w barhau)